SlideShare a Scribd company logo
1 of 7
Download to read offline
Lleisiau Lleol Conwy a Môn
Astudiaeth Sylfaenol
ar gyfer y Fframwaith Cysylltu a Chyfranogi Cymunedol
Adroddiad wedi ei ysgrifennu a'i gyhoeddi gan NWREN fel rhan o Lleisiau Lleol
©NWREN 2014
Rhaglen Lleisiau Lleol
Rhaglen grantiau strategol, wedi’i hariannu a’i llywio gan y Gronfa Loteri Fawr, ydy Lleisiau Lleol i geisio
sicrhau bod pobl gyffredin yn cael mwy o ddylanwad ar bolisïau a phenderfyniadau sy’n cael effaith ar eu
cymuned. Mae hefyd yn cefnogi pobl a’u hannog i ymwneud â gwaith cynllunio a gweithredu gwasanaethau a
phrosiectau sy’n ymateb i anghenion eu cymunedau ac yn gweithio er lles y cymunedau.
Yn y cyfnod rhwng 2013 a 2017, mae deg Cyngor Sirol Gwirfoddol yn arwain y rhaglen Lleisiau Lleol yng
Nghymru. Yn y gogledd, mae Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy a Medrwn Môn wedi datblygu
portffolio o brosiectau cymunedol a phartnerio gyda phedwar ar ddeg o’u partneriaid sy’n sefydliadau. Mae’r
partneriaid yn cydweithio i ddatblygu sgiliau a hybu hyder pobl er mwyn nhw allu bod yn rhan o gynllunio a
darparu gwasanaethau cyhoeddus.
Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn annog y Cynghorau Gwirfoddol Sirol i lunio’u portffolio prosiectau gan gynnwys
cymunedau nad ydyn nhw’n cael lleisio’u barn yn aml. Mae prosiectau Lleisiau Lleol Conwy a Môn yn cynnwys
gweithio gyda chymunedau sy’n ‘anodd cysylltu â nhw’, yn ddifreintiedig neu sydd ag un o’r Nodweddion
Gwarchodedig a enwir dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 o ran ailbennu rhyw, anabledd, beichiogrwydd neu
famolaeth, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, hil neu oedran. Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector
cyhoeddus yn gofyn bod yr awdurdodau cyhoeddus yn ystyried effaith unrhyw benderfyniad ar y grwpiau o
bobl uchod.
Mae’r rhaglen yn rhagweld y buasai cyd-gynhyrchu’n golygu bod y gwasanaethau’n fwy effeithiol a
chynaliadwy yn y tymor hir. Mae’r gwasanaethau’n wynebu toriadau cyllidol ac maen nhw’n dibynnu ar
ddatblygu partneriaethau cydfuddiannol rhwng gyda’r cymunedau. Mae anogaeth ar y cyhoedd i gymryd
cyfrifoldeb dros flaenoriaethu’r gwasanaethau y maen nhw’n ystyried sydd bwysicaf ac mae’r gwasanaethau’n
cael eu hannog i wrando ar eu cymunedau a chynllunio fel eu bod yn darparu gwasanaeth mewn modd sy’n
osgoi problemau yn ogystal â’u datrys.
Ni fydd hyn yn digwydd yn sydyn, ac mae cynyddu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd gan bobl yn y cymunedau yn
dasg enfawr tra ein bod ni’n gweithio ar yr un pryd gyda darparwyr gwasanaeth i ddod o hyd i ffyrdd o
ymateb i doriadau cyllid yn y dyfodol agos. Mae cysylltu a chyfranogi cymunedol yn hanfodol er mwyn
cyrraedd targedau. Mae angen trafod yn agored ac eglur rhwng y cymunedau, y gwasanaethau cyhoeddus a’r
trydydd sector / y sector gwirfoddol a sicrhau bod ymroddiad a dealltwriaeth ar ran y partneriaid i fwrw
ymlaen i weithio fel hyn.
Mynegai
Cyflwyniad
Rhaglen Lleisiau Lleol 2
Astudiaeth Sylfaenol y Fframwaith Cysylltu a Chyfranogi Cymunedol 3
Pwysigrwydd Cyswllt Cymunedol 4
Prif Themâu a Chanfyddiadau
1. Hyder y Defnyddwyr Gwasanaeth i drafod â Darparwyr Gwasanaeth 5
2. Rhwystrau i Gyfathrebu / Cysylltu Llwyddiannus 6
3. Dulliau cysylltu/ ymgynghori a ddefnyddir 7
4. Targedu cyfranogwyr 8
5. Adborth a Datblygu Cyfleoedd ar gyfer Cyfrannu Pellach 9
Sylwadau 10
Camau Nesaf 11
Poster Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Cysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru
21
Lleisiau Lleol Conwy a MônLleisiau Lleol Conwy a Môn
Lleisiaul Lleol Ynys Môn, 9 partneriaeth portffolio
Lleisiaul Lleol Conwy, 5 partneriaeth portffolio
Pwysigrwydd Cysylltu Cymunedol
Sail yr astudiaeth sylfaenol ydy bod cysylltu, fel proses weithredol gyfrannol, yn bwysig ac o fudd i ddarparwyr
a defnyddwyr gwasanaeth.
Cafodd hyn ei gadarnhau gan un o Swyddogion Datblygu Lleisiau Lleol a nododd mai’r canlynol oedd y pethau
a wnaeth cysylltu â’r gymuned yn brofiad gwych, a dangos pa mor bwysig ydy bod y gymuned yn cyfrannu ac
yn teimlo bod ganddi afael ar y gwasanaethau cyhoeddus:
• Bu amryw o ffyrdd gwahanol o gysylltu a chyfranogi cymunedol
• Pobl y gymuned eu hunain a gynigiodd y syniad ar gyfer y Diwrnod o Hwyl
• Pobl y gymuned fu’n trefnu a chynnal y diwrnod gydag ychydig o gefnogaeth gan
y gweithwyr
• Roedd yr arian ar gael yn barod!!
• Daeth y gymuned at ei gilydd
• Bu i’r gweithwyr allu llenwi 160 holiadur a alluogodd iddyn nhw weithio ar y Cynllun
Gweithredu... “barn y gymuned... yn gweithio er mwyn y gymuned”
• Mae’r “pwyllgor gwaith bach” yn dal i gynnal digwyddiadau cymunedol!
Yn yr holiadur, roedd cynrychiolwyr y deunaw darparwr gwasanaeth yn gytûn bod cysylltu â’r gymuned yn un
ai pwysig iawn neu’n bwysig dros ben i’w sefydliad ac roedden nhw i gyd wedi bod mewn rhyw fath o
weithgaredd cysylltu â’u defnyddwyr gwasanaeth yn y flwyddyn 2012/13 dywedodd bron i dri chwarter o’r
cynrychiolwyr bod ganddyn nhw gynllun cydweithio.
Ond traean ohonyn nhw yn unig ddywedodd eu bod nhw wedi cymeradwyo’r Egwyddorion Cenedlaethol ar
gyfer Cysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru a dywedodd traean arall nad oedden nhw’n gwybod a oedd eu
sefydliad wedi cymeradwyo’r Egwyddorion ai peidio.
Holwyd y darparwyr gwasanaeth am eu hymgynghoriadau â’r cyhoedd yn 2012/13 a chytunodd pob un bod
hynny’n un ai pwysig iawn neu’n bwysig dros ben i’w sefydliad. Roedd y testunau trafod yn amrywio o
newidiadau i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i welliannau yn y rhwydweithiau mewnol ar hyd yr arfordir, ac
roedd ystod oedran y bobl yn yr ymgynghori yn amrywio o 19 oed hyd at oedran pensiynwyr.
Prif Themâu a Chanfyddiadau
Mae pum thema i’r prif ganfyddiadau:
1. Hyder y defnyddwyr gwasanaeth i drafod â darparwyr gwasanaeth
2. Rhwystrau i gysylltu a chyfathrebu llwyddiannus
3. Dulliau cysylltu ac ymgynghori
4. Targedu cyfranwyr
5. Adrodd a datblygu cyfleoedd ar gyfer cyfrannu pellach.
Astudiaeth Sylfaenol y Fframwaith Cysylltu a Chyfranogi Cymunedol
Trwy gydol y prosiect bydd un o’r partneriaid, Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru
(NWREN) yn monitro’r cynnydd yn y cysylltu a chyfranogi cymunedol yng Nghonwy a Môn ac yn datblygu
Fframwaith Cyswllt a Chyfranogi Cymunedol yn nodi egwyddorion ac arfer dda. Gwnaethpwyd yr Astudiaeth
Sylfaenol yn hanner cyntaf 2014, a holwyd pobl o dri grŵp gwahanol.
‘Er mwyn gallu cysylltu’n effeithiol, mae rhaid inni ddeall ein bod i gyd yn gweld y byd o safbwynt
gwahanol, a rhaid ystyried hyn wrthgyfathrebu ag eraill.’
Tony Robbins, Hyfforddwr Cefnogi Bywyd
Cafwyd safbwynt y darparwyr gwasanaeth gan ddeunaw cynrychiolwr o’r sector cyhoeddus a atebodd
holiadur am gysylltu cymunedol eu sefydliad a gweithgareddau ymgynghori yn ystod y flwyddyn 2012/2013.
Ar gyfer cael cynrychiolaeth o safbwynt y defnyddwyr gwasanaeth, gofynnwyd i 662 o bobl sut yr oedden
nhw’n teimlo ynglŷn â thrafod â’r sector gyhoeddus. Cyfrifwyd y nifer o atebion y byddai eu hangen er mwyn
cael ateb cymesur ar draws Conwy a Môn (sydd â phoblogaeth o 69,751 a 115,500) gydag offeryn mesur
maint sampl gan gwmni Creative Reseach Systems. Canfuwyd y buasai angen o leiaf 195 ateb o bob
awdurdod, ond ar gyfer ein hymchwil, cawsom ni sampl mawr o 662 o bobl.
Daw’r trydydd safbwynt gan bartneriaid Lleisiau Lleol a fynegodd eu barn nhw am sut i lwyddo i gysylltu’n
llwyddiannus â’r gymuned. Fe helpon nhw hefyd inni ddewis darparwyr gwasanaeth a hefyd felly i gysylltu â’r
defnyddwyr gwasanaeth er mwyn cael ein sampl o 662.
Mae Cynghorau Gwirfoddoli Sirol Gogledd Cymru a’r partneriaid portffolio wedi cymeradwyo Egwyddorion
Cenedlaethol Cymru ar gyfer Cysylltu Cymunedol yn ogystal â diffiniad y termau Cysylltu, Ymgynghori a
Chyfrannu drwy’r ddogfen.
43
Lleisiau Lleol Conwy a MônLleisiau Lleol Conwy a Môn
2. Rhwystrau i gyfathrebu a chysylltu llwyddiannus
DARPARwyR
GwASANAETh
DEFNyDDiwR
GwASANAETh
SwyDDoG
DATbLyGu
1. Safon hyder Defnyddwyr Gwasanaeth ynghylch cydweithio â Darparwyr Gwasanaeth
DARPARwyR
GwASANAETh
DEFNyDDiwR
GwASANAETh
SwyDDoG
DATbLyGu
65
Gofynnwyd i’r 662 defnyddiwr
gwasanaeth faint o hyder
sydd ganddynt i drafod â’r
sector cyhoeddus:
63% - dywedodd eu bod wedi
ceisio trafod / cysylltu â’r
sector cyhoeddus
57% - dywedodd eu bod yn
hyderus iawn neu’n eithaf
hyderus i siarad â phobl yn y
sector cyhoeddus
50% - dywedodd nad oedd
ganddynt lawer neu unrhyw
ffydd y buasai’r sector
cyhoeddus yn gwrando arnynt
52% - dywedodd eu bod yn
eithaf hyderus neu’n hyderus
iawn eu bod yn gwybod at
bwy neu i ble y dylent fynd i
gwyno am wasanaeth
yn aml maen nhw wedi
gwneud penderfyniad cyn i
chi agor eich ceg
’Dw i’n ei chael hi’n anodd
mynegi fy marn
‘Dw i ddim yn siŵr a ydyn nhw
am wrando arna’ i ac ystyried
fy marn o ddifrif
Dywedodd Swyddogion
Datblygu Lleisiau Lleol mai’r
elfennau pwysicaf o’u profiad
gorau o gysylltu cymunedol
oedd:
gweld hyder pobl yn tyfu, a’u
brwdfrydedd dros sicrhau bod
pobl ifanc yn cael yr un cyfle â
phawb arall
Pobl Lesbiaidd, Hoyw a
Deurywiol yn teimlo bod eu
profiadau’n bwysig ac yn sgil
hynny bod posib gweld
gweithredu ar ôl iddynt fynegi
eu barn
Gofynnwyd i gynrychiolwyr y
deunaw darparwr gwasanaeth
sut y buon nhw’n ceisio hybu
ffydd y cyhoedd bod eu barn
nhw’n cyfri:
13 - dywedodd eu bod wedi
gwneud hynny trwy ddangos
tystiolaeth bod barn y
cyhoedd o bwys
12 - dywedodd eu bod wedi
gwneud hynny drwy roi
cyfleoedd i bobl fynegi eu
barn
2 - dywedodd eu bod wedi
gwneud newidiadau ar ôl
ymgynghori â’r cyhoedd
rydym ni’n annog cysylltu
pellach â’r gymuned drwy
gyhoeddi llwyddiant y
gweithgareddau cysylltu fel
bod y cwsmeriaid yn gweld
gwerth y cydweithredu ac yn
gweld y canlyniadau a ddaw’n
uniongyrchol o hynny
... sut i gysylltu’n iawn ac
addas gyda chymunedau.
Mae’n weddol hawdd cysylltu
â chynrychiolwyr grwpiau, ond
ydyn ni’n cysylltu â’r cyhoedd
fel y dylem ni? Mae’n debyg
nad ydym ni. Gallwn wella ar
hyn
Gofynnwyd i’r 662 defnyddiwr
gwasanaeth beth oedd yn ei
gwneud hi’n anodd iddyn nhw
siarad â’r sector cyhoeddus.
Yr atebion mwyaf cyffredin
oedd:
1. Nad oedden nhw’n gwybod
â phwy y dylen nhw gysylltu /
does neb yn cymryd cyfrifoldeb
2. Anawsterau iaith /
biwrocratiaeth / cyrraedd at y
mannau perthnasol
3. Diffyg hyder mewn
sefyllfaoedd swyddogol
‘dach chi byth yn siarad efo’r un
person ddwywaith
‘dw i’n cael fy mhasio o berson i
berson yn dragwyddol
mae ‘na wahaniaethau
diwylliannol, diffyg hyder
Mi fydda’ i’n gwneud fy ngorau,
ond dydy hynny ddim yn golygu
eu bod nhw’n gwrando
hoffwn i i’r sector cyhoeddus
fod yn fwy agored
mae’r rhan fwyaf yn gweld
pethau drwy lygaid biwrocrat,
dydyn nhw ddim yn sylweddoli
mai ein harian ni sy’n eu cyflogi
nhw
dydyn nhw ddim ond ar gael o
ddydd Llun – Gwener rhwng 9 a
5 (‘dw i’n gweithio hefyd). Mae
gormod o adrannau, does gen i
ddim syniad gyda pha un y
dylwn i gysylltu
Anfonodd
Swyddogion
Datblygu Lleisiau
Lleol y negeseuon
canlynol at y
darparwyr
gwasanaeth
cyhoeddus:
Rhowch fwy o
rybudd ac amser i
bobl ymateb i
ymgynghoriad ac i
lenwi holiaduron.
Mae grwpiau dros
50 oed yn cyfarfod
unwaith y mis ac
felly mae arnyn nhw
angen amser i
baratoi a’u llenwi
mae diffyg
dealltwriaeth o’r
trafferthion y gall y
cyfranogion wynebu
fel: anawsterau
cyrraedd at fannau,
cyswllt gwael (iaith
y corff mewn
cyfarfodydd
personol yn gallu
creu awyrgylch “ni”
a “nhw”), diffyg
cofnodi’r hyn y mae
pobl yn ddweud,
defnyddio iaith sydd
yn peri dryswch ac
felly yn rhwystr i’r
broses, dim
gweithgareddau ble
mae pawb yn
cyfranogi, dim
gwybodaeth ynglŷn
â sut yr adroddir yn
ôl at y cyrff
cyhoeddus na sut y
gall barn y cyhoedd
effeithio ar
benderfyniadau
Nododd y 18 darparwr gwasanaeth y
canlynol fel rhwystrau yr oedden nhw wedi
eu gweld wrth drefnu ymgynghori â’r
cyhoedd:
1. angen mwy o adnoddau
2. dihidrwydd y bobl yr ymgynghorwyd â
nhw
3. anghenion o ran cyrraedd at y bobl yr
ymgynghorwyd â nhw ‘anodd cysylltu â
nhw, ail iaith, oedran’
Roedd mwy na hanner y darparwyr
gwasanaeth yn cytuno neu’n cytuno’n gryf
bod gan eu sefydliad broses ar gyfer
rhannu arfer dda er mwyn gwella cysylltu.
Bu un ar bymtheg o gynrychiolwyr yn
ystyried dulliau newydd o ymgynghori er
mwyn goresgyn y ddau rwystr mwyaf:
7 - gyfarfod wyneb yn wyneb awgrymodd
6 - ymegnir drwy’r cyfryngau cymdeithasol
4 - eu bod yn cydweithio er mwyn cynyddu
adnoddau, osgoi dyblygu ac arbed costau.
Bu’r un ar bymtheg yn trafod sut y dylid
mesur llwyddiant ymgynghori. Dyma’r
oedden nhw’n ei weld yn bwysig:
13 - canlyniad ymgynghori’n arwain at
newid polisi / gweithredu
11 - cynnwys yr atebion
8 - presenoldeb yn y cyfarfodydd
8 - nifer y sawl sy’n ymateb
Gall un llais yn unig newid pethau
Ansawdd yr ymateb
mae angen inni gysylltu â phobl yn well,
ond sut mae gwneud hynny os ydyn ni’n
eistedd yn y swyddfa trwy’r dydd? Rhaid
inni ddefnyddio’n staff yn well... Mae gan
rai aelodau o’r staff gysylltiad gwell gyda
phobl
Lleisiau Lleol Conwy a MônLleisiau Lleol Conwy a Môn
4. Targedu cyfranogwyr
SwyDDoG
DATbLyGu
DEFNyDDiwR
GwASANAETh
DARPARwyR
GwASANAETh
3. Dulliau cysylltu / ymgynghori a ddefnyddir
DARPARwyR
GwASANAETh
DEFNyDDiwR
GwASANAETh
SwyDDoG
DATbLyGu
87
Gofynnwyd i’r 662 o
ddefnyddwyr gwasanaeth
sut y buasen nhw’n hoffi
trafod â’r darparwyr
gwasanaeth:
92% - dywedodd y
buasai’n well ganddyn
nhw ddulliau personol o
gyfathrebu, gyda:
62%- yn dweud y buasai
cyfarfod wyneb yn wyneb
orau;
30% - yn dweud y
buasai’n well ganddyn
nhw drafod dros y ffôn;
8% - yn dweud y buasai’n
well ganddyn nhw drafod
drwy e-bost / post / arall
dolen sain a systemau “T”
(cymorth clyw) ddim yn
gweithio, dydy’r staff
ddim yn ystyried
problemau clyw
problemau cyfathrebu
gan fy mod i’n rhannol
fyddar
mwy cyfathrebu wyneb
yn wyneb bob tro’n well
mae popeth yn gweithio
trwy gyfrifiadur, dydw i
byth yn siarad â pherson.
Rhaid aros 7 niwrnod am
ateb
os ydych chi’n cyfarfod
wyneb yn wyneb, mae’n
haws deall beth sydd ym
meddwl pobl
Anfonodd Swyddogion
Datblygu Lleisiau Lleol y
negeseuon canlynol at y
darparwyr gwasanaeth:
Rhaid cynnwys eich
cynulleidfa darged ym
mhroses dylunio trefn a
gweithgareddau
cysylltu. Rhaid eu profi’n
gyntaf ac yna yn eu
haddasu a gofyn am
gyngor gan gyfaill
beirniadol (fel staff
Lleisiau Lleol) cyn
gweithredu’r drefn yn
gyffredinol. Mae cyswllt
cymunedol yn newid yn
barhaus, mae angen
dylunio’r dulliau a
ddefnyddir i ateb
anghenion y bobl. Dydy
hi ddim yn bendant y
bydd dull sy’n gweithio
mewn un man mor
llwyddiannus mewn
man arall, mae angen
dylunio pob proses o
gysylltu yn arbennig.
Ceisiwch wneud y
cysylltu’n hwyl, yn
berthnasol ac yn addas.
Rhowch Wybod,
Rhowch Wybod,
Rhowch Wybod!
Cydweithiwch ag
asiantaethau eraill
O’r deunaw darparwr gwasanaeth, dyma’r
nifer ohonyn nhw a oedd yn cytuno neu’n
cytuno’n gryf â’r datganiadau canlynol:
17 – bod y cysylltu wedi ei gynllunio a’i
ddarparu yn amserol ac yn addas
15 – bod y cysylltu’n cael digon o adnoddau
a chefnogaeth i lwyddo
12 - bod y cysylltu’n annog ac yn galluogi
pawb perthnasol i gymryd rhan.
Gofynnwyd i’r deunaw cynrychiolydd pa
ddulliau cysylltu yr oedden nhw’n eu
defnyddio ym 2012/13, dyma’r niferoedd a’r
dulliau a nodon nhw:
11 - arolwg / holiaduron / holiadur ar-lein
(survey monkey) ond dim ond 2 ddywedodd
eu bod nhw’n llwyddiannus iawn
9 – defnyddio paneli / grwpiau ffocws /
fforymau, a dywedodd saith o’r naw eu bod
nhw’n llwyddiannus iawn
8 - defnyddio digwyddiadau a chyswllt
cymunedol, dywedodd 4 eu bod nhw’n
weddol lwyddiannus neu’n llwyddiannus
iawn.
Roedd bron i dri chwarter y cynrychiolwyr yn
cytuno neu’n cytuno’n gryf bod yr
wybodaeth yr oedden nhw’n ei chynnig heb
jargon, yn addas ac yn ddealladwy.
Rhannwyd y dulliau yr oedd y cynrychiolwyr
yn eu defnyddio i sicrhau bod eu
cwestiynau’n ddealladwy ac yn hawdd i’w
hateb dan y tri canlynol:
1. Drwy sicrhau bod y testun yn hawdd i’w
ddarllen, heb jargon a bod dewis rhwng y
ddwy iaith
2. Drwy ddefnyddio amrywiaeth o
gyfryngau: y cyfryngau cymdeithasol oedd
yn sgorio uchaf gyda 4 allan o 15
3. Drwy brofi’r cwestiynau ymgynhori gan
ddefnyddio gwasanaethau comisiynu
arbenigol / grwpiau darllen cyhoeddus
Roedd y sylwadau
gan y sampl o 662
defnyddwyr
gwasanaeth yn
cynnwys y canlynol:
dydyn nhw ddim
wedi eu hyfforddi i
ddelio â chleientiaid
amrywiol
dydy pobl ifanc ddim
yn cael dweud eu
dweud
efallai nad oes arnyn
nhw eisiau gwrando
barn pobl ifanc
’dyn ni’n teimlo nad
ydy’n barn ni’n cyfri
wrth heneiddio
hoffwn ni iddyn nhw
wrando fwy ar hen
bobl
Anfonodd Swyddogion
Datblygu Lleisiau Lleol
y negeseuon canlynol
at y darparwyr
gwasanaeth
cyhoeddus:
Mae’n rhaid i’r
wybodaeth, y
cyhoeddusrwydd fod
yn hawdd i’r cyhoedd
gael gafael arnyn nhw
a’r cysylltu â’r
sefydliadau yn hawdd
i’r cyhoedd ymwneud
ag o. Mae angen
edrych ar sut mae
gwledydd eraill yn
gweithio i weld arfer
dda, a hefyd rhannu
mwy o arfer dda. Bydd
rhaid ymwneud â’r
gymuned leol fel bod
pobl yn cael dweud eu
dweud
Byddai unigion yn cael
cyfle i wneud
cysylltiadau a
chyfeillgarwch
newydd. Byddai pobl
sydd y tu allan i’r ‘brif
ffrwd’ yn gallu lleisio
barn
Roedd mwy na thri chwarter deunaw
cynrychiolydd y darparwr gwasanaeth yn cytuno
neu’n cytuno’n gryf bod eu trefn cysylltu wedi ei
ddylunio i’w gwneud hi’n haws i ystod amrywiol o
bobl gymryd rhan yn effeithiol.
Eu tri phrif ddiffiniad o ‘anodd cysylltu â nhw’
oedd:
1. Pobl bell o gymuned (pobl na ellir cysylltu â
nhw yn hawdd neu sydd ddim yn rhan
gweithredol o’r gymuned)
2. Pobl ag anableddau / anawsterau dysgu /
problemau iechyd meddwl
3. Pobl ddigartref
Y tri grŵp o bobl anoddaf i gysylltu â nhw oedd:
1. Pobl ifanc
2. Gweithwyr llawn amser
3. Lleiafrifoedd ethnig
Roedd dau draean y cynrychiolwyr yn gwybod bod
eu sefydliadau yn monitro cydraddoldeb eu
hatebwyr.
Nid oedd pawb yn ymwneud â monitro, ond
dywedodd mwy na hanner y cynrychiolwyr eu bod
nhw’n defnyddio’r categorïau canlynol er mwyn
monitro: ailbennu rhyw, anabledd, beichiogrwydd
neu famolaeth, crefydd neu gred, cyfeiriadedd
rhywiol, hil neu oedran.
Dywedodd traean bod canfyddiadau’r ymgynhori
wedi eu trosglwyddo’n wybodaeth ar gyfer yr
Asesiadau Effaith Cydraddoldeb mewnol.
Prif bwrpas y monitro oedd:
1. Sicrhau nad ydyn nhw’n anffafrio unrhyw un
2. Deall problemau y mae rhai cymunedau’n eu
hwynebu / y Nodweddion Gwarchodedig
3. Sicrhau mapio anghenion
Gall cwestiynau busneslyd greu rhwystr felly
peidiwch â’u gofyn os nad oes pwrpas
Ydyn ni’n holi digon o bobl er mwyn gallu monitro
cydraddoldeb?
Lleisiau Lleol Conwy a MônLleisiau Lleol Conwy a Môn
Sylwadau
Sail yr astudiaeth sylfaenol ydy bod cyswllt, fel proses weithredol gyfrannol, yn bwysig ac o fudd i ddarparwyr
a defnyddwyr gwasanaeth. Mae’r canfyddiadau’n dangos bod rhai gwahaniaethau barn sylfaenol ynglŷn â’r
amcanion, ystyr a gwerth cyswllt a hefyd ynglŷn â’r dull gorau i’w defnyddio. Dyma rai sylwadau am y
canfyddiadau a syniadau ynglŷn â pham y cafwyd y canfyddiadau hyn.
1. hyder y Defnyddiwr Gwasanaeth i Drafod gyda Darparwyr Gwasanaeth
Dywedodd tri chwarter cynrychiolwyr y darparwyr gwasanaeth eu bod nhw’n cynnig tystiolaeth i ddangos
bod barn defnyddwyr gwasanaeth yn cyfri, ond eto dywedodd hanner y defnyddwyr gwasanaeth nad oedd
ganddyn nhw lawer o ffydd, neu ddim o gwbl, y buasai’r sector cyhoeddus yn gwrando eu barn.
Wrth ddarllen y sylwadau, gallwn weld sut y daeth y defnyddwyr gwasanaeth i fod â chyn lleied o hyder yn y
sector cyhoeddus. Roedden nhw’n barnu: i ba raddau’r oedd y darparwyr gwasanaeth yn ateb eu gofynion;
sut y gwrandawyd arnynt, sut y gwerthfawrogwyd eu barn a sut y cawsant eu cynnwys. Roedd y darparwyr
gwasanaeth yn barnu hysbysebu a rhoi mwy o gyfleoedd am weithgareddau ymgynghori / cyswllt.
Mae cyfathrebu a chydweithio yn broses â dwy ochr. Dim ond pan mae pobl yn teimlo’n hyderus ac yn teimlo
bod ganddyn nhw rywfaint o awdurdod y gallan nhw roi gwybodaeth ddefnyddiol i ddarparwyr gwasanaeth, a
dim ond pan mae darparwyr gwasanaeth yn cysylltu’n hyderus ac effeithiol y cân nhw fewnbwn gan y
defnyddiwr gwasanaeth.
2. Rhwystrau i Gyfathrebu / Cysylltu’n Llwyddiannus
Y tri pheth a nododd cynrychiolwyr y darparwyr gwasanaeth fel rhwystrau i gyfathrebu / cysylltu’n
llwyddiannus oedd diffyg adnoddau, dihidrwydd y bobl, a’u hanghenion o ran cysylltu â nhw. Amlygwyd bod
datgysylltiad rhwng y darparwyr a’r defnyddwyr gwasanaeth pan gafwyd ymateb y defnyddwyr yn egluro pam
ei bod hi’n anodd siarad â’r sector cyhoeddus. Y rhesymau a roddon nhw oedd biwrocratiaeth, methu ateb i’r
gofynion o ran cysylltu â nhw’n ymarferol, a diffyg hyder.
Fe ymddengys mai’r prif wahaniaeth ydy’r syniad sydd gan y darparwyr/defnyddwyr gwasanaeth o’i gilydd.
Roedd pawb yn dueddol o gytuno ar natur y rhwystrau. Roedd yn ddifyr gweld bod syniadau cynrychiolwyr y
darparwyr gwasanaeth er mwyn gwella’r sefyllfa yn cynnwys defnyddio dulliau wyneb yn wyneb neu
ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol wrth drafod ynghyd â gweithio ar y cyd. Roedd hyn yn atsain hoff
ddulliau’r defnyddwyr gwasanaeth, fel y trafodir isod.
3. Dulliau cysylltu / trafod
Dywedodd hanner cynrychiolwyr y darparwyr gwasanaeth mai dulliau personol o gysylltu / ymgynghori fel
fforymau, paneli a grwpiau ffocws oedd y mwyaf llwyddiannus. Dywedodd naw deg dau y cant o ddefnyddwyr
gwasanaeth ei bod yn well ganddyn nhw ddulliau personol o gyfathrebu hefyd, a chafwyd enghreifftiau o sut
y bu i broblemau technolegol beri problemau cyfathrebu.
Er bod dros dri chwarter y darparwyr gwasanaeth yn cytuno neu’n cytuno’n gryf bod eu dulliau o gysylltu â’r
gymuned yn derbyn digon o adnoddau, dywedon nhw ynghynt bod diffyg adnoddau yn un o’r prif rwystrau.
Mae hyn yn awgrymu bod angen mwy nac adnoddau er mwyn sicrhau cyswllt llwyddiannus.
5. Adborth a Datblygu Cyfleoedd ar gyfer mwy o Gyfranogiad
SwyDDoG
DATbLyGu
DEFNyDDiwR
GwASANAETh
DARPARwyR
GwASANAETh
109
Fodd bynnag, mae
llawer o’r sylwadau
gan y defnyddwyr
gwasanaeth yn
dynodi
anfodlonrwydd yn y
maes:
Os ‘dan ni’n cynnig
syniadau newydd,
dydyn nhw byth i’w
gweld yn cael eu
defnyddio
’Dw i’n aml yn
ansicr a ydyn nhw
wedi fy neall i neu
wedi gwerthfawrogi
beth ddywedais i
Pan maen arnyn
nhw eisiau ein barn
ni, dydyn nhw ddim
yn cyhoeddi
hynny’n dda! ‘Dan
ni ddim ond yn dod
ar ddeall yn rhy
hwyr bod
ymgynghori neu
ryw ddigwyddiad
wedi digwydd.
Weithiau dydy’r
digwyddiadau ddim
yn hawdd mynd
iddyn nhw a dydy’r
awyrgylch ddim yn
gyfeillgar yno.
Mae gennym ni
lawer o syniadau
ond dydyn nhw
ddim am eu clywed
nhw
Dw i ddim yn
meddwl bod gen i
ddylanwad ar
benderfyniadau
Pan ofynnwyd i
Swyddogion Datblygu
Lleisiau Lleol pa neges yr
hoffen nhw roi i’r
cyhoedd ynglŷn â sicrhau
bod cysylltu a
chydweithio llwyddiannus
â’r gymuned, atebodd
dau gan ddweud:
Mae adborth yn
angenrheidiol, mae’n
hollbwysig er mwyn rhoi
gwerth i drafodaethau ac
i ysgogi trafodaeth
bellach. Gall yr
adborth fod ar ffurf
“fe ddywedoch chi... felly
fe wnaethom ni...”
Mae’r cyhoedd yn
gwneud ffafr â chi, felly
gwnewch yn siŵr ei bod
hi’n werth eu hymdrech.
Gweithiwch gyda phobl,
trafodwch â nhw yn
ddigon pell o flaen llaw fel
eich bod chi’n gallu
defnyddio’r wybodaeth /
y farn y maen nhw’n ei
rhoi i chi, byddwch yn
barod i newid eich
penderfyniadau yn sgil yr
hyn maen nhw’n ddweud
ac yna rhowch wybod i’r
bobl bod eu barn nhw
wedi cael effaith. Yn rhy
aml, mae’n ymddangos
mai edrych am
gymeradwyaeth o’r hyn y
maen nhw am wneud (ac
eisoes wedi dechrau ei
wneud) y mae’r
darparwyr.
Gwerthfawrogwch farn y
cyhoedd a rhowch werth
iddi
Roedd dau draean y cynrychiolwyr y darparwr
gwasanaeth yn cytuno neu’n cytuno’n gryf bod y
cyfranogiad yr ymgynghori’n cael gwybod am effaith
eu cyfraniad.
Roedd bron i ddau draean y cynrychiolwyr yn dweud
eu bod yn cyfeirio at y cyfraniadau a wnaed gan y
cyfranogwyr yn y broses ymgynghori wrth gyhoeddi
penderfyniadau terfynol y cyfarwyddwyr / cyngor.
Roedd dros dri chwarter y cynrychiolwyr yn dweud
eu bod wedi annog mwy o gyfleoedd am adborth /
cyfathrebu ar ôl cyhoeddi’r ddogfen / adroddiad
terfynol drwy wneud y canlynol:
• Rhoi adborth / anfon newyddion ar
gyfranogwyr
• Gwahodd cyfranogwyr i ddal ati i ymgynghori
â nhw
• Rhoi dull cyswllt rhwydd iddyn nhw drafod â
swyddog addas.
Dywedodd dros dri chwarter y cynrychiolwyr eu bod
nhw’n annog trigolion i gyfranogi a dylanwadu ar
benderfyniadau lleol a llunio polisïau drwy sefydlu
paneli ffocws / pwyllgorau / grwpiau fel y canlynol:
• Cyfleoedd i gynrychioli
• Paneli’r cyhoedd
• Byrddau trafod / pwyllgorau
Roedd bron i hanner cynrychiolwyr y sector
cyhoeddus yn dweud eu bod wedi datblygu paneli’r
cyhoedd ac mai eu tair maen brawf ar gyfer dewis
aelodau oedd:
1. Eu rôl benodol (e.e. tenant tŷ)
2. Eu bod nhw’n perthyn i’r Cylch Perthnasol
3. Bod grwpiau lleiafrifol yn cael cynrychiolaeth
Mae gennym ni grŵp cyfathrebu’r cyhoedd yr ydym
yn gallu cysylltu ag o i ofyn barn am gwestiynau
ymgynghori. Mae gennym ni staff arbenigol (y Tîm
Cyfathrebu a staff Datblygu Cymunedol) sy’n gallu
helpu ni i ddatblygu ymgynghoriadau a holiaduron i
sicrhau eu bod nhw ar gael ar ffurf sain ac yn
ddwyieithog
Lleisiau Lleol Conwy a MônLleisiau Lleol Conwy a Môn
4. Targedu cyfranogwyr
Roedd dros dri chwarter cynrychiolwyr y darparwr gwasanaeth yn cytuno neu’n cytuno’n gryf bod eu dull o
gysylltu wedi ei lunio i’w gwneud hi’n haws i ystod o bobl amrywiol gymryd rhan yn effeithiol.
Pan ofynnwyd beth oedd ‘anodd cysylltu â nhw’ yn golygu, dyma a restrwyd fel enghreifftiau: pobl nad ydynt
mewn cysylltiad aml ac eraill, pobl wedi’i datgysylltu o gymuned, pobl anabl, a phobl ddigartref, y mwyaf
‘anodd cysylltu â nhw’ oedd pobl ifanc, lleiafrifoedd ethnig a gweithwyr llawn amser. Er bod yr atebion yn
dweud bod angen nodi’r anghenion penodol, doedden nhw ddim yn ymdrin â’r ystod gyfan o amrywiaeth na’r
Nodweddion Gwarchodedig.
Fodd bynnag, mae sylwadau unigolion megis, “oedd gennym ni ddigon o bobl i allu monitro cydraddoldeb?”
efallai’n dangos diffyg amrywiaeth ymysg y cyfranogwyr. Ydy hyn yn awgrymu bod angen mwy o hyfforddiant i
weithwyr ynglŷn â gwerth monitro cydraddoldeb ac am ofynion cyfreithiol y Ddeddf Cydraddoldeb a’r
Asesiadau Effaith Cydraddoldeb?
5. Sylwadau ar Adborth a Datblygu Cyfleoedd ar gyfer Cyfranogi Pellach
Mae dau draean o ddarparwyr gwasanaeth yn cyhoeddi sut mae atebion cyfranogwyr wedi effeithio ar eu
penderfyniadau, a dywedodd dros dri chwarter eu bod nhw’n annog mwy o adborth ac yn cynnig
cynrychiolaeth a rôl ar gyfer cyfraniadau unigol. Mae’r canfyddiadau’n dangos bod darparwyr y sector
cyhoeddus yn weithredol iawn yn y maes yma ond dydy sylwadau’r defnyddwyr gwasanaeth ddim yn
awgrymu’r un boddhad yn y maes.
Maen nhw dan yr argraff nad oes adborth a bod y cyfleoedd i fod ar baneli’r cyhoedd / fforymau neu mewn
grwpiau ffocws yn brin. Os nad ydy hyn yn gywir, y mae angen mwy o hysbysebu a chyhoeddi. Fel y dywedodd
un Swyddog Datblygu “Rhowch Wybod, Rhowch Wybod, Rhowch Wybod!”
Awgrymiadau ar gyfer y Camau Nesaf
1. Pob sefydliad darparu gwasanaeth yn cymeradwyo ac yn rhoi Egwyddorion Cenedlaethol
ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru ar waith.
2. Pob darparwr gwasanaeth cyhoeddus yn hybu ffydd y defnyddwyr gwasanaeth bod eu hanghenion
a’u barn yn bwysig drwy sicrhau bod eu barn yn cael sylw, gwerth a’u bod nhw’n cael eu cynnwys.
3. Pob darparwr gwasanaeth cyhoeddus yn deall mai hoff ddull cyfathrebu defnyddwyr gwasanaeth
ydy cyswllt wyneb yn wyneb, a’u bod yn addasu eu dulliau i adlewyrchu hyn.
4. Pob darparwr gwasanaeth cyhoeddus yn deall gwerth monitro cydraddoldeb a sicrhau cyfathrebu
â’r ystod lawn o bobl amrywiol, yn cynnwys pobl wedi’u gwthio i gyrion cymdeithas, pobl â
Nodweddion Gwarchodedig a phobl y mae’n ‘anodd cyrraedd atyn nhw’.
5. Darparwyr gwasanaeth cyhoeddus roi mwy o adborth i gyfranogwyr a rhoi cyhoeddusrwydd mwy
i’r cyfleoedd i fod ar baneli’r cyhoedd / fforymau / grwpiau ffocws.
Diolchiadau
Diolch i’r Gronfa Loteri Fawr am ddatblygu Lleisiau Lleol ac i Cefnogaeth
Gymunedol a Gwirfoddol Conwy a Medrwn Môn am fod yn gyfrifol am
y ddau brosiect Lleisiau Lleol yn yr ardal.
Atodiadau sydd ar gael ar gais
1. Rhestr o bartneriaid Lleisiau Lleol yng Nghonwy a Môn
2. Copïau o’r Holiaduron a ddefnyddiwyd
3. Rhestr o’r sefydliadau darparu gwasanaeth a holwyd
4. Data monitro cydraddoldeb a sylwadau defnyddwyr gwasanaeth.
11
Lleisiau Lleol Conwy a Môn

More Related Content

More from NWREN

Nwren meea language report final
Nwren meea language report finalNwren meea language report final
Nwren meea language report final
NWREN
 
Nwren meea language report full draft
Nwren meea language report full draftNwren meea language report full draft
Nwren meea language report full draft
NWREN
 

More from NWREN (11)

NWREN Report 2015
NWREN Report 2015NWREN Report 2015
NWREN Report 2015
 
NWREN MEEA Language Report English
NWREN MEEA Language Report EnglishNWREN MEEA Language Report English
NWREN MEEA Language Report English
 
NWREN MEEA Language Report Cantonese
NWREN MEEA Language Report  CantoneseNWREN MEEA Language Report  Cantonese
NWREN MEEA Language Report Cantonese
 
NWREN MEEA Access to Statutory Services: from the perspective of both Minorit...
NWREN MEEA Access to Statutory Services: from the perspective of both Minorit...NWREN MEEA Access to Statutory Services: from the perspective of both Minorit...
NWREN MEEA Access to Statutory Services: from the perspective of both Minorit...
 
NWREN MEEA Language Report Portuguese
NWREN MEEA Language Report  PortugueseNWREN MEEA Language Report  Portuguese
NWREN MEEA Language Report Portuguese
 
Final report developing effective engagement for consultation with black and ...
Final report developing effective engagement for consultation with black and ...Final report developing effective engagement for consultation with black and ...
Final report developing effective engagement for consultation with black and ...
 
Executive summary developing effective engagement for consultation with black...
Executive summary developing effective engagement for consultation with black...Executive summary developing effective engagement for consultation with black...
Executive summary developing effective engagement for consultation with black...
 
Nwren meea language report final
Nwren meea language report finalNwren meea language report final
Nwren meea language report final
 
Nwren meea language report full draft
Nwren meea language report full draftNwren meea language report full draft
Nwren meea language report full draft
 
Cv english web
Cv english webCv english web
Cv english web
 
Presentation of baseline study eng
Presentation of baseline study   engPresentation of baseline study   eng
Presentation of baseline study eng
 

Cv welsh web

  • 1. Lleisiau Lleol Conwy a Môn Astudiaeth Sylfaenol ar gyfer y Fframwaith Cysylltu a Chyfranogi Cymunedol Adroddiad wedi ei ysgrifennu a'i gyhoeddi gan NWREN fel rhan o Lleisiau Lleol ©NWREN 2014
  • 2. Rhaglen Lleisiau Lleol Rhaglen grantiau strategol, wedi’i hariannu a’i llywio gan y Gronfa Loteri Fawr, ydy Lleisiau Lleol i geisio sicrhau bod pobl gyffredin yn cael mwy o ddylanwad ar bolisïau a phenderfyniadau sy’n cael effaith ar eu cymuned. Mae hefyd yn cefnogi pobl a’u hannog i ymwneud â gwaith cynllunio a gweithredu gwasanaethau a phrosiectau sy’n ymateb i anghenion eu cymunedau ac yn gweithio er lles y cymunedau. Yn y cyfnod rhwng 2013 a 2017, mae deg Cyngor Sirol Gwirfoddol yn arwain y rhaglen Lleisiau Lleol yng Nghymru. Yn y gogledd, mae Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy a Medrwn Môn wedi datblygu portffolio o brosiectau cymunedol a phartnerio gyda phedwar ar ddeg o’u partneriaid sy’n sefydliadau. Mae’r partneriaid yn cydweithio i ddatblygu sgiliau a hybu hyder pobl er mwyn nhw allu bod yn rhan o gynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn annog y Cynghorau Gwirfoddol Sirol i lunio’u portffolio prosiectau gan gynnwys cymunedau nad ydyn nhw’n cael lleisio’u barn yn aml. Mae prosiectau Lleisiau Lleol Conwy a Môn yn cynnwys gweithio gyda chymunedau sy’n ‘anodd cysylltu â nhw’, yn ddifreintiedig neu sydd ag un o’r Nodweddion Gwarchodedig a enwir dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 o ran ailbennu rhyw, anabledd, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, hil neu oedran. Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gofyn bod yr awdurdodau cyhoeddus yn ystyried effaith unrhyw benderfyniad ar y grwpiau o bobl uchod. Mae’r rhaglen yn rhagweld y buasai cyd-gynhyrchu’n golygu bod y gwasanaethau’n fwy effeithiol a chynaliadwy yn y tymor hir. Mae’r gwasanaethau’n wynebu toriadau cyllidol ac maen nhw’n dibynnu ar ddatblygu partneriaethau cydfuddiannol rhwng gyda’r cymunedau. Mae anogaeth ar y cyhoedd i gymryd cyfrifoldeb dros flaenoriaethu’r gwasanaethau y maen nhw’n ystyried sydd bwysicaf ac mae’r gwasanaethau’n cael eu hannog i wrando ar eu cymunedau a chynllunio fel eu bod yn darparu gwasanaeth mewn modd sy’n osgoi problemau yn ogystal â’u datrys. Ni fydd hyn yn digwydd yn sydyn, ac mae cynyddu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd gan bobl yn y cymunedau yn dasg enfawr tra ein bod ni’n gweithio ar yr un pryd gyda darparwyr gwasanaeth i ddod o hyd i ffyrdd o ymateb i doriadau cyllid yn y dyfodol agos. Mae cysylltu a chyfranogi cymunedol yn hanfodol er mwyn cyrraedd targedau. Mae angen trafod yn agored ac eglur rhwng y cymunedau, y gwasanaethau cyhoeddus a’r trydydd sector / y sector gwirfoddol a sicrhau bod ymroddiad a dealltwriaeth ar ran y partneriaid i fwrw ymlaen i weithio fel hyn. Mynegai Cyflwyniad Rhaglen Lleisiau Lleol 2 Astudiaeth Sylfaenol y Fframwaith Cysylltu a Chyfranogi Cymunedol 3 Pwysigrwydd Cyswllt Cymunedol 4 Prif Themâu a Chanfyddiadau 1. Hyder y Defnyddwyr Gwasanaeth i drafod â Darparwyr Gwasanaeth 5 2. Rhwystrau i Gyfathrebu / Cysylltu Llwyddiannus 6 3. Dulliau cysylltu/ ymgynghori a ddefnyddir 7 4. Targedu cyfranogwyr 8 5. Adborth a Datblygu Cyfleoedd ar gyfer Cyfrannu Pellach 9 Sylwadau 10 Camau Nesaf 11 Poster Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Cysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru 21 Lleisiau Lleol Conwy a MônLleisiau Lleol Conwy a Môn Lleisiaul Lleol Ynys Môn, 9 partneriaeth portffolio Lleisiaul Lleol Conwy, 5 partneriaeth portffolio
  • 3. Pwysigrwydd Cysylltu Cymunedol Sail yr astudiaeth sylfaenol ydy bod cysylltu, fel proses weithredol gyfrannol, yn bwysig ac o fudd i ddarparwyr a defnyddwyr gwasanaeth. Cafodd hyn ei gadarnhau gan un o Swyddogion Datblygu Lleisiau Lleol a nododd mai’r canlynol oedd y pethau a wnaeth cysylltu â’r gymuned yn brofiad gwych, a dangos pa mor bwysig ydy bod y gymuned yn cyfrannu ac yn teimlo bod ganddi afael ar y gwasanaethau cyhoeddus: • Bu amryw o ffyrdd gwahanol o gysylltu a chyfranogi cymunedol • Pobl y gymuned eu hunain a gynigiodd y syniad ar gyfer y Diwrnod o Hwyl • Pobl y gymuned fu’n trefnu a chynnal y diwrnod gydag ychydig o gefnogaeth gan y gweithwyr • Roedd yr arian ar gael yn barod!! • Daeth y gymuned at ei gilydd • Bu i’r gweithwyr allu llenwi 160 holiadur a alluogodd iddyn nhw weithio ar y Cynllun Gweithredu... “barn y gymuned... yn gweithio er mwyn y gymuned” • Mae’r “pwyllgor gwaith bach” yn dal i gynnal digwyddiadau cymunedol! Yn yr holiadur, roedd cynrychiolwyr y deunaw darparwr gwasanaeth yn gytûn bod cysylltu â’r gymuned yn un ai pwysig iawn neu’n bwysig dros ben i’w sefydliad ac roedden nhw i gyd wedi bod mewn rhyw fath o weithgaredd cysylltu â’u defnyddwyr gwasanaeth yn y flwyddyn 2012/13 dywedodd bron i dri chwarter o’r cynrychiolwyr bod ganddyn nhw gynllun cydweithio. Ond traean ohonyn nhw yn unig ddywedodd eu bod nhw wedi cymeradwyo’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Cysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru a dywedodd traean arall nad oedden nhw’n gwybod a oedd eu sefydliad wedi cymeradwyo’r Egwyddorion ai peidio. Holwyd y darparwyr gwasanaeth am eu hymgynghoriadau â’r cyhoedd yn 2012/13 a chytunodd pob un bod hynny’n un ai pwysig iawn neu’n bwysig dros ben i’w sefydliad. Roedd y testunau trafod yn amrywio o newidiadau i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i welliannau yn y rhwydweithiau mewnol ar hyd yr arfordir, ac roedd ystod oedran y bobl yn yr ymgynghori yn amrywio o 19 oed hyd at oedran pensiynwyr. Prif Themâu a Chanfyddiadau Mae pum thema i’r prif ganfyddiadau: 1. Hyder y defnyddwyr gwasanaeth i drafod â darparwyr gwasanaeth 2. Rhwystrau i gysylltu a chyfathrebu llwyddiannus 3. Dulliau cysylltu ac ymgynghori 4. Targedu cyfranwyr 5. Adrodd a datblygu cyfleoedd ar gyfer cyfrannu pellach. Astudiaeth Sylfaenol y Fframwaith Cysylltu a Chyfranogi Cymunedol Trwy gydol y prosiect bydd un o’r partneriaid, Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWREN) yn monitro’r cynnydd yn y cysylltu a chyfranogi cymunedol yng Nghonwy a Môn ac yn datblygu Fframwaith Cyswllt a Chyfranogi Cymunedol yn nodi egwyddorion ac arfer dda. Gwnaethpwyd yr Astudiaeth Sylfaenol yn hanner cyntaf 2014, a holwyd pobl o dri grŵp gwahanol. ‘Er mwyn gallu cysylltu’n effeithiol, mae rhaid inni ddeall ein bod i gyd yn gweld y byd o safbwynt gwahanol, a rhaid ystyried hyn wrthgyfathrebu ag eraill.’ Tony Robbins, Hyfforddwr Cefnogi Bywyd Cafwyd safbwynt y darparwyr gwasanaeth gan ddeunaw cynrychiolwr o’r sector cyhoeddus a atebodd holiadur am gysylltu cymunedol eu sefydliad a gweithgareddau ymgynghori yn ystod y flwyddyn 2012/2013. Ar gyfer cael cynrychiolaeth o safbwynt y defnyddwyr gwasanaeth, gofynnwyd i 662 o bobl sut yr oedden nhw’n teimlo ynglŷn â thrafod â’r sector gyhoeddus. Cyfrifwyd y nifer o atebion y byddai eu hangen er mwyn cael ateb cymesur ar draws Conwy a Môn (sydd â phoblogaeth o 69,751 a 115,500) gydag offeryn mesur maint sampl gan gwmni Creative Reseach Systems. Canfuwyd y buasai angen o leiaf 195 ateb o bob awdurdod, ond ar gyfer ein hymchwil, cawsom ni sampl mawr o 662 o bobl. Daw’r trydydd safbwynt gan bartneriaid Lleisiau Lleol a fynegodd eu barn nhw am sut i lwyddo i gysylltu’n llwyddiannus â’r gymuned. Fe helpon nhw hefyd inni ddewis darparwyr gwasanaeth a hefyd felly i gysylltu â’r defnyddwyr gwasanaeth er mwyn cael ein sampl o 662. Mae Cynghorau Gwirfoddoli Sirol Gogledd Cymru a’r partneriaid portffolio wedi cymeradwyo Egwyddorion Cenedlaethol Cymru ar gyfer Cysylltu Cymunedol yn ogystal â diffiniad y termau Cysylltu, Ymgynghori a Chyfrannu drwy’r ddogfen. 43 Lleisiau Lleol Conwy a MônLleisiau Lleol Conwy a Môn
  • 4. 2. Rhwystrau i gyfathrebu a chysylltu llwyddiannus DARPARwyR GwASANAETh DEFNyDDiwR GwASANAETh SwyDDoG DATbLyGu 1. Safon hyder Defnyddwyr Gwasanaeth ynghylch cydweithio â Darparwyr Gwasanaeth DARPARwyR GwASANAETh DEFNyDDiwR GwASANAETh SwyDDoG DATbLyGu 65 Gofynnwyd i’r 662 defnyddiwr gwasanaeth faint o hyder sydd ganddynt i drafod â’r sector cyhoeddus: 63% - dywedodd eu bod wedi ceisio trafod / cysylltu â’r sector cyhoeddus 57% - dywedodd eu bod yn hyderus iawn neu’n eithaf hyderus i siarad â phobl yn y sector cyhoeddus 50% - dywedodd nad oedd ganddynt lawer neu unrhyw ffydd y buasai’r sector cyhoeddus yn gwrando arnynt 52% - dywedodd eu bod yn eithaf hyderus neu’n hyderus iawn eu bod yn gwybod at bwy neu i ble y dylent fynd i gwyno am wasanaeth yn aml maen nhw wedi gwneud penderfyniad cyn i chi agor eich ceg ’Dw i’n ei chael hi’n anodd mynegi fy marn ‘Dw i ddim yn siŵr a ydyn nhw am wrando arna’ i ac ystyried fy marn o ddifrif Dywedodd Swyddogion Datblygu Lleisiau Lleol mai’r elfennau pwysicaf o’u profiad gorau o gysylltu cymunedol oedd: gweld hyder pobl yn tyfu, a’u brwdfrydedd dros sicrhau bod pobl ifanc yn cael yr un cyfle â phawb arall Pobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol yn teimlo bod eu profiadau’n bwysig ac yn sgil hynny bod posib gweld gweithredu ar ôl iddynt fynegi eu barn Gofynnwyd i gynrychiolwyr y deunaw darparwr gwasanaeth sut y buon nhw’n ceisio hybu ffydd y cyhoedd bod eu barn nhw’n cyfri: 13 - dywedodd eu bod wedi gwneud hynny trwy ddangos tystiolaeth bod barn y cyhoedd o bwys 12 - dywedodd eu bod wedi gwneud hynny drwy roi cyfleoedd i bobl fynegi eu barn 2 - dywedodd eu bod wedi gwneud newidiadau ar ôl ymgynghori â’r cyhoedd rydym ni’n annog cysylltu pellach â’r gymuned drwy gyhoeddi llwyddiant y gweithgareddau cysylltu fel bod y cwsmeriaid yn gweld gwerth y cydweithredu ac yn gweld y canlyniadau a ddaw’n uniongyrchol o hynny ... sut i gysylltu’n iawn ac addas gyda chymunedau. Mae’n weddol hawdd cysylltu â chynrychiolwyr grwpiau, ond ydyn ni’n cysylltu â’r cyhoedd fel y dylem ni? Mae’n debyg nad ydym ni. Gallwn wella ar hyn Gofynnwyd i’r 662 defnyddiwr gwasanaeth beth oedd yn ei gwneud hi’n anodd iddyn nhw siarad â’r sector cyhoeddus. Yr atebion mwyaf cyffredin oedd: 1. Nad oedden nhw’n gwybod â phwy y dylen nhw gysylltu / does neb yn cymryd cyfrifoldeb 2. Anawsterau iaith / biwrocratiaeth / cyrraedd at y mannau perthnasol 3. Diffyg hyder mewn sefyllfaoedd swyddogol ‘dach chi byth yn siarad efo’r un person ddwywaith ‘dw i’n cael fy mhasio o berson i berson yn dragwyddol mae ‘na wahaniaethau diwylliannol, diffyg hyder Mi fydda’ i’n gwneud fy ngorau, ond dydy hynny ddim yn golygu eu bod nhw’n gwrando hoffwn i i’r sector cyhoeddus fod yn fwy agored mae’r rhan fwyaf yn gweld pethau drwy lygaid biwrocrat, dydyn nhw ddim yn sylweddoli mai ein harian ni sy’n eu cyflogi nhw dydyn nhw ddim ond ar gael o ddydd Llun – Gwener rhwng 9 a 5 (‘dw i’n gweithio hefyd). Mae gormod o adrannau, does gen i ddim syniad gyda pha un y dylwn i gysylltu Anfonodd Swyddogion Datblygu Lleisiau Lleol y negeseuon canlynol at y darparwyr gwasanaeth cyhoeddus: Rhowch fwy o rybudd ac amser i bobl ymateb i ymgynghoriad ac i lenwi holiaduron. Mae grwpiau dros 50 oed yn cyfarfod unwaith y mis ac felly mae arnyn nhw angen amser i baratoi a’u llenwi mae diffyg dealltwriaeth o’r trafferthion y gall y cyfranogion wynebu fel: anawsterau cyrraedd at fannau, cyswllt gwael (iaith y corff mewn cyfarfodydd personol yn gallu creu awyrgylch “ni” a “nhw”), diffyg cofnodi’r hyn y mae pobl yn ddweud, defnyddio iaith sydd yn peri dryswch ac felly yn rhwystr i’r broses, dim gweithgareddau ble mae pawb yn cyfranogi, dim gwybodaeth ynglŷn â sut yr adroddir yn ôl at y cyrff cyhoeddus na sut y gall barn y cyhoedd effeithio ar benderfyniadau Nododd y 18 darparwr gwasanaeth y canlynol fel rhwystrau yr oedden nhw wedi eu gweld wrth drefnu ymgynghori â’r cyhoedd: 1. angen mwy o adnoddau 2. dihidrwydd y bobl yr ymgynghorwyd â nhw 3. anghenion o ran cyrraedd at y bobl yr ymgynghorwyd â nhw ‘anodd cysylltu â nhw, ail iaith, oedran’ Roedd mwy na hanner y darparwyr gwasanaeth yn cytuno neu’n cytuno’n gryf bod gan eu sefydliad broses ar gyfer rhannu arfer dda er mwyn gwella cysylltu. Bu un ar bymtheg o gynrychiolwyr yn ystyried dulliau newydd o ymgynghori er mwyn goresgyn y ddau rwystr mwyaf: 7 - gyfarfod wyneb yn wyneb awgrymodd 6 - ymegnir drwy’r cyfryngau cymdeithasol 4 - eu bod yn cydweithio er mwyn cynyddu adnoddau, osgoi dyblygu ac arbed costau. Bu’r un ar bymtheg yn trafod sut y dylid mesur llwyddiant ymgynghori. Dyma’r oedden nhw’n ei weld yn bwysig: 13 - canlyniad ymgynghori’n arwain at newid polisi / gweithredu 11 - cynnwys yr atebion 8 - presenoldeb yn y cyfarfodydd 8 - nifer y sawl sy’n ymateb Gall un llais yn unig newid pethau Ansawdd yr ymateb mae angen inni gysylltu â phobl yn well, ond sut mae gwneud hynny os ydyn ni’n eistedd yn y swyddfa trwy’r dydd? Rhaid inni ddefnyddio’n staff yn well... Mae gan rai aelodau o’r staff gysylltiad gwell gyda phobl Lleisiau Lleol Conwy a MônLleisiau Lleol Conwy a Môn
  • 5. 4. Targedu cyfranogwyr SwyDDoG DATbLyGu DEFNyDDiwR GwASANAETh DARPARwyR GwASANAETh 3. Dulliau cysylltu / ymgynghori a ddefnyddir DARPARwyR GwASANAETh DEFNyDDiwR GwASANAETh SwyDDoG DATbLyGu 87 Gofynnwyd i’r 662 o ddefnyddwyr gwasanaeth sut y buasen nhw’n hoffi trafod â’r darparwyr gwasanaeth: 92% - dywedodd y buasai’n well ganddyn nhw ddulliau personol o gyfathrebu, gyda: 62%- yn dweud y buasai cyfarfod wyneb yn wyneb orau; 30% - yn dweud y buasai’n well ganddyn nhw drafod dros y ffôn; 8% - yn dweud y buasai’n well ganddyn nhw drafod drwy e-bost / post / arall dolen sain a systemau “T” (cymorth clyw) ddim yn gweithio, dydy’r staff ddim yn ystyried problemau clyw problemau cyfathrebu gan fy mod i’n rhannol fyddar mwy cyfathrebu wyneb yn wyneb bob tro’n well mae popeth yn gweithio trwy gyfrifiadur, dydw i byth yn siarad â pherson. Rhaid aros 7 niwrnod am ateb os ydych chi’n cyfarfod wyneb yn wyneb, mae’n haws deall beth sydd ym meddwl pobl Anfonodd Swyddogion Datblygu Lleisiau Lleol y negeseuon canlynol at y darparwyr gwasanaeth: Rhaid cynnwys eich cynulleidfa darged ym mhroses dylunio trefn a gweithgareddau cysylltu. Rhaid eu profi’n gyntaf ac yna yn eu haddasu a gofyn am gyngor gan gyfaill beirniadol (fel staff Lleisiau Lleol) cyn gweithredu’r drefn yn gyffredinol. Mae cyswllt cymunedol yn newid yn barhaus, mae angen dylunio’r dulliau a ddefnyddir i ateb anghenion y bobl. Dydy hi ddim yn bendant y bydd dull sy’n gweithio mewn un man mor llwyddiannus mewn man arall, mae angen dylunio pob proses o gysylltu yn arbennig. Ceisiwch wneud y cysylltu’n hwyl, yn berthnasol ac yn addas. Rhowch Wybod, Rhowch Wybod, Rhowch Wybod! Cydweithiwch ag asiantaethau eraill O’r deunaw darparwr gwasanaeth, dyma’r nifer ohonyn nhw a oedd yn cytuno neu’n cytuno’n gryf â’r datganiadau canlynol: 17 – bod y cysylltu wedi ei gynllunio a’i ddarparu yn amserol ac yn addas 15 – bod y cysylltu’n cael digon o adnoddau a chefnogaeth i lwyddo 12 - bod y cysylltu’n annog ac yn galluogi pawb perthnasol i gymryd rhan. Gofynnwyd i’r deunaw cynrychiolydd pa ddulliau cysylltu yr oedden nhw’n eu defnyddio ym 2012/13, dyma’r niferoedd a’r dulliau a nodon nhw: 11 - arolwg / holiaduron / holiadur ar-lein (survey monkey) ond dim ond 2 ddywedodd eu bod nhw’n llwyddiannus iawn 9 – defnyddio paneli / grwpiau ffocws / fforymau, a dywedodd saith o’r naw eu bod nhw’n llwyddiannus iawn 8 - defnyddio digwyddiadau a chyswllt cymunedol, dywedodd 4 eu bod nhw’n weddol lwyddiannus neu’n llwyddiannus iawn. Roedd bron i dri chwarter y cynrychiolwyr yn cytuno neu’n cytuno’n gryf bod yr wybodaeth yr oedden nhw’n ei chynnig heb jargon, yn addas ac yn ddealladwy. Rhannwyd y dulliau yr oedd y cynrychiolwyr yn eu defnyddio i sicrhau bod eu cwestiynau’n ddealladwy ac yn hawdd i’w hateb dan y tri canlynol: 1. Drwy sicrhau bod y testun yn hawdd i’w ddarllen, heb jargon a bod dewis rhwng y ddwy iaith 2. Drwy ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau: y cyfryngau cymdeithasol oedd yn sgorio uchaf gyda 4 allan o 15 3. Drwy brofi’r cwestiynau ymgynhori gan ddefnyddio gwasanaethau comisiynu arbenigol / grwpiau darllen cyhoeddus Roedd y sylwadau gan y sampl o 662 defnyddwyr gwasanaeth yn cynnwys y canlynol: dydyn nhw ddim wedi eu hyfforddi i ddelio â chleientiaid amrywiol dydy pobl ifanc ddim yn cael dweud eu dweud efallai nad oes arnyn nhw eisiau gwrando barn pobl ifanc ’dyn ni’n teimlo nad ydy’n barn ni’n cyfri wrth heneiddio hoffwn ni iddyn nhw wrando fwy ar hen bobl Anfonodd Swyddogion Datblygu Lleisiau Lleol y negeseuon canlynol at y darparwyr gwasanaeth cyhoeddus: Mae’n rhaid i’r wybodaeth, y cyhoeddusrwydd fod yn hawdd i’r cyhoedd gael gafael arnyn nhw a’r cysylltu â’r sefydliadau yn hawdd i’r cyhoedd ymwneud ag o. Mae angen edrych ar sut mae gwledydd eraill yn gweithio i weld arfer dda, a hefyd rhannu mwy o arfer dda. Bydd rhaid ymwneud â’r gymuned leol fel bod pobl yn cael dweud eu dweud Byddai unigion yn cael cyfle i wneud cysylltiadau a chyfeillgarwch newydd. Byddai pobl sydd y tu allan i’r ‘brif ffrwd’ yn gallu lleisio barn Roedd mwy na thri chwarter deunaw cynrychiolydd y darparwr gwasanaeth yn cytuno neu’n cytuno’n gryf bod eu trefn cysylltu wedi ei ddylunio i’w gwneud hi’n haws i ystod amrywiol o bobl gymryd rhan yn effeithiol. Eu tri phrif ddiffiniad o ‘anodd cysylltu â nhw’ oedd: 1. Pobl bell o gymuned (pobl na ellir cysylltu â nhw yn hawdd neu sydd ddim yn rhan gweithredol o’r gymuned) 2. Pobl ag anableddau / anawsterau dysgu / problemau iechyd meddwl 3. Pobl ddigartref Y tri grŵp o bobl anoddaf i gysylltu â nhw oedd: 1. Pobl ifanc 2. Gweithwyr llawn amser 3. Lleiafrifoedd ethnig Roedd dau draean y cynrychiolwyr yn gwybod bod eu sefydliadau yn monitro cydraddoldeb eu hatebwyr. Nid oedd pawb yn ymwneud â monitro, ond dywedodd mwy na hanner y cynrychiolwyr eu bod nhw’n defnyddio’r categorïau canlynol er mwyn monitro: ailbennu rhyw, anabledd, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, hil neu oedran. Dywedodd traean bod canfyddiadau’r ymgynhori wedi eu trosglwyddo’n wybodaeth ar gyfer yr Asesiadau Effaith Cydraddoldeb mewnol. Prif bwrpas y monitro oedd: 1. Sicrhau nad ydyn nhw’n anffafrio unrhyw un 2. Deall problemau y mae rhai cymunedau’n eu hwynebu / y Nodweddion Gwarchodedig 3. Sicrhau mapio anghenion Gall cwestiynau busneslyd greu rhwystr felly peidiwch â’u gofyn os nad oes pwrpas Ydyn ni’n holi digon o bobl er mwyn gallu monitro cydraddoldeb? Lleisiau Lleol Conwy a MônLleisiau Lleol Conwy a Môn
  • 6. Sylwadau Sail yr astudiaeth sylfaenol ydy bod cyswllt, fel proses weithredol gyfrannol, yn bwysig ac o fudd i ddarparwyr a defnyddwyr gwasanaeth. Mae’r canfyddiadau’n dangos bod rhai gwahaniaethau barn sylfaenol ynglŷn â’r amcanion, ystyr a gwerth cyswllt a hefyd ynglŷn â’r dull gorau i’w defnyddio. Dyma rai sylwadau am y canfyddiadau a syniadau ynglŷn â pham y cafwyd y canfyddiadau hyn. 1. hyder y Defnyddiwr Gwasanaeth i Drafod gyda Darparwyr Gwasanaeth Dywedodd tri chwarter cynrychiolwyr y darparwyr gwasanaeth eu bod nhw’n cynnig tystiolaeth i ddangos bod barn defnyddwyr gwasanaeth yn cyfri, ond eto dywedodd hanner y defnyddwyr gwasanaeth nad oedd ganddyn nhw lawer o ffydd, neu ddim o gwbl, y buasai’r sector cyhoeddus yn gwrando eu barn. Wrth ddarllen y sylwadau, gallwn weld sut y daeth y defnyddwyr gwasanaeth i fod â chyn lleied o hyder yn y sector cyhoeddus. Roedden nhw’n barnu: i ba raddau’r oedd y darparwyr gwasanaeth yn ateb eu gofynion; sut y gwrandawyd arnynt, sut y gwerthfawrogwyd eu barn a sut y cawsant eu cynnwys. Roedd y darparwyr gwasanaeth yn barnu hysbysebu a rhoi mwy o gyfleoedd am weithgareddau ymgynghori / cyswllt. Mae cyfathrebu a chydweithio yn broses â dwy ochr. Dim ond pan mae pobl yn teimlo’n hyderus ac yn teimlo bod ganddyn nhw rywfaint o awdurdod y gallan nhw roi gwybodaeth ddefnyddiol i ddarparwyr gwasanaeth, a dim ond pan mae darparwyr gwasanaeth yn cysylltu’n hyderus ac effeithiol y cân nhw fewnbwn gan y defnyddiwr gwasanaeth. 2. Rhwystrau i Gyfathrebu / Cysylltu’n Llwyddiannus Y tri pheth a nododd cynrychiolwyr y darparwyr gwasanaeth fel rhwystrau i gyfathrebu / cysylltu’n llwyddiannus oedd diffyg adnoddau, dihidrwydd y bobl, a’u hanghenion o ran cysylltu â nhw. Amlygwyd bod datgysylltiad rhwng y darparwyr a’r defnyddwyr gwasanaeth pan gafwyd ymateb y defnyddwyr yn egluro pam ei bod hi’n anodd siarad â’r sector cyhoeddus. Y rhesymau a roddon nhw oedd biwrocratiaeth, methu ateb i’r gofynion o ran cysylltu â nhw’n ymarferol, a diffyg hyder. Fe ymddengys mai’r prif wahaniaeth ydy’r syniad sydd gan y darparwyr/defnyddwyr gwasanaeth o’i gilydd. Roedd pawb yn dueddol o gytuno ar natur y rhwystrau. Roedd yn ddifyr gweld bod syniadau cynrychiolwyr y darparwyr gwasanaeth er mwyn gwella’r sefyllfa yn cynnwys defnyddio dulliau wyneb yn wyneb neu ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol wrth drafod ynghyd â gweithio ar y cyd. Roedd hyn yn atsain hoff ddulliau’r defnyddwyr gwasanaeth, fel y trafodir isod. 3. Dulliau cysylltu / trafod Dywedodd hanner cynrychiolwyr y darparwyr gwasanaeth mai dulliau personol o gysylltu / ymgynghori fel fforymau, paneli a grwpiau ffocws oedd y mwyaf llwyddiannus. Dywedodd naw deg dau y cant o ddefnyddwyr gwasanaeth ei bod yn well ganddyn nhw ddulliau personol o gyfathrebu hefyd, a chafwyd enghreifftiau o sut y bu i broblemau technolegol beri problemau cyfathrebu. Er bod dros dri chwarter y darparwyr gwasanaeth yn cytuno neu’n cytuno’n gryf bod eu dulliau o gysylltu â’r gymuned yn derbyn digon o adnoddau, dywedon nhw ynghynt bod diffyg adnoddau yn un o’r prif rwystrau. Mae hyn yn awgrymu bod angen mwy nac adnoddau er mwyn sicrhau cyswllt llwyddiannus. 5. Adborth a Datblygu Cyfleoedd ar gyfer mwy o Gyfranogiad SwyDDoG DATbLyGu DEFNyDDiwR GwASANAETh DARPARwyR GwASANAETh 109 Fodd bynnag, mae llawer o’r sylwadau gan y defnyddwyr gwasanaeth yn dynodi anfodlonrwydd yn y maes: Os ‘dan ni’n cynnig syniadau newydd, dydyn nhw byth i’w gweld yn cael eu defnyddio ’Dw i’n aml yn ansicr a ydyn nhw wedi fy neall i neu wedi gwerthfawrogi beth ddywedais i Pan maen arnyn nhw eisiau ein barn ni, dydyn nhw ddim yn cyhoeddi hynny’n dda! ‘Dan ni ddim ond yn dod ar ddeall yn rhy hwyr bod ymgynghori neu ryw ddigwyddiad wedi digwydd. Weithiau dydy’r digwyddiadau ddim yn hawdd mynd iddyn nhw a dydy’r awyrgylch ddim yn gyfeillgar yno. Mae gennym ni lawer o syniadau ond dydyn nhw ddim am eu clywed nhw Dw i ddim yn meddwl bod gen i ddylanwad ar benderfyniadau Pan ofynnwyd i Swyddogion Datblygu Lleisiau Lleol pa neges yr hoffen nhw roi i’r cyhoedd ynglŷn â sicrhau bod cysylltu a chydweithio llwyddiannus â’r gymuned, atebodd dau gan ddweud: Mae adborth yn angenrheidiol, mae’n hollbwysig er mwyn rhoi gwerth i drafodaethau ac i ysgogi trafodaeth bellach. Gall yr adborth fod ar ffurf “fe ddywedoch chi... felly fe wnaethom ni...” Mae’r cyhoedd yn gwneud ffafr â chi, felly gwnewch yn siŵr ei bod hi’n werth eu hymdrech. Gweithiwch gyda phobl, trafodwch â nhw yn ddigon pell o flaen llaw fel eich bod chi’n gallu defnyddio’r wybodaeth / y farn y maen nhw’n ei rhoi i chi, byddwch yn barod i newid eich penderfyniadau yn sgil yr hyn maen nhw’n ddweud ac yna rhowch wybod i’r bobl bod eu barn nhw wedi cael effaith. Yn rhy aml, mae’n ymddangos mai edrych am gymeradwyaeth o’r hyn y maen nhw am wneud (ac eisoes wedi dechrau ei wneud) y mae’r darparwyr. Gwerthfawrogwch farn y cyhoedd a rhowch werth iddi Roedd dau draean y cynrychiolwyr y darparwr gwasanaeth yn cytuno neu’n cytuno’n gryf bod y cyfranogiad yr ymgynghori’n cael gwybod am effaith eu cyfraniad. Roedd bron i ddau draean y cynrychiolwyr yn dweud eu bod yn cyfeirio at y cyfraniadau a wnaed gan y cyfranogwyr yn y broses ymgynghori wrth gyhoeddi penderfyniadau terfynol y cyfarwyddwyr / cyngor. Roedd dros dri chwarter y cynrychiolwyr yn dweud eu bod wedi annog mwy o gyfleoedd am adborth / cyfathrebu ar ôl cyhoeddi’r ddogfen / adroddiad terfynol drwy wneud y canlynol: • Rhoi adborth / anfon newyddion ar gyfranogwyr • Gwahodd cyfranogwyr i ddal ati i ymgynghori â nhw • Rhoi dull cyswllt rhwydd iddyn nhw drafod â swyddog addas. Dywedodd dros dri chwarter y cynrychiolwyr eu bod nhw’n annog trigolion i gyfranogi a dylanwadu ar benderfyniadau lleol a llunio polisïau drwy sefydlu paneli ffocws / pwyllgorau / grwpiau fel y canlynol: • Cyfleoedd i gynrychioli • Paneli’r cyhoedd • Byrddau trafod / pwyllgorau Roedd bron i hanner cynrychiolwyr y sector cyhoeddus yn dweud eu bod wedi datblygu paneli’r cyhoedd ac mai eu tair maen brawf ar gyfer dewis aelodau oedd: 1. Eu rôl benodol (e.e. tenant tŷ) 2. Eu bod nhw’n perthyn i’r Cylch Perthnasol 3. Bod grwpiau lleiafrifol yn cael cynrychiolaeth Mae gennym ni grŵp cyfathrebu’r cyhoedd yr ydym yn gallu cysylltu ag o i ofyn barn am gwestiynau ymgynghori. Mae gennym ni staff arbenigol (y Tîm Cyfathrebu a staff Datblygu Cymunedol) sy’n gallu helpu ni i ddatblygu ymgynghoriadau a holiaduron i sicrhau eu bod nhw ar gael ar ffurf sain ac yn ddwyieithog Lleisiau Lleol Conwy a MônLleisiau Lleol Conwy a Môn
  • 7. 4. Targedu cyfranogwyr Roedd dros dri chwarter cynrychiolwyr y darparwr gwasanaeth yn cytuno neu’n cytuno’n gryf bod eu dull o gysylltu wedi ei lunio i’w gwneud hi’n haws i ystod o bobl amrywiol gymryd rhan yn effeithiol. Pan ofynnwyd beth oedd ‘anodd cysylltu â nhw’ yn golygu, dyma a restrwyd fel enghreifftiau: pobl nad ydynt mewn cysylltiad aml ac eraill, pobl wedi’i datgysylltu o gymuned, pobl anabl, a phobl ddigartref, y mwyaf ‘anodd cysylltu â nhw’ oedd pobl ifanc, lleiafrifoedd ethnig a gweithwyr llawn amser. Er bod yr atebion yn dweud bod angen nodi’r anghenion penodol, doedden nhw ddim yn ymdrin â’r ystod gyfan o amrywiaeth na’r Nodweddion Gwarchodedig. Fodd bynnag, mae sylwadau unigolion megis, “oedd gennym ni ddigon o bobl i allu monitro cydraddoldeb?” efallai’n dangos diffyg amrywiaeth ymysg y cyfranogwyr. Ydy hyn yn awgrymu bod angen mwy o hyfforddiant i weithwyr ynglŷn â gwerth monitro cydraddoldeb ac am ofynion cyfreithiol y Ddeddf Cydraddoldeb a’r Asesiadau Effaith Cydraddoldeb? 5. Sylwadau ar Adborth a Datblygu Cyfleoedd ar gyfer Cyfranogi Pellach Mae dau draean o ddarparwyr gwasanaeth yn cyhoeddi sut mae atebion cyfranogwyr wedi effeithio ar eu penderfyniadau, a dywedodd dros dri chwarter eu bod nhw’n annog mwy o adborth ac yn cynnig cynrychiolaeth a rôl ar gyfer cyfraniadau unigol. Mae’r canfyddiadau’n dangos bod darparwyr y sector cyhoeddus yn weithredol iawn yn y maes yma ond dydy sylwadau’r defnyddwyr gwasanaeth ddim yn awgrymu’r un boddhad yn y maes. Maen nhw dan yr argraff nad oes adborth a bod y cyfleoedd i fod ar baneli’r cyhoedd / fforymau neu mewn grwpiau ffocws yn brin. Os nad ydy hyn yn gywir, y mae angen mwy o hysbysebu a chyhoeddi. Fel y dywedodd un Swyddog Datblygu “Rhowch Wybod, Rhowch Wybod, Rhowch Wybod!” Awgrymiadau ar gyfer y Camau Nesaf 1. Pob sefydliad darparu gwasanaeth yn cymeradwyo ac yn rhoi Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru ar waith. 2. Pob darparwr gwasanaeth cyhoeddus yn hybu ffydd y defnyddwyr gwasanaeth bod eu hanghenion a’u barn yn bwysig drwy sicrhau bod eu barn yn cael sylw, gwerth a’u bod nhw’n cael eu cynnwys. 3. Pob darparwr gwasanaeth cyhoeddus yn deall mai hoff ddull cyfathrebu defnyddwyr gwasanaeth ydy cyswllt wyneb yn wyneb, a’u bod yn addasu eu dulliau i adlewyrchu hyn. 4. Pob darparwr gwasanaeth cyhoeddus yn deall gwerth monitro cydraddoldeb a sicrhau cyfathrebu â’r ystod lawn o bobl amrywiol, yn cynnwys pobl wedi’u gwthio i gyrion cymdeithas, pobl â Nodweddion Gwarchodedig a phobl y mae’n ‘anodd cyrraedd atyn nhw’. 5. Darparwyr gwasanaeth cyhoeddus roi mwy o adborth i gyfranogwyr a rhoi cyhoeddusrwydd mwy i’r cyfleoedd i fod ar baneli’r cyhoedd / fforymau / grwpiau ffocws. Diolchiadau Diolch i’r Gronfa Loteri Fawr am ddatblygu Lleisiau Lleol ac i Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy a Medrwn Môn am fod yn gyfrifol am y ddau brosiect Lleisiau Lleol yn yr ardal. Atodiadau sydd ar gael ar gais 1. Rhestr o bartneriaid Lleisiau Lleol yng Nghonwy a Môn 2. Copïau o’r Holiaduron a ddefnyddiwyd 3. Rhestr o’r sefydliadau darparu gwasanaeth a holwyd 4. Data monitro cydraddoldeb a sylwadau defnyddwyr gwasanaeth. 11 Lleisiau Lleol Conwy a Môn