Mae’r sleidiau hynyn crynhoi rhai o’r prif negeseuon ar
y cynnydd y mae Cymru yn ei wneud tuag at gyflawni
ei 7 nod Llesiant o adroddiad Llesiant Cymru 2020-21
• Ar gyfer nifer o’r dangosyddion, byddem yn disgwyl i
unrhyw newid gymryd nifer o flynyddoedd i ddod yn
amlwg.
• Yn ogystal, ni chaiff pob dangosydd ei ddiweddaru’n
flynyddol. Felly bydd rhai negeseuon yr un fath â’r
flwyddyn flaenorol.
#llesiantcymru
3.
Mae’r farchnad lafurCymru yn parhau i berfformio’n gryf
mewn termau cymharol, gyda’r bylchau rhwng Cymru a’r
Deyrnas Unedig yn dal yn gyfyng mewn cyd-destun
hanesyddol.
Cyfradd cyflogaeth i bobl 16-64 oed, 1999 - 2022
Ffynhonnell: Ystadegau'r farchnad lafur ranbarthol yn y DU, Medi 2022, Y Swyddfa
Ystadegau Gwladol
Note: Chart axis does not start at zero Carreg filltir
genedlaethol
#llesiantcymru
4.
Mae proffil cymwysteraupoblogaeth Cymru wedi bod yn
gwella dros amser. Yn 2021, roedd 62.5% o oedolion o
oedran gweithio yng Nghymru yn gymwys i drothwy lefel 3.
Mae hyn yn gynnydd o ddros hanner yn 2011.
Lefel y cymwysterau uchaf a ddelir gan oedolion o oedran gweithio, 2008 - 2021
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth,
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Carreg filltir
genedlaethol
#llesiantcymru
5.
Parhaodd y gyfraddailgylchu i gynyddu gyda bron i ddwy
ran o dair o wastraff trefol yn cael ei ailddefnyddio, ei
ailgylchu neu ei gompostio yn 2020-21. Roedd faint o
wastraff trefol a gynhyrchwyd yr isaf a gofnodwyd, ond
rydym yn parhau i ddefnyddio adnoddau’n gynt nag y gellir
eu hailgyflenwi.
Canran y gwastraff sydd wedi cael ei ailddefnyddio/ailgylchu/compostio
(targed statudol)
Ffynhonnell: Gwastraff Trefol Awdurdodau Lleol, StatsCymru #llesiantcymru
6.
Mae ansawdd yraer wedi gwella’n fawr ers y 1970au, ond
mae’n parhau i fod yn risg i iechyd pobl. Mae Iechyd
Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif bod baich dod i
gysylltiad â llygredd aer yn y tymor hir yn cyfateb i 1,000 i
1,400 o farwolaethau (ar oedrannau nodweddiadol) bob
blwyddyn.
Dangosyddion ansawdd aer
Ffynhonnell: Dangosyddion Allyriadau Ansawdd Aer #llesiantcymru
7.
Mae capasiti prosiectauynni adnewyddadwy yng Nghymru (trydan a
gwres) wedi codi bron i bedair gwaith yn uwch yn y degawd diwethaf, er
bod y cynnydd wedi arafu dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd tua 33%
o’r trydan a gynhyrchwyd yng Nghymru yn deillio o ffynonellau
adnewyddadwy yn 2020. Mae’r trydan adnewyddadwy sy’n cael ei
gynhyrchu yn cyfateb i tua 56% o'r trydan sy’n cael ei ddefnyddio yng
Nghymru.
Y capasiti i gynhyrchu ynni adnewyddadwy
Ffynhonnell: Adroddiad ar gynhyrchu ynni yng Nghymru #llesiantcymru
8.
Roedd disgwyliad oeswedi disgyn ar gyfer y cyfnod mwyaf
diweddar, sy'n adlewyrchu effaith pandemig COVID-19 yn ôl
pob tebyg. Mae disgwyliad oes iach yn parhau i fod yn
waeth i’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig,
ond mae wedi aros yn gymharol sefydlog rhwng 2011-2013 a
2018-2020.
Mynegai o ddisgwyliad oes adeg geni yn ôl rhyw (2001-03 = 100)
Ffynhonnell: Disgwyliad Oes, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol #llesiantcymru
9.
Roedd y mwyafrif(93%) o oedolion yn dweud eu bod yn dilyn dau neu
fwy o’r pum ymddygiad ffordd o fyw iach. Canran y plant gyda dwy neu
fwy o ymddygiad ffordd o fyw iach yn dal yn 88%,ac mae wedi aros yn
sefydlog ers dechrau casglu data yn 2013/14.
Canran y plant 11-16 oed sy'n dilyn ymddygiadau iechyd penodol, yn ôl
blwyddyn academaidd 2013/14 (blwyddyn academaidd) i 2019
Ffynhonnell: Iechyd a Lles Myfyrwyr yng Nghymru, Arolwg o Iechyd a Lles Myfyrwyr
gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion
Carreg filltir
genedlaethol
#llesiantcymru
10.
Mae lles meddylioloedolion a phlant yn is na’r cyfnod cyn y pandemig,
yn ôl yr asesiad diweddaraf.
Boddhad â bywyd - prif fesurau lles (sgoriau cyfartalog allan o 10) , 2012 i
2021
Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, Y Swyddfa
Ystadegau Gwladol
#llesiantcymru
11.
Dros y hirdymor, mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi
culhau. Ym mis Ebrill 2021, roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau
(amser llawn) yn 5.0%, sydd heb newid ers y flwyddyn flaenorol a
dyma’r gyfradd isaf i’w chofnodi erioed). Yng Nghymru, mae’r
bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd yn 2019 oedd 1.4%, a’r bwlch
cyflog ar sail anabledd yng Nghymru yn 2021 oedd 11.6%.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac
Enillion, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Canran y gwahaniaeth mewn enillion amser llawn canolrifol yr awr rhwng dynion
a menywod
Nodyn: Mae gwahaniaeth o fwy na sero mewn cyflog yn golygu bod dynion yn ennill mwy na
menywod
Carreg filltir
genedlaethol
#llesiantcymru
12.
Mae merched ynparhau i gael deilliannau addysgol gwell ar
lefel TGAU. Yn ystod yr haf 2021, dyfarnwyd mwy o raddau
A* - C i ferched na bechgyn.
Bwlch mewn cyflawniad ym mhob pwnc TGAU yn CA4 rhwng merched a
bechgyn, yn ôl ystod graddau, blynyddoedd academaidd 2016 i 2021
Ffynhonnell: Canlyniadau arholiadau, Medi 2020 - Awst 2021, Llywodraeth Cymru
#llesiantcymru
13.
Roedd hil ynffactor cymhellol mewn dwy ran o dair o’r holl
droseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru yn 2020-21,
cyfran debyg i'r un yn 2019-20. Cynyddodd nifer y
troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu 16% yn 2020-
21 o’i gymharu â 2019-20.
Ffynhonnell: Y Swyddfa Gartref
Troseddau casineb yng Nghymru yn ôl ffactor cymhellol
(a) Gellir nodi bod mwy nag un ffactor cymhellol yn gysylltiedig â throsedd. Felly, nid yw cyfanswm y categorïau o droseddau casineb yn
gyfartal i gyfanswm y troseddau.
#llesiantcymru
14.
Roedd bron iddwy ran o dair o oedolion yn cytuno â phob un o’r tri
mesur o gydlyniant cymunedol – ymberthyn i’r ardal leol, pobl o
gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda, ac yn trin ei gilydd â pharch
ac ystyriaeth. Mae hyn yn gynnydd ers y blynyddoedd cyn y pandemig,
ac yn ychydig o ostyngiad ers y llynedd (2020-21).
Canran y bobl sy'n cytuno â datganiadau am eu hardal leol
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru #llesiantcymru
15.
Yn 2021-22, roedd30% o bobl yn teimlo y gallent ddylanwadu ar
benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol o’i gymharu â 26% yn
2020-21 a 19% yn 2018-19. Mae hyn yn gynnydd sylweddol ers cyn 2020
ac mae’n bosibl ei fod yn adlewyrchu newid go iawn o ganlyniad
uniongyrchol i’r pandemig, ond mae angen ei fonitro yn ystod
blynyddoedd yr arolwg yn y dyfodol.
Canran y bobl sy'n teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy'n
effeithio ar eu hardal leol
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru #llesiantcymru
16.
Bu cynnydd cymysgo ran cymryd rhan mewn chwaraeon. Roedd cyfradd yr
oedolion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd wedi cynyddu am y
tro cyntaf ers 2017-18, er nad oedd yn newid arwyddocaol yn ystadegol. Fodd
bynnag, mae’r gyfran nad ydynt yn cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon neu
weithgarwch corfforol hefyd wedi cynyddu.
Canran sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu
fwy
Oedolion Plant
Ffynhonnell 1: Arolwg Cenedlaethol Cymru
Ffynhonnell 2: Arolwg ar Chwaraeon Ysgol
#llesiantcymru
17.
Mae data arolwgyn dangos cynnydd yng nghanran y bobl sy’n
siarad Cymraeg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae Arolwg
Cenedlaethol Cymru yn dangos bod 11% o siaradwyr Cymraeg
yn rhugl.
Gallu yn y Gymraeg a gofnodwyd
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru #llesiantcymru
18.
Mae allyriadau nwyontŷ gwydr wedi gostwng gan 40% ers y
flwyddyn sylfaen (1990). Y sector busnes yw’r ffynhonnell
allyriadau mwyaf, sy’n cynhyrchu 26% o’r holl allyriadau
nwyon tŷ gwydr yng Nghymru.
Allyriadau nwyon tŷ gwydr yn ôl blwyddyn
Ffynhonnell: Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol
Carreg filltir
genedlaethol
#llesiantcymru
19.
Mae adroddiad LlesiantCymru yn
cynnwys…
Adroddiadau ar ein cynnydd
cenedlaethol tuag at bob un
o’r nodau llesiant
Data ar gyfer y 50 o
ddangosyddion
cenedlaethol
#llesiantcymru
20.
Ble gallwch ddodo hyd i adroddiad
Llesiant Cymru?
#llesiantcymru
Adroddiad Llesiant:
https://llyw.cymru/llesiant-cymru
Mapio rhyngweithiol o’r dangosyddion cenedlaethol i
nodau:
https://llyw.cymru/dangosyddion-cenedlaethol-mapio-ir-
nodau-llesiant-nodau-datblygu-cynaliadwy