SlideShare a Scribd company logo
1 of 44
Download to read offline
Mwynhau’r Manteision
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru
Crynodeb Gweithredol
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried bod gan ynni adnewyddadwy rôl bwysig
mewn datblygu economaidd. Fodd bynnag, mae llawer o fanteision eraill y
mae’r diwydiant yn ei roi i gymunedau lleol ledled Cymru sydd efallai heb eu
cydnabod na’u deall cystal. Bydd llawer o weithredwyr ynni adnewyddadwy yn
cyfranogi mewn llwyddiant cymunedau lleol, o ran amser a thrwy gyfraniadau
gwirfoddol i ‘achosion da’ lleol drwy amrywiaeth o wahanol gynlluniau. Fodd
bynnag, nid yw nifer na ffurf cynlluniau o’r fath sydd ar waith yng Nghymru yn
wybyddus.

Bydd cronfeydd a chynlluniau budd cymunedol (a adwaenir o hyn ymlaen fel
CBC) i’w gweld yn nodweddiadol ar ffurf taliad blynyddol swm sy’n gysylltiedig
â gallu’r fferm wynt gan y datblygwr. Fe’u bwriedir fel arfer i’w defnyddio ar
gyfer prosiectau lleol a fydd o fudd cymdeithasol, megis cadwraeth
amgylcheddol neu adfywiad cymdeithasol. Ar wahân i ddim ond rhoi grantiau
ar gyfer defnydd lleol, mae cronfeydd budd cymunedol yn rhoi cyfle i
gymunedau lleol chwarae mwy o ran mewn diwallu eu hanghenion eu hunain
mewn modd sy’n rhoi manteision hirdymor a chynaliadwy.

Yn benodol, mae’r adroddiad hwn yn archwilio dimensiynau lleol y CBC ar y
sector ynni gwynt ar y tir - fodd bynnag, mae ynni gwynt ar y môr hefyd yn rhoi
lefel uchel o gefnogaeth gymunedol, a bydd ein hargymhellion hefyd yn
berthnasol i brosiectau ynni gwynt ar y môr i raddau helaeth. Ei nod yw
dangos y ffordd gyfrifol y mae perchnogion ffermydd gwynt ar y tir yn
gweithredu, a sut mae cynaliadwyedd yr ynni a gynhyrchant yn mynd law yn
llaw â chynaliadwyedd y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar ddimensiynau lleol datblygu ynni gwynt,
ac yn fwy penodol mae’n ceisio archwilio darpariaeth budd cymunedol
ehangach sy’n cefnogi cynaliadwyedd hirdymor ar y raddfa leol yn ogystal â
byd-eang. Mae’r ystod o fanteision posibl yn cynnwys buddrannau
economaidd drwy berchnogaeth cyfranddaliadau lleol, cronfeydd budd
cymunedol, cyfraniad i’r seilwaith cymdeithasol, economaidd neu
amgylcheddol ar gyfer yr ardal, neu filiau ynni is ar gyfer trigolion lleol.
Ers i’r ffermydd gwynt masnachol cyntaf gael eu comisiynu yng Nghymru
aethpwyd i’r afael â mater ‘budd cymunedol’ mewn modd ad hoc. Ni fu fawr
ddim ymchwil systematig i’w nifer na’u cwmpas, nac i’r dibenion a wneir o’r
manteision hyn. Ar yr un pryd cafwyd esblygiad cyflym o ran maint a ffurf y
budd cymunedol a ddarperir gan ddatblygiadau ffermydd gwynt. Mewn ymateb
mae Llywodraeth Cymru yn ceisio llywio a gwella’r broses o drafod a chyflawni
budd cymunedol.

Mae llawer o brosiectau gwynt yng Nghymru eisoes yn rhoi budd cymunedol
sy’n dod o dan ddiffiniad datblygu cynaliadwy, ond mae bylchau yn ein
gwybodaeth ynglŷn â’u niferoedd, eu graddfa a’u cwmpas.

Wrth i ffermydd gwynt gynyddu mewn nifer a maint, mae CBC yn dod yn fwy
cyffredin. Felly gall ymchwil pellach i’r cronfeydd presennol fod yn werthfawr o
gofio defnydd cynyddol y model hwn. Dim ond ystyried ffermydd gwynt ar y tir
sy’n weithredol ar hyn o bryd a wna’r astudiaeth hon, ac nid y rhai hynny sy’n
ymwneud â phrosiectau sydd yn y system gynllunio, sydd wedi derbyn
caniatâd cynllunio neu sydd yn cael eu codi nawr.

Gwelodd yr astudiaeth bod ystod eang o CBC yn gweithredu yng Nghymru
sy’n cyfrannu’n gadarnhaol iawn i gymunedau lleol. Yn arbennig, dangosodd y
data:

• Bod tua phedair o bob pump fferm wynt sy’n gweithredu yng Nghymru
  eisoes yn cyfrannu i’w cymunedau lleol mewn modd strwythuredig;

• Bod llawer o endidau gwahanol yn manteisio o gyfraniadau ffermydd gwynt;

• Mae CBC yng Nghymru wedi eu gweinyddu yn bennaf drwy
  ymddiriedolaeth leoledig (neu gyrff tebyg), neu gynghorau cymuned;

• Y math mwyaf cyffredin o daliad gan weithredwr fferm wynt yw symiau
  penodedig, yn cael eu dilyn gan swm a gyfrifir yn ôl megawatt (MW) a
  osodwyd; ac

• O blith 55% o ymatebwyr ledled Cymru, daeth y symiau a dalwyd i CBC neu
  eu tebyg yn 2011 i gyfanswm o £623, 853.30.

Mae achos cryf, yn seiliedig ar dryloywder, agoredrwydd a’r gallu i ddysgu gan
arfer da, am gofrestr megis Cofrestr Llywodraeth yr Alban ar Fudd Cymunedol
o Ynni Adnewyddadwy, fel y caiff ei weinyddu gan Ynni Cymunedol yr Alban.
Fel y cyfryw, rydym o’r farn y dylai’r argymhellion canlynol gael eu mabwysiadu
gan Lywodraeth Cymru:
• Mae angen i Lywodraeth Cymru ddarparu ariannu er mwyn creu cofrestr
  CBC ar gyfer ffermydd gwynt ‘byw’ neu ffermydd gwynt cymeradwyedig,
  sy’n hawdd ei gyrchu’n gyhoeddus;
• Yn ogystal, dylai Llywodraeth Cymru ddarparu ariannu i hwyluso creu
  cofrestr CBC ar gyfer cynigion sydd newydd eu cyflwyno;
• Dylai CBC sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y diwydiant a’r cymunedau ac y
  cânt eu rheoli mewn modd ‘craff’, a dylai Llywodraeth Cymru glustnodi
  ariannu i Ynni Cymunedol Cymru (neu gorff tebyg) i gefnogi cymunedau i
  ddatblygu’r CBC gorau ar gyfer eu hanghenion penodol;

• Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gall taliadau CBC fod yn fwyaf
  effeithiol dros gyfnod bywyd prosiect, o gofio ffenomen gynyddol
  perchnogaeth prosiectau sy’n cael eu trosglwyddo i gyfryngau megis
  cronfeydd mantoli, cronfeydd ecwiti preifat, ac ati. Mae’n bwysig nodi y
  cafodd gwybodaeth fanwl ar gyfer yr astudiaeth hon ei darparu gan swmp
  aelodaeth RenewableUK Cymru tra bod y rhai heb fod yn rhan o’r sefydliad
  ar lefel aelodaeth (yn arbennig sefydliadau ariannol) yn llai tebygol o
  ymateb.

Mae’r astudiaeth hefyd yn cynnwys cofrestr o gronfeydd budd cymunedol
ffermydd gwynt yng Nghymru, yn rhestru gwerth y cronfeydd a threfniadau
gweinyddol.
Rhestr Cynnwys
Rhagair                                                               5

Rhagymadrodd                                                          6

Methodoleg                                                            8

Strwythur yr Adroddiad                                                11

Cynnwys                                                               12

Canfyddiadau                                                          17

Endidau a gyflogir i weinyddu’r CBC                                   21

Dulliau Cyfrannu                                                      25

Cofrestr CBC ffermydd gwynt yng Nghymru                               29

Sylwadau ychwanegol                                                   33

Casgliadau ac Argymhellion                                            35

Atodiad 1                                                             39




   Adroddiad a gynhyrchwyd gan Connections Cyfalaf ar gyfer RenewableUK
Rhagair
                                    Yn 2012 gwelwyd Cymru sy’n dair rhan; y
                                    de lle rhoddwyd cymeradwyaeth i un o
                                    ffermydd gwynt mwyaf y DU, a lle mae
                                    cwmnïau lleol yn disgwyl eu tro i gefnogi’r
                                    datblygiad a’r gwaith gosod; canolbarth
                                    Cymru sy’n drwm dan bryder lleol am y
                                    grid a thrafnidiaeth, a lle mae economïau
                                    lleol yn cloffi wrth i swyddi, sgiliau a phobl
                                    ifanc ddiflannu o drefi marchnad a
                                    chymunedau gwledig; a’r gogledd, lle mae
                                    ffermydd gwynt ar y môr yn adfywio
                                    porthladdoedd a chymunedau arfordirol.

Mae’r disgrifiad hwn yn orsymleiddiad dybryd ond y mae’n dangos rhai
gwahaniaethau allweddol, a hefyd yn amlygu bod adnoddau naturiol Cymru
wedi cyflwyno cyfle anferth i rai o’n cymunedau, na fanteisir arno ar hyn bryd.

Mae budd cymunedol yn bwysig, er dylem gofio ei fod yn un o nifer o resymau
pam y mae'r amgylchedd, yr economi a chymdeithas yn elwa o wynt ar y tir.
Mae’r adroddiad hwn yn rhan allweddol o’r jig-so cyffredinol o wybodaeth, yn
amlygu'r gefnogaeth ariannol ychwanegol a roddir i gymunedau yn, ac o
amgylch llawer o’n safleoedd gwynt yng Nghymru.

Amcangyfrifir yn geidwadol bod y gwerth cyfan a dalwyd i Gronfeydd Budd
Cymunedol (neu gyfatebol) yn ystod 2011 yn rhagor na £620,000, swm y mae
disgwyl iddo godi’n sylweddol wrth i ragor o ffermydd gwynt ddechrau
cynhyrchu ac wrth i natur mynegrifol llawer o’r cronfeydd esblygu.

Fel diwydiant, fel cymdeithas sifil, ac fel gwlad mae angen i ni archwilio sut y
defnyddiwn y cronfeydd hyn, ac a oes rhagor y gellir ei wneud. Mae gennym
gyfle unwaith ac am byth i adfywio, i ysgogi ac i gefnogi cymunedau a
busnesau yn strategol mewn rhannau o Gymru sydd hyd yn hyn wedi bod yn
anodd eu cyrraedd. Gobeithiaf y gall hwn fod yn bwynt pwysig arall yn y
broses barhaus sy’n rhoi’r budd mwyaf i rannau o Gymru sydd â’r angen
mwyaf.

Dr David Clubb
Cyfarwyddwr, RenewableUK Cymru
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru




Rhagymadrodd
DIBEN YR ADRODDIAD


                                                Mae’r diwydiant ynni
                                               adnewyddadwy yng Nghymru yn
                                               chwarae rhan hollbwysig yn ein
                                               heconomi ac o bosibl ein
                                               sicrwydd ynni. Fodd bynnag,
                                               mae’r cyfraniad hwn yn ymestyn
                                               y tu hwnt i fudd economaidd
                                               uniongyrchol y busnes. Mae’n
                                               aml yn cefnogi ystod eang o
                                               brosiectau a phartneriaethau i
adeiladau cymunedau cryfach a mwy cynaliadwy.

Aeth RenewableUK Cymru ati i ddarganfod ehangder a natur cronfeydd budd
cymunedol ffermydd gwynt yng Nghymru, y gallai gwaith pellach o bosibl gael
ei wneud arno i werthuso sut y gall cronfeydd o’r fath gyfrannu at ddatblygu
lleol ac ymchwilio ffactorau sy’n cynorthwyo neu’n cyfyngu ar eu defnydd
ystyrlon.

Amcan trosfwaol yr astudiaeth oedd penderfynu ar gyfran y ffermydd gwynt
yng Nghymru sydd â chronfeydd budd cymunedol, ac yn fwy penodol:

• Darganfod ehangder a natur cronfeydd budd cymunedol ffermydd gwynt
  yng Nghymru;

• Creu cofrestr o gronfeydd budd cymunedol ffermydd gwynt yng Nghymru,
  gan nodi gwerth y gronfa a’r trefniadau gweinyddol; a

• Gwneud cyfres o argymhellion polisi ynglŷn â’u gweithrediad ar lefel Cymru
  gyfan.

Cyfyngwyd yr astudiaeth i CBC a ddarparwyd gan ddatblygwyr ffermydd gwynt
masnachol ar y tir a gysylltwyd i’r grid, oedd yn weithredol ym mis Mehefin
2012, ac yn cael eu gweinyddu gan gymunedau neu drydydd parti a
benodwyd ar eu rhan. Mae’n amlinellu cyfraniadau blynyddol nodweddiadol yn

                                         6
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru

ôl y megawatt o allu a osodwyd, sy’n ein galluogi ni i amcangyfrif swm y
cyfraniadau ariannol a dalwyd gan y diwydiant i gymunedau lleol ledled
Cymru.

Mae’r astudiaeth hon yn caniatáu i ni hefyd i ganfod y math mwyaf cyffredin o
gorff rheoli cronfa, boed eu bod yn Gynghorau Cymuned, Ymddiriedolaethau
Cymunedol, Cwmnïau Cyfyngedig trwy Warant, trydydd parti, neu Awdurdod
Lleol, gweinyddiaeth ac, yn ei dro, edrych ar ddetholiad o astudiaethau achos
sydd â rhwymedigaethau ar gyfer gweinyddu CBC.

Amlinella rhan derfynol yr adroddiad hwn y rhwymedigaethau i weithredwyr
CBC a gwneuthurwyr polisi - yn enwedig sut y gall y diwydiant gynnwys
polisïau llywodraeth datganoledig yn y gwaith o greu a gweithredu cynlluniau.




                                         7
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru




Methodoleg
O gofio’r data cyfyngedig ar fudd cymunedol ffermydd gwynt, ein bwriad oedd
creu cofrestr gynhwysfawr o CBC yng Nghymru gan ddefnyddio'r fethodoleg
ganlynol. Yn gyntaf, cynhaliwyd ymchwil desg cychwynnol i benderfynu pa
gyfran o ffermydd gwynt yng Nghymru sydd â CBC, a chreu cofrestr o’r
cronfeydd hyn.

Lluniwyd rhestr o’r holl ffermydd gwynt ar y tir sy’n weithredol yng Nghymru
(gweithredol ym mis Mehefin 2012) a chawsom enw’r datblygiad, nifer y
tyrbinau, cynnyrch megawatt, y datblygwr a’r perchennog.


 Fferm Wynt                        Tyrbinau   MW      Datblygwr                     Perchennog

 Alltwalis                         10         23      Catamount/Force 9             Statkraft

 BDCR II                           1          0.5     Ynni Adnewyddadwy Bro Dyfi

 Blaen Bowi                        3          3.9     Windjen Power Cyf             Windjen Power Cyf

 Fferm Braich Ddu                  3          3.9     REG WINDPOWER

 Bryn Titli                        22         9.9     RWE Npower Renewables         Beaufort Wind Limited

 Carno 'A' a 'B'                   56         33.6    RWE Npower Renewables         Beaufort Wind Limited

 Carno estyniad (Carno 2)          12         15.6    Amegni                        Amegni

 Fferm Castle Pill - ail-bweru     4          3.2     Infinergy
 Cefn Croes (yn cynnwys
 Pontarfynach)                     39         58.5    RDC                           Falck Renewables

 Cemmaes                           18         15.3    First Windfarm Holdings Cyf   First Wind Farm Holdings

 Dyffryn Brodyn                    11         5.5     New World Power               RES

 Ferndale                          8          6.4     Infinergy                     Infinergy

 Ffynnon Oer                       16         32      RWE Npower Renewables         RWE Npower Renewables

 G24I                              1          2.3     Ecotricity                    Ecotricity

 Hafoty Ucha 1                     1          0.6     Tegni                         Tegni

 Hafoty Ucha 2 estyniad            2          1.7     Tegni                         Tegni

 Hafoty Ucha 3 estyniad            1          0.85    Tegni

 Llandinam P & L                   103        30.9    Scottish Power/Eurus Energy   ScottishPower/Eurus Energy

 Llangwyryfon ail-bweru            11         9.35    First Windfarm Holdings Cyf   First Wind Farm Holdings

 Llyn Alaw                         34         20.4    RWE Npower Renewables         Beaufort Wind Cyf

 Maesgwyn                          13         26      Pennant Walters

 Mawla (Moel Maelogen)             3          3.9     Energiekontor                 Co WP Mombkg UK branch

 Moel Maelogen estyniad            9          11.7    Ail Wynt Cyf

 Monier Redland Plant              1          0.5     Infinite Energy

 Mynydd Clogau                     17         14.45   Novera                        Infinis

 Mynydd Gorddu                     19         10.2    Amgen                         Beaufort Wind Limited

 Parc Cynog                        5          3.6     Nuon Renewables               Nuon Renewables

 Pendine (Parc Cynog Estyniad I)   6          4.8     Nuon Renewables               Nuon Renewables

                                                                   8
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru

 Rheidol                     8    2.4     E.ON UK Renewables                   Infinis

 Rhyd-y-Groes                24   7.2     Cyd-fenter EcoGen, Seawest & Tomen   E.on Renewables

 Solutia UK Cyf              2    5       Wind Direct                          Wind Direct Cyf

 Dociau Abertawe             1    0.25    EnergyTech                           Partneriaeth Ynni Bae Abertawe Cyf

 Taf Elai                    20   9       Perma Energy                         RWE Npower Renewables

 Canolfan Ddosbarthu Tesco   2    1.6     TNEI

 Tir Mostyn a Foel Goch      25   21.25   Windjen Power Cyf                    HG Capital

 Trysglwyn                   14   5.6     RWE Npower Renewables                Beaufort Wind Limited

 Wern Ddu (Craig Lelo)       4    9.2     Tegni                                Triodos Renewables



Yna nodwyd manylion cyswllt ar gyfer pob un o’r datblygwyr/gweithredwyr a
gofynnwyd am y wybodaeth sylfaenol ganlynol:

๏ Enw’r cwmni
๏ Enw’r fferm wynt (ffermydd gwynt) a weithredir

๏ Cod(au) post y fferm wynt (ffermydd gwynt) a weithredir
๏ Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) a weithredir

๏ Yn fras, oed y datblygiad(au) fferm wynt a weithredir

๏ Enw a swydd yr ymatebwr


❖ Gwerth y budd cymunedol (os o gwbl)

❖ Sut caiff y gronfa ei gweinyddu
❖ Rheolau ar gyfer defnydd y gronfa

❖ Cwestiwn agored er mwyn ysgogi sylwadau pellach ar naill ai eu trefniadau
   CBC eu hunain neu CBC yn gyffredinol.


Y cwestiynau a ofynnwyd oedd:

• A yw eich cwmni yn cyfrannu i Gynllun neu Gronfa Budd Cymunedol? (os
   mai “Na” oedd yr ateb, ni ofynnwyd rhagor o gwestiynau)

• I ba endid yr ydych yn cyfrannu i’r Cynllun neu Gronfa Budd Cymunedol
   (h.y. enw’r Cynllun neu Gronfa a phwy sy’n gweinyddu)?
• Beth yw strwythur rheoli'r Cynllun neu Gronfa Budd Cymunedol i ba un yr
   ydych yn cyfrannu (e.e. ymddiriedolaeth gymunedol, cwmni cydweithredol,
   neu endid a gynhelir gan Awdurdod Lleol)?

• Beth yw swm y cyfraniad a wnewch i Gynllun neu Gronfa Budd Cymunedol
   (e.e. taliad yn ôl gallu MW, neu yn ôl MW a gynhyrchir, neu mewn modd
   arall, er enghraifft, budd ‘mewn nwyddau’)?
                                                    9
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru

• Ar gyfer pa weithgareddau y defnyddir arian y Cynllun neu Gronfa Budd
  Cymunedol (e.e. prosiectau cymunedol, noddi digwyddiadau cymunedol
  neu dimau chwaraeon ac ati)?
• A oes gennych unrhyw sylwadau pellach am eich ymgysylltiad â’r
  Cynlluniau neu Gronfeydd Budd Cymunedol (e.e. a ydych chi’n credu eu
  bod yn gweithio’n dda neu a ydych yn credu bod ffyrdd eraill y gallai ariannu
  o’r fath gael ei ddyrannu’n well)?

Cynlluniwyd y cwestiynau i gasglu data meintiol oedd yn caniatáu
dadansoddiad categorïaidd. Cynhwyswyd y cwestiwn agored ar y diwedd i
gasglu data ansoddol, cyfoethocach. Yna adroddwyd ar y data categorïaidd
meintiol fel canrannau ar gyfer cymhariaeth haws. Rhoddwyd dadansoddiad
cynnwys byr i’r data ansoddol gan gategoreiddio’r pwyntiau sylweddol fel y
gallai’r data gael ei gyflwyno’n feintiol, ynghyd a dyfyniadau o ddatganiadau
cynrychioliadol.

MATERION A CHYFYNGIADAU
Roeddem yn cydnabod y gallai natur sensitif y data gyfyngu'r ymatebion, felly
cysylltwyd â’r bobl a ymchwiliwyd ymlaen llaw gan eu sicrhau bod natur y data
yn cael ei werthfawrogi ac y byddai’n cael ei drin yn sensitif ac yn adeiladol.

Roedd cynnwys astudiaethau achos yn cynnig mewnwelediadau dyfnach, fel y
gwnaeth casglu sylwadau'r gweithredwyr. Gallai materion yn codi o’r
astudiaethau achos hyn a’r sylwadau roi’r sail ar gyfer ymchwiliadau pellach
yn y maes hwn.

Y gobaith yw y bydd hwn hefyd yn cyfrannu at feddylfryd ehangach am y modd
y gallai Cronfeydd Budd Cymunedol yng Nghymru gael eu datblygu
ymhellach.




                                        10
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru




Strwythur yr Adroddiad
Yng ngweddill yr adroddiad hwn rydym yn:

• Amlinellu’r cyd-destun ar gyfer yr astudiaeth;

• Cyflwyno ein canfyddiadau; a
• Rhoi ein casgliadau a gwneud rhai argymhellion ar gyfer y diwydiant a
  gwneuthurwyr polisi.




                                        11
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru




Cyd-destun
Gosodir yr adroddiad yn erbyn cefndir o ddarnau mawr diweddar o
ddeddfwriaeth (a deddfwriaeth arfaethedig) Llywodraeth Cymru a chynnal yr
Adolygiad Bandio o ran Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy gan yr Adran
Ynni a Newid Hinsawdd.

Mae gan raglen Newid Carbon Isel Llywodraeth Cymru, a lansiwyd ym mis
Mawrth 2012, nod cyffredinol o sicrhau bod buddsoddiad yn creu swyddi, gan
gynorthwyo busnesau i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd, a sicrhau bod
cymunedau yn elwa o ddatblygiadau ynni drwy sicrhau mai Cymru yw’r ‘gorau
yn y dosbarth’. “[Byddwn yn] gweithredu er mwyn sicrhau bod cymunedau yn
elwa o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy ac ymdrechu i ddangos esiampl” -
Ynni Cymru: Newid Carbon Isel (Mawrth 2012). “Mae Cymru, fel gweddill y
byd, yn gweithio’n galed i wneud y symudiad hwn i ynni cynaliadwy carbon
isel. Mae’n hollbwysig ein bod yn gwneud hyn mewn modd sy’n sensitif i
anghenion ein cymunedau, yn creu swyddi cynaliadwy lleol ac yn cefnogi
economi ehangach Cymru,” John Griffiths Gweinidog dros yr Amgylchedd1.

Ym mis Gorffennaf 2011 mynegodd Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth
Cymru 2012-16 ei bwriad i gyflwyno Mesur Datblygu Cynaliadwy i gryfhau
cyfeiriad ‘Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned’ a newid yr ymrwymiad hwn i fod yn
ddyletswydd gyfreithiol. Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Mae
cynaliadwyedd yn ymwneud â diffinio'r llwybr datblygu hirdymor ar gyfer ein
cenedl. Golyga bobl iach gynhyrchiol; cymunedau byw, cynhwysol;
amgylchedd amrywiol a gwydn ac economi ddatblygedig a blaengar.”2

Yn ogystal, cydnabu Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd, a
gyflwynwyd ym mis Hydref 2010, bwysigrwydd datblygu economaidd mewn
mynd i’r afael â newid hinsawdd: “Rydym am sicrhau bod Cymru yn y sefyllfa
orau bosibl nid dim ond i greu swyddi newydd a chyfleoedd y gadwyn gyflenwi,
ond i fanteisio ar y potensial i allforio ynni, arbenigedd, nwyddau a



1 http://wales.gov.uk/newsroom/firstminister/2012/120314energyvision/?lang=en


2 http://wales.gov.uk/topics/sustainabledevelopment/sdbill/?lang=en

                                              12
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru

gwasanaethau i genhedloedd eraill sy’n awyddus i newid i economi carbon
isel.”3

Ar ddiwedd mis Gorffennaf 2012 cyhoeddwyd yr Adolygiad Bandio o ran
Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy gan Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd 4,
sy’n gosod prif fecanwaith y Llywodraeth ar gyfer cefnogi ynni adnewyddadwy
graddfa fawr ar gyfer y cyfnod 2013-17. Mae’r Rhwymedigaeth Ynni
Adnewyddadwy yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth y DU i gynyddu defnydd
ynni adnewyddadwy er mwyn gwneud y DU yn fwy ynni sicr, cynorthwyo i
ddiogelu defnyddwyr rhag ansefydlogrwydd prisiau tanwydd ffosil, hybu
buddsoddiad mewn swyddi a busnesau newydd yn y sector ynni
adnewyddadwy, yn ogystal â chadw’r DU ar y llwybr i fodloni ei amcanion
lleihau carbon ar gyfer y degawdau sydd i ddod (mae’r DU wedi ymrwymo i
gynhyrchu 15% o’n hynni o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2020).

Ar hyn o bryd y Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy yw’r prif fecanwaith
ariannol drwy ba un y mae’r Llywodraeth yn rhoi cymhelliant i wneud defnydd
o gynhyrchu trydan ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr. Rhoddir cefnogaeth
am 20 mlynedd, sy’n cydbwyso’r angen i roi sicrwydd hirdymor i fuddsoddwyr
gyda’r angen i gadw costau i ddefnyddwyr mor isel â phosibl.

Caiff lefel y gefnogaeth ar gyfer gwynt ar y tir ar gyfer cyfnod yr Adolygiad
Bandio ei leihau i Dystysgrifau Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy 0.9, a
warantir tan fis Mawrth 2014. Fodd bynnag, mae’r Llywodraeth wedi gwneud
cais am dystiolaeth, a ddechreuwyd ym mis Medi 2012 ac yn adrodd yn
gynnar yn 2013, a fydd yn ail-asesu costau’r diwydiant gwynt ar y tir. Os bydd
canfyddiadau’r cais am dystiolaeth yn nodi newid sylweddol mewn costau
cynhyrchu, bydd y Llywodraeth yn dechrau adolygiad ar unwaith o lefelau
Tystysgrifau Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy gwynt ar y tir, gydag
unrhyw drefniadau cefnogi newydd ar gyfer gwynt ar y tir yn gweithredu o fis
Ebrill 2014. Fel rhan o’r cais am dystiolaeth, byddant yn archwilio sut y gall
cymunedau gael mwy o lais mewn, a derbyn rhagor o fudd economaidd o,
gynnal ffermydd gwynt ar y tir.

Mae’r Adolygiad Bandio wedi dechrau canolbwyntio’r ddadl ar lefelau ariannol
cyllido budd cymunedol. Er bod gwerth y taliadau yn sicr yn sylweddol

3 http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/climatechange/publications/strategy/?

lang=en
4 http://www.decc.gov.uk/en/content/cms/news/wms_ro_lm/wms_ro_lm.aspx

                                              13
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru

(dyfynna Regeneris, yr ymgynghorwyr ynni adnewyddadwy, bod rhai
datblygwyr yn cynnig swm sy’n gyfwerth â £5 miliwn dros fywyd cynllun
50MW5 ), mae diffyg eglurder cyffredinol yn parhau ynglŷn â’r diben a’r defnydd
mwyaf effeithiol o’r taliadau.

Mae CBC yn ddull unigryw o ddatblygu ystod o fanteision ychwanegol i
gymunedau lleol. Mae Sefydliad Joseph Rowntree yn dyfynnu ystod o
resymau am eu canlyniadau cadarnhaol, yn cynnwys rhannu manteision
datblygiadau gyda chymunedau sy’n eu cynnal, mynd i’r afael â chyfiawnder
cymdeithasol gan gysylltu adnoddau lleol wrth economïau lleol, a sicrhau
cefnogaeth cymunedau lleol 6.

Mae protocol budd cymunedol RenewableUK ar gyfer Lloegr yn cynnig
isafswm taliad o £1,000 am bob MW o allu gosodedig, wedi ei fynegrifo i’r
Mynegai Prisiau Manwerthu (ar gyfer cynlluniau dros 5MW). Bwriad gosod yr
isafswm ffigwr hwn oedd cynorthwyo i sicrhau bod datblygwyr llai ddim o dan
anfantais o gofio’r wasgfa sy’n cael ei rhoi ar gostau gwynt ar y tir a pherygl
gostyngiadau pellach i lefelau Tystysgrifau Rhwymedigaeth Ynni
Adnewyddadwy a FIT. Fodd bynnag, gall datblygwyr gynnig symiau mwy
sylweddol na’r isafswm ac mewn gwirionedd mae gwerth y budd dros y
blynyddoedd diwethaf wedi cynyddu’n sylweddol gyda £5,000 am bob MW yn
aml yn cael ei gynnig ar gynlluniau gan ddatblygwyr a gweithredwyr sydd â
diddordeb brwd mewn llwyddiant cymunedau lleol, sydd mewn sawl achos yn
gyfwerth â rhwng 6-7% o’u costau datblygu. Fel cymhariaeth mae’n werth nodi
bod John Lewis - a berchir fel enghraifft dda o Fudd Cymunedol - yn cyfrannu
tua 0.25% o’i drosiant i gynlluniau o’r fath7.

Yn erbyn y cefndir hwn mae posibilrwydd bod angen rhagor o wybodaeth ar
ddatblygwyr, ac yn wir cymunedau, fel y gallant edrych ar ystod o ffyrdd drwy
ba rai y gall budd cymunedol gael ei drafod, ei weinyddu a’i ddosbarthu gan
wneud yr holl bartïon yn fwy abl i ddatblygu'r fframwaith gorau posibl ar gyfer
prosiectau newydd ledled Cymru, ynghyd â sylweddoliad gan wneuthurwyr



5 http://regeneris.co.uk/latest/blog/entry/money-on-the-wind-the-future-of-wind-farm-

community-benefits
6 http://www.jrf.org.uk/publications/wind-energy-disadvantaged-communities


7 http://www.johnlewispartnership.co.uk/content/dam/cws/pdfs/financials/interim%20reports/

john_lewis_partnership_interim_report_2012.pdf
                                            14
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru

polisi, Awdurdodau Lleol a chymunedau lleol o’r cyfyngiadau ariannol y mae
datblygwyr yn eu hwynebu o gofio cost rhoi’r cynlluniau ar waith.

Nod yr adroddiad hwn yw gwella gwybodaeth am fudd cymunedol yng
Nghymru. Er bod cymunedau, fel y nodwyd uchod, yn dod yn fwy ymwybodol
o CBC a’u heffaith posibl, mae hefyd rôl bwysig i ddatblygiadau presennol
lywio arfer gorau rhai'r dyfodol (yn cynnwys nodi ffactorau lleol a all, am
resymau da, beri gwahaniaethau yng ngweithrediad gwahanol CBC). Mae’r
ysbryd mwy agored hwn wedi, er enghraifft, cael ei amlygu fel cam pwysig gan
Lywodraeth yr Alban 8, gan arwain at gyflwyno cronfa data ar gyfer taliadau yn
yr Alban. O’r pwysigrwydd pennaf, fodd bynnag, mae'r angen am wybodaeth o
ansawdd da am y modd y caiff budd cymunedol ei ddefnyddio a’i reoli a’r
effaith mae’n ei gael ar gyfer cymunedau lleol. Mae angen i ddatblygwyr,
cymunedau a rhanddeiliaid eraill ddysgu gan y dystiolaeth hon.

Mae’n bwysig deall y modd y defnyddir adnoddau Cronfeydd Budd Cymunedol
ac i ofyn cwestiynau ynglŷn ag a ellid eu dyrannu mewn modd mwy strategol.
Hyd yn oed os yw llawer ohonynt yn ymateb i anghenion penodol a lleol iawn,
efallai y gellir eu gwario’n well mewn cyd-destun economaidd gymdeithasol
cyffredinol yn ôl y cymunedau a wasanaethir ganddynt (gweler y siart ar y
dudalen nesaf) drwy, er enghraifft, ddefnyddio'r ariannu i ysgogi arian o
ffrydiau ariannu eraill (e.e. Cronfa Gymdeithasol Ewrop, Llywodraeth Cymru ac
ati). Efallai hefyd bod marciau cwestiwn ynghylch pa faint o ymwybyddiaeth
sydd gan rai o’r cronfeydd eu hunain o gyfleoedd o’r fath, a allai o bosibl roi
manteision mwy a mwy parhaol.




8 http://www.scotland.gov.uk/Topics/Business-Industry/Energy/Energy-sources/19185/

Communities
                                            15
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru




                                        16
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru




Canfyddiadau
Cyfanswm nifer yr ymatebion i’r astudiaeth oedd 21 allan o 37 posibl, a oedd
yn cyfateb i gyfradd ymateb o 56%. O’r rhai hynny na wnaeth ymateb, mae
llawer ar ben is y raddfa o ran cyfraniadau i Gronfeydd Budd Cymunedol er
bod llawer o ffermydd gwynt mwy eu maint yn cael eu gweithredu gan, neu’n
eiddo i, sefydliadau ariannol mawr (er enghraifft, cronfeydd mantoli neu
gronfeydd ecwiti preifat) sy’n gwneud casglu gwybodaeth yn anodd.

Mae’n bwysig cydnabod bod RenewableUK Cymru yn sefydliad sy’n cael ei
arwain gan yr aelodau, sy’n adeiladau consensws ymhlith rhanddeiliaid ac yn
codi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol. Fel y cyfryw mae gan y
sefydliad enw da o fewn y diwydiant sy’n rhoi lefel mynediad pellgyrhaeddol i’r
rhai hynny sy’n gweithredu prosiectau ynni adnewyddadwy o ddydd i ddydd.
Darparwyd gwybodaeth fanwl gan y rhan fwyaf o’r aelodaeth, tra roedd y rhai
hynny heb gysylltiad â RenewableUK ar lefel aelodaeth (h.y. sefydliadau
ariannol) yn llai tebyg o ymateb. Gellir gweld rhestr lawn manylion yr
ymatebwyr yn Atodiad 1.

O’r rhai a wnaeth ymateb, dengys y tabl canlynol y math o ddatblygiad sy’n
cyfranogi ac a yw’n cyfrannu i CBC:



   Enw’r fferm              Gallu            Oed y fferm       Gweithredu
   wynt                                         wynt          cynllun CBC?

   Alltwalis                23MW              2 flynedd             Ydy

   Wern Ddu                 9.2MW             2 flynedd             Ydy

   Hafoty Ucha             3.15 MW            8 mlynedd             Ydy

   Vestas                   575kW             9 mlynedd             Ydy

   Nordtank                 575kW             4 blynedd             Ydy

   Carno II                15.6 MW            3 blynedd             Ydy

   Llandinam                30MW             20 mlynedd             Ydy

   Bryn Titli               9.9MW            18 mlynedd             Ydy


                                        17
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru

   Carno                   33.6MW            16 mlynedd             Ydy

   Ffynnon Oer              33MW              6 mlynedd             Ydy

   Llyn Alaw               20.4MW            15 mlynedd             Ydy

   Maesgwyn                 26MW               18 mis               Ydy

   Mynydd Gorddu           10.2MW            14 mlynedd             Ydy

   Trysglwyn                5.6MW            14 mlynedd             Ydy

   Taf Elai                  9MW             19 mlynedd             Ydy

   Cefn Croes              58.5 MW            8 mlynedd             Ydy

   Rhyd-Y-Groes             7.2MW            20 mlynedd              Na

   Moel Moelogan           11.7MW             4 blynedd             Ydy

   Castle Pill              3.2MW             3 blynedd              Na

   Ferndale                 6.4MW             2 flynedd              Na

   Dyffryn Brodyn           5.5MW            18 mlynedd              Na



Fel y gallwn weld o’r tabl uchod mae’r mwyafrif llethol o’r datblygiadau
ffermydd gwynt (80%) yn cyfrannu i CBC:


Faint o ffermydd gwynt sy’n gweithredu Cronfa neu gynllun Budd Cymunedol?


                                                                   Na
                                                                   Ydy

                                             20%




                             80%




                                        18
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru

                           “Mae ein system yn gweithio’n eithaf da oherwydd, yn
                             dechnegol, trefniant ‘perchnogaeth’ ydyw gyda
                              rhannu elw yn hytrach na thaliad ‘budd’ gan
                              ddatblygwr. Fodd bynnag, pwyllgor gwirfoddol ydym
                              ac mae’n anodd rhedeg y busnes.

                        Credwn y dylai fod mwy o berchnogaeth nag sydd ar
                   hyn o bryd, ac y dylai pob datblygwr sefydlu
mecanweithiau ar gyfer rhan berchnogaeth lleol fel y gall cymunedau ddod yn
fuddiolwyr uniongyrchol a gwella eu profiad o gael ffermydd gwynt gerllaw.

Rydym hefyd o’r farn y dylai cronfeydd budd gael eu targedu gan gymunedau
ar fesurau gwytnwch ynni lleol a charbon isel / effeithlonrwydd ynni, ynghyd â
gweithgareddau adfywio. Mae angen gwneud llawer iawn mwy o waith i
feithrin ein hymwybyddiaeth ar gyfer newidiadau sylweddol i’n defnydd o ynni
ac o lle y gallwn ei gael os ydym i roi ystyriaeth ddifrifol i fynd i’r afael â newid
hinsawdd a gweithredu gydag argyhoeddiad.”

Michael Phillips, Ynni Adnewyddadwy Cymunedol Bro Dyfi




ASTUDIAETH ACHOS UN

Cynllun Disgownt Trydan Lleol
Mae Cynllun Disgownt Trydan Lleol (LEDS) 9 yn fenter RES newydd sy’n ceisio rhoi
budd uniongyrchol a gwirioneddol i bobl sy’n byw ac yn gweithio agosaf at eu
ffermydd gwynt arfaethedig.

Caiff LEDS ei gynnig fel budd ychwanegol i Gronfeydd Budd Cymunedol, sydd yn ei
safleoedd newydd yn darparu cyfraniad blynyddol o £2,000 y megawatt (MW) i
gymunedau lleol. Cynigir bod cyfanswm taliadau LEDS am safle yn £3,000 y MW y
flwyddyn. Os yw LEDS yn costio llai na £3,000 y MW y flwyddyn yna caiff y
gwahaniaeth ei ychwanegu at y Gronfa Budd Cymunedol gan olygu cyfanswm budd
cymunedol gwerth £5,000 y MW y flwyddyn.

O dan y fenter LEDS a gynigir bydd yr eiddo preswyl, cymunedol a busnes hynny
sydd agosaf at fferm wynt LEDS arfaethedig i gyd yn derbyn isafswm disgownt o
£100 y flwyddyn ar eu biliau trydan, a gaiff ei dalu’n uniongyrchol i’w cyflenwr trydan.
Mae’r isafswm hwn yn cynrychioli bron i chwarter bil trydan blynyddol cyfartalog yn y
DU (£453 yn 2011 ar sail y ffigurau diweddaraf i gael eu rhyddhau gan yr Adran Ynni
a Newid Hinsawdd, 29 Mawrth 2012). Byddai taliadau yn dechrau unwaith y byddai’r
fferm wynt yn dechrau gweithio.

Bydd yr union ardal a nifer yr adeiladau sy’n gymwys ar gyfer cynllun LEDS yn
amrywio o safle i safle, gan roi ystyriaeth i ffactorau megis nifer a gallu'r tyrbinau
gwynt a gynigir a’r dwysedd tai o amgylch y fferm wynt.

Cyfrifir y dalgylch ar gyfer cynllun LEDS RES drwy bellter llinell syth - y Pellter
Gosodedig - o bob tyrbin gwynt (a osodir i ddechrau yn 3 cilomedr) a nodi'r holl ffiniau

9 http://www.thisissouthwales.co.uk/Windfarm-plan-brings-benefits/story-16745570-detail/
story.html
                                             19
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru

daearyddol cod post (fel y’u diffinnir gan yr Arolwg Ordnans) gydag eiddo ar neu o
fewn y Pellter Gosodedig hwn er mwyn creu'r Ardal Gymwys. Gall y Pellter
Gosodedig gael ei gynyddu neu ei leihau i sicrhau bod yr eiddo sydd o fewn yr Ardal
Gymwys derfynol yn derbyn disgownt sydd o leiaf yn £100 y flwyddyn.

LEDS ym Mryn Llywelyn

Cyflwynodd RES ei gynllun LEDS cyntaf ar ei safle arfaethedig ym Mryn Llywelyn, Sir
Gaerfyrddin. Mae hyn yn dilyn ymgynghori cychwynnol gyda’r gymuned leol o
amgylch safle Bryn Llywelyn a ddangosodd bod bron i 80% o’r ymatebwyr yn
cefnogi’r syniad o drydan a ddisgowntir a bron i 85% â diddordeb mewn cyfranogi
mewn cynllun o’r fath. Os bydd LEDS yn llwyddiannus ym Mryn Llywelyn rhagwelir y
gallai gael ei lansio mewn ffermydd gwynt RES eraill a ddatblygir yn ddiweddarach yn
2012.

Bydd LEDS ym Mryn Llywelyn yn darparu disgownt blynyddol ar gyfer biliau trydan
adeiladau sy’n agos i fferm wynt arfaethedig RES, os daw’n weithredol. Mae’r cynllun
yn agored i bob adeilad preswyl, masnachol a chymunedol (gan gynnwys ysgolion,
eglwysi a neuaddau pentref) o fewn yr ardal sy’n gymwys sydd â mesurydd trydan.
Caiff disgownt blynyddol gwerth £225 ei roi wrth fil trydan pob eiddo, wedi ei dalu’n
uniongyrchol i’w cyflenwyr trydan, unwaith y bydd y fferm wynt ar waith. Yn ogystal,
mae LEDS yn cynnig Cronfa Budd Cymunedol o bron i £100,000 y flwyddyn a fydd yn
cefnogi grwpiau a mentrau lleol.

Mae RES wedi ysgrifennu’n uniongyrchol at bob eiddo sy’n gymwys yn cynnig y cyfle
iddynt gofrestru diddordeb mewn ymuno â’r cynllun disgownt. Ym Mryn Llywelyn
mae’r disgownt ar gael i bob eiddo o fewn tair cilomedr a hanner i bob tyrbin gwynt
arfaethedig. Bydd y disgownt ar gael i bob eiddo o fewn yr ardal sy’n gymwys, waeth
beth fo barn y bobl am y fferm wynt a fwriedir. Fodd bynnag, caiff y disgownt dim ond
ei weithredu os caiff y fferm wynt ei chymeradwyo a’i chodi.

Bydd y disgownt blynyddol yn gymwys unwaith y bydd y fferm wynt yn llwyr
weithredol, a allai gymryd rhwng dwy a phedair blynedd o roi’r caniatâd cynllunio.
Caiff ei dalu dros fywyd llawn y tyrbinau neu am gyhyd ag y bydd pobl yn byw o fewn
yr ardal gymwys.

Mae sawl ffordd y gall trigolion gofrestru eu diddordeb yn LEDS ym Mryn Llywelyn a,
thrwy ddefnyddio'r Cod Cyfeirnod Unigryw sydd mewn llythyr a anfonir at bob un,
gallant naill ai gysylltu drwy’r post, ffon, e-bost neu ar-lein. Telir y disgownt yn ôl eiddo
yn unig ac felly dim ond un person ym mhob eiddo sydd angen cofrestru.




                                             20
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru




Endidau a gyflogir i
weinyddu’r CBC
Mae trafodaethau budd cymunedol yn aml yn deillio ar daliadau ariannol
blynyddol i gymunedau drwy gydol bywyd cynllun ynni adnewyddadwy. Mae
hyn yn cynnig cyfle sylweddol i gymuned gynllunio ar gyfer, a datblygu
mentrau cymunedol a allai fod o fudd hirdymor, parhaol. Mae hefyd yn codi
nifer o ystyriaethau sydd angen mynd i’r afael â hwy:

• Sefydlu gweledigaeth ar gyfer y gronfa a chynnwys y gymuned gyfan mewn
  gwneud penderfyniadau: Sut y bydd holl sectorau’r gymuned yn cael y cyfle
  i benderfynu ar y ffordd y caiff cronfeydd budd cymunedol eu defnyddio a’u
  rheoli? Mae angen i rai elfennau allweddol o ddibenion, trefn a gweithrediad
  y gronfa fod yn dderbyniol i’r gymuned yn gyffredinol a dylid penderfynu hyn
  drwy ymgynghoriad cymunedol priodol.

• Dewis endid cyfreithiol - h.y. pwy yn hollol sy’n derbyn y taliad? Ai'r Cyngor
  Cymuned, Ymddiriedolaeth, Fforwm, cwmni neu grŵp llywio lleol? A ddylai
  fod yn endid cyfreithiol penodol, wedi ei sefydlu i dderbyn taliad a
  gweithredu'r cyfrifoldeb sy’n perthyn i fod yn berchen ar gronfeydd, ac os
  felly, pa fath o endid cyfreithiol ddylai fod?

• Rheoli cronfeydd budd cymunedol - h.y. beth sy’n digwydd i’r arian pan gaiff
  ei dderbyn? Beth a wna’r endid hwn â’r arian? Beth yw ei amcanion? A
  ddylai’r amcanion fod yn gwbl elusennol eu natur? Beth yw’r goblygiadau o
  ran treth? A ellir osgoi treth?




                                         21
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru

Yn gyffredinol, mae tua 34 endid yn elwa o gyfraniadau’r ymatebwyr:

     Sefydliadau/Ymddiriedolaethau/Fforymau          Cynghorau Tref/Cymuned
     Prosiectau Cymunedol Lleol (uniongyrchol)       Cyfraniadau Unwaith yn unig
     Elusennau                                       Mentrau Cymdeithasol
     Cwmnïau Preifat                                 Awdurdod Lleol

        15




        10




          5



          0
                                       Endidau

O’r diagram uchod gellir gweld mai endidau megis sefydliadau ac
ymddiriedolaethau - ar y cyd â chynghorau tref a chynghorau cymuned - yw’r
cyfryngau o ddewis ar gyfer CBC. Mantais ymddiriedolaethau a sefydliadau yw
y gellir eu sefydlu i fod yn sefydliadau a arweinir gan y gymuned, yn aml wedi
eu rheoli gan fwrdd o ymddiriedolwyr neu grŵp llywio ac maent yn agored o
ran eu gweinyddu, a gallant ymgorffori arsylwyr o awdurdodau lleol a
gweithredwyr ffermydd gwynt. Fel arfer maent yn darparu rhyw gymaint o fudd
economaidd, amgylcheddol, addysgol, cymdeithasol neu ddiwylliannol i bobl
sy’n byw yn yr ardal.

Mae dau brif fodel ar gyfer Endid Cyfreithiol cysylltiedig â Chyngor Tref neu
Gyngor Cymuned sydd yn cael eu hystyried yn fwyaf cyffredin ar gyfer
gweinyddu cronfeydd budd cymunedol:

• Cwmni wedi ei ymgorffori o dan y Ddeddf Cwmnïau gydag atebolrwydd
  cyfyngedig, lle mae’r cyfyngiad o ran atebolrwydd trwy Warant, a lle mae
  Aelodau’r Cwmni bob un yn ymgymryd i dalu ar ddyddiad penodol, neu ar
  adeg digwyddiad penodol (fel arfer dirwyn y Cwmni i ben), swm i fyny hyd at
  swm penodedig (fel arfer £1) fel gall fod ei angen i setlo unrhyw ddyledion
  sydd heb eu talu gan y cwmni. Bydd Cwmnïau Gwarant o’r fath yn aml, ond
  nid bob tro, yn cael eu defnyddio ar gyfer dibenion elusennol.

                                        22
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru

• Ymddiriedolaeth Gymunedol Leol a sefydlir gan y gymuned leol i’r diben o
  dderbyn, gweinyddu a dyrannu cronfeydd ar ran y gymuned drwy
  ymddiriedolwyr a benodwyd gan y gymuned.

Gall dryswch godi weithiau gan y cyfeirir at y ddau fodel fel
“ymddiriedolaethau”, er mai dim ond yr ail fodel sy’n ymddiriedolaeth mewn
ystyr cyfreithiol. Er bod iddo statws cyfreithiol ar wahân i Ymddiriedolaeth,
bydd cymunedau sy’n mabwysiadu'r model Cwmni Cyfyngedig trwy Warant yn
aml yn enwi'r sefydliad yn “Ymddiriedolaeth Cymunedol [Lleol]” - sy’n egluro’r
dryswch.

Sianelau cyfrannu nodedig eraill yw cynllun Ynni Adnewyddadwy Cymunedol
Bro Dyfi (cwmni ynni cymunedol cydweithredol a gofrestrwyd o dan y Deddfau
Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus) drwy ddifidend rhannu llog a
chyfraniad yn y drefn honno (gan weithredwr y Datblygiad BDCR II);
cyfraniadau a wneir yn ôl disgresiwn y gweithredwr (fel ag yn achos Hafoty
Ucha); a thrwy elusen rhoi grantiau proffesiynol (h.y. datblygiad Taf Elai sy’n
gwneud cyfraniadau drwy Sefydliad Cymunedol yng Nghymru).


                    ““Caiff cronfeydd eu cymhwyso er budd trigolion y
                       cymunedau. Dylai’r cronfeydd anelu at hyrwyddo
                         ysbryd cymunedol a dod â phobl at ei gilydd; gwella
                         ansawdd bywyd a hyrwyddo lles pobl; a meithrin
                         cymunedau bywiog, cynaliadwy. Ni ddylai’r cronfeydd
                         gael eu defnyddio at ddibenion gwleidyddol,
                       crefyddol, adloniant na lletygarwch, nac ar gyfer
                   unrhyw ddiben sy’n niweidiol i fudd gweithredwr y fferm
wynt. Rydym yn awyddus bod y cronfeydd yn cael eu defnyddio i sicrhau
grantiau a chronfeydd eraill ar batrwm ariannu cyfatebol, gan ganiatáu i’r
gymuned sicrhau'r budd mwyaf o gyfraniadau ffermydd gwynt.”

Monika Paplaczyk, Triodos Renewables (Wern Ddu) Cyf



ASTUDIAETH ACHOS DAU

Windfall

Mae Windfall (a elwir yn swyddogol yn Ymddiriedolaeth Ynni Cymunedol Canolbarth
Cymru) yn casglu cyfran o’r refeniw a geir o gynhyrchu ynni yng Nghanolbarth Cymru
ac yn ei ail ddosbarthu ymhlith cymunedau lleol. Cynigir yr arian hwn fel grantiau ar
gyfer prosiectau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy i gymunedau ledled
Canolbarth Cymru. Ategir yr incwm sylfaenol gydag incwm gan weithredwyr tirlenwi,


                                         23
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru

drwy’r Gronfa Cymunedau Tirlenwi, i fanteisio i’r eithaf ar allu ariannol y cynllun. Mae
Windfall yn gwmni dim er elw a sefydlwyd yn benodol i gyflawni’r nodau hyn.

Wedi ei sbarduno gan arian gan npower renewables ac ENTRUST, sicrhaodd
Windfall £104,000 ar gyfer ei brosiectau cyntaf yn 2005. O ganlyniad, mae
cymunedau Carno a Threfeglwys yn mwynhau manteision systemau ynni
adnewyddadwy megis ynni pren a ffotofoltäig. Mae rhaglenni addysgiadol hefyd wedi
bod yn rhan o’r cynllun hwn.

Gan adeiladau ar y llwyddiant hwn, mae Windfall yn bwriadu ymestyn ei waith i roi
manteision i gymunedau eraill ledled Canolbarth Cymru. Er bod yr Ymddiriedolaeth yn
cydnabod gwerth Cronfeydd lleol gyda meini prawf budd cymunedol eang iawn,
mae’n cynnig ei hun i gynhyrchwyr ynni presennol a darpar gynhyrchwyr fel y cyfrwng
i ategu’r rhain, drwy ddarparu budd carbon isel o ynni adnewyddadwy drwy weithredu
cymunedol.




                                           24
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru




Dulliau Cyfrannu
Roedd pedwar dull talu clir i gyd, gyda thua 32 sianel taliadau, a oedd fel a
ganlyn: (1); yn ôl y MW a osodwyd (6); taliadau penodedig (24); ac mewn
nwyddau (1):

                          0              10                20                   30

              % o’r elw



Fesul MW a osodwyd


  Taliadau penodedig


       Mewn nwyddau




Taliadau penodedig yw’r mathau mwyaf cyffredin o gyfraniadau, ac mae’r
symiau a ddyfynnwyd fel â ganlyn:

         Fferm Wynt           Lefel sylfaen taliad / i ba Lefel taliad gwirioneddol
                                        endid                        (2011)

 Alltwalis                    £75,000 y flwyddyn wedi’i           £78,600
                                 fynegrifo / Cronfa
                               Ymddiriedolaeth Budd
                              Cymunedol Fferm Wynt
                                     Alltwalis
 BDCR II                       5-10% o’r elw / Ecodyfi          Ni ddatgelwyd

 Bryn Titli                     £2,500 / Cyngor Tref             £3,530.38

                              £2,500 / Cyngor Cymuned            £3,530.38




                                         25
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru

 Carno 2                       £2,000 am bob MW a                £6,000
                               osodwyd, y flwyddyn
                              wedi’i fynegrifo / Cronfa
                                 Ymddiriedolaeth
                                Gymunedol Carno

                               £2,000 am bob MW a                £6,000
                               osodwyd, y flwyddyn
                              wedi’i fynegrifo / Cronfa
                                 Ymddiriedolaeth
                                 Gymunedol Leol
                                   Llanbrynmair

                               £2,000 am bob MW a                £20,000
                               osodwyd, y flwyddyn
                              wedi’i fynegrifo / Cronfa
                                 Ynni Cymunedol
                                Canolbarth Cymru
                                      (Windfall)
 Carno 'A' a 'B'                 £12,000 / Cyngor              £18,156.08
                                 Cymuned Carno

 Cefn Croes                  £1000 am bob MW, wedi’i             £72,240
                                    fynegrifo /
                                 Ymddiriedolaeth
                              Gymunedol Cefn Croes
 Ffynnon Oer                  £22,000 / Fforwm Afan            £25,978.84
                                     Uchaf

 Hafoty Ucha                    £1k am bob MW a                  £4,000
                                 osodwyd / Gwneir
                                 cyfraniadau yn ôl
                             disgresiwn y perchennog
 Llandinam P & L              £5,000 / Celtpower Cyf             £5,000

                             £20,000 / Ymddiriedolaeth           £20,000
                              Gymunedol Llandinam

 Llyn Alaw                       £16,000 / Cyngor              £23,059.10
                                Cymuned Tref Alaw

                             £4,000 / Cyngor Cymuned            £5,776.98
                                 Llannerchymedd

                             £4,000 / Cyngor Cymuned            £5,776.98
                                      Mechell

                                £2,000 / Sefydliad               £2,000
                                Cymunedol Cymru

 Maesgwyn                     £175,000 y flwyddyn /             £175,000
                             Cyngor Bwrdeistref Sirol
                             Castell-nedd Port Talbot




                                         26
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru

 Estyniad Moel Maelogen         £50k y flwyddyn x 3              £50,000
                               blynedd / Clwb Rygbi
                                   Nant Conwy

                                 £50k y flwyddyn x 2             £50,000
                              flynedd / Menter Wledig
                                   Dyffryn Conwy

                             £7.5k y flwyddyn am hyd             £7,500
                               bywyd (mynegedig) /
                              Cyngor Cymuned Bro
                                      Garmon

                             £7.5k y flwyddyn am hyd             £7,500
                               bywyd (mynegedig) /
                              Cyngor Cymuned Bro
                                      Cernyw
 Mynydd Gorddu                   £10,000 / Amgen               £14,670.38

 Taf Elai                       £2,500 / Sefydliad               £2,500
                                Cymunedol Cymru

 Trysglwyn                   £5,000 / Cyngor Cymuned            £7,035.18
                                     Rhosybol

 Wern Ddu (Craig Lelo)       £3,333 / Cyngor Cymuned             £3,333
                                      Derwen

                                      £3,333                     £3,333

                                      £3,333                     £3,333



Cyfanswm y symiau a ddatgelwyd a ddyfarnwyd yn 2011 oedd £623,853.30.



                       ““Maent yn gweithio’n dda hyd rhyw bwynt. Adeiledir y
                          mwyafrif o ffermydd gwynt mewn ardaloedd gwledig lle
                           mae cyflogaeth yn broblem. Mae angen i ni ddenu
                            diwydiannau i ardaloedd gwledig fel ein bod yn gallu
                            cadw pobl ifanc yn yr ardal. Os rhoddir arian i bobl
                           leol i osod dyfeisiau arbed ynni, megis systemau
                          adennill gwres, pympiau gwres ac ati, efallai y gallem
                      ddenu cwmni sy’n gwneud y math yma o offer i sefydlu yn
yr ardal. Gall taflu symiau mawr o arian at gymunedau gael effaith andwyol a
dylid ei osgoi ar bob cyfrif. Hefyd, yr unig beth wnaiff yr arian yw disodli
ariannu a ddarparwyd yn flaenorol gan y cynghorau a Llywodraeth Cymru sy’n
golygu nad oes yn rhaid iddynt gyfrannu, yn enwedig pan nad yw’r diwydiant
gwynt yn cael llawer o gefnogaeth ganddynt hwy!”

Huw Smallwood, Tegni Cyf



                                        27
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru



ASTUDIAETH ACHOS TRI

Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedol Fferm Wynt Cefn Croes
Ymddiriedolaeth Elusennol a ariennir gan Ynni Gwynt Cambrian a anelir at
sefydliadau bach a arweinir gan y gymuned yw Cronfa Ymddiriedolaeth Gymunedol
Fferm Wynt Cefn Croes. Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau yn Ardaloedd Cynghorau
Cymuned Blaenrheidol a Phontarfynach ac yna i ardal ehangach Sir Ceredigion.
Rheolir y gronfa gan fwrdd o bump Ymddiriedolwr yn cynrychioli Ynni Gwynt
Cambrian a Chymunedau Blaenrheidol a Phontarfynach.

Diben yr Ymddiriedolaeth yw cefnogi unrhyw fath o weithgaredd sy’n cynnwys pobl
leol, drwy sefydliadau cymunedol bach sydd o fudd i’w cymuned. Rhaid i’r
gweithgareddau ddarparu rhywfaint o fudd economaidd, amgylcheddol, addysgol,
cymdeithasol neu ddiwylliannol ar gyfer pobl sy’n byw yn yr ardal. Bydd Ynni Gwynt
Cambrian yn talu £58,500 yn ogystal â chwyddiant yn flynyddol i Gronfa’r
Ymddiriedolaeth tra bydd fferm wynt Cefn Croes yn gweithredu.

Er mwyn gwneud cais am ariannu mae’n rhaid i brosiectau fynd drwy weithdrefn o
wneud cais. Mae’r ddogfennaeth berthnasol i’w chael ar-lein, sy’n cynnwys copi llawn
o’r canllawiau gwneud cais 10; copi o’r ffurflen gais 11; copi o adroddiad Diwedd
Prosiect y gronfa, a ddefnyddir at ddibenion gwerthuso12 . Ceir hefyd grynodeb manwl
o’r cronfeydd a ddyrannwyd hyd yma er mwyn gweld y math o gynlluniau a gefnogir13.




10 http://ponterwyd.pumlumon.org.uk/assets/File/

Cefn_Croes_Application_Guidelines_Jan10.pdf
11 http://ponterwyd.pumlumon.org.uk/assets/File/

Cefn_croes_Trust_Fund_Application_Jan10.pdf
12 http://ponterwyd.pumlumon.org.uk/assets/File/CefnCroesendofproject.pdf


13 http://ponterwyd.pumlumon.org.uk/index.php?lang=eng&page=104

                                              28
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru




Cofrestr o CBC ffermydd
gwynt yng Nghymru
Fel rhan o Gynllun Ynni Cymunedol ac Adnewyddadwy (CARES) Llywodraeth
yr Alban, mae Ynni Cymunedol yr Alban yn gweinyddu Cofrestr Llywodraeth yr
Alban ar Fudd Cymunedol o Ynni Adnewyddadwy. Mae hwn yn offeryn
gwerthfawr i gynorthwyo cymunedau drwy’r proses budd cymunedol. Drwy
ddangos yr ystod o ffyrdd y gall budd cymunedol gael ei drafod, ei weinyddu
a’i ddyrannu, mae Llywodraeth yr Alban yn gobeithio y bydd gan gymunedau a
datblygwyr adnoddau da i ddatblygu'r fframwaith gorau posibl ar gyfer
prosiectau adnewyddadwy newydd ledled yr Alban.

Mae’r Gofrestr yn manylu ar wariant y gronfa ac yn darparu syniadau a
chyngor ar gyfer cymunedau sy’n dymuno sicrhau y caiff eu cronfeydd eu
gwario’n ddoeth. Gall unrhyw un gyrchu’r gronfa ddata 14 a darganfod beth sy’n
digwydd ledled yr Alban, ac mae hyn yn annog tryloywder y cynlluniau a
rhannu syniadau a phrofiadau. Bydd Ynni Cymunedol yr Alban hefyd yn
defnyddio’r wybodaeth er mwyn gweld beth sy’n digwydd yn y maes. Mae’r
gofrestr yn wirfoddol ac yn dibynnu ar fod cymunedau a datblygwyr yn rhannu
eu profiadau a’r gwersi a ddysgwyd. Anogir darparwyr cronfeydd budd
cymunedol i lenwi’r ffurflen berthnasol 15.

Ar y dudalen ganlynol ceir sgrinluniau yn dangos lefel nodweddiadol y
wybodaeth sydd ar gael.

Cafodd man cychwyn sylfaenol ar gyfer y math hwn o wybodaeth ynglŷn â
chofrestr o gronfeydd budd cymunedol ffermydd gwynt yng Nghymru, yn
manylu ar werth y gronfa a’r trefniadau gweinyddol, ei pharatoi o’r ymatebion
i’r astudiaeth hon.




14 http://www.communityenergyscotland.org.uk/register


15 http://www.communitybenefitregister.org.uk/form.aspx?formtype=1

                                             29
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru




                   “Cwmni lleol yw Amegni a sefydlwyd gan ffermwyr sydd
                      wedi arallgyfeirio ac sy’n byw yn y gymuned leol.
                        Rydym yn berchen ar ac yn gweithredu fferm wynt
                        15.6MW a’n nod hirdymor yw i gynnal ac i gadw'r
                        budd o’r prosiect yn lleol - felly credwn fod
                        perchnogaeth leol fel hyn yn fath o fudd cymunedol
                      yn ei hawl ei hun (ond anaml y cydnabyddir hynny!).
                   Fel cwmni lleol gofynnir i ni’n barhaus i noddi a chyfrannu
at wahanol ddigwyddiadau cymunedol, prosiectau a chynorthwyo i ariannu
sefydliadau y byddwn yn ei wneud yn gyson uwchlaw'r taliadau ffurfiol a wneir.



                                        30
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru

Mae’n anffodus ac yn afresymol dim ond i dargedu budd cymunedol ar
ffermydd gwynt gan nad oes fawr ddim diwydiannau eraill yn gwneud
cyfraniadau i’r cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt. Fel cwmni lleol
rydym serch hynny yn gweld y gymuned leol yn gefnogol iawn i’r fferm wynt ac
i’n cwmni ni - mae hyn yn rhannol yn fwy na thebyg oherwydd y ffaith ein bod
yn gwmni lleol ond yn fwy na hynny am eu bod hwy yn cael rhannu’r
manteision gyda ni.”

Sion Thomas, Amegni



ASTUDIAETH ACHOS PEDWAR

Enghraifft o Wynt ar y Môr: Pecyn Budd Cymunedol Fferm Wynt ar y Môr
Gwastadeddau y Rhyl
Mewn cydweithrediad â Fferm Wynt ar y Môr Gwastadeddau y Rhyl sefydlwyd cronfa
gymunedol i gynorthwyo prosiectau cymunedol lleol mewn wardiau sy’n cyffinio â’r
fferm wynt. Dechreuodd y gronfa flynyddol ar lefel sylfaen o £90,000, caiff ei
mynegrifo bob blwyddyn yn unol â chwyddiant a bydd ar gael dros fywyd gweithredol
y fferm wynt.

Er mwyn rhoi’r budd mwyaf i gymunedau lleol, mae npower renewables RWE wedi
gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu trefniant gweinyddol
ar gyfer y gronfa hon sy’n rhoi mynediad haws i gymunedau lleol at ddewisiadau
ariannu ehangach drwy un ffurflen gais syml.

Yn dibynnu ar lle mae’r grwpiau cymunedol wedi eu lleoli, gallant fod yn gymwys i
gyrchu arian gan Becyn Budd Cymunedol Fferm Wynt ar y Môr Gwastadeddau y Rhyl
a Chronfa Cydlyniant Cymunedol Ardal Adfywio Arfordir Gogledd Cymru, a ariennir
gan Lywodraeth Cymru, gan ddefnyddio’r un ffurflen gais mewn rhai achosion. Gyda’i
gilydd mae hyn yn rhoi mynediad i grwpiau at gronfa gyfun gwerth £1 miliwn y
flwyddyn i gefnogi elfennau cyfalaf a refeniw prosiectau. Mae gan Grwpiau yn y Rhyl
fynediad at Gronfeydd Budd Cymunedol Fferm Wynt ar y Môr Gwastadeddau y Rhyl
a North Hoyle a weinyddir gan yr un sefydliad, Partneriaeth Arfordirol Sir Ddinbych.

• Lefel sylfaen y gronfa flynyddol yw £90,000 y flwyddyn dros fywyd gweithredol y
  fferm wynt, a ddisgwylir i fod tua 25 mlynedd.
• Caiff y Gronfa ei mynegrifo bob blwyddyn yn unol â’r mynegai prisiau manwerthu.
• Caiff £75,000 y flwyddyn ei neilltuo ar gyfer y wardiau canlynol yng Nghonwy:
  Pensarn, Colwyn, Eirias, Gele, Glyn, Bae Cinmel, Llanddulas, Llandrillo yn Rhos,
  Llysfaen, Mochdre, Pentre Mawr, Rhiw a Thowyn.
• Caiff £15,000 y flwyddyn ei neilltuo ar gyfer y Rhyl.
• Caiff cronfa prosiectau cyfalaf a/neu refeniw y cynllun eu rhedeg gan elusennau,
  grwpiau cymunedol a grwpiau gwirfoddol.

Gweinyddiaeth Cronfa Gymunedol Fferm Wynt ar y Tir Gwastadeddau y Rhyl

Gweinyddir rhan Conwy o’r gronfa ochr yn ochr â Chronfa Cydlyniant Cymunedol
Ardal Adfywio Arfordir Gogledd Cymru bresennol a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y trefniadau hyn yn bodoli dros fywyd y Gronfa Cydlyniant Cymunedol. Eu nod
yw cytuno ar strwythur weinyddol briodol i gymryd yr awenau ar ddiwedd cyfnod
Cronfa Cydlyniant Cymunedol Ardal Adfywio Arfordir Gogledd Cymru am weddill
bywyd gweithredol y fferm wynt.


                                         31
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru

Gweinyddir rhan y Rhyl o’r gronfa gan Bartneriaeth Arfordirol Sir Ddinbych -
gweinyddwyr cyfredol y Gronfa Gymunedol sy’n bodoli’n barod mewn cydweithrediad
â Fferm Wynt ar y Môr North Hoyle. Caiff penderfyniadau ynglŷn â sut y caiff yr
ariannu ei dyrannu ei wneud gan Bartneriaeth Gymunedol y Rhyl, grŵp a
gyfansoddwyd yn llawn sy’n cynnwys gwirfoddolwyr lleol, yn cynrychioli’r cyngor tref,
y sector gwirfoddol, y gymuned fusnes leol, cymdeithasau trigolion a’r heddlu.




                                         32
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru




Sylwadau ychwanegol
Dyma’r sylwadau ychwanegol a gasglwyd yn ystod yr astudiaeth:

                      “Ar hyn o bryd rydym yn darparu dros £1.4 miliwn y flwyddyn o
                         fudd cymunedol ar draws ein portffolio o brosiectau
                           adeiladau a gweithredol yn y DU.

                           Caiff ein budd cymunedol ei weinyddu gan amrywiaeth o
                           ymddiriedolaethau, cwmnïau a diddordebau cymunedol,
                           mentrau adfywio cymdeithasol ac awdurdodau lleol. Ein
                         model arfer gorau o’n portffolio lles cymunedol yw un lle
                       mae cymunedau wedi creu cwmni diddordeb cymunedol ardal-
               benodol ac yn gweinyddu’r cronfeydd yn uniongyrchol eu hunain. Mae
hyn wedi arwain at nodi a chyflawni prosiectau adfywio sylweddol er lles y Rhanbarth,
nid dim ond cymunedau penodol. Mae mewnbwn gan y datblygwr ar y dechrau ac
ymgysylltu rheolaidd yn hanfodol i sicrhau bod meini prawf yr ariannu yn unol â
gofynion y ddau barti.

Mae trydydd parti i ddarparu ysgrifenyddiaeth a chymorth gyda gweinyddu cyffredinol
ac adrodd hefyd yn hanfodol i sicrhau nid yn unig y cedwir at y meini prawf ond hefyd
er mwyn cynorthwyo i wireddu prosiectau mawr a allai fod ar gael drwy ariannu
cyfatebol y Budd Cymunedol gyda ffrydiau ariannu perthnasol eraill, ac ati.

Efallai y byddai grŵp wedi ei rymuso o gymunedau sy’n amgylchynu safleoedd gwynt
ar y tir sy’n derbyn Budd Cymunedol angen cyfnod dechreuol rhwng un neu ddwy
flynedd i fynd i’r afael â phryderon cymunedol ‘normal’ e.e. cynnal a chadw neuadd
bentref ac ati, ond dangosodd ein profiad y bydd yr un cymunedau, o gael y
gefnogaeth iawn, hefyd mewn byr o dro yn dechrau creu a gweithredu Prosiectau
economaidd ac amgylcheddol strategol ar gyfer eu hardal ehangach.”

Daniel Ferrier, Celtpower Cyf (Scotish Power Renewables ac Eurus Energy)


                        “Elfennau o’r cronfeydd budd cymunedol sy’n gweithio’n dda:
                            Hyd yn hyn gall lefelau cymharol fach o ariannu gael effaith
                             gadarnhaol sylweddol ar yr ardal leol agos;
                              Ymgysylltu cynrychiolwyr lleol mewn gwneud
                              penderfyniadau - gan rymuso pobl leol i gael rhagor o
                              reolaeth dros eu tynged eu hunain;
                             Mae trefniadau ariannu at y diben wedi eu teilwra i
                            gymunedau unigol;
                         Partneriaeth arloesol gyda Llywodraeth Cymru - ariannu
                 cymunedol ffermydd gwynt wedi ei weinyddu ochr yn ochr ag ariannu
ardaloedd adfywio Llywodraeth Cymru, 2 gronfa - 1 ffurflen gais syml, gall cronfeydd
gyfateb ei gilydd, gall ariannu ffermydd gwynt ariannu prosiectau refeniw sydd wedi
eu heithrio o ariannu Llywodraeth Cymru.

Dewisiadau amgen ar gyfer y dyfodol:
Rydym yn ymdrechu’n gyson i wella ein darpariaeth budd cymunedol ac yn hynny o
beth rydym eisoes yn ymgysylltu yn nifer o’r mentrau hyn;
Ystyried strwythurau yr ydym wedi eu defnyddio mewn ardaloedd eraill o’r DU yn fwy
diweddar;

                                           33
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru

Ymgynghoriad cynyddol a chynharach gyda chymunedau lleol a rhanddeiliad
allweddol;
Ystyriaeth ofalus o ganfyddiad cyhoeddus mecanweithiau/ffocws darpariaeth newydd;
Dull newydd wedi ei alinio’n well i’r lefelau uwch o ariannu sydd ar gael;
Canolbwyntio ar sicrhau ariannu cyfatebol;
Ystyried manteision ar gyfer ardaloedd rhanbarthol ehangach;
Aliniad agosach gyda strategaeth leol, rhanbarthol a chenedlaethol;
Ffocws cynyddol ar ddatblygu economaidd yn cynnwys swyddi a sgiliau;
Cydweithio posibl ymhlith datblygwyr;
Hwn o hyd yn gyfle gorau cymunedau lleol i ddylanwadu ar ddatblygiadau ynni gwynt
– cymryd gofal i beidio eu hallgau o’r broses hon;
Cofio y gall grantiau lleol bach ddal i wneud gwahaniaeth mawr a lle bo’n briodol dylid
eu hystyried fel rhan o becyn cyffredinol;
Gwell cydweithio o fewn y diwydiant er mwyn dangos y manteision a roddir gan ynni
gwynt.”

Katy Woodington, npower renewables RWE




                                          34
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru




Casgliadau ac
Argymhellion
Mae prosiectau ynni adnewyddadwy eisoes yn rhoi ystod o fanteision
cymunedol, yn ychwanegol at gynhyrchu ynni glân a chynaliadwy. Mae’r rhain
yn cynnwys rhagor o gyfleoedd swyddi a gwelliannau i’r amgylchedd adeiledig
a naturiol. Yn ogystal, mae ystod eang o Gronfeydd Budd Cymunedol yn
gweithredu yng Nghymru sy’n cyfrannu’n eithriadol o gadarnhaol i gymunedau
lleol ar draws y wlad. Dylai cronfeydd lleol sefydledig gael eu gweld fel ffordd o
ddweud ‘diolch’ wrth y cymunedau sy’n rhoi cartref i ffermydd gwynt a
chynlluniau ynni adnewyddadwy eraill.

Gallwn gasglu o’r data a gasglwyd gennym bod:

• Tua phedair o bob pump fferm wynt sy’n gweithredu yng Nghymru yn
  cyfrannu i’w cymunedau lleol mewn modd strwythuredig;
• Llawer o endidau gwahanol yn elwa o gyfraniadau ffermydd gwynt (nodwyd
  cyfanswm o 34 allan 20 ymateb);
• Caiff CBC yng Nghymru eu gweinyddu’n bennaf drwy ymddiriedolaethau
  lleoledig (neu gyrff tebyg) neu Gynghorau Cymuned;

• Y math mwyaf cyffredin o daliad gan weithredwyr fferm wynt yw drwy
  symiau penodedig, yn cael ei ddilyn gan gyfrifiad fesul MW a osodwyd; ac
  mai
• Cyfanswm y symiau a ddatgelwyd a ddyfarnwyd i Gronfeydd Budd
  Cymunedol neu debyg yn 2011 oedd £623,853.30.

Yng ngoleuni agendâu gwleidyddol cyfredol, efallai bod yr amser wedi dod lle
gallai datblygwyr ffermydd gwynt ar y tir fod am sicrhau bod budd penodol o’u
rhaglenni yn cael ei ddarparu i gymunedau mewn modd mwy uchel ei broffil a
thryloyw er mwyn dangos yn fwy effeithiol y canlyniadau cadarnhaol a
gynhyrchir ganddynt.




                                        35
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru

Mae’r ddogfen ‘Sicrhau manteision cymunedol o ddatblygu ynni gwynt: Pecyn
Cymorth’16 yn amlinellu nifer o ffactorau gwahanol y dylid eu hystyried wrth
gynllunio cynllun budd cymunedol:

• Pam ddylid ystyried manteision cymunedol?

• Beth yw costau, risgiau a gwobrau ynni gwynt a sut mae budd cymunedol
   yn ffitio i’r darlun hwn?

• Beth yw’r berthynas rhwng budd cymunedol a’r broses gynllunio?

• Beth yw’r gwahanol ffyrdd y gellir cynnig budd cymunedol drwyddynt?
• Pwy ddylai elwa a sut ddylai hyn gael ei reoli a’i weinyddu?

• Pa gytundebau ellir ac a ddylid eu rhoi ar waith i sicrhau’r budd hwn?

Mae’r cyngor yn pwysleisio pwysigrwydd canolbwyntio ar y budd a gaiff ei
gyflenwi ‘mewn cylch’. Gallai fod yn fanteisiol i weithredwyr cysylltiedig â
Chronfeydd Budd Cymunedol ail-edrych ar gyfeiriad strategol eu cynlluniau er
mwyn sicrhau eu bod wedi eu halinio gyda phrif bolisi economaidd ehangach.
Er enghraifft, byddai’r astudiaeth achos LEDS a amlinellwyd yn flaenorol
(Astudiaeth Achos Un; tudalen 19) o bosibl yn apelio at drigolion yn ardal ei
weithredu, ond efallai ddim yn apelio at bolisi Llywodraeth Cymru o ran
hyrwyddo effeithlonrwydd ynni. Os, fodd bynnag, y bydd y cynllun wedi ei
ddatblygu ar y cyd â Llywodraeth Cymru, er enghraifft, yna gallai gael ei
gyplysu gyda’r cynllun Arbed17 er mwyn cydlynu buddsoddiad i berfformiad
ynni cartrefi yng Nghymru.

Dylai CBC sicrhau eu bod yn addas ar gyfer diwydiant a chymunedau, a’u bod
wedi eu rheoli mewn modd ‘craff’. Un ffordd o’r fath yw archwilio'r posibilrwydd
o ‘dynnu’ ariannu i mewn o wahanol ffrydiau e.e. Cronfa Gymdeithasol Ewrop,
Llywodraeth Cymru, Canolfan Byd Gwaith). Mae pecyn Budd Cymunedol
Fferm Wynt ar y Môr Gwastadeddau y Rhyl (Astudiaeth Achos Pedwar;
tudalen 31), er enghraifft, yn ymgorffori Cronfa Cydlyniant Cymunedol a
ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac mewn sawl achos drwy’r un ffurflen gais.
Gyda’i gilydd mae hyn yn rhoi mynediad i grwpiau at gronfa gyfun gwerth £1
miliwn y flwyddyn i gefnogi elfennau cyfalaf a refeniw prosiectau, ac felly
gwneud y mwyaf o’r gwariant drwy alluogi prosiectau mwy eu maint. Mae rôl ar


16 http://www.cse.org.uk/downloads/file/Delivering%20community%20benefits%20from

%20wind%20energy%20-%20a%20tookit.pdf
17 http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/energy/efficiency/arbed/?lang=en

                                             36
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru

gyfer Llywodraeth Cymru mewn cynnig cyngor i Gronfeydd Budd Cymunedol o
ran y ffordd fwyaf effeithiol y gall eu hariannu gael ei ddefnyddio, efallai drwy
gyfrwng megis Ynni Cymunedol Cymru neu Gronfa Ynni Cymunedol
Canolbarth Cymru (Windfall).

Mae hefyd angen sicrhau bod Cronfeydd Budd Cymunedol wedi eu cydweddu
i reidrwydd economaidd yn ogystal â pharhau â’r budd cymdeithasol lleol y
maent yn amlwg yn eu rhoi. Gallai Cronfeydd Budd Cymunedol gael eu
defnyddio ar gyfer amcanion datblygu economaidd rhanbarthol mwy strategol:
er enghraifft, gallai trefniadau gwirfoddol gefnogi datblygu economaidd
rhanbarthol, creu swyddi a gwella sgiliau. Un awgrym yw creu cronfa
fuddsoddi Ardal Chwilio Strategol (SSA) 25 mlynedd ar gyfer pob SSA, y
byddai iddi fodel llywodraethu rhanbarthol, strategol yn edrych ar faterion
economaidd pwysig rhanbarthol a chasglu mewnbwn gan sefydliadau megis
Fforymau Economaidd Rhanbarthol. Gallai cyfryngau o'r fath gael eu sefydlu
fel cronfeydd ymddiriedolaethau gyda’r datblygwyr yn cael eu gwahodd i dalu
rhan o’u Cronfeydd Budd Cymunedol i mewn iddo, a allai wedyn godi ariannu
cyfatebol (e.e. cronfeydd Ewropeaidd), neu adlenwadau gan lywodraeth.
Byddai’r cronfeydd SSA hyn yn sicrhau ffocws ar faterion datblygu
economaidd rhanbarthol, ac nid dim ond ar faterion lleol mewn cymunedau
sydd yn aml yn gymharol denau o ran poblogaeth.

Dylai Llywodraeth Cymru gynorthwyo datblygwyr a chymunedau i ddewis y
cyfrwng Cronfeydd Budd Cymunedol iawn ar gyfer eu hamgylchiadau
arbennig hwy ac i wneud y defnydd mwyaf effeithiol o’r arian i’w ddyrannu, o
bosibl drwy gyflwyno ‘Cynghorwyr CBC’ i alluogi eu cyswllt i ariannu posibl
sydd yn aml yn cyd-fynd â mentrau llywodraeth.

Dylai Llywodraeth Cymru hefyd ariannu cofrestrfa swyddogol agored i’r
cyhoedd (tebyg i fodel yr Alban) a fyddai’n annog rhannu'r arfer gorau,
syniadau a phrofiadau. Dylent ariannu cofrestrfa bellach a fyddai’n rhestru
ceisiadau ffermydd gwynt sydd wedi eu cymeradwyo ond hyd yma heb eu
codi, a’r math o drefniadau CBC sy’n cael eu rhoi ar waith neu’n cael eu
cynnig. Byddai hyn yn galluogi grwpiau lleol a rhanbarthol i gyflwyno eu
cynigion eu hunain i weithio gyda’r CBC i’r dyfodol.

Dylai’r cyfryngau a ddefnyddir i ddarparu CBC sicrhau tryloywder eu
gweithgareddau. Er enghraifft, fel arfer gorau dylai’r ymddiriedolaeth neu
Gyngor Cymuned perthnasol sefydlu gwefan agored i’r bobl yn dangos hanfod
                                        37
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru

y cynllun, gan restru sut cafodd arian ei ddyrannu ac ar ba sail, ynghyd â
manylion cyswllt. Hefyd, dylid rhoi lefel resymol o arian o’r CBC o’r neilltu i
sicrhau y caiff y CBC eu hyrwyddo ar lefel leol ac y caiff cymunedau lleol
wybod am eu gweithgareddau. Mae’r ddau argymhelliad hwn er lles y
diwydiant fel bod gweithgareddau da nid yn unig yn digwydd ond yn cael ei
weld yn digwydd.

Mae’r ddadl ynghylch protocol budd cymunedol yn Lloegr wedi nodi isafswm
taliad o £1,000 y flwyddyn am bob MW o ynni gwynt a osodir yn ystod bywyd y
fferm wynt. Yng Nghymru dylai’r argymhellion uchod wneud y ddadl hon i bob
pwrpas yn amherthnasol. Dylai ein gweledigaeth ni fod am gynlluniau a
weithiwyd allan yn dda ac a gaiff eu cynnal yn dda gydag amcanion clir, sy’n
tynnu amrywiol bartneriaid i mewn i ddenu’r ariannu mwyaf posibl, ac sydd yn
dryloyw ac yn gyrchadwy i gymunedau a rhanddeiliaid. Dyma ddylai’r ffordd
ymlaen fod ar gyfer y diwydiant, gan weithio’n agos gyda chymunedau ar lefel
micro a gyda Llywodraeth Cymru ar y lefel macro.

Ni ddylai rhywun danbrisio gwerth y CBC eu hunain, na’r ffermydd gwynt y
maent yn eu cynrychioli. Darparwyd tua 8,600 o swyddi gan y diwydiant gwynt
ar y tir yn 2011, gyda £548 miliwn wedi ei ychwanegu i economi y DU, yn ôl
astudiaeth ar y cyd a gyhoeddwyd gan RenewableUK a’r Adran Ynni a Newid
Hinsawdd18. Canfu bod y gwir werth a ddarperir gan wynt (yn agos i £700,000
am bob MW a osodwyd yn y DU) yn fwy na £100,000 o fewn ardal yr
Awdurdod Lleol. Mae CBC yn elfen hollbwysig mewn dangos i gymunedau
lleol nid dim ond manteision amgylcheddol ynni adnewyddadwy ond hefyd y
manteision economaidd lleol. Rhaid canolbwyntio ar sut y gall y cymunedau
hyn sicrhau’r budd mwyaf ac, yn enwedig, y rhan hollbwysig sydd gan y CBC
yn y deinamig hwn.




18 http://www.decc.gov.uk/assets/decc/11/meeting-energy-demand/wind/5585-economic-

benefits-onshore-wind-full-pn.pdf
                                           38
Atodiad 1




    39
Enw’r cwmni:                              Triodos Renewbales (Wern Ddu) Cyf

Enw’r fferm wynt a weithredir:            Fferm Wynt Wern Ddu

Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt)    9.2MW
a weithredir:

Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a    2 flynedd
weithredir:

Enw a swydd yr ymatebwr:                  Monika Paplaczyk, Rheolwr Buddsoddi



Enw’r cwmni:                              Tegni Cyf

Enw’r fferm wynt a weithredir:            Hafoty Ucha (Ll21 0RL)

Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt)    3.15 MW
a weithredir:

Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a    8 mlynedd
weithredir:

Enw a swydd yr ymatebwr:                  Huw Smallwood (Perchennog)



Enw’r cwmni:                              Ynni Adnewyddadwy Cymunedol Bro
                                          Dyfi

Enw’r fferm wynt a weithredir:            Vestas a Nordtank (SY20 8AX)

Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt)    575kW
a weithredir:

Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a    9 mlynedd a 4 mlynedd yn y drefn
weithredir:                               honno

Enw a swydd yr ymatebwr:                  Michael Phillips, Pwyllgor Rheoli



Enw’r cwmni:                              Amegni

Enw’r fferm wynt a weithredir:            Carno II (SY17 5JS)

Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt)    15.6 MW
a weithredir:

Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a    3 blynedd
weithredir:

Enw a swydd yr ymatebwr:                  Sion Thomas – Perchennog /
                                          Gweithredwr



                                         40
Enw’r cwmni:                              Celtpower Cyf (Scottish Power
                                          Renewables ac Eurus Energy)

Enw’r fferm wynt a weithredir:            Llandinam (Cyf Grid Cenedlaethol SO
                                          028836)

Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt)    30MW
a weithredir:

Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a    20 mlynedd
weithredir:

Enw a swydd yr ymatebwr:                  Daniel Ferrier - Rheolwr Prosiect
                                          Cynorthwyol



Enw’r cwmni:                              RWE npower renewables

Enw’r fferm wynt a weithredir:            Bryn Titli; Carno; Ffynnon Oer; Llyn
                                          Alaw; Mynydd Gorddu; Trysglwyn; Taf
                                          Elai

Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt)    9.9MW; 33.6MW; 33MW; 20.4MW;
a weithredir:                             10.2MW; 5.6MW; 9MW

Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a    18 mlynedd; 16 mlynedd; 6 mlynedd; 15
weithredir:                               mlynedd; 14 mlynedd; 14 mlynedd; 19
                                          mlynedd

Enw a swydd yr ymatebwr:                  Katy Woodington, Uwch Swyddog
                                          Buddsoddi Cymunedol



Enw’r cwmni:                              EC&R (menter ar y cyd rhwng EC&R ac
                                          Eurus Energy)

Enw’r fferm wynt a weithredir:            Rhyd-Y-Groes

Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt)    7.2MW
a weithredir:

Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a    20 mlynedd
weithredir:

Enw a swydd yr ymatebwr:                  Jonn Barnes, Uwch Gychwynnwr




                                         41
Enw’r cwmni:                              Moelogan 2 Ccc

Enw’r fferm wynt a weithredir:            Moel Moelogan (LL28 5UN)

Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt)    11.7MW
a weithredir:

Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a    4 blynedd
weithredir:

Enw a swydd yr ymatebwr:                  Geraint Davies, Perchennog/
                                          Gweithredwr



Enw’r cwmni:                              Cambrian Wind Energy Limited

Enw’r fferm wynt a weithredir:            Fferm Wynt Cefn Croes (SY23 3LE)

Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt)    58.5 MW
a weithredir:

Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a    8 mlynedd
weithredir:

Enw a swydd yr ymatebwr:                  Roger Jones, Rheolwr Asedau



Enw’r cwmni:                              Infinergy

Enw’r fferm wynt a weithredir:            Fferm wynt Castle Pill (SA73) + Fferm
                                          wynt Ferndale (CF43)

Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt)    Castle Pill (3.2MW) + Ferndale (6.4MW)
a weithredir:

Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a    Castle Pill (3 blynedd) + Ferndale (2
weithredir:                               flynedd)

Enw a swydd yr ymatebwr:                  Lorraine Dallmeier, Cyfarwyddwr
                                          Prosiect




                                         42
Enw’r cwmni:                              RES

Enw’r fferm wynt a weithredir:            Dyffryn Brodyn (SA34 0JE)

Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt)    5.5MW
a weithredir:

Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a    18 mlynedd
weithredir:

Enw a swydd yr ymatebwr:                  Samantha Mayes, Cydlynydd
                                          Cysylltiadau Cymunedol



Enw’r cwmni:                              Pennant Walters Maesgwyn Cyf

Enw’r fferm wynt a weithredir:            Maesgwyn (SA10)

Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt)    26MW
a weithredir:

Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a    18 mis
weithredir:

Enw a swydd yr ymatebwr:                  Dale Hart, Cyfawyddwr



Enw’r cwmni:                              Statkraft

Enw’r fferm wynt a weithredir:            Alltwalis (SA32 7ED)

Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt)    23MW
a weithredir:

Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a    2 flynedd a hanner
weithredir:

Enw a swydd yr ymatebwr:                  Rob Fellows (Cynghorydd Cysylltiadau
                                          Cymunedol)




                                         43

More Related Content

Featured

2024 State of Marketing Report – by Hubspot
2024 State of Marketing Report – by Hubspot2024 State of Marketing Report – by Hubspot
2024 State of Marketing Report – by HubspotMarius Sescu
 
Everything You Need To Know About ChatGPT
Everything You Need To Know About ChatGPTEverything You Need To Know About ChatGPT
Everything You Need To Know About ChatGPTExpeed Software
 
Product Design Trends in 2024 | Teenage Engineerings
Product Design Trends in 2024 | Teenage EngineeringsProduct Design Trends in 2024 | Teenage Engineerings
Product Design Trends in 2024 | Teenage EngineeringsPixeldarts
 
How Race, Age and Gender Shape Attitudes Towards Mental Health
How Race, Age and Gender Shape Attitudes Towards Mental HealthHow Race, Age and Gender Shape Attitudes Towards Mental Health
How Race, Age and Gender Shape Attitudes Towards Mental HealthThinkNow
 
AI Trends in Creative Operations 2024 by Artwork Flow.pdf
AI Trends in Creative Operations 2024 by Artwork Flow.pdfAI Trends in Creative Operations 2024 by Artwork Flow.pdf
AI Trends in Creative Operations 2024 by Artwork Flow.pdfmarketingartwork
 
PEPSICO Presentation to CAGNY Conference Feb 2024
PEPSICO Presentation to CAGNY Conference Feb 2024PEPSICO Presentation to CAGNY Conference Feb 2024
PEPSICO Presentation to CAGNY Conference Feb 2024Neil Kimberley
 
Content Methodology: A Best Practices Report (Webinar)
Content Methodology: A Best Practices Report (Webinar)Content Methodology: A Best Practices Report (Webinar)
Content Methodology: A Best Practices Report (Webinar)contently
 
How to Prepare For a Successful Job Search for 2024
How to Prepare For a Successful Job Search for 2024How to Prepare For a Successful Job Search for 2024
How to Prepare For a Successful Job Search for 2024Albert Qian
 
Social Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie Insights
Social Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie InsightsSocial Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie Insights
Social Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie InsightsKurio // The Social Media Age(ncy)
 
Trends In Paid Search: Navigating The Digital Landscape In 2024
Trends In Paid Search: Navigating The Digital Landscape In 2024Trends In Paid Search: Navigating The Digital Landscape In 2024
Trends In Paid Search: Navigating The Digital Landscape In 2024Search Engine Journal
 
5 Public speaking tips from TED - Visualized summary
5 Public speaking tips from TED - Visualized summary5 Public speaking tips from TED - Visualized summary
5 Public speaking tips from TED - Visualized summarySpeakerHub
 
ChatGPT and the Future of Work - Clark Boyd
ChatGPT and the Future of Work - Clark Boyd ChatGPT and the Future of Work - Clark Boyd
ChatGPT and the Future of Work - Clark Boyd Clark Boyd
 
Getting into the tech field. what next
Getting into the tech field. what next Getting into the tech field. what next
Getting into the tech field. what next Tessa Mero
 
Google's Just Not That Into You: Understanding Core Updates & Search Intent
Google's Just Not That Into You: Understanding Core Updates & Search IntentGoogle's Just Not That Into You: Understanding Core Updates & Search Intent
Google's Just Not That Into You: Understanding Core Updates & Search IntentLily Ray
 
Time Management & Productivity - Best Practices
Time Management & Productivity -  Best PracticesTime Management & Productivity -  Best Practices
Time Management & Productivity - Best PracticesVit Horky
 
The six step guide to practical project management
The six step guide to practical project managementThe six step guide to practical project management
The six step guide to practical project managementMindGenius
 
Beginners Guide to TikTok for Search - Rachel Pearson - We are Tilt __ Bright...
Beginners Guide to TikTok for Search - Rachel Pearson - We are Tilt __ Bright...Beginners Guide to TikTok for Search - Rachel Pearson - We are Tilt __ Bright...
Beginners Guide to TikTok for Search - Rachel Pearson - We are Tilt __ Bright...RachelPearson36
 

Featured (20)

2024 State of Marketing Report – by Hubspot
2024 State of Marketing Report – by Hubspot2024 State of Marketing Report – by Hubspot
2024 State of Marketing Report – by Hubspot
 
Everything You Need To Know About ChatGPT
Everything You Need To Know About ChatGPTEverything You Need To Know About ChatGPT
Everything You Need To Know About ChatGPT
 
Product Design Trends in 2024 | Teenage Engineerings
Product Design Trends in 2024 | Teenage EngineeringsProduct Design Trends in 2024 | Teenage Engineerings
Product Design Trends in 2024 | Teenage Engineerings
 
How Race, Age and Gender Shape Attitudes Towards Mental Health
How Race, Age and Gender Shape Attitudes Towards Mental HealthHow Race, Age and Gender Shape Attitudes Towards Mental Health
How Race, Age and Gender Shape Attitudes Towards Mental Health
 
AI Trends in Creative Operations 2024 by Artwork Flow.pdf
AI Trends in Creative Operations 2024 by Artwork Flow.pdfAI Trends in Creative Operations 2024 by Artwork Flow.pdf
AI Trends in Creative Operations 2024 by Artwork Flow.pdf
 
Skeleton Culture Code
Skeleton Culture CodeSkeleton Culture Code
Skeleton Culture Code
 
PEPSICO Presentation to CAGNY Conference Feb 2024
PEPSICO Presentation to CAGNY Conference Feb 2024PEPSICO Presentation to CAGNY Conference Feb 2024
PEPSICO Presentation to CAGNY Conference Feb 2024
 
Content Methodology: A Best Practices Report (Webinar)
Content Methodology: A Best Practices Report (Webinar)Content Methodology: A Best Practices Report (Webinar)
Content Methodology: A Best Practices Report (Webinar)
 
How to Prepare For a Successful Job Search for 2024
How to Prepare For a Successful Job Search for 2024How to Prepare For a Successful Job Search for 2024
How to Prepare For a Successful Job Search for 2024
 
Social Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie Insights
Social Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie InsightsSocial Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie Insights
Social Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie Insights
 
Trends In Paid Search: Navigating The Digital Landscape In 2024
Trends In Paid Search: Navigating The Digital Landscape In 2024Trends In Paid Search: Navigating The Digital Landscape In 2024
Trends In Paid Search: Navigating The Digital Landscape In 2024
 
5 Public speaking tips from TED - Visualized summary
5 Public speaking tips from TED - Visualized summary5 Public speaking tips from TED - Visualized summary
5 Public speaking tips from TED - Visualized summary
 
ChatGPT and the Future of Work - Clark Boyd
ChatGPT and the Future of Work - Clark Boyd ChatGPT and the Future of Work - Clark Boyd
ChatGPT and the Future of Work - Clark Boyd
 
Getting into the tech field. what next
Getting into the tech field. what next Getting into the tech field. what next
Getting into the tech field. what next
 
Google's Just Not That Into You: Understanding Core Updates & Search Intent
Google's Just Not That Into You: Understanding Core Updates & Search IntentGoogle's Just Not That Into You: Understanding Core Updates & Search Intent
Google's Just Not That Into You: Understanding Core Updates & Search Intent
 
How to have difficult conversations
How to have difficult conversations How to have difficult conversations
How to have difficult conversations
 
Introduction to Data Science
Introduction to Data ScienceIntroduction to Data Science
Introduction to Data Science
 
Time Management & Productivity - Best Practices
Time Management & Productivity -  Best PracticesTime Management & Productivity -  Best Practices
Time Management & Productivity - Best Practices
 
The six step guide to practical project management
The six step guide to practical project managementThe six step guide to practical project management
The six step guide to practical project management
 
Beginners Guide to TikTok for Search - Rachel Pearson - We are Tilt __ Bright...
Beginners Guide to TikTok for Search - Rachel Pearson - We are Tilt __ Bright...Beginners Guide to TikTok for Search - Rachel Pearson - We are Tilt __ Bright...
Beginners Guide to TikTok for Search - Rachel Pearson - We are Tilt __ Bright...
 

Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru

  • 1. Mwynhau’r Manteision Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru
  • 2. Crynodeb Gweithredol Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried bod gan ynni adnewyddadwy rôl bwysig mewn datblygu economaidd. Fodd bynnag, mae llawer o fanteision eraill y mae’r diwydiant yn ei roi i gymunedau lleol ledled Cymru sydd efallai heb eu cydnabod na’u deall cystal. Bydd llawer o weithredwyr ynni adnewyddadwy yn cyfranogi mewn llwyddiant cymunedau lleol, o ran amser a thrwy gyfraniadau gwirfoddol i ‘achosion da’ lleol drwy amrywiaeth o wahanol gynlluniau. Fodd bynnag, nid yw nifer na ffurf cynlluniau o’r fath sydd ar waith yng Nghymru yn wybyddus. Bydd cronfeydd a chynlluniau budd cymunedol (a adwaenir o hyn ymlaen fel CBC) i’w gweld yn nodweddiadol ar ffurf taliad blynyddol swm sy’n gysylltiedig â gallu’r fferm wynt gan y datblygwr. Fe’u bwriedir fel arfer i’w defnyddio ar gyfer prosiectau lleol a fydd o fudd cymdeithasol, megis cadwraeth amgylcheddol neu adfywiad cymdeithasol. Ar wahân i ddim ond rhoi grantiau ar gyfer defnydd lleol, mae cronfeydd budd cymunedol yn rhoi cyfle i gymunedau lleol chwarae mwy o ran mewn diwallu eu hanghenion eu hunain mewn modd sy’n rhoi manteision hirdymor a chynaliadwy. Yn benodol, mae’r adroddiad hwn yn archwilio dimensiynau lleol y CBC ar y sector ynni gwynt ar y tir - fodd bynnag, mae ynni gwynt ar y môr hefyd yn rhoi lefel uchel o gefnogaeth gymunedol, a bydd ein hargymhellion hefyd yn berthnasol i brosiectau ynni gwynt ar y môr i raddau helaeth. Ei nod yw dangos y ffordd gyfrifol y mae perchnogion ffermydd gwynt ar y tir yn gweithredu, a sut mae cynaliadwyedd yr ynni a gynhyrchant yn mynd law yn llaw â chynaliadwyedd y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar ddimensiynau lleol datblygu ynni gwynt, ac yn fwy penodol mae’n ceisio archwilio darpariaeth budd cymunedol ehangach sy’n cefnogi cynaliadwyedd hirdymor ar y raddfa leol yn ogystal â byd-eang. Mae’r ystod o fanteision posibl yn cynnwys buddrannau economaidd drwy berchnogaeth cyfranddaliadau lleol, cronfeydd budd cymunedol, cyfraniad i’r seilwaith cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol ar gyfer yr ardal, neu filiau ynni is ar gyfer trigolion lleol.
  • 3. Ers i’r ffermydd gwynt masnachol cyntaf gael eu comisiynu yng Nghymru aethpwyd i’r afael â mater ‘budd cymunedol’ mewn modd ad hoc. Ni fu fawr ddim ymchwil systematig i’w nifer na’u cwmpas, nac i’r dibenion a wneir o’r manteision hyn. Ar yr un pryd cafwyd esblygiad cyflym o ran maint a ffurf y budd cymunedol a ddarperir gan ddatblygiadau ffermydd gwynt. Mewn ymateb mae Llywodraeth Cymru yn ceisio llywio a gwella’r broses o drafod a chyflawni budd cymunedol. Mae llawer o brosiectau gwynt yng Nghymru eisoes yn rhoi budd cymunedol sy’n dod o dan ddiffiniad datblygu cynaliadwy, ond mae bylchau yn ein gwybodaeth ynglŷn â’u niferoedd, eu graddfa a’u cwmpas. Wrth i ffermydd gwynt gynyddu mewn nifer a maint, mae CBC yn dod yn fwy cyffredin. Felly gall ymchwil pellach i’r cronfeydd presennol fod yn werthfawr o gofio defnydd cynyddol y model hwn. Dim ond ystyried ffermydd gwynt ar y tir sy’n weithredol ar hyn o bryd a wna’r astudiaeth hon, ac nid y rhai hynny sy’n ymwneud â phrosiectau sydd yn y system gynllunio, sydd wedi derbyn caniatâd cynllunio neu sydd yn cael eu codi nawr. Gwelodd yr astudiaeth bod ystod eang o CBC yn gweithredu yng Nghymru sy’n cyfrannu’n gadarnhaol iawn i gymunedau lleol. Yn arbennig, dangosodd y data: • Bod tua phedair o bob pump fferm wynt sy’n gweithredu yng Nghymru eisoes yn cyfrannu i’w cymunedau lleol mewn modd strwythuredig; • Bod llawer o endidau gwahanol yn manteisio o gyfraniadau ffermydd gwynt; • Mae CBC yng Nghymru wedi eu gweinyddu yn bennaf drwy ymddiriedolaeth leoledig (neu gyrff tebyg), neu gynghorau cymuned; • Y math mwyaf cyffredin o daliad gan weithredwr fferm wynt yw symiau penodedig, yn cael eu dilyn gan swm a gyfrifir yn ôl megawatt (MW) a osodwyd; ac • O blith 55% o ymatebwyr ledled Cymru, daeth y symiau a dalwyd i CBC neu eu tebyg yn 2011 i gyfanswm o £623, 853.30. Mae achos cryf, yn seiliedig ar dryloywder, agoredrwydd a’r gallu i ddysgu gan arfer da, am gofrestr megis Cofrestr Llywodraeth yr Alban ar Fudd Cymunedol o Ynni Adnewyddadwy, fel y caiff ei weinyddu gan Ynni Cymunedol yr Alban. Fel y cyfryw, rydym o’r farn y dylai’r argymhellion canlynol gael eu mabwysiadu gan Lywodraeth Cymru:
  • 4. • Mae angen i Lywodraeth Cymru ddarparu ariannu er mwyn creu cofrestr CBC ar gyfer ffermydd gwynt ‘byw’ neu ffermydd gwynt cymeradwyedig, sy’n hawdd ei gyrchu’n gyhoeddus; • Yn ogystal, dylai Llywodraeth Cymru ddarparu ariannu i hwyluso creu cofrestr CBC ar gyfer cynigion sydd newydd eu cyflwyno; • Dylai CBC sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y diwydiant a’r cymunedau ac y cânt eu rheoli mewn modd ‘craff’, a dylai Llywodraeth Cymru glustnodi ariannu i Ynni Cymunedol Cymru (neu gorff tebyg) i gefnogi cymunedau i ddatblygu’r CBC gorau ar gyfer eu hanghenion penodol; • Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gall taliadau CBC fod yn fwyaf effeithiol dros gyfnod bywyd prosiect, o gofio ffenomen gynyddol perchnogaeth prosiectau sy’n cael eu trosglwyddo i gyfryngau megis cronfeydd mantoli, cronfeydd ecwiti preifat, ac ati. Mae’n bwysig nodi y cafodd gwybodaeth fanwl ar gyfer yr astudiaeth hon ei darparu gan swmp aelodaeth RenewableUK Cymru tra bod y rhai heb fod yn rhan o’r sefydliad ar lefel aelodaeth (yn arbennig sefydliadau ariannol) yn llai tebygol o ymateb. Mae’r astudiaeth hefyd yn cynnwys cofrestr o gronfeydd budd cymunedol ffermydd gwynt yng Nghymru, yn rhestru gwerth y cronfeydd a threfniadau gweinyddol.
  • 5. Rhestr Cynnwys Rhagair 5 Rhagymadrodd 6 Methodoleg 8 Strwythur yr Adroddiad 11 Cynnwys 12 Canfyddiadau 17 Endidau a gyflogir i weinyddu’r CBC 21 Dulliau Cyfrannu 25 Cofrestr CBC ffermydd gwynt yng Nghymru 29 Sylwadau ychwanegol 33 Casgliadau ac Argymhellion 35 Atodiad 1 39 Adroddiad a gynhyrchwyd gan Connections Cyfalaf ar gyfer RenewableUK
  • 6. Rhagair Yn 2012 gwelwyd Cymru sy’n dair rhan; y de lle rhoddwyd cymeradwyaeth i un o ffermydd gwynt mwyaf y DU, a lle mae cwmnïau lleol yn disgwyl eu tro i gefnogi’r datblygiad a’r gwaith gosod; canolbarth Cymru sy’n drwm dan bryder lleol am y grid a thrafnidiaeth, a lle mae economïau lleol yn cloffi wrth i swyddi, sgiliau a phobl ifanc ddiflannu o drefi marchnad a chymunedau gwledig; a’r gogledd, lle mae ffermydd gwynt ar y môr yn adfywio porthladdoedd a chymunedau arfordirol. Mae’r disgrifiad hwn yn orsymleiddiad dybryd ond y mae’n dangos rhai gwahaniaethau allweddol, a hefyd yn amlygu bod adnoddau naturiol Cymru wedi cyflwyno cyfle anferth i rai o’n cymunedau, na fanteisir arno ar hyn bryd. Mae budd cymunedol yn bwysig, er dylem gofio ei fod yn un o nifer o resymau pam y mae'r amgylchedd, yr economi a chymdeithas yn elwa o wynt ar y tir. Mae’r adroddiad hwn yn rhan allweddol o’r jig-so cyffredinol o wybodaeth, yn amlygu'r gefnogaeth ariannol ychwanegol a roddir i gymunedau yn, ac o amgylch llawer o’n safleoedd gwynt yng Nghymru. Amcangyfrifir yn geidwadol bod y gwerth cyfan a dalwyd i Gronfeydd Budd Cymunedol (neu gyfatebol) yn ystod 2011 yn rhagor na £620,000, swm y mae disgwyl iddo godi’n sylweddol wrth i ragor o ffermydd gwynt ddechrau cynhyrchu ac wrth i natur mynegrifol llawer o’r cronfeydd esblygu. Fel diwydiant, fel cymdeithas sifil, ac fel gwlad mae angen i ni archwilio sut y defnyddiwn y cronfeydd hyn, ac a oes rhagor y gellir ei wneud. Mae gennym gyfle unwaith ac am byth i adfywio, i ysgogi ac i gefnogi cymunedau a busnesau yn strategol mewn rhannau o Gymru sydd hyd yn hyn wedi bod yn anodd eu cyrraedd. Gobeithiaf y gall hwn fod yn bwynt pwysig arall yn y broses barhaus sy’n rhoi’r budd mwyaf i rannau o Gymru sydd â’r angen mwyaf. Dr David Clubb Cyfarwyddwr, RenewableUK Cymru
  • 7. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru Rhagymadrodd DIBEN YR ADRODDIAD Mae’r diwydiant ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn chwarae rhan hollbwysig yn ein heconomi ac o bosibl ein sicrwydd ynni. Fodd bynnag, mae’r cyfraniad hwn yn ymestyn y tu hwnt i fudd economaidd uniongyrchol y busnes. Mae’n aml yn cefnogi ystod eang o brosiectau a phartneriaethau i adeiladau cymunedau cryfach a mwy cynaliadwy. Aeth RenewableUK Cymru ati i ddarganfod ehangder a natur cronfeydd budd cymunedol ffermydd gwynt yng Nghymru, y gallai gwaith pellach o bosibl gael ei wneud arno i werthuso sut y gall cronfeydd o’r fath gyfrannu at ddatblygu lleol ac ymchwilio ffactorau sy’n cynorthwyo neu’n cyfyngu ar eu defnydd ystyrlon. Amcan trosfwaol yr astudiaeth oedd penderfynu ar gyfran y ffermydd gwynt yng Nghymru sydd â chronfeydd budd cymunedol, ac yn fwy penodol: • Darganfod ehangder a natur cronfeydd budd cymunedol ffermydd gwynt yng Nghymru; • Creu cofrestr o gronfeydd budd cymunedol ffermydd gwynt yng Nghymru, gan nodi gwerth y gronfa a’r trefniadau gweinyddol; a • Gwneud cyfres o argymhellion polisi ynglŷn â’u gweithrediad ar lefel Cymru gyfan. Cyfyngwyd yr astudiaeth i CBC a ddarparwyd gan ddatblygwyr ffermydd gwynt masnachol ar y tir a gysylltwyd i’r grid, oedd yn weithredol ym mis Mehefin 2012, ac yn cael eu gweinyddu gan gymunedau neu drydydd parti a benodwyd ar eu rhan. Mae’n amlinellu cyfraniadau blynyddol nodweddiadol yn 6
  • 8. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru ôl y megawatt o allu a osodwyd, sy’n ein galluogi ni i amcangyfrif swm y cyfraniadau ariannol a dalwyd gan y diwydiant i gymunedau lleol ledled Cymru. Mae’r astudiaeth hon yn caniatáu i ni hefyd i ganfod y math mwyaf cyffredin o gorff rheoli cronfa, boed eu bod yn Gynghorau Cymuned, Ymddiriedolaethau Cymunedol, Cwmnïau Cyfyngedig trwy Warant, trydydd parti, neu Awdurdod Lleol, gweinyddiaeth ac, yn ei dro, edrych ar ddetholiad o astudiaethau achos sydd â rhwymedigaethau ar gyfer gweinyddu CBC. Amlinella rhan derfynol yr adroddiad hwn y rhwymedigaethau i weithredwyr CBC a gwneuthurwyr polisi - yn enwedig sut y gall y diwydiant gynnwys polisïau llywodraeth datganoledig yn y gwaith o greu a gweithredu cynlluniau. 7
  • 9. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru Methodoleg O gofio’r data cyfyngedig ar fudd cymunedol ffermydd gwynt, ein bwriad oedd creu cofrestr gynhwysfawr o CBC yng Nghymru gan ddefnyddio'r fethodoleg ganlynol. Yn gyntaf, cynhaliwyd ymchwil desg cychwynnol i benderfynu pa gyfran o ffermydd gwynt yng Nghymru sydd â CBC, a chreu cofrestr o’r cronfeydd hyn. Lluniwyd rhestr o’r holl ffermydd gwynt ar y tir sy’n weithredol yng Nghymru (gweithredol ym mis Mehefin 2012) a chawsom enw’r datblygiad, nifer y tyrbinau, cynnyrch megawatt, y datblygwr a’r perchennog. Fferm Wynt Tyrbinau MW Datblygwr Perchennog Alltwalis 10 23 Catamount/Force 9 Statkraft BDCR II 1 0.5 Ynni Adnewyddadwy Bro Dyfi Blaen Bowi 3 3.9 Windjen Power Cyf Windjen Power Cyf Fferm Braich Ddu 3 3.9 REG WINDPOWER Bryn Titli 22 9.9 RWE Npower Renewables Beaufort Wind Limited Carno 'A' a 'B' 56 33.6 RWE Npower Renewables Beaufort Wind Limited Carno estyniad (Carno 2) 12 15.6 Amegni Amegni Fferm Castle Pill - ail-bweru 4 3.2 Infinergy Cefn Croes (yn cynnwys Pontarfynach) 39 58.5 RDC Falck Renewables Cemmaes 18 15.3 First Windfarm Holdings Cyf First Wind Farm Holdings Dyffryn Brodyn 11 5.5 New World Power RES Ferndale 8 6.4 Infinergy Infinergy Ffynnon Oer 16 32 RWE Npower Renewables RWE Npower Renewables G24I 1 2.3 Ecotricity Ecotricity Hafoty Ucha 1 1 0.6 Tegni Tegni Hafoty Ucha 2 estyniad 2 1.7 Tegni Tegni Hafoty Ucha 3 estyniad 1 0.85 Tegni Llandinam P & L 103 30.9 Scottish Power/Eurus Energy ScottishPower/Eurus Energy Llangwyryfon ail-bweru 11 9.35 First Windfarm Holdings Cyf First Wind Farm Holdings Llyn Alaw 34 20.4 RWE Npower Renewables Beaufort Wind Cyf Maesgwyn 13 26 Pennant Walters Mawla (Moel Maelogen) 3 3.9 Energiekontor Co WP Mombkg UK branch Moel Maelogen estyniad 9 11.7 Ail Wynt Cyf Monier Redland Plant 1 0.5 Infinite Energy Mynydd Clogau 17 14.45 Novera Infinis Mynydd Gorddu 19 10.2 Amgen Beaufort Wind Limited Parc Cynog 5 3.6 Nuon Renewables Nuon Renewables Pendine (Parc Cynog Estyniad I) 6 4.8 Nuon Renewables Nuon Renewables 8
  • 10. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru Rheidol 8 2.4 E.ON UK Renewables Infinis Rhyd-y-Groes 24 7.2 Cyd-fenter EcoGen, Seawest & Tomen E.on Renewables Solutia UK Cyf 2 5 Wind Direct Wind Direct Cyf Dociau Abertawe 1 0.25 EnergyTech Partneriaeth Ynni Bae Abertawe Cyf Taf Elai 20 9 Perma Energy RWE Npower Renewables Canolfan Ddosbarthu Tesco 2 1.6 TNEI Tir Mostyn a Foel Goch 25 21.25 Windjen Power Cyf HG Capital Trysglwyn 14 5.6 RWE Npower Renewables Beaufort Wind Limited Wern Ddu (Craig Lelo) 4 9.2 Tegni Triodos Renewables Yna nodwyd manylion cyswllt ar gyfer pob un o’r datblygwyr/gweithredwyr a gofynnwyd am y wybodaeth sylfaenol ganlynol: ๏ Enw’r cwmni ๏ Enw’r fferm wynt (ffermydd gwynt) a weithredir ๏ Cod(au) post y fferm wynt (ffermydd gwynt) a weithredir ๏ Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) a weithredir ๏ Yn fras, oed y datblygiad(au) fferm wynt a weithredir ๏ Enw a swydd yr ymatebwr ❖ Gwerth y budd cymunedol (os o gwbl) ❖ Sut caiff y gronfa ei gweinyddu ❖ Rheolau ar gyfer defnydd y gronfa ❖ Cwestiwn agored er mwyn ysgogi sylwadau pellach ar naill ai eu trefniadau CBC eu hunain neu CBC yn gyffredinol. Y cwestiynau a ofynnwyd oedd: • A yw eich cwmni yn cyfrannu i Gynllun neu Gronfa Budd Cymunedol? (os mai “Na” oedd yr ateb, ni ofynnwyd rhagor o gwestiynau) • I ba endid yr ydych yn cyfrannu i’r Cynllun neu Gronfa Budd Cymunedol (h.y. enw’r Cynllun neu Gronfa a phwy sy’n gweinyddu)? • Beth yw strwythur rheoli'r Cynllun neu Gronfa Budd Cymunedol i ba un yr ydych yn cyfrannu (e.e. ymddiriedolaeth gymunedol, cwmni cydweithredol, neu endid a gynhelir gan Awdurdod Lleol)? • Beth yw swm y cyfraniad a wnewch i Gynllun neu Gronfa Budd Cymunedol (e.e. taliad yn ôl gallu MW, neu yn ôl MW a gynhyrchir, neu mewn modd arall, er enghraifft, budd ‘mewn nwyddau’)? 9
  • 11. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru • Ar gyfer pa weithgareddau y defnyddir arian y Cynllun neu Gronfa Budd Cymunedol (e.e. prosiectau cymunedol, noddi digwyddiadau cymunedol neu dimau chwaraeon ac ati)? • A oes gennych unrhyw sylwadau pellach am eich ymgysylltiad â’r Cynlluniau neu Gronfeydd Budd Cymunedol (e.e. a ydych chi’n credu eu bod yn gweithio’n dda neu a ydych yn credu bod ffyrdd eraill y gallai ariannu o’r fath gael ei ddyrannu’n well)? Cynlluniwyd y cwestiynau i gasglu data meintiol oedd yn caniatáu dadansoddiad categorïaidd. Cynhwyswyd y cwestiwn agored ar y diwedd i gasglu data ansoddol, cyfoethocach. Yna adroddwyd ar y data categorïaidd meintiol fel canrannau ar gyfer cymhariaeth haws. Rhoddwyd dadansoddiad cynnwys byr i’r data ansoddol gan gategoreiddio’r pwyntiau sylweddol fel y gallai’r data gael ei gyflwyno’n feintiol, ynghyd a dyfyniadau o ddatganiadau cynrychioliadol. MATERION A CHYFYNGIADAU Roeddem yn cydnabod y gallai natur sensitif y data gyfyngu'r ymatebion, felly cysylltwyd â’r bobl a ymchwiliwyd ymlaen llaw gan eu sicrhau bod natur y data yn cael ei werthfawrogi ac y byddai’n cael ei drin yn sensitif ac yn adeiladol. Roedd cynnwys astudiaethau achos yn cynnig mewnwelediadau dyfnach, fel y gwnaeth casglu sylwadau'r gweithredwyr. Gallai materion yn codi o’r astudiaethau achos hyn a’r sylwadau roi’r sail ar gyfer ymchwiliadau pellach yn y maes hwn. Y gobaith yw y bydd hwn hefyd yn cyfrannu at feddylfryd ehangach am y modd y gallai Cronfeydd Budd Cymunedol yng Nghymru gael eu datblygu ymhellach. 10
  • 12. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru Strwythur yr Adroddiad Yng ngweddill yr adroddiad hwn rydym yn: • Amlinellu’r cyd-destun ar gyfer yr astudiaeth; • Cyflwyno ein canfyddiadau; a • Rhoi ein casgliadau a gwneud rhai argymhellion ar gyfer y diwydiant a gwneuthurwyr polisi. 11
  • 13. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru Cyd-destun Gosodir yr adroddiad yn erbyn cefndir o ddarnau mawr diweddar o ddeddfwriaeth (a deddfwriaeth arfaethedig) Llywodraeth Cymru a chynnal yr Adolygiad Bandio o ran Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd. Mae gan raglen Newid Carbon Isel Llywodraeth Cymru, a lansiwyd ym mis Mawrth 2012, nod cyffredinol o sicrhau bod buddsoddiad yn creu swyddi, gan gynorthwyo busnesau i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd, a sicrhau bod cymunedau yn elwa o ddatblygiadau ynni drwy sicrhau mai Cymru yw’r ‘gorau yn y dosbarth’. “[Byddwn yn] gweithredu er mwyn sicrhau bod cymunedau yn elwa o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy ac ymdrechu i ddangos esiampl” - Ynni Cymru: Newid Carbon Isel (Mawrth 2012). “Mae Cymru, fel gweddill y byd, yn gweithio’n galed i wneud y symudiad hwn i ynni cynaliadwy carbon isel. Mae’n hollbwysig ein bod yn gwneud hyn mewn modd sy’n sensitif i anghenion ein cymunedau, yn creu swyddi cynaliadwy lleol ac yn cefnogi economi ehangach Cymru,” John Griffiths Gweinidog dros yr Amgylchedd1. Ym mis Gorffennaf 2011 mynegodd Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru 2012-16 ei bwriad i gyflwyno Mesur Datblygu Cynaliadwy i gryfhau cyfeiriad ‘Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned’ a newid yr ymrwymiad hwn i fod yn ddyletswydd gyfreithiol. Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Mae cynaliadwyedd yn ymwneud â diffinio'r llwybr datblygu hirdymor ar gyfer ein cenedl. Golyga bobl iach gynhyrchiol; cymunedau byw, cynhwysol; amgylchedd amrywiol a gwydn ac economi ddatblygedig a blaengar.”2 Yn ogystal, cydnabu Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd, a gyflwynwyd ym mis Hydref 2010, bwysigrwydd datblygu economaidd mewn mynd i’r afael â newid hinsawdd: “Rydym am sicrhau bod Cymru yn y sefyllfa orau bosibl nid dim ond i greu swyddi newydd a chyfleoedd y gadwyn gyflenwi, ond i fanteisio ar y potensial i allforio ynni, arbenigedd, nwyddau a 1 http://wales.gov.uk/newsroom/firstminister/2012/120314energyvision/?lang=en 2 http://wales.gov.uk/topics/sustainabledevelopment/sdbill/?lang=en 12
  • 14. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru gwasanaethau i genhedloedd eraill sy’n awyddus i newid i economi carbon isel.”3 Ar ddiwedd mis Gorffennaf 2012 cyhoeddwyd yr Adolygiad Bandio o ran Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy gan Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd 4, sy’n gosod prif fecanwaith y Llywodraeth ar gyfer cefnogi ynni adnewyddadwy graddfa fawr ar gyfer y cyfnod 2013-17. Mae’r Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth y DU i gynyddu defnydd ynni adnewyddadwy er mwyn gwneud y DU yn fwy ynni sicr, cynorthwyo i ddiogelu defnyddwyr rhag ansefydlogrwydd prisiau tanwydd ffosil, hybu buddsoddiad mewn swyddi a busnesau newydd yn y sector ynni adnewyddadwy, yn ogystal â chadw’r DU ar y llwybr i fodloni ei amcanion lleihau carbon ar gyfer y degawdau sydd i ddod (mae’r DU wedi ymrwymo i gynhyrchu 15% o’n hynni o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2020). Ar hyn o bryd y Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy yw’r prif fecanwaith ariannol drwy ba un y mae’r Llywodraeth yn rhoi cymhelliant i wneud defnydd o gynhyrchu trydan ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr. Rhoddir cefnogaeth am 20 mlynedd, sy’n cydbwyso’r angen i roi sicrwydd hirdymor i fuddsoddwyr gyda’r angen i gadw costau i ddefnyddwyr mor isel â phosibl. Caiff lefel y gefnogaeth ar gyfer gwynt ar y tir ar gyfer cyfnod yr Adolygiad Bandio ei leihau i Dystysgrifau Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy 0.9, a warantir tan fis Mawrth 2014. Fodd bynnag, mae’r Llywodraeth wedi gwneud cais am dystiolaeth, a ddechreuwyd ym mis Medi 2012 ac yn adrodd yn gynnar yn 2013, a fydd yn ail-asesu costau’r diwydiant gwynt ar y tir. Os bydd canfyddiadau’r cais am dystiolaeth yn nodi newid sylweddol mewn costau cynhyrchu, bydd y Llywodraeth yn dechrau adolygiad ar unwaith o lefelau Tystysgrifau Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy gwynt ar y tir, gydag unrhyw drefniadau cefnogi newydd ar gyfer gwynt ar y tir yn gweithredu o fis Ebrill 2014. Fel rhan o’r cais am dystiolaeth, byddant yn archwilio sut y gall cymunedau gael mwy o lais mewn, a derbyn rhagor o fudd economaidd o, gynnal ffermydd gwynt ar y tir. Mae’r Adolygiad Bandio wedi dechrau canolbwyntio’r ddadl ar lefelau ariannol cyllido budd cymunedol. Er bod gwerth y taliadau yn sicr yn sylweddol 3 http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/climatechange/publications/strategy/? lang=en 4 http://www.decc.gov.uk/en/content/cms/news/wms_ro_lm/wms_ro_lm.aspx 13
  • 15. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru (dyfynna Regeneris, yr ymgynghorwyr ynni adnewyddadwy, bod rhai datblygwyr yn cynnig swm sy’n gyfwerth â £5 miliwn dros fywyd cynllun 50MW5 ), mae diffyg eglurder cyffredinol yn parhau ynglŷn â’r diben a’r defnydd mwyaf effeithiol o’r taliadau. Mae CBC yn ddull unigryw o ddatblygu ystod o fanteision ychwanegol i gymunedau lleol. Mae Sefydliad Joseph Rowntree yn dyfynnu ystod o resymau am eu canlyniadau cadarnhaol, yn cynnwys rhannu manteision datblygiadau gyda chymunedau sy’n eu cynnal, mynd i’r afael â chyfiawnder cymdeithasol gan gysylltu adnoddau lleol wrth economïau lleol, a sicrhau cefnogaeth cymunedau lleol 6. Mae protocol budd cymunedol RenewableUK ar gyfer Lloegr yn cynnig isafswm taliad o £1,000 am bob MW o allu gosodedig, wedi ei fynegrifo i’r Mynegai Prisiau Manwerthu (ar gyfer cynlluniau dros 5MW). Bwriad gosod yr isafswm ffigwr hwn oedd cynorthwyo i sicrhau bod datblygwyr llai ddim o dan anfantais o gofio’r wasgfa sy’n cael ei rhoi ar gostau gwynt ar y tir a pherygl gostyngiadau pellach i lefelau Tystysgrifau Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy a FIT. Fodd bynnag, gall datblygwyr gynnig symiau mwy sylweddol na’r isafswm ac mewn gwirionedd mae gwerth y budd dros y blynyddoedd diwethaf wedi cynyddu’n sylweddol gyda £5,000 am bob MW yn aml yn cael ei gynnig ar gynlluniau gan ddatblygwyr a gweithredwyr sydd â diddordeb brwd mewn llwyddiant cymunedau lleol, sydd mewn sawl achos yn gyfwerth â rhwng 6-7% o’u costau datblygu. Fel cymhariaeth mae’n werth nodi bod John Lewis - a berchir fel enghraifft dda o Fudd Cymunedol - yn cyfrannu tua 0.25% o’i drosiant i gynlluniau o’r fath7. Yn erbyn y cefndir hwn mae posibilrwydd bod angen rhagor o wybodaeth ar ddatblygwyr, ac yn wir cymunedau, fel y gallant edrych ar ystod o ffyrdd drwy ba rai y gall budd cymunedol gael ei drafod, ei weinyddu a’i ddosbarthu gan wneud yr holl bartïon yn fwy abl i ddatblygu'r fframwaith gorau posibl ar gyfer prosiectau newydd ledled Cymru, ynghyd â sylweddoliad gan wneuthurwyr 5 http://regeneris.co.uk/latest/blog/entry/money-on-the-wind-the-future-of-wind-farm- community-benefits 6 http://www.jrf.org.uk/publications/wind-energy-disadvantaged-communities 7 http://www.johnlewispartnership.co.uk/content/dam/cws/pdfs/financials/interim%20reports/ john_lewis_partnership_interim_report_2012.pdf 14
  • 16. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru polisi, Awdurdodau Lleol a chymunedau lleol o’r cyfyngiadau ariannol y mae datblygwyr yn eu hwynebu o gofio cost rhoi’r cynlluniau ar waith. Nod yr adroddiad hwn yw gwella gwybodaeth am fudd cymunedol yng Nghymru. Er bod cymunedau, fel y nodwyd uchod, yn dod yn fwy ymwybodol o CBC a’u heffaith posibl, mae hefyd rôl bwysig i ddatblygiadau presennol lywio arfer gorau rhai'r dyfodol (yn cynnwys nodi ffactorau lleol a all, am resymau da, beri gwahaniaethau yng ngweithrediad gwahanol CBC). Mae’r ysbryd mwy agored hwn wedi, er enghraifft, cael ei amlygu fel cam pwysig gan Lywodraeth yr Alban 8, gan arwain at gyflwyno cronfa data ar gyfer taliadau yn yr Alban. O’r pwysigrwydd pennaf, fodd bynnag, mae'r angen am wybodaeth o ansawdd da am y modd y caiff budd cymunedol ei ddefnyddio a’i reoli a’r effaith mae’n ei gael ar gyfer cymunedau lleol. Mae angen i ddatblygwyr, cymunedau a rhanddeiliaid eraill ddysgu gan y dystiolaeth hon. Mae’n bwysig deall y modd y defnyddir adnoddau Cronfeydd Budd Cymunedol ac i ofyn cwestiynau ynglŷn ag a ellid eu dyrannu mewn modd mwy strategol. Hyd yn oed os yw llawer ohonynt yn ymateb i anghenion penodol a lleol iawn, efallai y gellir eu gwario’n well mewn cyd-destun economaidd gymdeithasol cyffredinol yn ôl y cymunedau a wasanaethir ganddynt (gweler y siart ar y dudalen nesaf) drwy, er enghraifft, ddefnyddio'r ariannu i ysgogi arian o ffrydiau ariannu eraill (e.e. Cronfa Gymdeithasol Ewrop, Llywodraeth Cymru ac ati). Efallai hefyd bod marciau cwestiwn ynghylch pa faint o ymwybyddiaeth sydd gan rai o’r cronfeydd eu hunain o gyfleoedd o’r fath, a allai o bosibl roi manteision mwy a mwy parhaol. 8 http://www.scotland.gov.uk/Topics/Business-Industry/Energy/Energy-sources/19185/ Communities 15
  • 17. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru 16
  • 18. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru Canfyddiadau Cyfanswm nifer yr ymatebion i’r astudiaeth oedd 21 allan o 37 posibl, a oedd yn cyfateb i gyfradd ymateb o 56%. O’r rhai hynny na wnaeth ymateb, mae llawer ar ben is y raddfa o ran cyfraniadau i Gronfeydd Budd Cymunedol er bod llawer o ffermydd gwynt mwy eu maint yn cael eu gweithredu gan, neu’n eiddo i, sefydliadau ariannol mawr (er enghraifft, cronfeydd mantoli neu gronfeydd ecwiti preifat) sy’n gwneud casglu gwybodaeth yn anodd. Mae’n bwysig cydnabod bod RenewableUK Cymru yn sefydliad sy’n cael ei arwain gan yr aelodau, sy’n adeiladau consensws ymhlith rhanddeiliaid ac yn codi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol. Fel y cyfryw mae gan y sefydliad enw da o fewn y diwydiant sy’n rhoi lefel mynediad pellgyrhaeddol i’r rhai hynny sy’n gweithredu prosiectau ynni adnewyddadwy o ddydd i ddydd. Darparwyd gwybodaeth fanwl gan y rhan fwyaf o’r aelodaeth, tra roedd y rhai hynny heb gysylltiad â RenewableUK ar lefel aelodaeth (h.y. sefydliadau ariannol) yn llai tebyg o ymateb. Gellir gweld rhestr lawn manylion yr ymatebwyr yn Atodiad 1. O’r rhai a wnaeth ymateb, dengys y tabl canlynol y math o ddatblygiad sy’n cyfranogi ac a yw’n cyfrannu i CBC: Enw’r fferm Gallu Oed y fferm Gweithredu wynt wynt cynllun CBC? Alltwalis 23MW 2 flynedd Ydy Wern Ddu 9.2MW 2 flynedd Ydy Hafoty Ucha 3.15 MW 8 mlynedd Ydy Vestas 575kW 9 mlynedd Ydy Nordtank 575kW 4 blynedd Ydy Carno II 15.6 MW 3 blynedd Ydy Llandinam 30MW 20 mlynedd Ydy Bryn Titli 9.9MW 18 mlynedd Ydy 17
  • 19. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru Carno 33.6MW 16 mlynedd Ydy Ffynnon Oer 33MW 6 mlynedd Ydy Llyn Alaw 20.4MW 15 mlynedd Ydy Maesgwyn 26MW 18 mis Ydy Mynydd Gorddu 10.2MW 14 mlynedd Ydy Trysglwyn 5.6MW 14 mlynedd Ydy Taf Elai 9MW 19 mlynedd Ydy Cefn Croes 58.5 MW 8 mlynedd Ydy Rhyd-Y-Groes 7.2MW 20 mlynedd Na Moel Moelogan 11.7MW 4 blynedd Ydy Castle Pill 3.2MW 3 blynedd Na Ferndale 6.4MW 2 flynedd Na Dyffryn Brodyn 5.5MW 18 mlynedd Na Fel y gallwn weld o’r tabl uchod mae’r mwyafrif llethol o’r datblygiadau ffermydd gwynt (80%) yn cyfrannu i CBC: Faint o ffermydd gwynt sy’n gweithredu Cronfa neu gynllun Budd Cymunedol? Na Ydy 20% 80% 18
  • 20. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru “Mae ein system yn gweithio’n eithaf da oherwydd, yn dechnegol, trefniant ‘perchnogaeth’ ydyw gyda rhannu elw yn hytrach na thaliad ‘budd’ gan ddatblygwr. Fodd bynnag, pwyllgor gwirfoddol ydym ac mae’n anodd rhedeg y busnes. Credwn y dylai fod mwy o berchnogaeth nag sydd ar hyn o bryd, ac y dylai pob datblygwr sefydlu mecanweithiau ar gyfer rhan berchnogaeth lleol fel y gall cymunedau ddod yn fuddiolwyr uniongyrchol a gwella eu profiad o gael ffermydd gwynt gerllaw. Rydym hefyd o’r farn y dylai cronfeydd budd gael eu targedu gan gymunedau ar fesurau gwytnwch ynni lleol a charbon isel / effeithlonrwydd ynni, ynghyd â gweithgareddau adfywio. Mae angen gwneud llawer iawn mwy o waith i feithrin ein hymwybyddiaeth ar gyfer newidiadau sylweddol i’n defnydd o ynni ac o lle y gallwn ei gael os ydym i roi ystyriaeth ddifrifol i fynd i’r afael â newid hinsawdd a gweithredu gydag argyhoeddiad.” Michael Phillips, Ynni Adnewyddadwy Cymunedol Bro Dyfi ASTUDIAETH ACHOS UN Cynllun Disgownt Trydan Lleol Mae Cynllun Disgownt Trydan Lleol (LEDS) 9 yn fenter RES newydd sy’n ceisio rhoi budd uniongyrchol a gwirioneddol i bobl sy’n byw ac yn gweithio agosaf at eu ffermydd gwynt arfaethedig. Caiff LEDS ei gynnig fel budd ychwanegol i Gronfeydd Budd Cymunedol, sydd yn ei safleoedd newydd yn darparu cyfraniad blynyddol o £2,000 y megawatt (MW) i gymunedau lleol. Cynigir bod cyfanswm taliadau LEDS am safle yn £3,000 y MW y flwyddyn. Os yw LEDS yn costio llai na £3,000 y MW y flwyddyn yna caiff y gwahaniaeth ei ychwanegu at y Gronfa Budd Cymunedol gan olygu cyfanswm budd cymunedol gwerth £5,000 y MW y flwyddyn. O dan y fenter LEDS a gynigir bydd yr eiddo preswyl, cymunedol a busnes hynny sydd agosaf at fferm wynt LEDS arfaethedig i gyd yn derbyn isafswm disgownt o £100 y flwyddyn ar eu biliau trydan, a gaiff ei dalu’n uniongyrchol i’w cyflenwr trydan. Mae’r isafswm hwn yn cynrychioli bron i chwarter bil trydan blynyddol cyfartalog yn y DU (£453 yn 2011 ar sail y ffigurau diweddaraf i gael eu rhyddhau gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd, 29 Mawrth 2012). Byddai taliadau yn dechrau unwaith y byddai’r fferm wynt yn dechrau gweithio. Bydd yr union ardal a nifer yr adeiladau sy’n gymwys ar gyfer cynllun LEDS yn amrywio o safle i safle, gan roi ystyriaeth i ffactorau megis nifer a gallu'r tyrbinau gwynt a gynigir a’r dwysedd tai o amgylch y fferm wynt. Cyfrifir y dalgylch ar gyfer cynllun LEDS RES drwy bellter llinell syth - y Pellter Gosodedig - o bob tyrbin gwynt (a osodir i ddechrau yn 3 cilomedr) a nodi'r holl ffiniau 9 http://www.thisissouthwales.co.uk/Windfarm-plan-brings-benefits/story-16745570-detail/ story.html 19
  • 21. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru daearyddol cod post (fel y’u diffinnir gan yr Arolwg Ordnans) gydag eiddo ar neu o fewn y Pellter Gosodedig hwn er mwyn creu'r Ardal Gymwys. Gall y Pellter Gosodedig gael ei gynyddu neu ei leihau i sicrhau bod yr eiddo sydd o fewn yr Ardal Gymwys derfynol yn derbyn disgownt sydd o leiaf yn £100 y flwyddyn. LEDS ym Mryn Llywelyn Cyflwynodd RES ei gynllun LEDS cyntaf ar ei safle arfaethedig ym Mryn Llywelyn, Sir Gaerfyrddin. Mae hyn yn dilyn ymgynghori cychwynnol gyda’r gymuned leol o amgylch safle Bryn Llywelyn a ddangosodd bod bron i 80% o’r ymatebwyr yn cefnogi’r syniad o drydan a ddisgowntir a bron i 85% â diddordeb mewn cyfranogi mewn cynllun o’r fath. Os bydd LEDS yn llwyddiannus ym Mryn Llywelyn rhagwelir y gallai gael ei lansio mewn ffermydd gwynt RES eraill a ddatblygir yn ddiweddarach yn 2012. Bydd LEDS ym Mryn Llywelyn yn darparu disgownt blynyddol ar gyfer biliau trydan adeiladau sy’n agos i fferm wynt arfaethedig RES, os daw’n weithredol. Mae’r cynllun yn agored i bob adeilad preswyl, masnachol a chymunedol (gan gynnwys ysgolion, eglwysi a neuaddau pentref) o fewn yr ardal sy’n gymwys sydd â mesurydd trydan. Caiff disgownt blynyddol gwerth £225 ei roi wrth fil trydan pob eiddo, wedi ei dalu’n uniongyrchol i’w cyflenwyr trydan, unwaith y bydd y fferm wynt ar waith. Yn ogystal, mae LEDS yn cynnig Cronfa Budd Cymunedol o bron i £100,000 y flwyddyn a fydd yn cefnogi grwpiau a mentrau lleol. Mae RES wedi ysgrifennu’n uniongyrchol at bob eiddo sy’n gymwys yn cynnig y cyfle iddynt gofrestru diddordeb mewn ymuno â’r cynllun disgownt. Ym Mryn Llywelyn mae’r disgownt ar gael i bob eiddo o fewn tair cilomedr a hanner i bob tyrbin gwynt arfaethedig. Bydd y disgownt ar gael i bob eiddo o fewn yr ardal sy’n gymwys, waeth beth fo barn y bobl am y fferm wynt a fwriedir. Fodd bynnag, caiff y disgownt dim ond ei weithredu os caiff y fferm wynt ei chymeradwyo a’i chodi. Bydd y disgownt blynyddol yn gymwys unwaith y bydd y fferm wynt yn llwyr weithredol, a allai gymryd rhwng dwy a phedair blynedd o roi’r caniatâd cynllunio. Caiff ei dalu dros fywyd llawn y tyrbinau neu am gyhyd ag y bydd pobl yn byw o fewn yr ardal gymwys. Mae sawl ffordd y gall trigolion gofrestru eu diddordeb yn LEDS ym Mryn Llywelyn a, thrwy ddefnyddio'r Cod Cyfeirnod Unigryw sydd mewn llythyr a anfonir at bob un, gallant naill ai gysylltu drwy’r post, ffon, e-bost neu ar-lein. Telir y disgownt yn ôl eiddo yn unig ac felly dim ond un person ym mhob eiddo sydd angen cofrestru. 20
  • 22. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru Endidau a gyflogir i weinyddu’r CBC Mae trafodaethau budd cymunedol yn aml yn deillio ar daliadau ariannol blynyddol i gymunedau drwy gydol bywyd cynllun ynni adnewyddadwy. Mae hyn yn cynnig cyfle sylweddol i gymuned gynllunio ar gyfer, a datblygu mentrau cymunedol a allai fod o fudd hirdymor, parhaol. Mae hefyd yn codi nifer o ystyriaethau sydd angen mynd i’r afael â hwy: • Sefydlu gweledigaeth ar gyfer y gronfa a chynnwys y gymuned gyfan mewn gwneud penderfyniadau: Sut y bydd holl sectorau’r gymuned yn cael y cyfle i benderfynu ar y ffordd y caiff cronfeydd budd cymunedol eu defnyddio a’u rheoli? Mae angen i rai elfennau allweddol o ddibenion, trefn a gweithrediad y gronfa fod yn dderbyniol i’r gymuned yn gyffredinol a dylid penderfynu hyn drwy ymgynghoriad cymunedol priodol. • Dewis endid cyfreithiol - h.y. pwy yn hollol sy’n derbyn y taliad? Ai'r Cyngor Cymuned, Ymddiriedolaeth, Fforwm, cwmni neu grŵp llywio lleol? A ddylai fod yn endid cyfreithiol penodol, wedi ei sefydlu i dderbyn taliad a gweithredu'r cyfrifoldeb sy’n perthyn i fod yn berchen ar gronfeydd, ac os felly, pa fath o endid cyfreithiol ddylai fod? • Rheoli cronfeydd budd cymunedol - h.y. beth sy’n digwydd i’r arian pan gaiff ei dderbyn? Beth a wna’r endid hwn â’r arian? Beth yw ei amcanion? A ddylai’r amcanion fod yn gwbl elusennol eu natur? Beth yw’r goblygiadau o ran treth? A ellir osgoi treth? 21
  • 23. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru Yn gyffredinol, mae tua 34 endid yn elwa o gyfraniadau’r ymatebwyr: Sefydliadau/Ymddiriedolaethau/Fforymau Cynghorau Tref/Cymuned Prosiectau Cymunedol Lleol (uniongyrchol) Cyfraniadau Unwaith yn unig Elusennau Mentrau Cymdeithasol Cwmnïau Preifat Awdurdod Lleol 15 10 5 0 Endidau O’r diagram uchod gellir gweld mai endidau megis sefydliadau ac ymddiriedolaethau - ar y cyd â chynghorau tref a chynghorau cymuned - yw’r cyfryngau o ddewis ar gyfer CBC. Mantais ymddiriedolaethau a sefydliadau yw y gellir eu sefydlu i fod yn sefydliadau a arweinir gan y gymuned, yn aml wedi eu rheoli gan fwrdd o ymddiriedolwyr neu grŵp llywio ac maent yn agored o ran eu gweinyddu, a gallant ymgorffori arsylwyr o awdurdodau lleol a gweithredwyr ffermydd gwynt. Fel arfer maent yn darparu rhyw gymaint o fudd economaidd, amgylcheddol, addysgol, cymdeithasol neu ddiwylliannol i bobl sy’n byw yn yr ardal. Mae dau brif fodel ar gyfer Endid Cyfreithiol cysylltiedig â Chyngor Tref neu Gyngor Cymuned sydd yn cael eu hystyried yn fwyaf cyffredin ar gyfer gweinyddu cronfeydd budd cymunedol: • Cwmni wedi ei ymgorffori o dan y Ddeddf Cwmnïau gydag atebolrwydd cyfyngedig, lle mae’r cyfyngiad o ran atebolrwydd trwy Warant, a lle mae Aelodau’r Cwmni bob un yn ymgymryd i dalu ar ddyddiad penodol, neu ar adeg digwyddiad penodol (fel arfer dirwyn y Cwmni i ben), swm i fyny hyd at swm penodedig (fel arfer £1) fel gall fod ei angen i setlo unrhyw ddyledion sydd heb eu talu gan y cwmni. Bydd Cwmnïau Gwarant o’r fath yn aml, ond nid bob tro, yn cael eu defnyddio ar gyfer dibenion elusennol. 22
  • 24. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru • Ymddiriedolaeth Gymunedol Leol a sefydlir gan y gymuned leol i’r diben o dderbyn, gweinyddu a dyrannu cronfeydd ar ran y gymuned drwy ymddiriedolwyr a benodwyd gan y gymuned. Gall dryswch godi weithiau gan y cyfeirir at y ddau fodel fel “ymddiriedolaethau”, er mai dim ond yr ail fodel sy’n ymddiriedolaeth mewn ystyr cyfreithiol. Er bod iddo statws cyfreithiol ar wahân i Ymddiriedolaeth, bydd cymunedau sy’n mabwysiadu'r model Cwmni Cyfyngedig trwy Warant yn aml yn enwi'r sefydliad yn “Ymddiriedolaeth Cymunedol [Lleol]” - sy’n egluro’r dryswch. Sianelau cyfrannu nodedig eraill yw cynllun Ynni Adnewyddadwy Cymunedol Bro Dyfi (cwmni ynni cymunedol cydweithredol a gofrestrwyd o dan y Deddfau Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus) drwy ddifidend rhannu llog a chyfraniad yn y drefn honno (gan weithredwr y Datblygiad BDCR II); cyfraniadau a wneir yn ôl disgresiwn y gweithredwr (fel ag yn achos Hafoty Ucha); a thrwy elusen rhoi grantiau proffesiynol (h.y. datblygiad Taf Elai sy’n gwneud cyfraniadau drwy Sefydliad Cymunedol yng Nghymru). ““Caiff cronfeydd eu cymhwyso er budd trigolion y cymunedau. Dylai’r cronfeydd anelu at hyrwyddo ysbryd cymunedol a dod â phobl at ei gilydd; gwella ansawdd bywyd a hyrwyddo lles pobl; a meithrin cymunedau bywiog, cynaliadwy. Ni ddylai’r cronfeydd gael eu defnyddio at ddibenion gwleidyddol, crefyddol, adloniant na lletygarwch, nac ar gyfer unrhyw ddiben sy’n niweidiol i fudd gweithredwr y fferm wynt. Rydym yn awyddus bod y cronfeydd yn cael eu defnyddio i sicrhau grantiau a chronfeydd eraill ar batrwm ariannu cyfatebol, gan ganiatáu i’r gymuned sicrhau'r budd mwyaf o gyfraniadau ffermydd gwynt.” Monika Paplaczyk, Triodos Renewables (Wern Ddu) Cyf ASTUDIAETH ACHOS DAU Windfall Mae Windfall (a elwir yn swyddogol yn Ymddiriedolaeth Ynni Cymunedol Canolbarth Cymru) yn casglu cyfran o’r refeniw a geir o gynhyrchu ynni yng Nghanolbarth Cymru ac yn ei ail ddosbarthu ymhlith cymunedau lleol. Cynigir yr arian hwn fel grantiau ar gyfer prosiectau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy i gymunedau ledled Canolbarth Cymru. Ategir yr incwm sylfaenol gydag incwm gan weithredwyr tirlenwi, 23
  • 25. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru drwy’r Gronfa Cymunedau Tirlenwi, i fanteisio i’r eithaf ar allu ariannol y cynllun. Mae Windfall yn gwmni dim er elw a sefydlwyd yn benodol i gyflawni’r nodau hyn. Wedi ei sbarduno gan arian gan npower renewables ac ENTRUST, sicrhaodd Windfall £104,000 ar gyfer ei brosiectau cyntaf yn 2005. O ganlyniad, mae cymunedau Carno a Threfeglwys yn mwynhau manteision systemau ynni adnewyddadwy megis ynni pren a ffotofoltäig. Mae rhaglenni addysgiadol hefyd wedi bod yn rhan o’r cynllun hwn. Gan adeiladau ar y llwyddiant hwn, mae Windfall yn bwriadu ymestyn ei waith i roi manteision i gymunedau eraill ledled Canolbarth Cymru. Er bod yr Ymddiriedolaeth yn cydnabod gwerth Cronfeydd lleol gyda meini prawf budd cymunedol eang iawn, mae’n cynnig ei hun i gynhyrchwyr ynni presennol a darpar gynhyrchwyr fel y cyfrwng i ategu’r rhain, drwy ddarparu budd carbon isel o ynni adnewyddadwy drwy weithredu cymunedol. 24
  • 26. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru Dulliau Cyfrannu Roedd pedwar dull talu clir i gyd, gyda thua 32 sianel taliadau, a oedd fel a ganlyn: (1); yn ôl y MW a osodwyd (6); taliadau penodedig (24); ac mewn nwyddau (1): 0 10 20 30 % o’r elw Fesul MW a osodwyd Taliadau penodedig Mewn nwyddau Taliadau penodedig yw’r mathau mwyaf cyffredin o gyfraniadau, ac mae’r symiau a ddyfynnwyd fel â ganlyn: Fferm Wynt Lefel sylfaen taliad / i ba Lefel taliad gwirioneddol endid (2011) Alltwalis £75,000 y flwyddyn wedi’i £78,600 fynegrifo / Cronfa Ymddiriedolaeth Budd Cymunedol Fferm Wynt Alltwalis BDCR II 5-10% o’r elw / Ecodyfi Ni ddatgelwyd Bryn Titli £2,500 / Cyngor Tref £3,530.38 £2,500 / Cyngor Cymuned £3,530.38 25
  • 27. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru Carno 2 £2,000 am bob MW a £6,000 osodwyd, y flwyddyn wedi’i fynegrifo / Cronfa Ymddiriedolaeth Gymunedol Carno £2,000 am bob MW a £6,000 osodwyd, y flwyddyn wedi’i fynegrifo / Cronfa Ymddiriedolaeth Gymunedol Leol Llanbrynmair £2,000 am bob MW a £20,000 osodwyd, y flwyddyn wedi’i fynegrifo / Cronfa Ynni Cymunedol Canolbarth Cymru (Windfall) Carno 'A' a 'B' £12,000 / Cyngor £18,156.08 Cymuned Carno Cefn Croes £1000 am bob MW, wedi’i £72,240 fynegrifo / Ymddiriedolaeth Gymunedol Cefn Croes Ffynnon Oer £22,000 / Fforwm Afan £25,978.84 Uchaf Hafoty Ucha £1k am bob MW a £4,000 osodwyd / Gwneir cyfraniadau yn ôl disgresiwn y perchennog Llandinam P & L £5,000 / Celtpower Cyf £5,000 £20,000 / Ymddiriedolaeth £20,000 Gymunedol Llandinam Llyn Alaw £16,000 / Cyngor £23,059.10 Cymuned Tref Alaw £4,000 / Cyngor Cymuned £5,776.98 Llannerchymedd £4,000 / Cyngor Cymuned £5,776.98 Mechell £2,000 / Sefydliad £2,000 Cymunedol Cymru Maesgwyn £175,000 y flwyddyn / £175,000 Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot 26
  • 28. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru Estyniad Moel Maelogen £50k y flwyddyn x 3 £50,000 blynedd / Clwb Rygbi Nant Conwy £50k y flwyddyn x 2 £50,000 flynedd / Menter Wledig Dyffryn Conwy £7.5k y flwyddyn am hyd £7,500 bywyd (mynegedig) / Cyngor Cymuned Bro Garmon £7.5k y flwyddyn am hyd £7,500 bywyd (mynegedig) / Cyngor Cymuned Bro Cernyw Mynydd Gorddu £10,000 / Amgen £14,670.38 Taf Elai £2,500 / Sefydliad £2,500 Cymunedol Cymru Trysglwyn £5,000 / Cyngor Cymuned £7,035.18 Rhosybol Wern Ddu (Craig Lelo) £3,333 / Cyngor Cymuned £3,333 Derwen £3,333 £3,333 £3,333 £3,333 Cyfanswm y symiau a ddatgelwyd a ddyfarnwyd yn 2011 oedd £623,853.30. ““Maent yn gweithio’n dda hyd rhyw bwynt. Adeiledir y mwyafrif o ffermydd gwynt mewn ardaloedd gwledig lle mae cyflogaeth yn broblem. Mae angen i ni ddenu diwydiannau i ardaloedd gwledig fel ein bod yn gallu cadw pobl ifanc yn yr ardal. Os rhoddir arian i bobl leol i osod dyfeisiau arbed ynni, megis systemau adennill gwres, pympiau gwres ac ati, efallai y gallem ddenu cwmni sy’n gwneud y math yma o offer i sefydlu yn yr ardal. Gall taflu symiau mawr o arian at gymunedau gael effaith andwyol a dylid ei osgoi ar bob cyfrif. Hefyd, yr unig beth wnaiff yr arian yw disodli ariannu a ddarparwyd yn flaenorol gan y cynghorau a Llywodraeth Cymru sy’n golygu nad oes yn rhaid iddynt gyfrannu, yn enwedig pan nad yw’r diwydiant gwynt yn cael llawer o gefnogaeth ganddynt hwy!” Huw Smallwood, Tegni Cyf 27
  • 29. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru ASTUDIAETH ACHOS TRI Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedol Fferm Wynt Cefn Croes Ymddiriedolaeth Elusennol a ariennir gan Ynni Gwynt Cambrian a anelir at sefydliadau bach a arweinir gan y gymuned yw Cronfa Ymddiriedolaeth Gymunedol Fferm Wynt Cefn Croes. Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau yn Ardaloedd Cynghorau Cymuned Blaenrheidol a Phontarfynach ac yna i ardal ehangach Sir Ceredigion. Rheolir y gronfa gan fwrdd o bump Ymddiriedolwr yn cynrychioli Ynni Gwynt Cambrian a Chymunedau Blaenrheidol a Phontarfynach. Diben yr Ymddiriedolaeth yw cefnogi unrhyw fath o weithgaredd sy’n cynnwys pobl leol, drwy sefydliadau cymunedol bach sydd o fudd i’w cymuned. Rhaid i’r gweithgareddau ddarparu rhywfaint o fudd economaidd, amgylcheddol, addysgol, cymdeithasol neu ddiwylliannol ar gyfer pobl sy’n byw yn yr ardal. Bydd Ynni Gwynt Cambrian yn talu £58,500 yn ogystal â chwyddiant yn flynyddol i Gronfa’r Ymddiriedolaeth tra bydd fferm wynt Cefn Croes yn gweithredu. Er mwyn gwneud cais am ariannu mae’n rhaid i brosiectau fynd drwy weithdrefn o wneud cais. Mae’r ddogfennaeth berthnasol i’w chael ar-lein, sy’n cynnwys copi llawn o’r canllawiau gwneud cais 10; copi o’r ffurflen gais 11; copi o adroddiad Diwedd Prosiect y gronfa, a ddefnyddir at ddibenion gwerthuso12 . Ceir hefyd grynodeb manwl o’r cronfeydd a ddyrannwyd hyd yma er mwyn gweld y math o gynlluniau a gefnogir13. 10 http://ponterwyd.pumlumon.org.uk/assets/File/ Cefn_Croes_Application_Guidelines_Jan10.pdf 11 http://ponterwyd.pumlumon.org.uk/assets/File/ Cefn_croes_Trust_Fund_Application_Jan10.pdf 12 http://ponterwyd.pumlumon.org.uk/assets/File/CefnCroesendofproject.pdf 13 http://ponterwyd.pumlumon.org.uk/index.php?lang=eng&page=104 28
  • 30. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru Cofrestr o CBC ffermydd gwynt yng Nghymru Fel rhan o Gynllun Ynni Cymunedol ac Adnewyddadwy (CARES) Llywodraeth yr Alban, mae Ynni Cymunedol yr Alban yn gweinyddu Cofrestr Llywodraeth yr Alban ar Fudd Cymunedol o Ynni Adnewyddadwy. Mae hwn yn offeryn gwerthfawr i gynorthwyo cymunedau drwy’r proses budd cymunedol. Drwy ddangos yr ystod o ffyrdd y gall budd cymunedol gael ei drafod, ei weinyddu a’i ddyrannu, mae Llywodraeth yr Alban yn gobeithio y bydd gan gymunedau a datblygwyr adnoddau da i ddatblygu'r fframwaith gorau posibl ar gyfer prosiectau adnewyddadwy newydd ledled yr Alban. Mae’r Gofrestr yn manylu ar wariant y gronfa ac yn darparu syniadau a chyngor ar gyfer cymunedau sy’n dymuno sicrhau y caiff eu cronfeydd eu gwario’n ddoeth. Gall unrhyw un gyrchu’r gronfa ddata 14 a darganfod beth sy’n digwydd ledled yr Alban, ac mae hyn yn annog tryloywder y cynlluniau a rhannu syniadau a phrofiadau. Bydd Ynni Cymunedol yr Alban hefyd yn defnyddio’r wybodaeth er mwyn gweld beth sy’n digwydd yn y maes. Mae’r gofrestr yn wirfoddol ac yn dibynnu ar fod cymunedau a datblygwyr yn rhannu eu profiadau a’r gwersi a ddysgwyd. Anogir darparwyr cronfeydd budd cymunedol i lenwi’r ffurflen berthnasol 15. Ar y dudalen ganlynol ceir sgrinluniau yn dangos lefel nodweddiadol y wybodaeth sydd ar gael. Cafodd man cychwyn sylfaenol ar gyfer y math hwn o wybodaeth ynglŷn â chofrestr o gronfeydd budd cymunedol ffermydd gwynt yng Nghymru, yn manylu ar werth y gronfa a’r trefniadau gweinyddol, ei pharatoi o’r ymatebion i’r astudiaeth hon. 14 http://www.communityenergyscotland.org.uk/register 15 http://www.communitybenefitregister.org.uk/form.aspx?formtype=1 29
  • 31. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru “Cwmni lleol yw Amegni a sefydlwyd gan ffermwyr sydd wedi arallgyfeirio ac sy’n byw yn y gymuned leol. Rydym yn berchen ar ac yn gweithredu fferm wynt 15.6MW a’n nod hirdymor yw i gynnal ac i gadw'r budd o’r prosiect yn lleol - felly credwn fod perchnogaeth leol fel hyn yn fath o fudd cymunedol yn ei hawl ei hun (ond anaml y cydnabyddir hynny!). Fel cwmni lleol gofynnir i ni’n barhaus i noddi a chyfrannu at wahanol ddigwyddiadau cymunedol, prosiectau a chynorthwyo i ariannu sefydliadau y byddwn yn ei wneud yn gyson uwchlaw'r taliadau ffurfiol a wneir. 30
  • 32. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru Mae’n anffodus ac yn afresymol dim ond i dargedu budd cymunedol ar ffermydd gwynt gan nad oes fawr ddim diwydiannau eraill yn gwneud cyfraniadau i’r cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt. Fel cwmni lleol rydym serch hynny yn gweld y gymuned leol yn gefnogol iawn i’r fferm wynt ac i’n cwmni ni - mae hyn yn rhannol yn fwy na thebyg oherwydd y ffaith ein bod yn gwmni lleol ond yn fwy na hynny am eu bod hwy yn cael rhannu’r manteision gyda ni.” Sion Thomas, Amegni ASTUDIAETH ACHOS PEDWAR Enghraifft o Wynt ar y Môr: Pecyn Budd Cymunedol Fferm Wynt ar y Môr Gwastadeddau y Rhyl Mewn cydweithrediad â Fferm Wynt ar y Môr Gwastadeddau y Rhyl sefydlwyd cronfa gymunedol i gynorthwyo prosiectau cymunedol lleol mewn wardiau sy’n cyffinio â’r fferm wynt. Dechreuodd y gronfa flynyddol ar lefel sylfaen o £90,000, caiff ei mynegrifo bob blwyddyn yn unol â chwyddiant a bydd ar gael dros fywyd gweithredol y fferm wynt. Er mwyn rhoi’r budd mwyaf i gymunedau lleol, mae npower renewables RWE wedi gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu trefniant gweinyddol ar gyfer y gronfa hon sy’n rhoi mynediad haws i gymunedau lleol at ddewisiadau ariannu ehangach drwy un ffurflen gais syml. Yn dibynnu ar lle mae’r grwpiau cymunedol wedi eu lleoli, gallant fod yn gymwys i gyrchu arian gan Becyn Budd Cymunedol Fferm Wynt ar y Môr Gwastadeddau y Rhyl a Chronfa Cydlyniant Cymunedol Ardal Adfywio Arfordir Gogledd Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, gan ddefnyddio’r un ffurflen gais mewn rhai achosion. Gyda’i gilydd mae hyn yn rhoi mynediad i grwpiau at gronfa gyfun gwerth £1 miliwn y flwyddyn i gefnogi elfennau cyfalaf a refeniw prosiectau. Mae gan Grwpiau yn y Rhyl fynediad at Gronfeydd Budd Cymunedol Fferm Wynt ar y Môr Gwastadeddau y Rhyl a North Hoyle a weinyddir gan yr un sefydliad, Partneriaeth Arfordirol Sir Ddinbych. • Lefel sylfaen y gronfa flynyddol yw £90,000 y flwyddyn dros fywyd gweithredol y fferm wynt, a ddisgwylir i fod tua 25 mlynedd. • Caiff y Gronfa ei mynegrifo bob blwyddyn yn unol â’r mynegai prisiau manwerthu. • Caiff £75,000 y flwyddyn ei neilltuo ar gyfer y wardiau canlynol yng Nghonwy: Pensarn, Colwyn, Eirias, Gele, Glyn, Bae Cinmel, Llanddulas, Llandrillo yn Rhos, Llysfaen, Mochdre, Pentre Mawr, Rhiw a Thowyn. • Caiff £15,000 y flwyddyn ei neilltuo ar gyfer y Rhyl. • Caiff cronfa prosiectau cyfalaf a/neu refeniw y cynllun eu rhedeg gan elusennau, grwpiau cymunedol a grwpiau gwirfoddol. Gweinyddiaeth Cronfa Gymunedol Fferm Wynt ar y Tir Gwastadeddau y Rhyl Gweinyddir rhan Conwy o’r gronfa ochr yn ochr â Chronfa Cydlyniant Cymunedol Ardal Adfywio Arfordir Gogledd Cymru bresennol a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Bydd y trefniadau hyn yn bodoli dros fywyd y Gronfa Cydlyniant Cymunedol. Eu nod yw cytuno ar strwythur weinyddol briodol i gymryd yr awenau ar ddiwedd cyfnod Cronfa Cydlyniant Cymunedol Ardal Adfywio Arfordir Gogledd Cymru am weddill bywyd gweithredol y fferm wynt. 31
  • 33. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru Gweinyddir rhan y Rhyl o’r gronfa gan Bartneriaeth Arfordirol Sir Ddinbych - gweinyddwyr cyfredol y Gronfa Gymunedol sy’n bodoli’n barod mewn cydweithrediad â Fferm Wynt ar y Môr North Hoyle. Caiff penderfyniadau ynglŷn â sut y caiff yr ariannu ei dyrannu ei wneud gan Bartneriaeth Gymunedol y Rhyl, grŵp a gyfansoddwyd yn llawn sy’n cynnwys gwirfoddolwyr lleol, yn cynrychioli’r cyngor tref, y sector gwirfoddol, y gymuned fusnes leol, cymdeithasau trigolion a’r heddlu. 32
  • 34. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru Sylwadau ychwanegol Dyma’r sylwadau ychwanegol a gasglwyd yn ystod yr astudiaeth: “Ar hyn o bryd rydym yn darparu dros £1.4 miliwn y flwyddyn o fudd cymunedol ar draws ein portffolio o brosiectau adeiladau a gweithredol yn y DU. Caiff ein budd cymunedol ei weinyddu gan amrywiaeth o ymddiriedolaethau, cwmnïau a diddordebau cymunedol, mentrau adfywio cymdeithasol ac awdurdodau lleol. Ein model arfer gorau o’n portffolio lles cymunedol yw un lle mae cymunedau wedi creu cwmni diddordeb cymunedol ardal- benodol ac yn gweinyddu’r cronfeydd yn uniongyrchol eu hunain. Mae hyn wedi arwain at nodi a chyflawni prosiectau adfywio sylweddol er lles y Rhanbarth, nid dim ond cymunedau penodol. Mae mewnbwn gan y datblygwr ar y dechrau ac ymgysylltu rheolaidd yn hanfodol i sicrhau bod meini prawf yr ariannu yn unol â gofynion y ddau barti. Mae trydydd parti i ddarparu ysgrifenyddiaeth a chymorth gyda gweinyddu cyffredinol ac adrodd hefyd yn hanfodol i sicrhau nid yn unig y cedwir at y meini prawf ond hefyd er mwyn cynorthwyo i wireddu prosiectau mawr a allai fod ar gael drwy ariannu cyfatebol y Budd Cymunedol gyda ffrydiau ariannu perthnasol eraill, ac ati. Efallai y byddai grŵp wedi ei rymuso o gymunedau sy’n amgylchynu safleoedd gwynt ar y tir sy’n derbyn Budd Cymunedol angen cyfnod dechreuol rhwng un neu ddwy flynedd i fynd i’r afael â phryderon cymunedol ‘normal’ e.e. cynnal a chadw neuadd bentref ac ati, ond dangosodd ein profiad y bydd yr un cymunedau, o gael y gefnogaeth iawn, hefyd mewn byr o dro yn dechrau creu a gweithredu Prosiectau economaidd ac amgylcheddol strategol ar gyfer eu hardal ehangach.” Daniel Ferrier, Celtpower Cyf (Scotish Power Renewables ac Eurus Energy) “Elfennau o’r cronfeydd budd cymunedol sy’n gweithio’n dda: Hyd yn hyn gall lefelau cymharol fach o ariannu gael effaith gadarnhaol sylweddol ar yr ardal leol agos; Ymgysylltu cynrychiolwyr lleol mewn gwneud penderfyniadau - gan rymuso pobl leol i gael rhagor o reolaeth dros eu tynged eu hunain; Mae trefniadau ariannu at y diben wedi eu teilwra i gymunedau unigol; Partneriaeth arloesol gyda Llywodraeth Cymru - ariannu cymunedol ffermydd gwynt wedi ei weinyddu ochr yn ochr ag ariannu ardaloedd adfywio Llywodraeth Cymru, 2 gronfa - 1 ffurflen gais syml, gall cronfeydd gyfateb ei gilydd, gall ariannu ffermydd gwynt ariannu prosiectau refeniw sydd wedi eu heithrio o ariannu Llywodraeth Cymru. Dewisiadau amgen ar gyfer y dyfodol: Rydym yn ymdrechu’n gyson i wella ein darpariaeth budd cymunedol ac yn hynny o beth rydym eisoes yn ymgysylltu yn nifer o’r mentrau hyn; Ystyried strwythurau yr ydym wedi eu defnyddio mewn ardaloedd eraill o’r DU yn fwy diweddar; 33
  • 35. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru Ymgynghoriad cynyddol a chynharach gyda chymunedau lleol a rhanddeiliad allweddol; Ystyriaeth ofalus o ganfyddiad cyhoeddus mecanweithiau/ffocws darpariaeth newydd; Dull newydd wedi ei alinio’n well i’r lefelau uwch o ariannu sydd ar gael; Canolbwyntio ar sicrhau ariannu cyfatebol; Ystyried manteision ar gyfer ardaloedd rhanbarthol ehangach; Aliniad agosach gyda strategaeth leol, rhanbarthol a chenedlaethol; Ffocws cynyddol ar ddatblygu economaidd yn cynnwys swyddi a sgiliau; Cydweithio posibl ymhlith datblygwyr; Hwn o hyd yn gyfle gorau cymunedau lleol i ddylanwadu ar ddatblygiadau ynni gwynt – cymryd gofal i beidio eu hallgau o’r broses hon; Cofio y gall grantiau lleol bach ddal i wneud gwahaniaeth mawr a lle bo’n briodol dylid eu hystyried fel rhan o becyn cyffredinol; Gwell cydweithio o fewn y diwydiant er mwyn dangos y manteision a roddir gan ynni gwynt.” Katy Woodington, npower renewables RWE 34
  • 36. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru Casgliadau ac Argymhellion Mae prosiectau ynni adnewyddadwy eisoes yn rhoi ystod o fanteision cymunedol, yn ychwanegol at gynhyrchu ynni glân a chynaliadwy. Mae’r rhain yn cynnwys rhagor o gyfleoedd swyddi a gwelliannau i’r amgylchedd adeiledig a naturiol. Yn ogystal, mae ystod eang o Gronfeydd Budd Cymunedol yn gweithredu yng Nghymru sy’n cyfrannu’n eithriadol o gadarnhaol i gymunedau lleol ar draws y wlad. Dylai cronfeydd lleol sefydledig gael eu gweld fel ffordd o ddweud ‘diolch’ wrth y cymunedau sy’n rhoi cartref i ffermydd gwynt a chynlluniau ynni adnewyddadwy eraill. Gallwn gasglu o’r data a gasglwyd gennym bod: • Tua phedair o bob pump fferm wynt sy’n gweithredu yng Nghymru yn cyfrannu i’w cymunedau lleol mewn modd strwythuredig; • Llawer o endidau gwahanol yn elwa o gyfraniadau ffermydd gwynt (nodwyd cyfanswm o 34 allan 20 ymateb); • Caiff CBC yng Nghymru eu gweinyddu’n bennaf drwy ymddiriedolaethau lleoledig (neu gyrff tebyg) neu Gynghorau Cymuned; • Y math mwyaf cyffredin o daliad gan weithredwyr fferm wynt yw drwy symiau penodedig, yn cael ei ddilyn gan gyfrifiad fesul MW a osodwyd; ac mai • Cyfanswm y symiau a ddatgelwyd a ddyfarnwyd i Gronfeydd Budd Cymunedol neu debyg yn 2011 oedd £623,853.30. Yng ngoleuni agendâu gwleidyddol cyfredol, efallai bod yr amser wedi dod lle gallai datblygwyr ffermydd gwynt ar y tir fod am sicrhau bod budd penodol o’u rhaglenni yn cael ei ddarparu i gymunedau mewn modd mwy uchel ei broffil a thryloyw er mwyn dangos yn fwy effeithiol y canlyniadau cadarnhaol a gynhyrchir ganddynt. 35
  • 37. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru Mae’r ddogfen ‘Sicrhau manteision cymunedol o ddatblygu ynni gwynt: Pecyn Cymorth’16 yn amlinellu nifer o ffactorau gwahanol y dylid eu hystyried wrth gynllunio cynllun budd cymunedol: • Pam ddylid ystyried manteision cymunedol? • Beth yw costau, risgiau a gwobrau ynni gwynt a sut mae budd cymunedol yn ffitio i’r darlun hwn? • Beth yw’r berthynas rhwng budd cymunedol a’r broses gynllunio? • Beth yw’r gwahanol ffyrdd y gellir cynnig budd cymunedol drwyddynt? • Pwy ddylai elwa a sut ddylai hyn gael ei reoli a’i weinyddu? • Pa gytundebau ellir ac a ddylid eu rhoi ar waith i sicrhau’r budd hwn? Mae’r cyngor yn pwysleisio pwysigrwydd canolbwyntio ar y budd a gaiff ei gyflenwi ‘mewn cylch’. Gallai fod yn fanteisiol i weithredwyr cysylltiedig â Chronfeydd Budd Cymunedol ail-edrych ar gyfeiriad strategol eu cynlluniau er mwyn sicrhau eu bod wedi eu halinio gyda phrif bolisi economaidd ehangach. Er enghraifft, byddai’r astudiaeth achos LEDS a amlinellwyd yn flaenorol (Astudiaeth Achos Un; tudalen 19) o bosibl yn apelio at drigolion yn ardal ei weithredu, ond efallai ddim yn apelio at bolisi Llywodraeth Cymru o ran hyrwyddo effeithlonrwydd ynni. Os, fodd bynnag, y bydd y cynllun wedi ei ddatblygu ar y cyd â Llywodraeth Cymru, er enghraifft, yna gallai gael ei gyplysu gyda’r cynllun Arbed17 er mwyn cydlynu buddsoddiad i berfformiad ynni cartrefi yng Nghymru. Dylai CBC sicrhau eu bod yn addas ar gyfer diwydiant a chymunedau, a’u bod wedi eu rheoli mewn modd ‘craff’. Un ffordd o’r fath yw archwilio'r posibilrwydd o ‘dynnu’ ariannu i mewn o wahanol ffrydiau e.e. Cronfa Gymdeithasol Ewrop, Llywodraeth Cymru, Canolfan Byd Gwaith). Mae pecyn Budd Cymunedol Fferm Wynt ar y Môr Gwastadeddau y Rhyl (Astudiaeth Achos Pedwar; tudalen 31), er enghraifft, yn ymgorffori Cronfa Cydlyniant Cymunedol a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac mewn sawl achos drwy’r un ffurflen gais. Gyda’i gilydd mae hyn yn rhoi mynediad i grwpiau at gronfa gyfun gwerth £1 miliwn y flwyddyn i gefnogi elfennau cyfalaf a refeniw prosiectau, ac felly gwneud y mwyaf o’r gwariant drwy alluogi prosiectau mwy eu maint. Mae rôl ar 16 http://www.cse.org.uk/downloads/file/Delivering%20community%20benefits%20from %20wind%20energy%20-%20a%20tookit.pdf 17 http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/energy/efficiency/arbed/?lang=en 36
  • 38. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru gyfer Llywodraeth Cymru mewn cynnig cyngor i Gronfeydd Budd Cymunedol o ran y ffordd fwyaf effeithiol y gall eu hariannu gael ei ddefnyddio, efallai drwy gyfrwng megis Ynni Cymunedol Cymru neu Gronfa Ynni Cymunedol Canolbarth Cymru (Windfall). Mae hefyd angen sicrhau bod Cronfeydd Budd Cymunedol wedi eu cydweddu i reidrwydd economaidd yn ogystal â pharhau â’r budd cymdeithasol lleol y maent yn amlwg yn eu rhoi. Gallai Cronfeydd Budd Cymunedol gael eu defnyddio ar gyfer amcanion datblygu economaidd rhanbarthol mwy strategol: er enghraifft, gallai trefniadau gwirfoddol gefnogi datblygu economaidd rhanbarthol, creu swyddi a gwella sgiliau. Un awgrym yw creu cronfa fuddsoddi Ardal Chwilio Strategol (SSA) 25 mlynedd ar gyfer pob SSA, y byddai iddi fodel llywodraethu rhanbarthol, strategol yn edrych ar faterion economaidd pwysig rhanbarthol a chasglu mewnbwn gan sefydliadau megis Fforymau Economaidd Rhanbarthol. Gallai cyfryngau o'r fath gael eu sefydlu fel cronfeydd ymddiriedolaethau gyda’r datblygwyr yn cael eu gwahodd i dalu rhan o’u Cronfeydd Budd Cymunedol i mewn iddo, a allai wedyn godi ariannu cyfatebol (e.e. cronfeydd Ewropeaidd), neu adlenwadau gan lywodraeth. Byddai’r cronfeydd SSA hyn yn sicrhau ffocws ar faterion datblygu economaidd rhanbarthol, ac nid dim ond ar faterion lleol mewn cymunedau sydd yn aml yn gymharol denau o ran poblogaeth. Dylai Llywodraeth Cymru gynorthwyo datblygwyr a chymunedau i ddewis y cyfrwng Cronfeydd Budd Cymunedol iawn ar gyfer eu hamgylchiadau arbennig hwy ac i wneud y defnydd mwyaf effeithiol o’r arian i’w ddyrannu, o bosibl drwy gyflwyno ‘Cynghorwyr CBC’ i alluogi eu cyswllt i ariannu posibl sydd yn aml yn cyd-fynd â mentrau llywodraeth. Dylai Llywodraeth Cymru hefyd ariannu cofrestrfa swyddogol agored i’r cyhoedd (tebyg i fodel yr Alban) a fyddai’n annog rhannu'r arfer gorau, syniadau a phrofiadau. Dylent ariannu cofrestrfa bellach a fyddai’n rhestru ceisiadau ffermydd gwynt sydd wedi eu cymeradwyo ond hyd yma heb eu codi, a’r math o drefniadau CBC sy’n cael eu rhoi ar waith neu’n cael eu cynnig. Byddai hyn yn galluogi grwpiau lleol a rhanbarthol i gyflwyno eu cynigion eu hunain i weithio gyda’r CBC i’r dyfodol. Dylai’r cyfryngau a ddefnyddir i ddarparu CBC sicrhau tryloywder eu gweithgareddau. Er enghraifft, fel arfer gorau dylai’r ymddiriedolaeth neu Gyngor Cymuned perthnasol sefydlu gwefan agored i’r bobl yn dangos hanfod 37
  • 39. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru y cynllun, gan restru sut cafodd arian ei ddyrannu ac ar ba sail, ynghyd â manylion cyswllt. Hefyd, dylid rhoi lefel resymol o arian o’r CBC o’r neilltu i sicrhau y caiff y CBC eu hyrwyddo ar lefel leol ac y caiff cymunedau lleol wybod am eu gweithgareddau. Mae’r ddau argymhelliad hwn er lles y diwydiant fel bod gweithgareddau da nid yn unig yn digwydd ond yn cael ei weld yn digwydd. Mae’r ddadl ynghylch protocol budd cymunedol yn Lloegr wedi nodi isafswm taliad o £1,000 y flwyddyn am bob MW o ynni gwynt a osodir yn ystod bywyd y fferm wynt. Yng Nghymru dylai’r argymhellion uchod wneud y ddadl hon i bob pwrpas yn amherthnasol. Dylai ein gweledigaeth ni fod am gynlluniau a weithiwyd allan yn dda ac a gaiff eu cynnal yn dda gydag amcanion clir, sy’n tynnu amrywiol bartneriaid i mewn i ddenu’r ariannu mwyaf posibl, ac sydd yn dryloyw ac yn gyrchadwy i gymunedau a rhanddeiliaid. Dyma ddylai’r ffordd ymlaen fod ar gyfer y diwydiant, gan weithio’n agos gyda chymunedau ar lefel micro a gyda Llywodraeth Cymru ar y lefel macro. Ni ddylai rhywun danbrisio gwerth y CBC eu hunain, na’r ffermydd gwynt y maent yn eu cynrychioli. Darparwyd tua 8,600 o swyddi gan y diwydiant gwynt ar y tir yn 2011, gyda £548 miliwn wedi ei ychwanegu i economi y DU, yn ôl astudiaeth ar y cyd a gyhoeddwyd gan RenewableUK a’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd18. Canfu bod y gwir werth a ddarperir gan wynt (yn agos i £700,000 am bob MW a osodwyd yn y DU) yn fwy na £100,000 o fewn ardal yr Awdurdod Lleol. Mae CBC yn elfen hollbwysig mewn dangos i gymunedau lleol nid dim ond manteision amgylcheddol ynni adnewyddadwy ond hefyd y manteision economaidd lleol. Rhaid canolbwyntio ar sut y gall y cymunedau hyn sicrhau’r budd mwyaf ac, yn enwedig, y rhan hollbwysig sydd gan y CBC yn y deinamig hwn. 18 http://www.decc.gov.uk/assets/decc/11/meeting-energy-demand/wind/5585-economic- benefits-onshore-wind-full-pn.pdf 38
  • 40. Atodiad 1 39
  • 41. Enw’r cwmni: Triodos Renewbales (Wern Ddu) Cyf Enw’r fferm wynt a weithredir: Fferm Wynt Wern Ddu Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) 9.2MW a weithredir: Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a 2 flynedd weithredir: Enw a swydd yr ymatebwr: Monika Paplaczyk, Rheolwr Buddsoddi Enw’r cwmni: Tegni Cyf Enw’r fferm wynt a weithredir: Hafoty Ucha (Ll21 0RL) Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) 3.15 MW a weithredir: Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a 8 mlynedd weithredir: Enw a swydd yr ymatebwr: Huw Smallwood (Perchennog) Enw’r cwmni: Ynni Adnewyddadwy Cymunedol Bro Dyfi Enw’r fferm wynt a weithredir: Vestas a Nordtank (SY20 8AX) Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) 575kW a weithredir: Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a 9 mlynedd a 4 mlynedd yn y drefn weithredir: honno Enw a swydd yr ymatebwr: Michael Phillips, Pwyllgor Rheoli Enw’r cwmni: Amegni Enw’r fferm wynt a weithredir: Carno II (SY17 5JS) Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) 15.6 MW a weithredir: Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a 3 blynedd weithredir: Enw a swydd yr ymatebwr: Sion Thomas – Perchennog / Gweithredwr 40
  • 42. Enw’r cwmni: Celtpower Cyf (Scottish Power Renewables ac Eurus Energy) Enw’r fferm wynt a weithredir: Llandinam (Cyf Grid Cenedlaethol SO 028836) Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) 30MW a weithredir: Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a 20 mlynedd weithredir: Enw a swydd yr ymatebwr: Daniel Ferrier - Rheolwr Prosiect Cynorthwyol Enw’r cwmni: RWE npower renewables Enw’r fferm wynt a weithredir: Bryn Titli; Carno; Ffynnon Oer; Llyn Alaw; Mynydd Gorddu; Trysglwyn; Taf Elai Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) 9.9MW; 33.6MW; 33MW; 20.4MW; a weithredir: 10.2MW; 5.6MW; 9MW Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a 18 mlynedd; 16 mlynedd; 6 mlynedd; 15 weithredir: mlynedd; 14 mlynedd; 14 mlynedd; 19 mlynedd Enw a swydd yr ymatebwr: Katy Woodington, Uwch Swyddog Buddsoddi Cymunedol Enw’r cwmni: EC&R (menter ar y cyd rhwng EC&R ac Eurus Energy) Enw’r fferm wynt a weithredir: Rhyd-Y-Groes Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) 7.2MW a weithredir: Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a 20 mlynedd weithredir: Enw a swydd yr ymatebwr: Jonn Barnes, Uwch Gychwynnwr 41
  • 43. Enw’r cwmni: Moelogan 2 Ccc Enw’r fferm wynt a weithredir: Moel Moelogan (LL28 5UN) Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) 11.7MW a weithredir: Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a 4 blynedd weithredir: Enw a swydd yr ymatebwr: Geraint Davies, Perchennog/ Gweithredwr Enw’r cwmni: Cambrian Wind Energy Limited Enw’r fferm wynt a weithredir: Fferm Wynt Cefn Croes (SY23 3LE) Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) 58.5 MW a weithredir: Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a 8 mlynedd weithredir: Enw a swydd yr ymatebwr: Roger Jones, Rheolwr Asedau Enw’r cwmni: Infinergy Enw’r fferm wynt a weithredir: Fferm wynt Castle Pill (SA73) + Fferm wynt Ferndale (CF43) Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) Castle Pill (3.2MW) + Ferndale (6.4MW) a weithredir: Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a Castle Pill (3 blynedd) + Ferndale (2 weithredir: flynedd) Enw a swydd yr ymatebwr: Lorraine Dallmeier, Cyfarwyddwr Prosiect 42
  • 44. Enw’r cwmni: RES Enw’r fferm wynt a weithredir: Dyffryn Brodyn (SA34 0JE) Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) 5.5MW a weithredir: Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a 18 mlynedd weithredir: Enw a swydd yr ymatebwr: Samantha Mayes, Cydlynydd Cysylltiadau Cymunedol Enw’r cwmni: Pennant Walters Maesgwyn Cyf Enw’r fferm wynt a weithredir: Maesgwyn (SA10) Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) 26MW a weithredir: Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a 18 mis weithredir: Enw a swydd yr ymatebwr: Dale Hart, Cyfawyddwr Enw’r cwmni: Statkraft Enw’r fferm wynt a weithredir: Alltwalis (SA32 7ED) Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) 23MW a weithredir: Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a 2 flynedd a hanner weithredir: Enw a swydd yr ymatebwr: Rob Fellows (Cynghorydd Cysylltiadau Cymunedol) 43