Deall bethyw cynhwysiant ariannol
Cydnabod yr effaith a gaiff ar fywydau pobl
Deall eich rôl wrth fynd i’r afael â
chynhwysiant ariannol
Gwybod am yr adnoddau a’r gwasanaethau
arbenigol sydd ar gael
Gwybod sut i gyfeirio ac atgyfeirio’n effeithiol
3.
Mae’n amseri ni ddarganfod pa fath o
bersonoliaeth ‘ariannol’ sydd
gennych chi?
4.
Aelwydydd agincwm sydd 60 % neu lai na lefel incwm
cyfartalog (canolrif) aelwydydd.
(Person sengl £129 yr wythnos (yw), Rhiant sengl un plentyn £179 yw,
cwpl â 2 o blant £321yw)
3.5 miliwn (27%) o blant o dan y llinell
7.9 miliwn (21%) o oedolion oed gweithio o dan y llinell
1.6 miliwn (14%) o oedolion oed pensiwn o dan y llinell
(ffigyrau 2011 /12 ar ôl cynnwys costau tai)
5.
Sicrhau bodgan bawb gyfle i gael
mynediad at wasanaethau ariannol a
chynhyrchion sydd eu hangen er mwyn
cymryd rhan yn llawn yn y gymdeithas
gyfoes.
Gallu unigolion iddeall eu hamgylchiadau
ariannol eu hunain, ynghyd â’r cymhelliant i
weithredu.
9.
Os byddcartref yn gwario 10% neu fwy o’i
incwm net ar gostau ynni, ystyrir hyn yn dlodi
tanwydd.
Tlodi tanwydd difrifol yw gwariant o 20 % neu
fwy
11.
Cyngor arDdiwygiadau Lles / Budd-daliadau
Grantiau – Cronfa Cymorth Dewisol, Cymorth
Dŵr, Grantiau ynni
Defnyddio cynlluniau ailgylchu /
ailddefnyddio (CREST / Freecycle)
Cynlluniau menter, gwirfoddoli a dychwelyd
i’r gwaith
Beth yw gwerth y budd-
daliadau a chredydau
treth nad ydynt yn cael
eu hawlio yng Nghonwy
a Sir Ddinbych?
£76.8 miliwn!
12.
Mewn grwpiau, cymerwch5 munud i drafod sut
y mae cynhwysiant ariannol yn rhan o’ch rôl.
Sefyllfaoedd lle gallech gyfarfod dinasyddion
â chanddynt broblem
Unrhyw brofiadau blaenorol rydych wedi’u
cael yn ymwneud â chynhwysiant ariannol
14.
Mewn grwpiauA, B ac C
◦ Grŵp A – 5 munud i drafod pa ffactorau a allai
olygu bod rhywun mewn perygl o gael problemau
yn ymwneud â chynhwysiant ariannol
◦ Grŵp B – 5 munud i drafod manteision cynhwysiant
ariannol a’r rhwystrau i gynhwysiant ariannol
◦ Grŵp C – 5 munud i drafod effeithiau problemau yn
ymwneud â chynhwysiant ariannol
Cyfeirio
Mae hyn yngolygu bod y dinesydd yn cymryd
cyfrifoldeb (neu rhoddir cyfrifoldeb iddo) am gysylltu
â sefydliadau eraill i gael help i ddatrys y broblem.
Gall y gweithiwr roi cymorth trwy adnabod beth yw’r
broblem, trafod gwahanol ffynonellau cymorth a
rhoi’r wybodaeth angenrheidiol.
Atgyfeirio
Mae hyn yn golygu bod y gweithiwr yn cymryd
cyfrifoldeb am gysylltu â sefydliad arall i drefnu’r
cymorth sydd ei angen ar y dinesydd
18.
Nodi’r mater o
ran
cynhwysiant
ariannol
Nodimater mwy
cymhleth (dyled
/ budd-daliadau)
Nodi mater
lefel isel
Cynnig cymorth
Trafod y
dewisiadau a rhoi
gwybodaeth
gyfeiriol
Os ceir
cydsyniad,
atgyfeirio i’r
sefydliad
priodol
Ailymweld –
beth yw’r
canlyniad? A
oes angen mwy
o gymorth?
19.
Darpariaeth Lefel Isel
(Lefel1)
Gwasanaethau gwybodaeth, e.e. cyfeirio, a
rhoi gwybodaeth i’r cleient, megis taflenni
neu wybodaeth ar lafar.
Darpariaeth Lefel
Canolig (Lefel 2)
Gwasanaethau cynghori e.e. gwirio os ydynt
yn gymwys i dderbyn budd-daliadau.
Cymorth i lenwi ffurflenni.
Darpariaeth Lefel Uchel
(Lefel 3)
Cyngor arbenigol, e.e. oherwydd anghenion
niferus a chymhleth y cleient neu yn achos
darnau o waith dwys iawn bydd angen
gwybodaeth gyfreithiol arbenigol i ddatrys y
broblem.
:
20.
Sefydliadau atgyfeirio
Cyngor arBopeth Conwy
Uned Hawliau Lles Cyngor Conwy
Uned Budd-daliadau Cyngor Conwy
Uned Treth Cyngor Conwy
Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych
Tîm Hawliau Lles Sir Ddinbych
Refeniw a Budd-daliadau Sir Ddinbych
Siop Cyngor Budd-daliadau
Shelter Cymru
Mae Undeb Credyd Gogledd Cymru
22.
Bancio –holl fanteision banc arferol, dewis o
gyfrifon ar gyfer gwahanol anghenion
Cynilion – (Rhoi trwy’r gyflogres, Cyfrifon Clwb
Nadolig, Cronfeydd Ymddiriedolaethau Plant) - telir
difidend yn hytrach na llog, 1.5% ar gyfartaledd
Benthyciadau – lleiafrif benthyciadau £50 - £10,000
cystadleuol iawn yn gwarantu’r gyfradd orau ar
fenthyciad £2000 - £7000.
23.
“APR yw’r GyfraddGanrannol Blynyddol. Gallwch ei defnyddio i
gymharu gwahanol gynigion credyd a benthyciadau. Mae’r APR yn
cynnwys y llog ar y benthyciad a hefyd unrhyw daliadau eraill y
mae’n rhaid i chi eu talu, er enghraifft ffi trefnu. Mae’n rhaid i
fenthycwyr ddweud wrthych beth yw’r APR cyn i chi arwyddo
cytundeb. Bydd yn amrywio o un benthycwr i’r llall”
24.
Benthyciad o £400dros 30 diwrnod
• Wonga – ad-daliad o £527.15 (5853% APR)
• Undeb Credyd – ad-daliad o £404.63 (@26%
APR)
25.
Cynllun tloditanwydd Llywodraeth Cymru
Os yw’r eiddo wedi’i raddio yn F neu G ac os
oes unrhyw un yn y cartref ar fudd-daliadau
prawf modd maent yn gymwys i gael
gwelliannau
Ffoniwch 0808 808 2244 neu ewch i
www.nestwales.org.uk
26.
Cyngor diduedd,
annibynnol,am ddim ar
faterion ariannol
Cyngor ac adnoddau arlein
Cymorth dros y ffôn
Gellir trefnu apwyntiadau
personol
Templadau ac adnoddau y
gellir eu lawrlwytho
Ffôn: 0300 330 0520
Ebost:moneyadviser@citizensadvice.org.uk
Gwefan: www.moneyadviceservice.org.uk
27.
Cefnogir ganLywodraeth Cymru
Llwybr digidol i’r Gronfa Cymorth Dewisol
Cyngor ac arweiniad ar faterion ariannol
28.
Mae Turn2usyn wasanaeth
elusennol sy’n helpu pobl i gael
mynediad at yr arian sydd ar gael
iddynt – lles, budd-daliadau,
grantiau, mathau eraill o gymorth.
Cynlluniwyd y wefan hygyrch er mwyn eich helpu i ddod
o hyd i gymorth ariannol priodol yn gyflym ac yn
hwylus, yn seiliedig ar eich anghenion a’ch
amgylchiadau personol.
Cysylltwch â Pat Cripps
pat.cripps@elizabethfinn.org.uk 01676 541 654
30.
Cyflwyniad igynhwysiant ariannol
Pryd i gyfeirio a phryd i atgyfeirio
Mynediad at gyngor a gwasanaethau
• Ymarferiad mapio
• Darpariaeth TG
• Gwybodaeth gyfeirio ychwanegol
Mwyhau Incwm
• Arolwg o’r diwygiadau lles
• Gwybodaeth am grantiau
• Cyfraddau Budd-daliadau
• Tlodi Tanwydd
Gallu ariannol
• Taflen gyllideb
• Cost credyd
• Blaenoriaethau / dyledion sy’n
flaenoriaethau
• Beilïaid
Cysylltiadau defnyddiol
Geirfa
Ewch i www.moneymadeclear.org i lawrlwytho’r
wybodaeth ddiweddaraf
31.
Mewn grwpiau dewiswchun astudiaeth achos
byr yr un, ac ar sail yr wybodaeth a roddwyd,
amlinellwch y camau y byddech yn eu cymryd
32.
Cyfeirio Atgyfeirio
Mân broblemProses sy’n fwy cymhleth
Nid yw’r unigolyn yn cydsynio
i’r atgyfeiriad
Problem sy’n fwy cymhleth a /
neu difrifol
Nid yw’r unigolyn yn derbyn
bod yna broblem.
Anghenion ychwnaegol
Hyderus y bydd yr unigolyn yn
gweithredu ar sail yr
wybodaeth a roddir
 chymhelliad i weithredu
Yn cydsynio i’r broses
atgyfeirio
Nid yw’n fater du a gwyn bob amser wrth benderfynu a ddylech gyfeirio
neu atgyfeirio. Dyma rai pethau i’w hystyried wrth ddod i benderfyniad:
#2 Cyflwyniad / Trefniadaeth
Ynglŷn â’r prosiect hwn …..
Noddir y prosiect gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru
Menter ar y Cyd rhwng Bwrdd Gwasanaeth Lleol Sir Ddinbych a Chonwy
Mae’r bwrdd gwasanaeth lleol hwn ar y cyd yn cynnwys y prif sefydliadau gwasanaeth megis Awdurdodau Lleol, yr Heddlu, Tân, Tai, Coleg Llandrillo, felly mae’r holl sefydliadau hyn wedi cydnabod rhan allweddol cynhwysiant ariannol wrth gyflenwi gwasanaethau.
Mae’r ffaith bod y Byrddau Gwasanaeth Lleol yn cefnogi’r prosiect hwn yn cydnabod pwysigrwydd cynhwysiant ariannol a bod gan holl weithwyr y sefydliadau hyn gyfrifoldeb (a hawl) i fynd i’r afael â’r broblem.
Prif amcanion y prosiect yw:
Gwella cydlyniant a chydweithio strategol ar draws Conwy a Sir Ddinbych
Gwella mynediad at wybodaeth a gwasanaethau o ansawdd a gaiff eu cynnig gan y cyngor ar gynhwysiant ariannol
Gwella’r gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli, nid creu gwasanaethau newydd
Fel y gwelwn, mae Cynhwysiant Ariannol yn faes eang a nod y sesiwn byr hwn yw rhoi trosolwg o’r pwnc, yn ogystal â’r offer / adnoddau sydd eu hangen arnoch i ddarganfod mwy.
Caiff y prosiect hwn ei ystyried fel prosiect peilot i Gymru. Mae’n hanfodol ein bod yn clywed eich safbwynt chi fel gweithiwr rheng flaen am yr hyn sy’n digwydd ac am effaith materion yn ymwneud â chynhwysiant ariannol yr ydych yn dod ar eu traws yn y maes. Mae hwn yn gyfle i ni drosglwyddo’r wybodaeth hon i’r Bwrdd Gwasanaeth Lleol a Llywodraeth Cymru yn y gobaith y gellir dylanwadu ar newidiadau a phenderfyniadau.
#3
Mae’n bwysig nodi y gall, ac mae, rhai o’r materion rydym am sôn amdanynt heddiw effeithio ar bawb, felly efallai y bydd rhai o’r pethau y byddwn yn eu trafod yn berthnasol i’ch amgylchiadau personol, neu i’ch teulu neu ffrindiau. Os oes gan unrhyw un broblemau, mae croeso i chi gael sgwrs â mi yn ystod yr egwyl neu ar ddiwedd y sesiwn. Gallwch rannu yr hyn rydych yn ei ddymuno ac os gwelwch yn dda, a wnaiff pawb barchu cyfrinachedd eraill. Efallai y bydd y materion y byddwn yn eu trafod heddiw o fudd personol i chi, neu efallai y gallech gynnig cyngor i ffrindiau a theulu.
Hefyd, mae’r sesiwn heddiw yn broses ddwyffordd …. rydym yn awyddus i dderbyn eich adborth os ydych wedi cael profiadau yn y maes, bydd hyn yn werthfawr iawn i’r prosiect.
Ni fyddwn yn trafod y canlynol … Cyngor Ariannol sydd wedi’i reoleiddio. Er mwyn cynnig cyngor arbenigol ar ddyledion, mae’n rhaid i chi gael trwydded credyd defnyddiwr ac yswiriant. Mae cyngor ar fudd-daliadau yn faes cymhleth sy’n newid yn gyson. Fel gweithwyr rheng flaen, mae’n bwysig eich bod yn deall ffiniau a therfynau’r cymorth y gallwch ei gynnig …. Hefyd, mae’n bwysig cydnabod eich cyfyngiadau o ran amser.
#4 Mae gan arian ei ddefnydd amlwg … mae’n ein galluogi i ddarparu ar gyfer ein hanghenion sylfaenol.
Yn aml iawn, bydd gennym berthynas eithaf cymhleth ag arian, mae’n cysylltu â’n hemosiynau a sut rydym yn teimlo am ein hunain.
Mae’r cwis hwn yn ychydig o hwyl ond mae’n rhoi cyfle i ni feddwl am ein hagweddau personol at arian a gall hyn fod yn rhywbeth i’w ystyried pan fyddwn mewn sefyllfa gwaith.
Beth am gyflwyno ein gilydd o amgylch y bwrdd, eich enw, o ble rydych yn dod? beth yw eich gwaith?
Os ydych yn hapus i rannu … ydych chi’n rhoi gwên ar wyneb y casglwr dyledion? / oes gennych ddyledion arferol? / ydych chi’n wariwr clyfar? / yn rheolwr gofalus neu’n wiwer?
Ar beth rydych yn hoffi gwario eich arian, a beth y mae’n gas gennych wario arian arno?
#5 Yn y pen draw, mae cynhwysiant ariannol yn ffordd o drechu tlodi felly beth am ddechrau trwy ddiffinio tlodi.
Mae Trechu Tlodi Plant erbyn 2020 yn parhau yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac yn ganolbwynt nifer o raglenni eraill megis Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a Chymunedau yn Gyntaf.
Premiwm tlodi
Mae’r teuluoedd tlotaf yn talu prisiau uchel am anghenion sylfaenol megis nwy, trydan a bancio. Gall y costau y bydd teuluoedd tlawd yn eu hysgwyddo i gael arian parod a chredyd, ac i brynu nwyddau a gwasanaethau fod yn ‘bremiwm tlodi’ o £1300 y flwyddyn. Mae hyn wedi cynyddu 20% er 2007!! (Achub y Plant 2010)
Mae Sefydliad Joseph Rowntree yn amcangyfrif ei fod yn costio 20 – 30% yn fwy i gael safon byw sylfaenol digonol mewn ardaloedd gwledig
Y diwygiadau lles mwyaf er 60 mlynedd, ac economi sydd mewn trafferthion:
Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd gostyngiad o 600 m yn incwm 2014 – 2015 ac yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol – bydd rhieni sengl yn colli 8.5% o’u hincwm blynyddol erbyn 2015. 3 X y cyfanswm y bydd cwpl cyffredin di-blant yn ei golli.
Mae’r galw am fanciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell wedi treblu er 2011 / 2012
#6
Diffiniad Trysorlys Ei Mawrhydi
Mae Cynhwysiant Ariannol yn golygu mwy na chael pobl i gyllidebu a chael mynediad at wasanaethau ariannol yn yr ystyr draddodiadol
Yn fwy sylfaenol ac amlochrog – os nad oes gan bobl ddigon o arian i fyw, maent yn dlawd o ran cyfleoedd a gwasanaethau.
Cynhwysiant Ariannol yw’r dull o fynd i’r afael â THLODI, mae cynhwysiant ariannol yn lliniaru effeithiau tlodi ac yn cynnig ateb rhagweithiol i dlodi
Dengys gwaith ymchwil gan Cyngor ar Bopeth a’r Ganolfan Ymchwil Gwasanaethau Cyfreithiol (LSRC) bod cyngor da yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol yn gymdeithasol, economaidd ac o ran iechyd. Elw o’r buddsoddiad, ac arbedion posibl a fesurwyd:
Pam ei fod yn bwysig?
Bydd yr unigolyn rydych yn ei gefnogi mewn gwell sefyllfa i gadw tenantiaeth / dod o hyd i gartref
Datblygu ymdeimlad a pherthynas â’r dinesydd
Wrth leihau straen sy’n ymwneud â sefyllfa ariannol, bydd modd canolbwyntio ar faterion eraill, gwella iechyd a pherthnasoedd yn y cartref
Creu mwy o gydluniad cymunedol
Bydd £1 a gaiff ei gwario ar gyngor ar dai yn arbed £2.34
Bydd £1 a gaiff ei gwario ar gyngor ar ddyledion yn arbed £2.98
Bydd £1 a gaiff ei gwario ar gyngor ar fudd-daliadau lles yn arbed £8.80
Bydd £1 a gaiff ei gwario ar gyngor ar gyflogaeth yn arbed £7.13
#7 Mae’n werth ystyried pum thema graidd Llywodraeth Cymru a nodwyd yn Strategaeth Cynhwysiant Ariannol 2009.
Mwyhau Incwm – Mae Cynhwysiant Ariannol yn golygu mwy na chael pobl i gyllidebu’n well. Gall olygu na fydd cymaint o bobl yn byw gyda thlodi tanwydd gan eu bod wedi cael mynediad at gyngor ar les.
Mynediad at gredyd a benthyciadau fforddiadwy – gall olygu y bydd mwy o bobl yn benthyca ar gyfraddau rhesymol gan undebau credyd ac y bydd mwy o bobl yn rhoi gwybod i’r Uned Benthyg Arian Anghyfreithlon am fenthycwyr arian didrwydded.
Gwella mynediad at gyngor am arian a dyledion, gall olygu y bydd mwy o bobl yn cael mynediad at y gwasanaethau cynghori, eiriolaeth a gwybodaeth sydd eu hangen arnynt yn gynt a chyn iddynt gyrraedd sefyllfa o argyfwng.
Llythrennedd a Gallu Ariannol, gall olygu y bydd mwy o bobl yn elwa o gynhwysiant digidol ac yn gallu rheoli biliau a chwilio am y cyfraddau isaf.
Mynediad at wasanaethau ariannol prif ffrwd, gall olygu y bydd pobl yn rheoli eu llif arian trwy gyfrif banc ag undeb credyd lleol, gan gadw’r arian o fewn yr economi leol
Mae Prifysgol John Moores Lerpwl wedi gwerthuso Banc y Co-operative a’i waith yng ngharchar Forest Bank yn Salford rhwng 2007 a 2009. Dim ond 39% o’r rheini a oedd wedi agor cyfrif banc sydd wedi aildroseddu: 59.9% yw’r gyfradd aildroseddu genedlaethol ymhlith carcharorion sy’n bwrw dedfryd o llai na blwyddyn
Dywedodd Franklin, Prif Swyddog Gweithredol Gwasanaethau Ariannol y Co-operative:
Os nad oes gennych gyfrif banc, gall hyn beryglu eich cyfleoedd gwaith, ei gwneud yn llawer anoddach i rentu tŷ a chymhlethu mynediad at grantiau addysg. Hefyd, gall ei gwneud yn anodd i hawlio budd-daliadau.
#8 Gall jargon a thermau anghyfarwydd effeithio ar ein hyder i fynd i’r afael â Chynhwysiant Ariannol felly, rwyf am esbonio rhai o’r termau mwyaf cyffredin
#9 Dealltwriaeth a’r gallu i gyllidebu
Blaenoriaethu dyledion
Beiliaid gwir / gau o’r pecyn
Cost credyd
Deall APR (Cyfradd Gyfrannol Flynyddol)
#10 Caiff ei gydnabod fod gennym y tai oeraf a mwyaf tamp yn Ewrop!
Mae astudiaeth gan Llais Defnyddwyr Cymru yn nodi bod 34% o gartrefi Cymru yn dioddef o dlodi tanwydd.
Gall tlodi tanwydd (fel pob math o dlodi) gael effaith sylweddol ar iechyd a lles. Gall achosi salwch sy’n gysylltiedig â thlodi – pwysau geni isel, afiechydon anadlol, marwolaethau yn ystod y gaeaf… Mwy o achosion o lithro, baglu a chwympo, salwch meddwl a mwy o risg o dân yn sgil defnyddio dulliau gwresogi amhriodol
Effeithiau: Effaith sylweddol o ran iechyd, gan effeithio ar y system anadlu a chylchrediad y gwaed ac arthritis – marwolaethau 3 gwaith yn fwy tebygol mewn tai oer
Yn 2011 amcangyfrifodd Consumer Focus fod 425,161 o gartrefi yn dioddef o dlodi tanwydd – 33.5% o’r holl gartrefi yng Nghymru
Yn 2012, £1250 oedd bil ynni cartref ar gyfartaledd
Y tymheredd boddhaol ar gyfer cynhesu tŷ yw rhwng 18 - 21c
Y prif ystyriaethau yw:
Effeithlonrwydd ynni yr eiddo
Cost ynni
Incwm y cartref
Mae tai mewn ardaloedd gwledig yn broblem sylweddol gan fod llawer ohonynt wedi’u hadeiladu o waliau solet ac nid ydynt wedi’u cysylltu â’r prif gyflenwad nwy.
Cynhelir gweithdai Cynnig Ynni Gorau o fis Hydref gan Pennysmart / Cyngor ar Bopeth
Mae Cymunedau yn Gyntaf yn trefnu sesiynau Gweithredu Ynni Cenedlaethol ym Mae Cinmel, Peulwys a Llandudno
#11 Yn sgil cyflwyno Credyd Cynhwysol a’r symudiad at chwilio am swyddi ar-lein. Yn ogystal, mae banciau a chwmnïau ynni yn symud at filiau ar-lein, ac ati
Mae 2 fater i’w hystyried o ran mynediad … a ellir cael mynediad at yr offer angenrheidiol ac a oes gan bobl y sgiliau angenrheidiol
Amcangyfrifir bod 35% o oedolion yng Nghonwy a Sir Ddinbych wedi’u heithrio’n ddigidol
Pam fod hyn yn bwysig? –
Arwahanrwydd cymdeithasol - 75% o bobl dros 75 oed sy’n byw ar eu pennau eu hunain yn teimlo’n ynysig
Arian – Gall siopa ar-lein a thalu biliau yn electronig arbed hyd at £560
Gwaith – bydd 90% o swyddi yn gofyn am sgiliau TGCh erbyn 2015, nid yw 38% o bobl ddi-waith ar-lein
Arbedion i’r llywodraeth – 1.8 biliwn trwy ddarparu gwasanaethau yn ddigidol
Yn eich pecynnau, ceir manylion am gyfleusterau TG ar draws Conwy a Sir Ddinbych
Mae prosiectau yn cynnwys: prosiect CVC a ariennir gan Cymunedau 2.0
Sir Ddinbych Ddigidol – Alex Fairclough – 01824 702441 / 0788 591 0953
Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy (CGGC) Ceri Quirk
Sesiynau blasu, hyfforddiant a gweithdai CGGC
Adnoddau cynhwysiant digidol – Niace www.learnmyway.com – cyrsiau ar-lein am ddim
www.getonline@home.org gall elusennau ac unigolion ar rai budd-daliadau gael cyfrifiadur sydd wedi’i adnewyddu a’i baratoi ar gyfer y rhyngrwyd o £99
#12 Mae’n bwysig cofio bod cyngor ar fudd-daliadau yn faes arbenigol felly byddwn yn atgyfeirio pobl i Gyngor ar Bopeth, Cyngor ar Fudd-daliadau neu Hawliau Lles os oes unrhyw broblem
£35m y flwyddyn yw cyfanswm yr arian nad yw’n cael ei hawlio na’i dalu yn Sir Ddinbych
Bwriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw lleihau’r gwariant net ar faterion lles yn y Deyrnas Unedig o 18 biliwn y flwyddyn (cyfanswm o £39,180,000,000 dros y 5 mlynedd nesaf, 2010 i 2015),
Mae pobl ar incwm isel yn methu’n gyson â hawlio’r holl fudd-daliadau a chredydau treth y mae ganddynt hawl i’w cael
Mae gwiriwr grantiau gwych ar wefan ‘turn 2 us’ – llawer o grantiau arbenigol
Mae’r Gronfa Cymorth Dewisol yn disodli’r hen gronfa gymdeithasol ac yn cael ei rheoli gan Lywodraeth Cymru
Cronfa Cymorth Dewisol – taliadau / cymorth o fath arall er mwyn rhoi help ar frys i bobl
Taliadau Cymorth mewn Argyfwng / Taliadau Cymorth i Unigolion
#13 Felly, gobeithio ein bod bellach yn deall beth yn union yw cynhwysiant ariannol. Mewn grwpiau, hoffwn i ni dreulio rhyw 5 munud yn trafod sut y mae’n effeithio ar eich rôl.
Unrhyw themâu cyffredin / sy’n dod i’r amlwg
Heriau
#14
Yn ogystal, mae nifer o brosiectau a sefydliadau yn ceisio mynd i’r afael â thlodi – cymaint yn wir fel y gall fod yn ddryslyd fel gweithiwr wybod pwy sy’n gwneud beth
Dyma Ffilm yn dangos safbwyntiau gweithiwr rheng flaen a dinesydd a ffilmiwyd yn ystod ein ‘Digwyddiad Mawr’ a Digwyddiad ‘Energy Matters’ Cymunedau yn Gyntaf dros yr haf.
Gofyn am sylwadau / barn am y ffilm
#15 Adborth o’r drafodaeth ymhlith y grwpiau
Mae problemau yn ymwneud â chynhwysiant ariannol yn aml yn codi o ganlyniad i newid mewn amgylchiadau megis perthynas yn dod i ben, salwch, marwolaeth partner neu golli swydd – felly mae’n hawdd gweld sut y gall pawb, gan ein cynnwys ni ein hunain, fod mewn perygl.
Effeithiau – mwy o dlodi ac eithrio cymdeithasol
Mae’r cysylltiad rhwng tlodi a salwch cronig yn hysbys – pwysau geni isel, problemau anadlol, problemau deintyddol, problemau â’r galon.
Iechyd meddwl (arolwg panel o Gartrefi Prydeinig gan Brifysgol Essex 2010) Yng Nghymru rydych 50% yn fwy tebygol o wynebu problemau yn ymwneud â iechyd meddwl os ydych yn ddi-waith neu’n dioddef o salwch hirdymor / yn anabl
#17 Angen ailadrodd yma, nad ydym yn disgwyl i chi gymryd rôl gweithiwr arbenigol – mae angen i chi gofio ffiniau eich rôl.
Cofiwch, fel y dywedwyd ar y dechrau – mae Cynhwysiant Ariannol yn gyfrifoldeb i bawb. Os rhoddwyd amser i chi ddod i’r sesiwn heddiw, yna mae hyn yn cadarnhau bod eich sefydliad yn gweld bod manteision i chi fynd i’r afael â chynhwysiant ariannol
Cynigiwch gymorth – yn dibynnu ar eich rôl, efallai y gallech baratoi taflen gyllidebu syml, defnyddio cyfrifiannell ar-lein i ddangos ‘arbedion’, os yw’r peiriant golchi dillad wedi torri, gallech awgrymu ymweliad â’r ganolfan ailgylchu lleol yn hytrach na mynd i Brighthouse.
Yn dilyn trafodaeth, efallai y byddwch yn awgrymu bod angen mewnbwn sefydliad arall felly byddwch yn cyfeirio’r unigolyn ato. Er enghraifft, efallai y byddwch yn cyfeirio rhywun at NYTH os yw’n cael anhawster i wresogi’r tŷ ac os ydych o’r farn y gallai fod yn gymwys ar gyfer cynllun NYTH. Neu os ydych yn gwybod bod rhywun yn defnyddio benthycwyr stepen y drws, gallech eu cyflwyno i’r Undeb Credyd ac esbonio pa wasanaethau a gynigir ganddynt, y manteision posibl a rhoi gwybodaeth am amseroedd / lleoliadau’r pwyntiau casglu.
Os oes gan yr unigolyn broblem mwy cymhleth / difrifol, ac os ydynt yn cytuno ar ôl i chi drafod y mater, efallai y byddwch yn penderfynu eu hatgyfeirio. Os bydd rhywun yn dweud wrthych nad ydynt yn gallu talu’r rhent a’u bod yn mynd i ddyled, gallech eu hatgyfeirio i Cyngor ar Bopeth.
Ni fydd hyn yn golygu cynnydd mawr yn eich llwyth gwaith, gellir gwneud hyn ochr yn ochr â’ch ‘gwaith bob dydd’ a gall fod o gymorth i chi yn eich rôl
#18 Mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng y 2
Gwahanol ddulliau a gwahanol ganlyniadau. Mae amser a lle i’r ddau
Rhesymau dros gyfeirio neu atgyfeirio
Mae’r broblem y tu hwnt i faes arbenigol y gweithiwr neu’r grŵp targed (h.y. anghenion penodol unigolyn byddar / digartref / person hŷn)
Materion yn ymwneud â gallu
Mae ystyriaethau pwysig yn cynnwys
Ymddiriedaeth – angen gwneud yr hyn a gytunwyd
Yr wybodaeth gyfredol, ddiweddaraf
#19 Defnyddiwch eich crebwyll ar sail anghenion y dinesydd
Bydd ystyriaethau yn cynnwys natur a difrifoldeb y broblem
Faint o hunan-gymhelliant sydd gan yr unigolyn?
Mae sgiliau holi / agwedd anfeirniadol yn hanfodol, mae angen cydnabod bod stigma yn gysylltiedig â materion ariannol
Cydsyniad y dinesydd
Gallu’r dinesydd (anghenion sgiliau sylfaenol, anghenion ychwanegol, lefel eu cynhwysiant digidol ac ati)
Lefel y cymorth sydd eisoes ar gael h.y Ni fydd y Siop Cyngor Budd-daliadau yn gweithio gyda chleient os ydynt eisoes wedi dechrau apêl gyda Cyngor ar Bopeth ac i’r gwrthwyneb
#22 Mae mwy o wybodaeth am sefydliadau y gallwch gyfeirio atynt yn eich pecynnau, ond nid yw’r rhestr yn gynhwysfawr.
Rydym am dynnu sylw at rai o’r prif sefydliadau / adnoddau y gallwch gyfeirio atynt
#23 Mae credydau undeb yn sefydliadau cydweithredol ariannol, sydd yn eiddo i’r aelodau ac yn cael eu rheoli ganddynt. Maent yn cael eu rheoleiddio, yn yr un modd â banciau, gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, felly caiff yr arian ei amddiffyn gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol. Mae credydau undeb yn fentrau cymdeithasol, felly maent er budd y gymuned.
Caiff undeb Gogledd Cymru ei gydnabod fel un o’r undebau credyd mwyaf blaenllaw yn y Deyrnas Unedig.
Maent yn cynnig dewis eang o gynhyrchion ariannol yn cynnwys:
Cyfrifon cynilo (cynilion Nadolig, cynilion i oedolion a chynilion i blant). Maent yn talu difidend ar y cynilion. 1.5% yw’r difidend cyffredin. Nid yw Cronfeydd Ymddiridolaethau Plant (CYP) bellach ar gael, ond mae’r Undebau Credyd yn parhau i gynnal y CYP a agorwyd a gellir talu arian iddynt. Nid ydynt yn cael eu cynnig bellach fel cynnyrch newydd.
Benthyciadau Fforddiadwy – benthyciadau hyd at £10,000 â chyfraddau cystadleuol. Isafswm benthyciad £50.
Cyfrif banc (Cyfrif Cyfredol Undeb Credyd)
Cynlluniau rhoi trwy’r Gyflogres lle gall staff drosglwyddo arian o’u cyflog i gyfrif cynilion yr Undeb Credyd.
Yswiriant bywyd am ddim ar gynilion a benthyciadau.
Nid yw undebau credyd ar gyfer pobl sydd wedi’u heithrio’n ariannol yn unig, maent i bawb! Cymerwch olwg ar eu gwefan: www.northwalescu.co.uk
Os nad ydych yn aelod, ymaelodwch rŵan!!
#24 Mae’n werth sôn am y canlynol ..
Byddwch yn ofalus pan fydd y llog misol yn cael ei gyhoeddi … Bydd yn gwneud i’r gyfradd swnio’n llawer is – mae llog misol o 2% yn gyfystyr â 27% APR – mae’n bosibl defnyddio troswyr ar wefannau arbed arian arbenigol
Nid yw’r APR sy’n cael ei hysbysebu bob amser yn gymwys i chi – (mae APR cynrychioliadol yn golygu bod 51% o ymgeiswyr llwyddiannus yn cael y gyfradd honno)
Mae angen bod yn wyliadwrus am yswiriant / gwarchod taliadau a gaiff ei ychwanegu yn awtomatig
Mae adlog yn effeithio ar gynilion a benthyciadau – yn y bôn, rydych yn ennill / talu llog ar y llog … felly mae hyn yn cynyddu dyledion a chynilion.
#25 Mae ethos a diwylliant gwahanol y sefydliadau hefyd yn ffactor.
Awdurdodau Taliadau Parhaus (CPAs).
Gwnaeth Cyngor ar Bopeth ddadansoddiad manwl o sefyllfa 665 o gwsmeriaid benthyciadau diwrnod cyflog a gysylltodd â gwasanaeth cwmeriaid yr elusen rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2013, ac roedd gan 32% ohonynt (201 o bobl) gwynion am yr Awdurdodau Taliadau Parhaus. O’r rhain:
Roedd yn bosibl bod gan 9 o bob 10 sail i gwyno i Ombwdsmon y Gwasanaeth Ariannol.
Roedd 1 o bob 5 eisoes yn cael problemau ariannol neu ar gynllun rheoli dyledion.
Yn achos 1 o bob 6, roedd arian wedi ei gymryd heb ganiatâd.
Dywedodd 1 o bob 6 fod y benthycwr diwrnod cyflog wedi defnyddio Awdurdod Taliadau Parhaus i gymryd mwy o arian na’r hyn a gytunwyd yn wreiddiol.
#26 Fel y dywedwyd eisoes, mae gennym y tai hynaf, a mwyaf anodd i’w cynhesu yn Ewrop
Nyth yw cynllun tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru. Ei nod yw lleihau nifer y cartrefi sy’n dioddef o dlodi tanwydd a gwneud cartrefi Cymru yn gynhesach ac yn fwy ynni-effeithiol.
Os ydych yn poeni am gost cynhesu eich cartref, gallwch ffonio 0808 808 2244 am ddim o linell dir neu ffôn symudol. Gall ein ymgynghorwyr cyfeillgar roi cyngor ar:
Arbed ynni
Rheoli arian
Sicrhau eich bod ar y tariff tanwydd gorau i chi;
Gwirio a oes gennych hawl i dderbyn unrhyw fudd-daliadau i roi hwb i’ch incwm
Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael gwelliannau i’ch cartref yn rhad ac am ddim, er mwyn gwneud eich cartref yn gynhesach a lleihau eich biliau ynni.
Daw Rick Ward y rheolwr ardal i siarad â chi / eich sefydliad a rhoi mwy o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael ac mae mwy o wybodaeth yn y pecynnau
#27 Gallwn roi rhestr hir o wefannau i chi sydd yn cynnig gwahanol wasanaethau … ond yn aml y lle gorau i gyfeirio ato yw ‘Money Advice Service’ gwasanaeth annibynnol a sefydlwyd gan y llywodraeth.
Mae’n cynnwys llawer iawn o adnoddau yn cynnwys cyfrifianellau (cynilion, cyfrifianellau costau babi, gwirio cyllidebau, cyfrifianellau ysgaru / gwahanu) marwolaeth partner, tabl cymharu, templadau llythyrau, clipiau fideo ar nifer o bynciau h.y. gofalu am faterion ariannol ar ôl i’ch partner farw), cynllunwyr cyllidebau
Nid yw’n cael ei rheoleiddio felly nid yw’n rhoi cyngor ariannol penodol
#29 Mae hyfforddiant ar gael i sefydliadau ar sut i ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau’r wefan ac ati
#30 Mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng benthyciadau diwrnod cyflog cyfreithiol a trwyddedig â benthycwyr arian anghyfreithlon / benthycwyr arian didrwydded. Mae unrhyw un sy’n benthyca arian heb drwydded yn torri’r gyfraith
Yn targedu’r bobl mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas
Gallwch ofyn i’r tîm ddod i roi sgwrs i’ch sefydliad. Byddant yn gweithredu ar sail unrhyw wybodaeth, ni waeth pa mor amhendant ydyw, ac er bod yr Uned wedi’i lleoli yng Nghaerdydd maent yn treulio llawer o amser yn y Gogledd.
Gan fod y benthyciad yn anghyfreithlon, nid oes yn rhaid i’r dioddefwr dalu’r arian yn ôl. Cynigir pecyn amddiffyn llawn i’r dioddefwr.
#31 Eich eiddo chi yw’r pecynnau hyn, felly gellir diweddaru’r dogfennau. Os ydych yn dymuno, gallwch ysgrifennu ar y tabiau rhannu i’w gwneud yn haws i chi bori drwy’r pecyn
#34 Ar ôl heddiw, sut ydych yn bwriadu mynd ati i ymgorffori Cynhwysiant Ariannol yn eich gwaith.
Ar nodiadau gludiogHeriau wrth fynd i’r afael â Chynhwysiant Ariannol yn eich gwaith
Cyfryngau ar gyfer mynd i’r afael â Chynhwysiant Ariannol yn eich gwaith
Eich annog i ystyried sut y byddwch yn ymgorffori’r hyn a ddysgwyd / adnoddau yn eich gwaith a’r rhwystrau / manteision
#35 Mae derbyn adborth yn bwysig iawn i’r prosiect, felly byddem yn gwerthfawrogi’n fawr petaech yn treulio munud neu ddau i lenwi’r ffurflen. Prosiect peilot yw hwn ar hyn o bryd, felly bydd eich sylwadau yn cael eu defnyddio i ddatblygu’r sesiwn.
Ffurflenni Gwerthuso
Gwerthusiad 12 wythnos / Logs Hyfforddiant Cynhwysiant Ariannol
Astudiaethau achos – Cyfle i ddangos eich gwaith, dangos enghreifftiau o arfer gorau y gellid eu defnyddio i ddylanwadu ar bolisi cymdeithasol
Byddwn yn anfon diweddariadau electronig atoch, oni bai eich bod yn dweud wrthym nad ydych eisiau eu derbyn
Gofyn am astudiaethau achos
Byddwn yn ymweld â chi eto mewn 12 wythnos