Crynodeb gweithredol datblygu dulliau effeithiol i ymgynghori â lleiafrifoedd croenddu ag ethnig mewn mannau gwledig
1. Creu Cymunedau Gwledig Cynhwysol
DATBLYGU DULLIAU EFFEITHIOL I YMGYNGHORI Â
LLEIAFRIFOEDD CROENDDU AG ETHNIG MEWN MANNAU
GWLEDIG
RHAGLEN YMCHWIL GWEITHREDOL GWLEDIG
Ymddiriedolaeth Carnegie y D.U.
Thema: ‘Creu Cymunedau Gwledig Cynhwysol’
Ionawr 2009
Charlotte Williams a Tue Hong Baker
Asiantaeth Arweiniol:
Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Gogledd Cymru (NWREN)
Asiantaeth Partner:
Prifysgol Keele, Swydd Stafford.
2. Crynodeb Gweithredol
Cefndir
Ariennir y prosiect ymchwil hwn gan Carnegie UK Trust o dan y Rural Research
Action Programme (RARP). Fe’i gynlluniwyd trwy bartneriaeth rhwng Rhwydwaith
Cydraddoldeb Hil Gogledd Cymru (North Wales Race Equality Network (NWREN)
a’r Athro Charlotte Williams OBE o Brifysgol Keele, Swydd Stafford. Mae’n codi o
ymarfer rhychwantu a ymgymerwyd gan weithwyr prosiect Ymchwil a Gwasanaeth
Cefnogaeth a Cydraddoldeb ac Amrywiaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cymru/Wales Equality and Diversity in Health and Social Care Research and
Support Service (WEDHS) a geisiodd benderfynu blaenoriaethau ar gyfer ymchwil
yn unol â’r rhai a leisiwyd gan unigolion a grwpiau lleiafrifol yn ardaloedd gwledig
Gogledd Cymru a’r rhai sy’n gweithio gyda hwy. Un pryder allweddol oedd lefel a
natur yr ymgynghoriad a chysylltiad rhwng asiantaethau prif-ffrwd ac
unigolion/cartrefi lleiafrifol. Ystyriwyd hyn yn wael gan ddeiliaid diddordeb darparwyr
gwasanaeth a gan aelodau’r boblogaeth lleiafrif ethnig. Amcan cyffredinol y prosiect
ymchwil gweithredol yma oedd archwilio natur y cysylltiad rhwng grwpiau lleiafrif
ethnig a chyrff gwasanaeth cyhoeddus a cheisio gwella’r strategaethau
ymgynghoriad rhwng cyrff cyhoeddus. Ymdrechodd y prosiect hefyd i ymchwilio’r
ffactorau ‘ ansawdd bywyd’ sy’n annog atyniad a dargadwedd grwpiau lleiafrif ethnig
mewn ardaloedd gwledig ac archwilio agweddau eu cysylltiad dinesig.
Dulliau
Cynhaliwyd yr ymchwil rhwng Mai 2006 a Medi 2008. Roedd yr ymchwil yn cynnwys
adolygiad llenyddiaeth, arolwg awdurdodau cyhoeddus detholedig yn yr ardal i asesu
eu strategaethau ymgynghoriad a ddefnyddir a hyrwyddiad y prosesau
ymgynghoriad gyda thri chorff cyhoeddus. Yn ogystal ymgymerwyd ag arolwg
holiadur o unigolion lleiafrfif ethnig yn byw yn y rhanbarth a chyfres o gyfweliadau
grwpiau ffocws er mwyn asesu agweddau allweddol bywyd gwledig; Belonging:
Family, Friends and Community Association; Getting Involved and Influencing
Decisions.
Cyd-destun Polisi a Negeseuon o’r Llenyddiaeth
Yn ystod y blynyddoedd diweddar mae’r berthynas rhwng y cyrff cyhoeddus a’r
cymunedau y maent yn eu gwasanaethu wedi eu trawsnewid gan amrediad o
fentrau polisi. Yng Nghymru mae Gwneud Cysylltiadau (LlCC 2004) yn rhoi ffocws
dinesydd wrth wraidd polisi cyhoeddus ac yn ymrwymo i ddatblygiad cymunedau
cynhwysol cryf. Mae Deddf Cydberthynas Hiliol (Gwelliant) 2000 yn rhoi
dyletswyddau eglur ar gyrff cyhoeddus i wybod ehangder a natur eu poblogaethau
lleiafrif ethnig ac i ymgynghori â hwy ar amrediad o faterion polisi.
Ni ellir gor-fynegi gwerth ymgynghoriad da . Nid yn unig y mae’n sicrhau corfforiad
mewnwelediad a phrofiad gwerthfawr grwpiau ymylol ac unigolion ond mae hefyd yn
rhoi cyfreitholdeb ar gyfer penderfyniadau a gweithrediad polisi. Er hynny, fe
gydnabyddir bod sefydlu ymarfer da a chasglu barn grwpiau lleiafrifol mewn
ardaloedd gwledig yn cyflwyno sialensiau neilltuol. Prif rwystr i ymgynghoriad yw
dwysedd isel a gwasgariad daearyddol ac amrywiaeth lleiafrifoedd ethnig yn yr ardal
a’u diffyg gwelededd – yr hyn a elwir yn ‘grŵp anodd cyrraedd ato’ . Rhwystrau
cyffredin eraill i ymgynghoriad effeithiol a nodir yn y llenyddiaeth yw:
3. • Amser a gallu cynhyrchu
• Ariannu a materion adnoddau eraill
• Profiad mewn creu cydberthynas
• Diffyg eglurder y broses
• Bod ynghlwm i fethodoleg draddodiadol neu brif ffrwd
• Dibynnu ar un fethodoleg
• Diffyg data demograffig da
• Diffyg ymwybyddiaeth o faterion diwylliannol/ ‘llythrennedd’ cysylltiad
• Bod yn or -uchelgeisiol – niferoedd yn hytrach nag ansawdd
• Lefelau amrywiol o ymrwymiad o’r top.
Mae yna lenyddiaeth lwyd yn ymddangos ynglŷn ag Arweiniad Ymarfer Da ar gyfer
cysylltiad effeithiol gyda lleiafrifoedd ethnig a grwpiau eraill sy’n anodd eu cyrraedd
ac ond ychydig yn unig o ‘enghreifftiau gweithiol’ o sut y gallasai’r technegau hyn
gael eu defnyddio yn yr ardaloedd gwledig.
Yn nodweddiadol. mae diffyg grym gwleidyddol ymhlith lleiafrifoedd ethnig mewn
ardaloedd gwledig yn rhwystro lleisio barn a chyfranogi’n llawn mewn achosion lleol.
Mae ganddynt gynrychiolaeth wael ar fyrddau lleol, pwyllgorau a fforymau
penderfynu eraill neu mewn swyddi cyhoeddus. Fe ddogfennir yn eglur yr
anwybyddir neu neilltuir eu hanghenion gwasanaeth a bod rhwystrau sylweddol
iddynt gael mynediad at wasanaethau a derbyn cyngor a gwybodaeth. Yn
ychwanegol maent yn wynebu hiliaeth a gwahaniaethu yn eu cymunedau. Mae
sefydliadau, grwpiau ac unigolion lleiafrif ethnig yn datgan yr ymdeimlad o ‘or-
ymgynghori’ a ‘lludded ymgynghori’ sy’n bodoli wrth i’r mandad polisi wthio’r cyrff
cyhoeddus i gysylltu â hwy. Ar hyn o bryd ychydig yn unig a wyddys am lefel a natur
eu cysylltiad dinesig mewn ardaloedd gwledig.
Ymchwil Gweithrediad gyda Darparwyr Gwasanaethau
Dros gyfnod o 18 mis dewiswyd nifer o ddarparwyr gwasanaeth yn yr ardal ar gyfer
gwaith datblygiadol ar ymgynghori gyda lefelau amrywiol o ymyrraeth gan y
gweithiwr prosiect. Fe’u harolygwyd er mwyn nodi’r prif gyfyngiadau o ymgynghoriad
ar waith. Cynhaliwyd gweithdy i drafod y negeseuon o’r llenyddiaeth ac i gyflwyno
ystod ac amrywiaeth o fecanweithiau ymgynghoriad sydd ar gael iddynt. O’r 18 o
gyfranogwyr gwreiddiol dewiswyd 3 awdurdod ar gyfer gwaith manwl. Mae’r
astudiaethau achos yn cynnwys gwaith ymgynghorol ar Bolisi Cydraddoldeb Hil
awdurdod, ar ddatblygiad strategaeth Ysbrydol, Grefyddol a Gofal Diwylliannol
awdurdod, ar waith gyda merched lleiafrifol, anghenion cartrefi awdurdod, a
digwyddiad cydweithredol traws awdurdod ‘Digwyddiad Ymgynghoriad
Cydraddoldeb Hil Ar y Cyd’.
4. Negeseuon allweddol
Mae cyfanswm da o frwdfrydedd ac ymrwymiad tuag at gysylltiad gydag
unigolion a chartrefi lleiafrif ethnig yn bodoli ymhlith gweithwyr rheng flaen
Mae diffyg arweiniad o’r top yn nhermau ymrwymiad i fentrau, dyraniad
adnoddau priodol, ac elwa i’r eithaf ar enillion a wnaethpwyd gan y gweithwyr
rheng flaen..
Diffyg dysgu trwy gyfrwng yr adnoddau sydd mewn lle neu’r wybodaeth
ddealledig oddi fewn i’r sefydliad ymhlith y cyfranogwyr. Mae llawer o’r
cyfranogwyr yn cael eu digalonni gan sialensiau cysylltiad mewn ardaloedd
gwledig ac mae angen cryn gefnogaeth
Nid yw sefydliadau yn greadigol nac ychwaith yn defnyddio technegau arloesol
yn ddigonol i ateb y sialensiau amlwg ac mae diffyg defnydd o fethodoleg
gymysg.
Mae gweithio traws awdurdod a datblygiad partneriaethau mewn ymarferion
cydraddoldeb yn gam positif, er bod cylchrediadau sefydliadol yn cynhyrchu
eu cyfyngiadau eu hunain yng nghyswllt datblygid ymarferion da.
Mae trosiant staff yn golygu colled arbenigedd, cyfalaf a rhwydweithiau
sefydledig sy’n arwain at ymarfer da cynaliadwy yn yr ardal hon. Mae cof
sefydliadol yn wael.
Mae sefydliadau Trydydd Sector yn hanfodol er mwyn cefnogi ymgynghoriad a
chysylltiad effeithiol.
NI ellir cael ateb cyflym i ddatrys materion cysylltiad gyda lleiafrifoedd ethnig
yn yr ardal. Bydd angen adeiladu ymddiriedaeth, ymrwymiad amser ac
adnoddau ac adeiladu gallu parhaol
Mae pryderon yn parhau ynglŷn â chynhyrchu deialog diffuant ac agored yn y
broses ymgynghori ble weithredir ar yr allbynnau a ble roi’r adborth priodol i
gyfranogwyr.
Bydd angen gwneud ymdrechion i gynyddu’r gynrychiolaeth o unigolion
lleiafrif ethnig ar gyrff a fforymau sy’n gwneud penderfyniadau.
5. Byw a Gweithio mewn Ardaloedd Gwledig – Barn Lleiafrif Ethnig
Cynhyrchodd ymatebion dros 90 o unigolion a thri grŵp ffocws adroddiad cyfoethog
o farn y lleiafrif ynglŷn â byw a gweithio yn ardal Gogledd Cymru. Roedd y rhan
fwyaf o’r cyfranogwyr wedi byw yn yr ardal am dros 5 mlynedd a thraean am dros 20
mlynedd. Roedd yr ymatebwyr yn gwerthfawrogi llawer o nodweddion traddodiadol
bywyd gwledig, yn cynnwys yr harddwch, heddwch, tawelwch a buddion
amgylcheddol. Mae pobl yn cyfrannu i amrywiaeth o weithgareddau yn eu cymuned
trwy ysgogiad eu hymdeimlad o ‘ddyletswydd’ a ‘rhoi’n ôl i gymdeithas’. Mae
rhwystrau allweddol yn cynnwys diffyg amser, cyfrifoldebau gofal, ond hefyd
rhwystrau iaith a diwylliant a phryderon ynglŷn â gwahaniaethu a hiliaeth. Mewn
cadarnhad o’r llenyddiaeth ar hiliaeth wledig mae’n amlwg bod clwstwr ffactorau
unigedd, amlygrwydd, ofn hiliaeth a gwahaniaethu yn troshaenu gallu’r unigolyn i
gyfranogi’n ystyrlon ar lefel lleol. Mae’n amlwg nad yw pobl yn disgwyl neu’n chwilio
am gydgysylltiad cyd-ethnig ar lefel lleol, tu hwnt i gysylltiadau teuluol a chrefyddol,
gan yn hytrach gynnal cydgysylltiad ‘ethnig’ positif yn genedlaethol a rhyngwladol
trwy rwydweithiau gwirioneddol neu rithwir.
Mae darganfyddiadau yr adroddiad yma yn awgrymu darlun o unigolion gyda
buddsoddiad uchel yn eu cymdogaeth a lefelau da o integriad yn erbyn ystod eang o
ddangosyddion amholiticaidd. Ble mae locws rheolaeth yn nwylo’r unigolyn yn
nhermau ymfyddino gwasanaethau. oddi fewn y sector preifat er enghraifft, y dewis
yw ffafrio’r lleol yn nhermau gwasanaethau. Ymddengys fodd bynnag ymdeimlad isel
o atafael neu gysylltiad gyda’r sefyllfa leol ac ymdeimlad gwan o’r gallu i ddylanwadu
a ffurfio penderfyniadau. Mae cynrychiolaeth ar gyrff lleol (gwasanaethau
cyhoeddus) yn isel.
Yn nhermau cysylltiad ac ymgynghoriad gydag asiantaethau’r sector cyhoeddus, er
bod arwyddion positif o gynnydd mewn ymwybyddiaeth a chymhwysedd gan
sefydliadau, mae profiadau yn awgrymu bod ‘llythrennedd ymgynghoriad’
sefydliadau yn parhau yn wael.
Negeseuon allweddolNegeseuon allweddolNegeseuon allweddolNegeseuon allweddol
Mae unigolion lleiafrif ethnig yn dal barn positif ynglyn â byw mewn cymuned
wledig.
Lleisir lefelau uchel o atafael a pherthyn i’w cymdogaethau lleol gan
leiafrifoedd ethnig
Ymddengys bod yr ymatebwyr wedi integreiddio yn dda yn nhermau defnydd
amrediad o wasanaethau lleol, cymdogrwydd a bywyd cymdeithasol
Roedd pobl yn cael eu cynnwys yn rheolaidd mewn gweithgareddau
gwirfoddol, gan gyfrannu yn nhermau gofal a chefnogi eraill.
Mae cyfranogaeth wleidyddol ffurfiol ar lefel leol yn isel ond nid yw pobl yn
anwleidyddol.
6. Mae ysgogiad pobl ar gyfer cymryd rhan yn adlewyrchu’r anogyddion a’r
cyfyngiadau cydnabyddedig i weithgaredd gwirfoddol.
Yng nghyswllt rhai fe gyfyngir ar wirfoddoli a chyfrannu’n lleol gan ofn
gwahaniaethu, hiliaeth ac ofn allanoliaeth.
Mae unigolion lleiafrif ethnig yn croesawu ymgynghoriad sy’n cynhyrchu
allbynnau.
Mae diffyg ‘llythrennedd ymgynghoriad’ yn parhau ymhlith cyrff cyhoeddus
yng nghyswllt cymunedau lleiafrifol.
Casgliad
Mae’r enillion a gronnir i ymgynghoriad a chysylltiad da yn niferus. Nid yn unig y
mae’n gwella a chyfreithloni penderfyniadau polisi trwy ymgorffori mewnwelediadau
a phrofiadau gwerthfawr grwpiau ymylol ond mae hefyd yn meithrin buddsoddiad ac
integreiddiad da ar gyfer pobl o sectorau traddodiadol eithriedig y gymuned. Er
mwyn i ymarferion cysylltiad ac ymgynghoriad priodol ddigwydd ac er mwyn i gyd
weithio rhyngberthnasol ffrwythlon ddatblygu mae angen arweiniad da, paratoad
gofalus, hyfforddiant, cefnogaeth ac ariannu priodol i hwyluso’r ymdrechion. Heb
hyn, ni fydd ymgynghoriad ond yn un symbolaidd ac ecsploitiedig. Mae lleiafrif ethnig
a chartrefi ymfudol yn gwneud cyfraniad hanfodol (economaidd, cymdeithasol a
dinesig) i gymunedau gwledig. Dylid gwerthfawrogi a chydnabod eu cyfraniad.