Access to Statutory Services: from the perspective of both Minority Ethnic Elders and External Organisations
Summary report written and produced by NWREN as part of the MEEA Project
NWREN, February 2015, Belinda Gammon
1. Prosiect Eiriolaeth Hynafiaid Lleiafrifoedd Ethnig
(EHLE/MEEA)
Mynediad i Wasanaethau Statudol: adroddiad o safbwynt
Hynafiaid Lleiafrifoedd Ethnig a Chyrff Allanol
Beth ydi’r Prosiect EHLE
Mae Prosiect EHLE’n brosiect tair blynedd Cymru-gyfan lle mae NWREN yn gweithio mewn partneriaeth â’r prif
bartner Race Equality First (REF), y South East Wales Regional Equality Council (SEWREC) a’r Swansea Bay Regional
Equality Council (SBREC). Amcan y prosiect ydi cynnig gwasanaeth eiriolaeth annibynnol i Hynafiaid Lleiafrifoedd
Ethnig hanner cant oed a hŷn.
Pwy ydi NWREN
Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWREN) yn elusen sy’n gweithio gydag ystod eang
o bartneriaid aymhob un maes cydraddoldeb gan amcanu at ddileu pob math o gamwahaniaethu a difreinio.
Roedd y gwaith a wnaeth NWREN fel rhan o Brosiect EHLE yn crynhoi canfyddiadau gwaith ymchwil i brofiad
hynafiaid lleiafrifoedd ethnig ar draws gogledd Cymru oedd yn ceisio cael mynediad i wasanaethau gofal iechyd a
gwasanaethau statudol eraill. Roedd yn rhoi sylw penodol i’r ddarpariaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer y gwahanol
dafodieithoedd.
Crynodeb o adroddiad NWREN
ar gyfer y Prosiect EHLE Belinda Gammon,
NWREN, Chwefror 2015.
Mae copi llawn o’r adroddiad, yn cynnwys
cyfeirnodau, ar gael o www.nwren.org
Roedd y 45 Buddiolwr Prosiect yn
Tsieiniaid, Portiwgeaid Ewrop,
Tsieiniaid Hong Kong, Sinhaliaid,
Indiaid, Gwyddelod a Simbabweaid o
Wynedd, Sir Ddinbych a Wrecsam.
Roedd eu 12 tafodiaith yn cynnwys y
Gantoneg, Mandarin, Maleieg,
Almaeneg, Portiwgaleg Ewropeaidd,
Gwjwrati, Hakka, Hindi, Wrdw,
Pwnjabi, Swahili a Simbabwëeg.
Hyrwyddo cydraddoldeb • herio camwahaniaethu • ategu hawliau dynol
2. Mynediad i Wasanaethau Statudol: adroddiad o safbwynt
Hynafiaid Lleiafrifoedd Ethnig a Chyrff Allanol
Argymhelliad 1
Heb adnoddau a buddion tybiedig y de, mae’n rhaid i’r gogledd ddatblygu trefniadau lleol a mwy ardal-benodol.
Argymhelliad 2
Bod angen i holl gyrff y gogledd ddatblygu hyfforddiant codi ymwybyddiaeth sy’n briodol i’w gwasanaeth, sy’n
gost-effeithiol ac sy’n ymarferol. Fe ddylen roi sylw penodol i bob agwedd o Nodweddion Gwarchodedig Deddf
Cydraddoldeb 2010, sef: oed; anabledd; priodas a phartneriaeth sifil; beichiogrwydd a mamolaeth; hil;
crefydd a chred; rhyw; cyfeiriadedd rywiol; ailddynodiad rhyw).
Argymhelliad 3
Byddai botymau iaith ychwanegol ar wefannau’r gwasanaethau statudol, yn cynnwys
gwefan y bwrdd iechyd, yn galluogi defnyddwyr gwasanaeth i wneud cais am gyfieithydd
ar y pryd adeg gwneud eu cais i ddefnyddio’r gwasanaeth. Byddai’n ddarpariaeth isel ei
gost a fyddai’n galluogi defnyddwyr gwasanaeth i fynd â’u hymholiad i’r lefel nesaf.
Argymhelliad 4
Bod angen adolygu’r ddarpariaeth gwersi Saesneg ESOL yn rhanbarthol ac ar Lefel
Llywodraeth Cymru, a bod darpariaeth newydd, gwarantedig yn cael ei greu ar gyfer
defnyddwyr gwasanaeth.
Argymhelliad 5
Mae’r gwahaniaethau yn y canfyddiadau ac yng ngweithgareddau’r asiantaethau (e.e. y Bwrdd
Iechyd) yn amlygu angen i ddatblygu protocol sy’n gyffredin i bob un o’r asiantaethau ac a fydd yn
rhoi’r gallu a’r hyder i ddefnyddwyr gwasanaeth ofyn am gyfieithydd ar y pryd. Fe dynwyd sylw hefyd
at yr angen i Feddygon Teulu a staff rheng flaen gofal sylfaenol sicrhau – ar y cyd â’r defnyddiwr gwasanaeth –
eu bod yn adnabod y dafodiaith cywir.
Argymhelliad 6
Fe ddylai’r asiantaethau statudol a gwirfoddol fynd i’r afael â diffygion y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn
modd cyd-gysylltiol ac unedig, gyda phob sector yn gweithio o’r un agenda unedig, gyda chytundeb eglur ynglŷn â
sut i’w ariannu – a’r cwbl yn seiliedig ar yr arbenigedd sydd i’w gael yn y sector gwirfoddol a’r cymunedau. Un
enghraifft o sut i weithredu fyddai i sefydlu ‘cronfa’ o gyfieithwyr cymunedol cymwys ar draws y gogledd.
Mynediad i Wasanaethau Statudol: adroddiad o safbwynt
Hynafiaid Lleiafrifoedd Ethnig a Chyrff Allanol
Casgliad 1
Mae nifer fawr o wahanol ieithoedd a thafodieithoedd yn cael eu siarad yng ngogledd Cymru, yn cynnwys y
Gymraeg ac iaith arwyddion. Mae diffyg darpariaeth cyfieithu ar y pryd wedi ei gysylltu â pherygl i iechyd a lles.
Casgliad 2
Bu i’r rhai a gymerodd ran yn yr astudiaeth adrodd bod diffyg dealltwriaeth o’r cysylltiad sydd rhwng amser,
cyfieithu a deilliannau ymhlith staff rheng flaen gofal sylfaenol, gofal eilaidd a gwasanaethau statudol eraill y
gogledd. Yn y maes iechyd roedd hyn i’w weld ar hyd y daith driniaeth, o pryd cafwyd mynediad gyntaf i’r
gwasanaeth, yn ystod y driniaeth ei hun ac wedyn yn y cyfnod gofal yn y cartref.
Casgliad 3
Er mwyn gwneud cais am wasanaeth cyfieithydd ar y pryd, mae’n rhaid i’r defnyddiwr
gwasanaeth allu darllen a deall Saesneg neu Gymraeg ysgrifenedig: dywedodd y rhai a
gymerodd ran nad oedden nhw’n gwybod pa wasanaethau neu gymorth oedd ar gael.
Casgliad 4
Gyda’u gwahanol allu yn y Saesneg, roedd y rhai a gymerodd ran yn dweud bod yn well
ganddyn nhw siarad yn eu hiaith gyntaf, pan oedden nhw’n sal neu mewn argyfwng.
Roedd y rhai a gymerodd ran a’r darparwyr gwasanaeth yn cytuno, serch hynny, y byddai
gallu parhau â gwersi Saesneg ESOL a gwella’r ddarpariaeth ESOL yn ategu cydlyniad
cymunedol.
Casgliad 5
Bu i bawb sôn am y prinder cyfieithwyr ar y pryd, oedd yn destun syndod i’r asiantaethau oedd
yn teimlo eu bod yn gwneud eu gorau i ddiwallu’r angen.
Ar hyn o bryd mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr “yn darparu cyfiethydd ar y pryd drwy gytundeb â
Gwasanaeth Cyfieithu Cymru (Wales Interpretation and Translation Service (WITS). Mae’r Bwrdd Iechyd
wedi datblygu protocol fel canllaw i’r staff sy’n gwneud defnydd o’r gwasanaeth ac yn adrodd ei bod yn codi
ymwybyddiaieth staff o’r gofyniad polisi’n rheolaidd. Mae’r Bwrdd Iechyd yn cydnabod nad ydi cefnogaeth
cyfieithu ddim bob amser wedi ei drefnu’n ddigon prydlon a’i fod yn gweithio i fynd i’r afael â hyn.”
Casgliad 6
Bwriad yr ymchwil oedd i ddod â defnyddwyr a darparwyr gwasanaeth at ei gilydd i drafod materion llosg o’u
safbwyntiau gwahanol eu hunain. Roedd y cyfathrebu a gafwyd yn agored, yn onest ac yn eglur i bawb ac yn amlygu
mai’r hyn oedd yn achosi anhawster i’r defnyddwyr gwasanaeth oedd yr hyn oedd hefyd yn pryderu’r darparwyr.
Bu’n rhaid i un teulu aros 15 mlynedd cyn derbyn
gwasanaeth priodol i’w hanghenion…“os oes yna
anawsterau ar y lefel meddyg teulu/gofal sylfaenol
does dim gobaith o gyrraedd y lefel gofal eilaidd”.
Os nad ydi pobl y drefn gofal sylfaenol yn eich
deall chi, fyddwch chi ddim yn cyrraedd gofal
eilaidd hyd yn oed os oes gennych chi broblem.
Mae hyn yn codi cwestiwn ynglŷn â nifer y
problemau iechyd sydd heb eu diagnosio ymhlith
pobl o leiafrifoedd ethnig.
Fe roddodd y rhai a gymerodd ran yn yr ymchwil
enghreifftiau o ddioddefwyr clefyd siwgr yn yr
ysbyty oedd yn methu a deall y fwydlen ac yn
gorfod aros nes bod aelod o’r teulu’n ymweld â
nhw ac yn cyfieithu ar eu cyfer. Roedd hyn yn
angenrheidiol iddyn nhw allu deall bwydlenni ac
hefyd y cyfarwyddiadau ynglŷn â meddyginiaethau
a thriniaethau. Bu i hyn arwain at dderbyn bwyd
anaddas, a achosodd newidiadau annerbyniol yn
lefelau glwcos gwaed rhai o’r cleifion.
Mae cyfieithu gwael yn effeithio nid yn unig
yr unigolyn ond y teulu a’r gymuned hefyd.
Weithiau mae’n rhaid i aelod teulu, ambell waith
plentyn neu oedolyn ifanc, gyfieithu a hynny
mewn sefyllfaoedd anaddas, ac mae hyn yn
achosi embaras a gofid. Fe drafododd y rhai a
gymerodd ran yn yr ymchwil y peryglon sydd
ynghlwm â sefyllfaoedd o’r fath e.e. cam-gyfieithu
termau meddygol, a’r pwysau pellach mae
hynny’n rhoi ar y teulu.
Mae darparwyr Gwasanaethau’n ymwybodol, ar y lefel strategol, o’r dyletswydd gofal sydd arnyn nhw i ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd: “Dydi iaith ddim yn ddewis, mae o’n angen. Dydi pobl ddim yn dewis eu hiaith na’u hamgylchiadau”.
3. Mynediad i Wasanaethau Statudol: adroddiad o safbwynt
Hynafiaid Lleiafrifoedd Ethnig a Chyrff Allanol
Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWREN) yn gweithio gyda nifer o
wahanol bartneriaid ar draws pob maes cydraddoldeb. Fel elusen rydym wedi ymrwymo i:
• Weithio tuag at ddileu camwahaniaethu a difreinio o bob math
• Hyrwyddo cyfartaledd cyfle a pherthynas dda rhwng pawb drwy feithrin dealltwriaeth a
mynd i’r afael â phroblemau camwahaniaethu ac anghyfartaledd
• A gweithio tuag at ategu hawliau dynol pawb
Mae gwasanaethau NWREN yn cynnwys:
• Canolfannau galw-i-mewn
• Hyfforddiant codi ymwybyddiaeth ynglŷn â chydraddoldeb,
amrywiaeth a throsedd casineb
• Cynorthwyo gyda gwaith ymgynghori a chysylltu â chymunedau
• Darparu hyfforddiant ar bob lefel
• Cynnal sesiynau rhyngweithiol a gweithdai i staff, gwirfoddolwyr a chymunedau
• Cofnodi, monitro ac ymateb i droseddau casineb
• Cefnogi gwaith datblygu strategol a pholisïau, a chynnal asesiadau effaith
Mae NWREN yn elusen sy’n amcanu at ddileu camwahaniaethu o bob math. Os ydych chi’n
teimlo eich bod wedi eich trin yn annheg, fe allwch chi siarad yn gyfrinachol â ni.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’n gwasanaethau cysylltwch â NWREN.
www.nwren.org info@nwren.org 01492 622 233
NWREN @NWRENinfo
Hyrwyddo cydraddoldeb • herio camwahaniaethu • ategu hawliau dynol
Y Ganolfan Cydraddoldeb Ffordd Bangor Penmaenmawr Conwy LL34 6LF
Rhif Cwmni: 5843319 Rhif Cofrestriad Elusen: 1116970