3. Beth yw tlodi incwm cymharol?
• Mae bod mewn tlodi incwm cymharol yn golygu byw mewn cartref lle mae
cyfanswm incwm yr aelwyd o bob ffynhonnell yn llai na 60 y cant o incwm aelwyd
gyfartalog y DU (fel y rhoddir gan y canolrif).
• Mae tlodi incwm cymharol yn fesur o anghydraddoldeb incwm, nid yw'n fesur
uniongyrchol o safonau byw. Os oedd gan bob cartref lefelau incwm tebyg iawn,
byddai'r ganran o bobl mewn tlodi incwm cymharol yn isel iawn, efallai yn sero.
• Mae'n werth cofio hefyd . . .
– Cymharir incwm aelwydydd yng Nghymru yn erbyn incwm cyfartalog
aelwydydd y DU, nid incwm cyfartalog aelwydydd yng Nghymru.
– Dydy'r data ddim yn cael ei addasu ar gyfer gwahanol gostau byw mewn
gwahanol ardaloedd yn y DU, ar wahân i dynnu i ffwrdd costau tai.
– Gall y data ar gyfer gwledydd a rhanbarthau fod yn gyfnewidiol oherwydd
meintiau sampl bach ac felly dylid cymryd gofal wrth ddehongli ffigurau.
4. Yr oedd bron i chwarter yr holl bobl yng Nghymru yn
byw mewn tlodi incwm cymharol ar ôl talu eu costau
tai
• Ar y cyfan, ar ôl talu costau tai megis taliadau llog ar forgeisi /rhent, ardrethi
dŵr ac yswiriant adeiladau, roedd 24 y cant o'r holl bobl yng Nghymru yn
byw mewn tlodi incwm cymharol rhwng 2014-15 a 2016-17 (cyfartaledd
dros dair blwyddyn ariannol).
• Mae'r ffigur diweddaraf ychydig yn uwch na’r 23 y cant a adroddwyd yn
ystod y 5 cyfnod blaenorol, fodd bynnag, ni fu llawer o newid i lefel tlodi
incwm cymharol ers y cyfnod amser yn diweddu 2003-04.
• Bu’r canran hefyd yn gyson ar gyfer holl wledydd eraill y DU yn y
blynyddoedd diwethaf; fodd bynnag bu eu cyfraddau hwy yn is na rhai
Cymru. Y ffigur diweddaraf ar gyfer Lloegr yw 22 y cant, ar gyfer yr Alban 19
y cant ac ar gyfer Gogledd Iwerddon 20 y cant.
5. Canran y bobl mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau
tai) ar gyfer gwledydd y DU, cyfartaleddau tair blwyddyn
ariannol
Nodyn: Mae'r blynyddoedd a gynrychiolir yn flynyddoedd ariannol - e.e. Y cyfnod diweddaraf yw
blwyddyn ariannol 2014-15 i flwyddyn ariannol 2016-17
Nodyn: Nid oes data ar gael ar gyfer Gogledd Iwerddon cyn y cyfnod 2002 i 2005.
Ffynhonnell: Aelwydydd Dan Incwm Cyfartalog (HBAI), Arolwg Adnoddau Teuluoedd, DWP
0
5
10
15
20
25
30
1994
to
1997
1995
to
1998
1996
to
1999
1997
to
2000
1998
to
2001
1999
to
2002
2000
to
2003
2001
to
2004
2002
to
2005
2003
to
2006
2004
to
2007
2005
to
2008
2006
to
2009
2007
to
2010
2008
to
2011
2009
to
2012
2010
to
2013
2011
to
2014
2012
to
2015
2013
to
2016
2014
to
2017
Wales
Scotland
England
Northern Ireland
%
Cymru
Yr Alban
Lloegr
Gogledd Iwerddon
7. Canran o bob grŵp oedran yng Nghymru a oedd yn byw
mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai),
cyfartaleddau tair blwyddyn ariannol
Source: HBAI, Family Resources Survey, DWP
0
5
10
15
20
25
30
35
40
1994
to
1997
1995
to
1998
1996
to
1999
1997
to
2000
1998
to
2001
1999
to
2002
2000
to
2003
2001
to
2004
2002
to
2005
2003
to
2006
2004
to
2007
2005
to
2008
2006
to
2009
2007
to
2010
2008
to
2011
2009
to
2012
2010
to
2013
2011
to
2014
2012
to
2015
2013
to
2016
2014
to
2017
All individuals
Children
Working-age adults
Pensioners
%
Nodyn: Mae'r blynyddoedd a gynrychiolir yn flynyddoedd ariannol - e.e. Y cyfnod diweddaraf yw
blwyddyn ariannol 2014-15 i flwyddyn ariannol 2016-17
Ffynhonnell: Aelwydydd Dan Incwm Cyfartalog (HBAI), Arolwg Adnoddau Teuluoedd, DWP
Pob unigolyn
Plant
Oedolion oedran gweithio
Pensiynwyr
8. Plant yw'r grŵp oedran mwyaf tebygol o fod mewn
tlodi incwm cymharol
• Dengys y ffigurau diweddaraf fod 28 y cant o blant yng Nghymru yn byw
mewn tlodi incwm cymharol rhwng 2014-15 a 2016-17 (ar ôl i gostau tai
gael eu talu).
• Mae hyn yn ostyngiad o'r 30 y cant a adroddwyd y llynedd a’r 29 y cant a
adroddwyd y flwyddyn flaenorol. Cyn hynny, nid yw'r ffigwr hwn wedi bod yn
is na 30 y cant ers y cyfnod yn gorffen 2005-06.
• Rheswm posibl pam mai plant yw’r grŵp oedran sy'n fwyaf tebygol o fod
mewn tlodi incwm cymharol yw bod oedolion â phlant yn fwy tebygol o fod
yn ddi-waith neu mewn gwaith tâl isel oherwydd cyfrifoldebau gofal plant.
• Mae'r ffigur ar gyfer Lloegr wedi cynyddu o'r 29 y cant a adroddwyd y
llynedd i 30 y cant. Mae'r ffigurau ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon yn
is, sef 24 y cant a 26 y cant yn y drefn honno.
9. Tlodi incwm cymharol ar gyfer oedolion o oedran
gweithio yn aros yn gyson ar draws gwledydd y DU
• Bu'r ffigurau ar gyfer oedolion o oedran gweithio mewn tlodi incwm
cymharol yn eithaf cyson yn y blynyddoedd diwethaf ar gyfer holl wledydd y
DU.
• Fodd bynnag, mae Cymru yn tueddu i fod â chyfartaledd uwch o oedolion o
oedran gweithio yn byw mewn tlodi incwm cymharol na gwledydd eraill y
DU.
• Rhwng 2014-15 a 2016-17, roedd 24 y cant o oedolion oedran gweithio
yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl talu costau tai). Mae
hwn yn gynnydd o'r 23 y cant a adroddwyd y llynedd.
• Nid yw'r ffigurau ar gyfer Lloegr (21 y cant) a'r Alban (19 y cant) wedi newid
o'r rhai a adroddwyd y llynedd. Yng Ngogledd Iwerddon, mae'r ffigwr wedi
gostwng o'r 20 y cant a adroddwyd y llynedd i 19 y cant.
10. Bu’r cyfartaledd o bensiynwyr yng Nghymru sy’n byw
mewn tlodi incwm cymharol yn cynyddu ond y mae’n
parhau dan yr hyn yr oedd yn y cyfnod rhwng canol a
diwedd yr 1990au
• Wedi talu costau tai, yr oedd 20 y cant o bensiynwyr yng Nghymru yn
byw mewn tlodi incwm cymharol rhwng 2014-15 a 2016-17 o’i gymharu â 18
y cant rhwng 2013-14 a 2015-16. Dyma'r tro cyntaf i’r ffigwr fod dros 19 y
cant ers y cyfnod yn gorffen 2003-04.
• Rhwng 2014-15 a 2016-17, y ffigur cyfatebol ar gyfer Lloegr oedd 15 y cant,
yr Alban 13 y cant a Gogledd Iwerddon 13 y cant.
.
12. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn cynhyrchu data am blant mewn tlodi materol
ac aelwydydd incwm isel yn ôl ardal. Gwneir hyn ar sail cyn costau tai.
Maent hefyd yn cynhyrchu ffigurau ar bensiynwyr mewn tlodi materol yn ôl ardal.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am dlodi materol yng Nghymru o Arolwg
Cenedlaethol Cymru.
Tlodi Materol
13. Roedd 10 y cant o blant sy'n byw yng Nghymru
mewn cartrefi incwm isel a thlodi materol
• Roedd 10 y cant o blant sy'n byw yng Nghymru mewn tlodi materol a chartrefi
incwm isel rhwng 2014-15 a 2016-17 (h.y. gyda chyfanswm incwm aelwyd islaw 70
y cant o incwm aelwyd gyfartalog y DU - cyn tynnu costau tai)
• Mae hyn i lawr o’r 14 y cant a adroddwyd y llynedd.
• Mae'r gyfradd hon bellach yn gyfartal â'r ffigurau cyfatebol a welir yn yr Alban a
Gogledd Iwerddon. Mae'r ffigur ar gyfer Lloegr wedi aros ar 12 y cant.
• Nid yw rhanbarthau Lloegr oedd gyda’r un ganran o blant mewn tlodi materol a
chartrefi incwm isel â Chymru yn y data a adroddwyd y llynedd wedi gweld y
gostyngiad a welodd Cymru.
• Yn y cyfnod mwyaf diweddar (2014-15 i 2016-17), roedd gan bob rhanbarth o
Loegr heblaw am Ddwyrain, De Ddwyrain a De Orllewin Lloegr ganran uwch o
blant mewn tlodi materol a chartrefi incwm isel na Chymru.
14. Roedd 9 y cant o bensiynwyr sy'n byw yng Nghymru
mewn tlodi materol
• Mae hyn yn golygu bod 9 y cant o bensiynwyr sy’n byw yng Nghymru mewn
aelwyd heb fynediad i nifer penodol o nwyddau a gwasanaethau. Mae hyn i
fyny o’r 10 y cant a adroddwyd y llynedd.
• Yn yr Alban, mae'r ffigur hwn yn 6 y cant, i lawr o’r 7 y cant a adroddwyd y llynedd
ac yng Ngogledd Iwerddon, mae'r ffigur hefyd yn 7 y cant, i lawr o’r 9 y cant a
adroddwyd y llynedd. Nid yw'r ffigur ar gyfer Lloegr wedi newid ac mae'n parhau i
fod yn 8 y cant.
15. Tlodi parhaus (ystadegau arbrofol)
• Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn diffinio unigolyn sydd mewn tlodi parhaus
fel un sydd mewn tlodi incwm cymharol am o leiaf 3 allan o 4 blynedd yn olynol.
• Ar ôl talu costau tai, roedd gan unigolyn yng Nghymru risg 13 y cant o fod mewn
tlodi parhaus rhwng 2012 a 2016
• Mae'r risg o fod mewn tlodi parhaus yn amrywio yn ôl gwlad. Yn Lloegr roedd y
risg yn 12 y cant, yng Ngogledd Iwerddon 11 y cant ac yn yr Alban 8 y cant.
16. Plant a phensiynwyr mewn tlodi parhaus (ystadegau
arbrofol)
Plant
• Roedd gan blentyn yng Nghymru siawns o 20 y cant o fod mewn tlodi
parhaus.
• Roedd hyn yn uwch na Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban (18, 16 a 10 y cant
yn y drefn honno).
• Roedd y siawns bod plentyn mewn tlodi parhaus yng Nghymru'r un â’r siawns
yng Ngogledd-orllewin Lloegr ac yn is na Llundain a Gogledd-ddwyrain Lloegr
(roedd gan y ddau ohonynt gyfraddau o 24 y cant). Roedd y siawns bod plentyn
mewn tlodi parhaus yn holl ranbarthau eraill Lloegr yn is na'r hyn a welwyd yng
Nghymru.
Pensiynwyr
• Mae pensiynwyr yng Nghymru â 5 y cant siawns o fod mewn tlodi
parhaus
• Mae hyn yn is na'r siawns yn Lloegr a'r Alban (7 a 8 y cant yn y drefn honno) a'r
un ac Iwerddon.
Editor's Notes
I don’t really know about including this slide. These were just things I felt should be made clear?
I felt like this chart should go first as I found the bullet points easier to follow after I had seen this chart.