2. Golwg hirdymor
• Ar ôl datganoli – dull unigryw Gymreig ar gyfer
gwasanaethau cyhoeddus?
• Dros ddegawd o ddadlau
• Ar ddechrau’r degawd roedd adnoddau a’r galw
yn cynyddu
• Bellach, mae adnoddau’n crebachu’n gyflym,
ond y galw (a disgwyliadau) yn dal i godi
3. Creu’r
Cysylltiadau a
Beecham
Creu’r Cysylltiadau, 2004
• Yn cynnig cydweithio a chydweithredu
• Yn gwrthod dull tameidiog a chystadleuaeth
• Y dinesydd yn y canol
Adolygiad Beecham o wasanaethau lleol, 2006
• Y dinesydd yn y canol ond ar gyfer gweithredu mwy mentrus a
chyflym
• Llywodraethu gwlad fach
• Cymru yn cyflawni ar gyfer ei phobl – a chyda nhw –
wasanaethau sy’n canolbwyntio ar y dinesydd mewn ffordd y
mae ei chymdogion mwy yn ei chael yn anos
4. Comisiwn
Williams 2014
• Ad-drefnu llywodraeth leol
• Ailddiffinio natur gwasanaethau cyhoeddus
• “Yr unig ffordd hyfyw o ddiwallu anghenion a
dyheadau pobl yw symud pwyslais gwasanaeth
cyhoeddus tuag at gydgynhyrchu ac atal”
5. Ymateb
Llywodraeth Cymru
i Williams 2014
• “Rhaid i’n gwasanaethau cyhoeddus esblygu er mwyn
adlewyrchu perthynas newydd rhwng y bobl sy’n darparu
gwasanaethau a’r rheini sy’n elwa ohonynt
• Rhaid i wasanaethau cyhoeddus yn gynyddol gael eu
darparu nid i bobl, ond gyda phobl
• Gweithredu’n gynharach i helpu pobl i gymryd camau
ataliol i wella eu bywydau, yn hytrach nag ymateb dim ond
pan ai pethau o chwith
• Darparu gwasanaethau cyhoeddus drwy gyrff cyhoeddus
sy’n gweithio gyda phartneriaid – yn enwedig y trydydd
sector, ac mewn rhai amgylchiadau y sector preifat – i
ddarparu’r gwasanaethau gorau posib”
6. Themâu
rheolaidd
• Rhoi pobl a chymunedau yn y canol
• Ymgysylltu â’r cyhoedd wrth ddylunio a darparu
• Atal ac ymyrraeth gynnar
• Newid o ddiwallu anghenion yn unig, i feithrin
lles
• Cytundeb ar syniadau
• Ond a fydd y rhain yn cael eu rhoi ar waith?
7. Heriau anodd
• Mae rhoi pobl a chymunedau yn y canol mewn
gwirionedd yn golygu rhannu grym a dylanwad –
perthynas newydd?
• Sut mae buddsoddi yn yr hirdymor pan fo gennym
ofynion tymor byr i’w hateb?
• Sut mae meithrin gallu a chryfder cymunedau wrth
i adnoddau brinhau?
• Sut mae defnyddio arian y sector cyhoeddus yn
graffach?
• A allwn ni leihau costau ond peidio â dinistrio
gwasanaethau?
8. Toriadau
byrbwyll
• Mae cyllid ar gyfer pobl a chymunedau a gefnogir
gan y trydydd sector dan fygythiad
• Gwasanaethau anstatudol ac amwynderau lleol all
fod y cyntaf i ddioddef
• Y peth hawsaf i’w dorri yw efallai’r peth gwaethaf i’w
dorri
• Nid ydym yn gwario llawer o arian ar y trydydd
sector
• Felly nid ydym yn arbed llawer drwy dorri’r sector
• Ond gallwn wneud niwed sylweddol drwy dorri’r
sector
9. Gorfodi’r
cyflymder
• Ysgogiadau newydd i gyflymu newid?
• Llais ac ymgysylltiad y bobl fel y norm newydd
• Cydnabyddiaeth fwy eglur o rôl y trydydd sector
• Cydgymorth, gwirfoddoli a gweithredu yn y gymuned
• Trosglwyddo asedau a gwasanaethau mewn modd
rhagweithiol sydd wedi’i reoli’n dda
• Parhau i fuddsoddi mewn cymunedau sydd dan anfantais
er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau
• Canolbwyntio ar les (cymdeithasol, economaidd ac
amgylcheddol) a chanlyniadau
10. Heddiw
• Bydd y siaradwyr heddiw yn parhau i ddatblygu’r
syniadau
• A bydd ein gweithdai yn canolbwyntio ar enghreifftiau
o weithio’n wahanol
• Rhannu grym
• Newid y berthynas rhwng y wladwriaeth a
dinasyddion a’r trydydd sector