SlideShare a Scribd company logo
1 of 16
Arbenigwyr Recriwtio ac Adnoddau Dwyieithog
Bilingual Recruitment and Language ResourceSpecialists
Cysylltwch âni
Ffôn 029 2030 2182
Ebost post@swyddle.com
www.swyddle.cymru
@swyddle
Contact us
Tel 029 2030 2182
Email post@swyddle.com
www.swyddle.wales
@swyddle
As a relatively large organisation
running after school clubs in the
Cardiff area, we developed a
partnership withSwyddle in early
2015 so that we could outsource
our recruitment, administration
and business management
function to them. We have found
Swyddle to be very adaptable and
resourceful in meeting ourneeds
and has been a perfect fit for our
business development plans.
Fel sefydliad gymharol fawr sy’n
cynnal clybiau ar ôl ysgol yn ardal
Caerdydd, bu inni ddatblygu
partneriaeth gyda Swyddle yn
gynnar yn 2015 fel ein bod yn
gallu gosod ein swyddogaethau
recriwtio, gweinyddiaeth a rheoli
busnes iddyn nhw. Mae Swyddle
wedi dangos eu bod yn hyblyg ac
yn ddyfeisgar wrth gwrdd â’n
anghenion ac wedi gweddu yn
berffaith i’n cynlluniau datblygu
busnes.
Clwb Carco Clwb Carco after school clubs
Dafydd Rhun Henry
Partner
Alun Gruffudd
Partner
Cynnwys Contents
Cwmni Unigryw 2 A Unique Company 2
• Recriwtio dwyieithog gwahanol 2 • Bilingual recruitment done differently 2
• Ein gwasanaethau 3 • Our services 3
• Ein cleientiaid 3 • Our clients 3
Yr Achos Busnes 4 The BusinessCase 4
• Cydymffurfiaeth 5 • Compliance 5
• Mantais gystadleuol 6 • Competitive advantage 6
• Ennill a chadw contractau’r Sector
Gyhoeddus 6
• Winning and retaining Public Sector
contracts
6
• Gwasanaethau i’rcwsmer 6 • Customer service 6
• Effeithlonrwydd 7 • Efficiency 7
• Twf yn yfarchnad 7 • Market growth 7
EinGwasanaethau 8 Our Services 8
• Rhwydwaith o siaradwyr Cymraeg 8 • A network of Welsh speakers 8
• Recriwtio parhaol/contract 9 • Permanent/Contract recruitment 9
• Recriwtio dros dro 10 • Temporary recruitment 10
• Hysbysebu 10 • Advertising 10
• Rhwydwaith talent 11 • Talent pool 11
• Cymorth i’r rhai sy’n wynebu diswyddo 11 • Redundancy pools 11
• Ein gwasanaethau dwyieithog ehangach 11 • Our wider bilingual services 11
Bywgraffiadau 12 Biographies 12
Cyfeiriadau 13 References 13
Cynnwys | Contents 1
2 Cwmni Unigryw | A Unique Company
Cwmni Unigryw
A Unique Company
Sefydlwyd Swyddle er mwyn darparu
gwasanaethau recriwtio a busnes
dwyieithog arbenigol.
Mae Swyddle yn cael ei arwain gan Gymry
Cymraeg, gyda dros 30 mlynedd o brofiado
weithio’n ddwyieithog o fewn meysydd
recriwtio a chyfathrebu strategol.
Ein prif nod yw eich galluogi i ennill mantais
fasnachol, cyfalaf cymdeithasol a manteisio
ar y farchnad ddwyieithog, drwy ddod o hyd
i’r staff dwyieithog gorau a darparu ystod
eang o adnoddau iaith.
Wedi byw ein bywydau yn gyfangwbl
ddwyieithog yn academaidd, yn gymdeithasol
ac yn broffesiynol, mae gan ein Partneriaeth
rwydwaith eang o gysylltiadau ar draws
Cymru. Ein swyddogaeth yw rhoi’r mynediad
a’r teclynau i chi gyd-gysylltu â’r gymdeithas
Gymraeg a dod o hyd i’r ymgeiswyr cywir yn
y dull mwyaf effeithlon.
Rydym yn ymfalchio yn ein profiad o
weithio’n effeithiol ac wrth ymgynghori â
chleientiaid, gan ychwanegu gwerth i’r broses
o recriwtio a chynyddu effeithlonrwydd eich
gweithlu. Rydym yn darparu gwerth am arian
ac mae costau isel o weithredu gyda ni.
Swyddle was established to provide
specialist bilingual recruitment and
business services.
Swyddle is led by fluent Welsh speakers,
who have over 30 years’ experience of
working bilingually within recruitment and
strategic communications.
Our principle aim is to enable you to gain
commercial advantage, social capital and
access to the bilingual marketplace by
sourcing the best bilingual Welsh speaking
staff and providing you witha wide range of
language resources.
Having lived our entire lives bilingually,
academically, socially and professionally,
our Partnership has an extensive network
of connections across Wales. Our role is to
give you access and the tools to reach out
to the Welsh speaking community andfind
the right candidatesefficiently.
We pride ourselves on our track record
of working efficiently and inconsultation
with clients, adding value to the recruitment
process in a cost effective way and
increasing the effectiveness of your
workforce.
Recriwtio dwyieithog gwahanol
Bilingual recruitment done differently
Ein gwasanaethau
• Recriwtio Parhaol a Chontractau
• Atebion i staffio dros droar draws Cymru
ac ar gyfer pob sector
• Gwasanaeth hysbysebu swyddi pwrpasol,
gan gynyddu eich cyrhaeddiad
• Rhwydwaith Cymru-gyfan o siaradwyr
Cymraeg proffesiynol
• Cronfa Ddata arlein o siaradwyr Cymraeg
sydd wedi’u hasesu y gellir ei chwilio
Mae ein cleientiaid yn
cynnwys
• 10K Caerdydd
• Cyllid Cymru
• S4C
• Cynulliad Cenedlaethol Cymru
• Cyngor Dinas Caerdydd
• Prifysgol De Cymru
• Prifysgol Metropolitan Caerdydd
• Sefydliad Aren Cymru
• Menter & Busnes
• Shelter Cymru
• Gwasanaethau Eiddo Maison
• BCCIT
Our services
• Permanent and Contract recruitment
• Temporary staffing solutions across all
of Wales and all sectors
• Targeted job advertising service,
extending your reach
• A Wales-wide network of professional
Welsh speakers
• Searchable online database of language
assessed Welsh Speakers
Our clients include
• Cardiff10K
• Finance Wales
• S4C
• National Assembly for Wales
• Cardiff CountyCouncil
• University of South Wales
• Cardiff Metropolitan University
• Kidney Wales Foundation
• Menter & Busnes
• Shelter Cymru
• Maison Property Services
• BCCIT
Cwmni Unigryw | A Unique Company 3
Working with Swyddle enabled
us to move swiftly to fulfil our
requirements and planning for
the Cardiff 10k –which is now a
leading event in the UK. We were
very pleased with Swyddle’s
responsiveness and engagement
in meeting our requirements.
We will certainly use Swyddle
again.
Roedd gweithio gyda Swyddleyn
ein galluogi i symud yn gyflym er
mwyn cwrdd â’n anghenion a
chynllunio ar gyfer 10kCaerdydd
– sydd nawr yn ddigwyddiad
blaengar yn y DU. Roeddwn
wedi’n plesio’n fawr gydag
ymateb Swyddle a’u hymglymiad
wrth ateb ein gofynion. Byddwn
yn sicr yn defnyddio Swyddle eto.
Sefydliad Aren Cymru Kidney WalesFoundation
4 Yr Achos Busnes | The Business Case
Mae darparu gwasanaethau dwyieithog
yn gwneud synnwyr o ran busnes ac yn
fasnachol. Mae galw cynyddol amlwg ar
gyfer gwasanaethau dwyieithog fel y dull
arferol o weithredu gan sefydliadau a
busnesau sy’n gweithredu yng Nghymru.
• Mae 350,000 o’r holl bobl dros 3 mlwydd
oedd yn siarad Cymraeg yn ddyddiol1
• Mae 82% o siaradwyr Cymraeg yn fwy
tebygol o ddefnyddio gwasanaethau neu
ddeunydd gan gwmni dwyieithog2
• Dywed 83% o siaradwyr Cymraeg y
byddant yn aros yn ffyddlon osydych
yn darparu gwasanaeth dwyieithog3
• Bydd cenedlaethau’r dyfodol yn galw’n
gynyddol am wasanaethau dwyieithog
llawn. Mae canran y sawl sy’n siarad
Cymraeg fwyaf ymysg rheiny sydd rhwng
3-15 mlwydd oed (mor uchel a50%)4
• Mae tua dwy filiwn o bobl yng Nghymru
yn credu ei bod hi’n bywsig i gynnig
gwasanaeth dwyieithog. Mae hwn lawer
yn fwy na’r cyfanswm sy’n siaradCymraeg.5
Os ydych yn fusnes, mae’r galw
cynyddol hwn yn rhoi’r cyfle igynyddu
eich cwsmeriaid drwy eich gwneud yn
wahanol i gwmnïau eraill.
Os ydych yn sefydliad sy’n darparu
gwasanaethau i’r cyhoedd, mae hwn
yn gyfle i ddatblygu eich hunaniaeth
ddwyieithog a diwallu anghenion eich
cymunedau lleol yn well.
Providing bilingual services makes
commercial and business sense. There is
clearly an increasing demand for bilingual
services as the norm from organisations
and businesses operating in Wales.
• 350,000 of all people aged 3 andover
speak Welsh daily1
• 82% of Welsh speakers are more inclined
to consume the services or products of a
bilingual company2
• 83% of Welsh speakers saying they would
stay loyal if you provide a
bilingual service3
• Future generations in Wales will
increasingly demand fully bilingual
services. The percentage of those who
speak Welsh is highest amongst those
aged between 3-15 years old (as high
as50%)4
• Around two million people in Wales think
that it is important for businesses to offer
a bilingual service. This is far more than
speak Welsh5
If you are a business, this increasing demand
offers you the opportunity to expand your
customer base by differentiating your
company from the competition.
If you are an organisation providing services
to the public, this offers an opportunity to
develop your bilingual identity and better
meet the needs of your local communities.
Yr Achos Busnes
The Business Case
Drwy gyflogi siaradwyr Cymraeg gallwch:
• Marchnata yn uniongyrchol i’ch cwsmeriaid
• Datblygu hunaniaeth gorfforiaethol
ddwyieithog
• Arddangos ymrwymiad i wasanaeth
cwsmeriaid a meithrin teyrngarwch oddi
wrth cwsmeriaid presennol
• Darparu cysylltiad uniongyrchol ac
chyswllt gyda’ch cymunedau lleol
• Cynyddu effeithlonrwydd eich gweithlu,
gan fod staff dwyieithog yn gallugwneud
eu swydd yn y ddwy iaith.
• Bydd gweithio gyda Swyddle yn eich
galluogi chi i gyflawni hyn yn gyflymac
effeithiol.
Cydymffurfiaeth
Mae cyfreithiau newydd yng Nghymru wedi
gosod y Gymraeg fel iaith swyddogol a
sicrhau fod gwasanaethau cyhoeddus yn
gorfod trin y Gymraeg a Saesneg yn
gyfartal6, sydd yn ei dro, wedi dod â galw
am weithwyr proffesiynol sy’n gallu
cyfathrebu yn effeithiol yn y ddwyiaith.
Mae deddfwriaeth hefyd yn cynnwys y
Gymraeg fel conglfaen ar gyfer datblygu
cynaliadwy o fewn cymunedau lleol.
Bydd y cyfreithiau yma yn cael effaith ar
wasanaethau ehangach cyn hir, yn enwedig
contractwyr llywodraeth leol ac endidau
cenedlaethol mawr.
By employing Welsh Speakers, you can:
• Market directly to Welsh speaking
customers
• Develop a bilingual corporate identity
from within
• Demonstrate a commitment to customer
service and nurture loyalty from existing
customers
• Provide a direct link to and interaction
with your local communities
• Increase the efficiency of your workforce
because bilingual staff can perform their
role in two languages
• Working with Swyddle will enable you to
achieve this quickly and efficiently.
Compliance
New laws in Wales have enshrined Welsh as
an official language and ensured that public
services must treat Welsh and English on an
equal basis6, which in turn has bought a
demand for professionals who can
communicate effectively in both languages.
Legislation also includes the Welsh
language as a central pillar for sustainable
development within local communities.
These laws will also soon have an impact
on wider services and on local government
contractors and large national entities in
particular.
Yr Achos Busnes | The Business Case 5
As an employer who runs a
business, finding an efficient and
trustworthy recruitmentcompany
is paramount. From the start, I felt
Swyddle was this company.
Fel cyflogwr sy’n rhedegbusnes,
mae canfod cwmni recriwtio
dibynadwy ac effeithiol yn holl
bwysig. O’r dechrau un,
roeddwn yn teimlo fod Swyddle
yn cynnig hwn.
Thomas Williams, Asiantaeth EiddoMaison Thomas Williams, Maison Lettings Agency
6 Yr Achos Busnes | The Business Case
Mantais gystadleuol
Gall darparu gwasanaethau Cymraeg fod yn
Bwynt Gwerthu Unigryw i chi. Mae’r cyfle
gyda chi i ddatbygu eich hunaniaeth brand
dwyieithog a chyrraedd cwsmeriaid newydd.
Mae ymchwil cenedlaethol wedi dangos mai
dim ond 12% o fusnesau oedd yn cynnig
gwasanaeth cyflawn i’r cwsmer yn Gymraeg7.
Ennill a chadw contractau’r
Sector Gyhoeddus
Mae oes newydd Safonau Iaith Gymraeg
statudol a chydymffurfiaeth â’r safonau
hynny, yn golygu y bydd gan gontractwyr
sy’n gallu dangos gallu dwyieithog fantais
wrth dendro am gontractau gwasanaethau
cyhoeddus. Mae’n haws o lawer i recriwtio
siaradwyr Cymraeg i gwmnïau sydd wedi’u
lleoli yng Nghymru, sydd yn cryfhau eich
sefyllfa i gadw tendrau pan fyddant yn
adnewyddu. Gallwn hefyd ddod yn rhan
o’ch tîm tendro.
Gwasanaethau i’r cwsmer
Mae darparu gwasanaethau dwyieithog
i’r cwsmer yn gwella’r cynnig o ran
gwasanaeth i’r cwsmer; gan gynnig y
gwasanaeth yn newis iaith y cwsmer.
Mae’n dangos gwell ymroddiad i
wasanaeth i’r cwsmer.
Competitive advantage
Providing a Welsh service can be your
Unique Selling Point. You have an
opportunity to develop your bilingual
brand identity and reach new customers.
National research has shown that only
12% of businesses had a complete Welsh
language customer service7.
Winning and retaining
Public Sector contracts
The new era of statutory Welsh Language
Standards and compliance means that
contractors who can demonstrate bilingual
capacity will have an advantage in tendering
for public service contracts. For companies
based in Wales, it is far easier to recruit a
Welsh speaker, which in itself strengthens
your position in retaining tenders at
renewal. We can also form part of your
tendering team.
Customer service
Providing bilingual customer service
enhances the entire customer service
proposition; offering the service inthe
language of the consumer’s choice.
It demonstrates a stronger commitment
to customer service.
In contrast to other recruitment
companies I’ve used, Swyddle were
committed to understanding the
ethos and objectives of my
company.
Yn wahanol i’r cwmnïau eraill
defnyddiais yn y gorffennol
roeddynt wedi ymroddi i dreulio
amser yn sicrhau eu bod yn deall
amcanion ac ethos eincwmni.
Thomas Williams, Asiantaeth EiddoMaison Thomas Williams, Maison Lettings Agency
Effeithlonrwydd
Nid yw’n angenrheidiol i gael tîm Cymraeg
ymroddedig sy’n ymdrîn yn unig â
chleientiaid sy’n dewis defnyddio’r Gymraeg.
Drwy recriwtio siaradwyr Cymraeg i swyddi
sy’n wynebu’r cwsmer a/neu swyddi
allweddol eraill, rydych yn cynyddu eich
gwasanaeth i’r cwsmer yn effeithiol iawn.
Gall un person dwyieithog berfformio dwy
swyddogaeth, gan y gallant weithredu’r un
swydd yn y ddwy iaith.
Twf yn yfarchnad
Os nad ydych erioed wedi cyrraedd lleiafrif
sylweddol yn eich marchnad domestig,
mae’n anhebygol eich bod yn derbyn llawer
o fasnach ganddynt. Drwy gyfathrebu â nhw
yn eu hiaith nhw, rydych yn debygol o ennilll
cwsmeriaid nad ydych wedi eu cyrraedd
o’r blaen. Drwy barhau i ddatblygu a
masnachu’n ddwyieithog, byddwch yn ennill
teyrngarwch mawr a thwf cynyddol yn y
farchnad. Mae hyn yn enwedig yn wir wrth
i’r genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg
ddod yn oedolion.
Efficiency
It’s not necessary to have a dedicated Welsh
language team, dealing solely with clients
whose language preference is the Welsh
language. By recruiting Welsh speakers into
customer facing and/or other key positions,
you very efficiently increase your customer
offering and service proposition. One
bilingual individual can perform two
functions, because they can conduct the
same role in both languages.
Market growth
If you have never reached out to a sizable
minority of your domestic market, it’s
unlikely that you gain much custom from
them. By communicating with them in their
language you are likely to quickly win over
customers that you have never reached
before. By continuing to develop and trade
bilingually you will gain customer loyalty and
increased market growth. This is particularly
true as the next generation of current Welsh
speakers move into adulthood.
Yr Achos Busnes | The Business Case 7
8 Ein Gwasanaethau | OurServices
Mae Swyddle yn cynnig mynediad at
siaradwyr Cymraeg ar draws Cymru ac sy’n
meddu ar sgiliau gwahanol. Fe fyddwn ond
yn cyflwyno’r unigolion hynny yr ydym yn
hyderus fod y sgiliau priodol ar gyfer swyddi
penodedig ganddynt ynghyd â’r gallu iaith
priodol. Rydym ni’n cynnig ystod pwrpasol
o becynnau recriwtio gyda strwythurau cost
hyblyg ac sy’n addas i chi (gan gynnwys
recriwtio ar sail comisiwn neu ffipenodedig).
Swyddle offers access to bilingual Welsh
speakers from across Wales and all skillsets.
We only introduce those individuals whom
we are confident have both the appropriate
skillsets for the specific posts along with the
appropriate Welsh language ability. We offer
a range of recruitment packages with
flexible charging structures to suit your
needs (including commission based
recruitment or a fixedfee).
Rhwydwaith o siaradwyrCymraeg
Anetwork of Welshspeakers
Ein Gwasanaethau
Our Services
Recriwtio parhaol/contract
Bydd Swyddle yn weithredol wrth chwilio am
yr ymgeiswyr cywir ar eich cyfer. Fe fyddwn
yn darganfod ymgeiswyr yn gyflym drwy ein
cronfa ddata a’n rhwydwaith ehangach ar
sail eich gofynion unigol ar gyfer y swydd.
Fe fyddwn i ddechrau yn dod i’ch cyfarfod
yn eich sefydliad er mwyn deall y cwmni, y
cyd destun a diben y swydd, yn ogystal â
manyleb y person.
Ar ddiwedd yr hysbysebu a’r cyfnod chwilio
fe fyddwn yn gwirio’r ymgeiswyr am eu
gallu, addasrwydd a gallu ieithyddol yr
ymgeiswyr. Ein nod yw darparu isafswm o
bedwar ymgeisydd addas i chi eu gwahodd
am gyfweliad. Os nad ydych yn gallu
penodi wedi cyfweliadau, rydym yn
gweithredu gwasanaeth ‘dim recriwtio –
dim ffi’ ar elfen recriwtio’r pecyn.
Yn olaf, rydym yn cynnig trefnu’r cyfweliadau
gyda chi a chysylltu â’r ymgeiswyr
llwyddiannus ac aflwyddiannus a thrafod
telerau ar eich rhan. Drwy’r broses gyfan
fe fyddwn yn cyfathrebu’n effeithiol ac yn
bwrpasol gyda chi, gan sicrhau bod y broses
o recriwtio mor hwylus a phosib i chi.
Permanent/Contract
recruitment
Swyddle will actively seek out the right
candidates for you. We will source
candidates through our own database and
our wider networks based on your individual
requirements for the post. We will initially
meet with you at your organisation to fully
understand the company, the culture of the
working environment, the context and
purpose of the role, and person
specification.
At the end of the advertising and sourcing
period we will screen all applicants for
competence, suitability and Welsh Language
ability. We aim to provide you with a
minimum of four suitable candidates for you
to invite for interview. If you are unable to
appoint after interviews, we operate a ‘no
recruit - no fee’ service on the recruitment
element of the package.
Finally, we are able to organise the interviews
with you and contact the successful and
unsuccessful candidates and negotiate
terms on your behalf. Throughout the
process we will communicate effectively
and purposefully with you, ensuring that
you find the process of recruiting as
painless as possible.
Ein Gwasanaethau | OurServices 9
I’m happy with the price and service
we received (fromSwyddle)...
I was pleasantly surprised by the
number of applicants,particularly
considering our failure to find
them in the first place!
Rwy’n hapus gyda’r pris a’r
gwasanaeth rydym wedi derbyn
(gan Swyddle)... Cefais syndod da
parthed nifer yr ymgeiswyr, yn
enwedig o ystyried ein methiant
i’w denu yn y lle cyntaf!
Hywel Ifans BCCIT yn sgîl ymgyrch llwyddiannus i
ganfod aelod newydd dwyieithog i’r tîm gwerthu.
Hywel Ifans BCCIT following a successful
campaign to recruit a bilingual sales consultant.
10 Ein Gwasanaethau | OurServices
Recriwtio dros dro
Gall Swyddle ddarparu gweithwyr dwyieithog
ar gontractiau dros dro yn ôl y gofyn. Rydym
yn cyfarfod ein ymgeiswyr wyneb yn wyneb,
asesu eu gallu ar gyfer y swydd dan sylw yn
ogystal â’u gallu yn y Gymraeg. Bydd pob un
o’n ymgeiswyr yn rhugl yn y Gymraeg yn
ogystal â bod yn addas a chymwys argyfer
y swydd. Gallwn hefyd ateb eich gofynion
cofrestru. (e.e. gwiriadau DBSayyb).
Hysbysebu
Os ydych am estyn cyrhaeddiad eich
hysbysebion yn unig, mae pecyn hysbysebu
cynhwysfawr gennym. Gallwch bostio swydd
ar ein gwefan, a fydd hefyd yn cael ei rannu
gyda phob ymgeisydd cofrestredig drwy
ebost. Gallwn eich cynorthwyo gydag
ysgrifennu’r hysbyseb swydd neu gyfieithu
hybsyseb swydd sy’n bodoli’n barod.
Yn ogystal â’n sianeli hysbysebu ein hunain,
mae Swyddle’n gwneud defnydd oadnoddau
ychwanegol fel Hysbysfyrddau Cenedlaethol
Mawr y DU, Cymdeithasau Masnachu/
Proffesiynol, sefydliadau Addysg Uwch ac
Addysg Bellach ymysg eraill. Mae ein
gwasanaeth hysbysebu yn gynhwysfawr
ac wedi ei dargedu i weddu i ofynion pob
swydd ac wedi ei ganolbwyntio ar ddenu
ymgeiswyr.
Temporary recruitment
Swyddle can provide bilingual workers on
temporary contracts as required. We meet
all our candidates face to face, assess their
capability for the role under question as well
as their abilities in the Welsh language.
Each of our candidates will be fluent in
Welsh in addition to being appropriate and
qualified for the role. We can also meet
your registration requirements (e.g. DBS
checks etc).
Advertising
If you only want to extend the reach of your
advertisements, we have a comprehensive
advertising package. You can post a job on
our website, which will also be shared with
all registered candidates via email. We can
assist with writing the Job advert or a Welsh
translation of an existing English Job advert.
In addition to our own channels, Swyddle
utilises additional resources such as large
UK National Jobs Boards, Trade/Professional
Associations, Further and Higher Education
institutions amongst others. Our advertising
service is comprehensive and targeted to
match the requirements of each role and
is focused on attracting applications.
We were very pleased with the
recruitment service received
from Swyddle for our bilingual
Press Officer post. We found
Swyddle’s approach helpful,
personable and accommodating
from the outset. We will certainly
use their service again.
Roeddwn yn hapus iawn gyda’r
gwasanaeth recriwtio ycawsom
gan Swyddle ar gyfer ein swydd
Swyddog i’r Wasg. Gwelom fod
eu dull o weithio yn bersonnol a
chymwynasgar o’r dechrau.
Byddwn yn sicr o ddefnyddio eu
gwasanaeth eto.
Shelter Cymru Shelter Cymru
Rhwydwaith talent
Rydym yn parhau i ddatblygu Cronfa Ddata
CV arlein o ymgeiswyr sydd wedi’u hasesu
am eu gallu yn y Gymraeg. Yn fuan, fe fydd
modd i chi gael mynediad i’r rhwydwaith hwn
o ymgeiswyr a chysylltu yn uniongyrchol â
nhw.
Cymorth i’r rhaisy’n
wynebu diswyddo
Mae Swyddle hefyd yn cynnig gwasanaeth
ar gyfer unigolion sy’n wynebu colli eu
swyddi, lle gallwn chwilio am gyfleoedd
cyflogaeth i’r dyfodol lle mae galw am eu
sgiliau dwyieithog. Rydym yn ymrwymo i
gwrdd ag unigolion wyneb yn wyneb er
mwyn asesu eu gofynion yn llawn a gweithio
gyda nhw nes eu bod yn darganfod gwaith
newydd.
Ein gwasanaethau
dwyieithog ehangach
Yn ychwanegol i’ch cynorthwyo i ddenu pobl
i’r cwmni neu sefydliad, rydym yn cynnig
gwasanaethau busnes ychwanegol, gan
gynyddu eich ymrwymiad i ddwyieithrwydd
yn y gweithle ac yn holl bwysig, yfarchnad:
• Gwasanaethau Rheoli Gweithwyr a
Gweinyddol Dwyieithog
• Cyfathrebu Dwyieithog
• Hwb Dwyieithog – mae Swyddle hefyd
yn borth sy’n arwain at wasanaethau
dwyieithog eraill fel adeiladu gwefan,
cynllunio graffeg, cyfieithu, cyfrifo a
chyflogres, cyngor cyfreithiol,
cynyrchiadau clyweledol a mwy.
• Gwneud y gorau o Dendrau ar gyfer
Contractau Gwasanaethau Cyhoeddus
yng Nghymru
Talent pool
We are continuing to develop a searchable
online CV Database of candidates who have
been assessed for their competence in the
Welsh language. Soon you will be able to
access this pool of candidates and contact
them directly.
Redundancy pools
Swyddle also offers a service for bilingual
individuals who are faced with a redundancy
situation, whereby we can actively seek
future employment opportunities where
their bilingual skills are in demand. We
commit to meet individuals face to face in
order to assess their needs in full and work
with them until they find new work.
Our wider bilingualservices
In addition to helping you to get people into
your company or organisation, we offer
additional business services, enhancing
your commitment to bilingualism in the
workplace and crucially the marketplace:
• Bilingual Employee Management and
Administration Services
• Bilingual Communications
• A Bilingual Hub - Swyddle also acts as a
portal to other bilingual services such as
web building, graphic design, translation,
accounting and payroll, legal advice,
audiovisual productions, and more.
• Optimize Tenders for Public Service
Contracts in Wales
Ein Gwasanaethau | OurServices 11
12 Bywgraffiadau | Biographies
Dafydd is a fluent Welsh speaker, with a
degree in marketing from the University of
Wales. He spent 10 years at Legal & General,
including three years as a Business
Development Manager. His recruitment
career includes undertaking internal
recruitment for Capita as their Welsh
Medium recruitment consultant at BBC
Wales. In 2011, he joined New Directions
Education and was specifically responsible
for the provision of Welsh Medium staff in
South East Wales. Within three years, he
more than trebled the turnover of the South
East Welsh medium desk and lead and
co-ordinated two other Welsh Medium
desks – in the West and North.
Bywgraffiadau
Biographies
Alun is a fully bilingual, independent
consultant, specialising in policy and public
affairs communications. He holds aMasters
degree in International Politics and a CIM
Professional Diploma in Marketing. He was
a Board Director at Positif Ltd, one of the
largest Political and Integrated
Communication companies in Wales.
He is also a Trustee of the Rhondda Cynon
Taf Citizens Advice Bureau. Alun joined
Positif following six years as the Public
Affairs Officer for Citizens Advice Cymru,
managing their public affairs programme,
including proposals for legislation in the
fields of education, community regeneration
and health. Prior to this, Alun had been a
Private Secretary at the National Assembly
for Wales’s Presiding Office.
Dafydd Rhun Henry
Partner
Mae Dafydd yn siaradwr Cymraeg rhugl, yn
meddu ar râdd mewn marchnata o Brifysgol
Cymru. Treuliodd 10 mlynedd yn Legal &
General, gan gynnwys tair blynedd fel
Rheolwr Datblygu Busnes. Mae ei yrfa
recriwtio yn cynnwys bod yn gyfrifol am
recriwtio mewnol ar ran Capita fel eu
ymgynghorydd recriwtio yn BBC Cymru.
Yn 2011, ymunodd â New Directions Addysg
ac roedd yn benodol gyfrifol am ddarparu
staff Cyfrwng y Gymraeg yn Ne Ddwyrain
Cymru. O fewn tair blynedd, bu i Dafydd
dros dreblu trosiant y ddesg Cyfrwng
Gymraeg yn y De Ddwyrain a bu’n arwain a
chydlynu dwy ddesg Cyfrwng y Gymraeg – yn
y Gorllewin a’r Gogledd.
Alun Gruffudd
Partner
Mae Alun yn ymgynghorydd annibynnol,
cwbl ddwyieithog, sy’n arbenigo mewn polisi
a chyfathrebu materion cyhoeddus. Mae
ganddo râdd Meistri mewn Gwleidyddiaeth
Ryngwladol a Diploma Proffesiynol mewn
marchnata gan CIM. Buodd yn Gyfarwyddwr
Bwrdd yn Positif Cyf, un o gwmnïau
Gwleidyddiaeth a Chyfathrebu Integredig
mwyaf Cymru. Mae hefyd yn Ymddiriedolwr
i Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf.
Ymunodd Alun â Positif wedi chwe mlynedd
fel Swyddog Materion Cyhoeddus i Cyngor ar
Bopeth Cymru, yn rheoli eu rhaglen
materion cyhoeddus, gan gynwys cynigion ar
gyfer deddfwriaeth ym maes addysg, adfywio
cymunedol a iechyd. Cyn hynny, buodd Alun
yn Ysgrifennydd Preifat yn Swyddfa Llywydd
Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
1 Defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru
2013-15; Llywodraeth Cymru a Chomisi
ynydd y Gymraeg, (26 Tachwedd 2015)
2 Hefyd ar gael yn Gymraeg: deall ydefnydd
a’r diffyg defnydd o wasanaethau
Cymraeg. Cyngor Ar Bopeth (2015)
3 Ibid.
4 Defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru
2013-15; Llywodraeth Cymru a
Chomisiynydd y Gymraeg, (26 Tachwedd
2015)
5 Manteision y Gymraeg yn y byd gwaith,
Papur Cefndir ac Astudiaethau Achos.
Paratowyd gan Trywydd ar gyfer
Gyrfaoedd Cymru (2010)
6 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011
7 “Defnydd o’r Iaith Gymraeg yn y Sector
Preifat, Astudiaethau Achos”, Adroddiad
wedi ei darparu i Llywodraeth Cynulliad
Cymru Uned Ymchwil Economaidd gan
Canolfan Ymchwil Busnes a Gwybodaeth
y Farchnad Y Ganolfan Rheolaeth,
Prifysgol Bangor (2008)
1 National Survey for Wales, 2013-14:Welsh
Language Use Survey. Welsh Government
& Welsh Language Commissioner (29
January2015)
2 English by Default, Understanding the use
and non-use of Welsh language services,
Citizens Advice; 2015
3 Ibid.
4 National Survey for Wales, 2013-14:Welsh
Language Use Survey. Welsh Government
& Welsh Language Commissioner (29
January2015)
5 The Use of the Welsh Language in the
World of Work, Briefing Paper and Case
Studies prepared by Trywydd for Careers
Wales(2010)
6 Welsh Language (Wales) Measure 2011
7 “Use of the Welsh Language in the Private
Sector: Case Studies”, Areport prepared
for The Welsh Assembly Government
Economic Research Unit by Centre for
Business Research and Market
Intelligence, Bangor University (2008)
Cyfeiriadau
References
Cyfeiriadau | References 13
Cysylltwch âni
Ffôn 029 2030 2182
Ebost post@swyddle.com
www.swyddle.cymru
@swyddle
Contact us
Tel 029 2030 2182
Email post@swyddle.com
www.swyddle.wales
@swyddle

More Related Content

Featured

Social Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie Insights
Social Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie InsightsSocial Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie Insights
Social Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie Insights
Kurio // The Social Media Age(ncy)
 
Good Stuff Happens in 1:1 Meetings: Why you need them and how to do them well
Good Stuff Happens in 1:1 Meetings: Why you need them and how to do them wellGood Stuff Happens in 1:1 Meetings: Why you need them and how to do them well
Good Stuff Happens in 1:1 Meetings: Why you need them and how to do them well
Saba Software
 
Introduction to C Programming Language
Introduction to C Programming LanguageIntroduction to C Programming Language
Introduction to C Programming Language
Simplilearn
 

Featured (20)

How to Prepare For a Successful Job Search for 2024
How to Prepare For a Successful Job Search for 2024How to Prepare For a Successful Job Search for 2024
How to Prepare For a Successful Job Search for 2024
 
Social Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie Insights
Social Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie InsightsSocial Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie Insights
Social Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie Insights
 
Trends In Paid Search: Navigating The Digital Landscape In 2024
Trends In Paid Search: Navigating The Digital Landscape In 2024Trends In Paid Search: Navigating The Digital Landscape In 2024
Trends In Paid Search: Navigating The Digital Landscape In 2024
 
5 Public speaking tips from TED - Visualized summary
5 Public speaking tips from TED - Visualized summary5 Public speaking tips from TED - Visualized summary
5 Public speaking tips from TED - Visualized summary
 
ChatGPT and the Future of Work - Clark Boyd
ChatGPT and the Future of Work - Clark Boyd ChatGPT and the Future of Work - Clark Boyd
ChatGPT and the Future of Work - Clark Boyd
 
Getting into the tech field. what next
Getting into the tech field. what next Getting into the tech field. what next
Getting into the tech field. what next
 
Google's Just Not That Into You: Understanding Core Updates & Search Intent
Google's Just Not That Into You: Understanding Core Updates & Search IntentGoogle's Just Not That Into You: Understanding Core Updates & Search Intent
Google's Just Not That Into You: Understanding Core Updates & Search Intent
 
How to have difficult conversations
How to have difficult conversations How to have difficult conversations
How to have difficult conversations
 
Introduction to Data Science
Introduction to Data ScienceIntroduction to Data Science
Introduction to Data Science
 
Time Management & Productivity - Best Practices
Time Management & Productivity -  Best PracticesTime Management & Productivity -  Best Practices
Time Management & Productivity - Best Practices
 
The six step guide to practical project management
The six step guide to practical project managementThe six step guide to practical project management
The six step guide to practical project management
 
Beginners Guide to TikTok for Search - Rachel Pearson - We are Tilt __ Bright...
Beginners Guide to TikTok for Search - Rachel Pearson - We are Tilt __ Bright...Beginners Guide to TikTok for Search - Rachel Pearson - We are Tilt __ Bright...
Beginners Guide to TikTok for Search - Rachel Pearson - We are Tilt __ Bright...
 
Unlocking the Power of ChatGPT and AI in Testing - A Real-World Look, present...
Unlocking the Power of ChatGPT and AI in Testing - A Real-World Look, present...Unlocking the Power of ChatGPT and AI in Testing - A Real-World Look, present...
Unlocking the Power of ChatGPT and AI in Testing - A Real-World Look, present...
 
12 Ways to Increase Your Influence at Work
12 Ways to Increase Your Influence at Work12 Ways to Increase Your Influence at Work
12 Ways to Increase Your Influence at Work
 
ChatGPT webinar slides
ChatGPT webinar slidesChatGPT webinar slides
ChatGPT webinar slides
 
More than Just Lines on a Map: Best Practices for U.S Bike Routes
More than Just Lines on a Map: Best Practices for U.S Bike RoutesMore than Just Lines on a Map: Best Practices for U.S Bike Routes
More than Just Lines on a Map: Best Practices for U.S Bike Routes
 
Ride the Storm: Navigating Through Unstable Periods / Katerina Rudko (Belka G...
Ride the Storm: Navigating Through Unstable Periods / Katerina Rudko (Belka G...Ride the Storm: Navigating Through Unstable Periods / Katerina Rudko (Belka G...
Ride the Storm: Navigating Through Unstable Periods / Katerina Rudko (Belka G...
 
Barbie - Brand Strategy Presentation
Barbie - Brand Strategy PresentationBarbie - Brand Strategy Presentation
Barbie - Brand Strategy Presentation
 
Good Stuff Happens in 1:1 Meetings: Why you need them and how to do them well
Good Stuff Happens in 1:1 Meetings: Why you need them and how to do them wellGood Stuff Happens in 1:1 Meetings: Why you need them and how to do them well
Good Stuff Happens in 1:1 Meetings: Why you need them and how to do them well
 
Introduction to C Programming Language
Introduction to C Programming LanguageIntroduction to C Programming Language
Introduction to C Programming Language
 

Llyfryn Swyddle Brochure

  • 1. Arbenigwyr Recriwtio ac Adnoddau Dwyieithog Bilingual Recruitment and Language ResourceSpecialists
  • 2. Cysylltwch âni Ffôn 029 2030 2182 Ebost post@swyddle.com www.swyddle.cymru @swyddle Contact us Tel 029 2030 2182 Email post@swyddle.com www.swyddle.wales @swyddle As a relatively large organisation running after school clubs in the Cardiff area, we developed a partnership withSwyddle in early 2015 so that we could outsource our recruitment, administration and business management function to them. We have found Swyddle to be very adaptable and resourceful in meeting ourneeds and has been a perfect fit for our business development plans. Fel sefydliad gymharol fawr sy’n cynnal clybiau ar ôl ysgol yn ardal Caerdydd, bu inni ddatblygu partneriaeth gyda Swyddle yn gynnar yn 2015 fel ein bod yn gallu gosod ein swyddogaethau recriwtio, gweinyddiaeth a rheoli busnes iddyn nhw. Mae Swyddle wedi dangos eu bod yn hyblyg ac yn ddyfeisgar wrth gwrdd â’n anghenion ac wedi gweddu yn berffaith i’n cynlluniau datblygu busnes. Clwb Carco Clwb Carco after school clubs
  • 3. Dafydd Rhun Henry Partner Alun Gruffudd Partner Cynnwys Contents Cwmni Unigryw 2 A Unique Company 2 • Recriwtio dwyieithog gwahanol 2 • Bilingual recruitment done differently 2 • Ein gwasanaethau 3 • Our services 3 • Ein cleientiaid 3 • Our clients 3 Yr Achos Busnes 4 The BusinessCase 4 • Cydymffurfiaeth 5 • Compliance 5 • Mantais gystadleuol 6 • Competitive advantage 6 • Ennill a chadw contractau’r Sector Gyhoeddus 6 • Winning and retaining Public Sector contracts 6 • Gwasanaethau i’rcwsmer 6 • Customer service 6 • Effeithlonrwydd 7 • Efficiency 7 • Twf yn yfarchnad 7 • Market growth 7 EinGwasanaethau 8 Our Services 8 • Rhwydwaith o siaradwyr Cymraeg 8 • A network of Welsh speakers 8 • Recriwtio parhaol/contract 9 • Permanent/Contract recruitment 9 • Recriwtio dros dro 10 • Temporary recruitment 10 • Hysbysebu 10 • Advertising 10 • Rhwydwaith talent 11 • Talent pool 11 • Cymorth i’r rhai sy’n wynebu diswyddo 11 • Redundancy pools 11 • Ein gwasanaethau dwyieithog ehangach 11 • Our wider bilingual services 11 Bywgraffiadau 12 Biographies 12 Cyfeiriadau 13 References 13 Cynnwys | Contents 1
  • 4. 2 Cwmni Unigryw | A Unique Company Cwmni Unigryw A Unique Company Sefydlwyd Swyddle er mwyn darparu gwasanaethau recriwtio a busnes dwyieithog arbenigol. Mae Swyddle yn cael ei arwain gan Gymry Cymraeg, gyda dros 30 mlynedd o brofiado weithio’n ddwyieithog o fewn meysydd recriwtio a chyfathrebu strategol. Ein prif nod yw eich galluogi i ennill mantais fasnachol, cyfalaf cymdeithasol a manteisio ar y farchnad ddwyieithog, drwy ddod o hyd i’r staff dwyieithog gorau a darparu ystod eang o adnoddau iaith. Wedi byw ein bywydau yn gyfangwbl ddwyieithog yn academaidd, yn gymdeithasol ac yn broffesiynol, mae gan ein Partneriaeth rwydwaith eang o gysylltiadau ar draws Cymru. Ein swyddogaeth yw rhoi’r mynediad a’r teclynau i chi gyd-gysylltu â’r gymdeithas Gymraeg a dod o hyd i’r ymgeiswyr cywir yn y dull mwyaf effeithlon. Rydym yn ymfalchio yn ein profiad o weithio’n effeithiol ac wrth ymgynghori â chleientiaid, gan ychwanegu gwerth i’r broses o recriwtio a chynyddu effeithlonrwydd eich gweithlu. Rydym yn darparu gwerth am arian ac mae costau isel o weithredu gyda ni. Swyddle was established to provide specialist bilingual recruitment and business services. Swyddle is led by fluent Welsh speakers, who have over 30 years’ experience of working bilingually within recruitment and strategic communications. Our principle aim is to enable you to gain commercial advantage, social capital and access to the bilingual marketplace by sourcing the best bilingual Welsh speaking staff and providing you witha wide range of language resources. Having lived our entire lives bilingually, academically, socially and professionally, our Partnership has an extensive network of connections across Wales. Our role is to give you access and the tools to reach out to the Welsh speaking community andfind the right candidatesefficiently. We pride ourselves on our track record of working efficiently and inconsultation with clients, adding value to the recruitment process in a cost effective way and increasing the effectiveness of your workforce. Recriwtio dwyieithog gwahanol Bilingual recruitment done differently
  • 5. Ein gwasanaethau • Recriwtio Parhaol a Chontractau • Atebion i staffio dros droar draws Cymru ac ar gyfer pob sector • Gwasanaeth hysbysebu swyddi pwrpasol, gan gynyddu eich cyrhaeddiad • Rhwydwaith Cymru-gyfan o siaradwyr Cymraeg proffesiynol • Cronfa Ddata arlein o siaradwyr Cymraeg sydd wedi’u hasesu y gellir ei chwilio Mae ein cleientiaid yn cynnwys • 10K Caerdydd • Cyllid Cymru • S4C • Cynulliad Cenedlaethol Cymru • Cyngor Dinas Caerdydd • Prifysgol De Cymru • Prifysgol Metropolitan Caerdydd • Sefydliad Aren Cymru • Menter & Busnes • Shelter Cymru • Gwasanaethau Eiddo Maison • BCCIT Our services • Permanent and Contract recruitment • Temporary staffing solutions across all of Wales and all sectors • Targeted job advertising service, extending your reach • A Wales-wide network of professional Welsh speakers • Searchable online database of language assessed Welsh Speakers Our clients include • Cardiff10K • Finance Wales • S4C • National Assembly for Wales • Cardiff CountyCouncil • University of South Wales • Cardiff Metropolitan University • Kidney Wales Foundation • Menter & Busnes • Shelter Cymru • Maison Property Services • BCCIT Cwmni Unigryw | A Unique Company 3 Working with Swyddle enabled us to move swiftly to fulfil our requirements and planning for the Cardiff 10k –which is now a leading event in the UK. We were very pleased with Swyddle’s responsiveness and engagement in meeting our requirements. We will certainly use Swyddle again. Roedd gweithio gyda Swyddleyn ein galluogi i symud yn gyflym er mwyn cwrdd â’n anghenion a chynllunio ar gyfer 10kCaerdydd – sydd nawr yn ddigwyddiad blaengar yn y DU. Roeddwn wedi’n plesio’n fawr gydag ymateb Swyddle a’u hymglymiad wrth ateb ein gofynion. Byddwn yn sicr yn defnyddio Swyddle eto. Sefydliad Aren Cymru Kidney WalesFoundation
  • 6. 4 Yr Achos Busnes | The Business Case Mae darparu gwasanaethau dwyieithog yn gwneud synnwyr o ran busnes ac yn fasnachol. Mae galw cynyddol amlwg ar gyfer gwasanaethau dwyieithog fel y dull arferol o weithredu gan sefydliadau a busnesau sy’n gweithredu yng Nghymru. • Mae 350,000 o’r holl bobl dros 3 mlwydd oedd yn siarad Cymraeg yn ddyddiol1 • Mae 82% o siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o ddefnyddio gwasanaethau neu ddeunydd gan gwmni dwyieithog2 • Dywed 83% o siaradwyr Cymraeg y byddant yn aros yn ffyddlon osydych yn darparu gwasanaeth dwyieithog3 • Bydd cenedlaethau’r dyfodol yn galw’n gynyddol am wasanaethau dwyieithog llawn. Mae canran y sawl sy’n siarad Cymraeg fwyaf ymysg rheiny sydd rhwng 3-15 mlwydd oed (mor uchel a50%)4 • Mae tua dwy filiwn o bobl yng Nghymru yn credu ei bod hi’n bywsig i gynnig gwasanaeth dwyieithog. Mae hwn lawer yn fwy na’r cyfanswm sy’n siaradCymraeg.5 Os ydych yn fusnes, mae’r galw cynyddol hwn yn rhoi’r cyfle igynyddu eich cwsmeriaid drwy eich gwneud yn wahanol i gwmnïau eraill. Os ydych yn sefydliad sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd, mae hwn yn gyfle i ddatblygu eich hunaniaeth ddwyieithog a diwallu anghenion eich cymunedau lleol yn well. Providing bilingual services makes commercial and business sense. There is clearly an increasing demand for bilingual services as the norm from organisations and businesses operating in Wales. • 350,000 of all people aged 3 andover speak Welsh daily1 • 82% of Welsh speakers are more inclined to consume the services or products of a bilingual company2 • 83% of Welsh speakers saying they would stay loyal if you provide a bilingual service3 • Future generations in Wales will increasingly demand fully bilingual services. The percentage of those who speak Welsh is highest amongst those aged between 3-15 years old (as high as50%)4 • Around two million people in Wales think that it is important for businesses to offer a bilingual service. This is far more than speak Welsh5 If you are a business, this increasing demand offers you the opportunity to expand your customer base by differentiating your company from the competition. If you are an organisation providing services to the public, this offers an opportunity to develop your bilingual identity and better meet the needs of your local communities. Yr Achos Busnes The Business Case
  • 7. Drwy gyflogi siaradwyr Cymraeg gallwch: • Marchnata yn uniongyrchol i’ch cwsmeriaid • Datblygu hunaniaeth gorfforiaethol ddwyieithog • Arddangos ymrwymiad i wasanaeth cwsmeriaid a meithrin teyrngarwch oddi wrth cwsmeriaid presennol • Darparu cysylltiad uniongyrchol ac chyswllt gyda’ch cymunedau lleol • Cynyddu effeithlonrwydd eich gweithlu, gan fod staff dwyieithog yn gallugwneud eu swydd yn y ddwy iaith. • Bydd gweithio gyda Swyddle yn eich galluogi chi i gyflawni hyn yn gyflymac effeithiol. Cydymffurfiaeth Mae cyfreithiau newydd yng Nghymru wedi gosod y Gymraeg fel iaith swyddogol a sicrhau fod gwasanaethau cyhoeddus yn gorfod trin y Gymraeg a Saesneg yn gyfartal6, sydd yn ei dro, wedi dod â galw am weithwyr proffesiynol sy’n gallu cyfathrebu yn effeithiol yn y ddwyiaith. Mae deddfwriaeth hefyd yn cynnwys y Gymraeg fel conglfaen ar gyfer datblygu cynaliadwy o fewn cymunedau lleol. Bydd y cyfreithiau yma yn cael effaith ar wasanaethau ehangach cyn hir, yn enwedig contractwyr llywodraeth leol ac endidau cenedlaethol mawr. By employing Welsh Speakers, you can: • Market directly to Welsh speaking customers • Develop a bilingual corporate identity from within • Demonstrate a commitment to customer service and nurture loyalty from existing customers • Provide a direct link to and interaction with your local communities • Increase the efficiency of your workforce because bilingual staff can perform their role in two languages • Working with Swyddle will enable you to achieve this quickly and efficiently. Compliance New laws in Wales have enshrined Welsh as an official language and ensured that public services must treat Welsh and English on an equal basis6, which in turn has bought a demand for professionals who can communicate effectively in both languages. Legislation also includes the Welsh language as a central pillar for sustainable development within local communities. These laws will also soon have an impact on wider services and on local government contractors and large national entities in particular. Yr Achos Busnes | The Business Case 5 As an employer who runs a business, finding an efficient and trustworthy recruitmentcompany is paramount. From the start, I felt Swyddle was this company. Fel cyflogwr sy’n rhedegbusnes, mae canfod cwmni recriwtio dibynadwy ac effeithiol yn holl bwysig. O’r dechrau un, roeddwn yn teimlo fod Swyddle yn cynnig hwn. Thomas Williams, Asiantaeth EiddoMaison Thomas Williams, Maison Lettings Agency
  • 8. 6 Yr Achos Busnes | The Business Case Mantais gystadleuol Gall darparu gwasanaethau Cymraeg fod yn Bwynt Gwerthu Unigryw i chi. Mae’r cyfle gyda chi i ddatbygu eich hunaniaeth brand dwyieithog a chyrraedd cwsmeriaid newydd. Mae ymchwil cenedlaethol wedi dangos mai dim ond 12% o fusnesau oedd yn cynnig gwasanaeth cyflawn i’r cwsmer yn Gymraeg7. Ennill a chadw contractau’r Sector Gyhoeddus Mae oes newydd Safonau Iaith Gymraeg statudol a chydymffurfiaeth â’r safonau hynny, yn golygu y bydd gan gontractwyr sy’n gallu dangos gallu dwyieithog fantais wrth dendro am gontractau gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n haws o lawer i recriwtio siaradwyr Cymraeg i gwmnïau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, sydd yn cryfhau eich sefyllfa i gadw tendrau pan fyddant yn adnewyddu. Gallwn hefyd ddod yn rhan o’ch tîm tendro. Gwasanaethau i’r cwsmer Mae darparu gwasanaethau dwyieithog i’r cwsmer yn gwella’r cynnig o ran gwasanaeth i’r cwsmer; gan gynnig y gwasanaeth yn newis iaith y cwsmer. Mae’n dangos gwell ymroddiad i wasanaeth i’r cwsmer. Competitive advantage Providing a Welsh service can be your Unique Selling Point. You have an opportunity to develop your bilingual brand identity and reach new customers. National research has shown that only 12% of businesses had a complete Welsh language customer service7. Winning and retaining Public Sector contracts The new era of statutory Welsh Language Standards and compliance means that contractors who can demonstrate bilingual capacity will have an advantage in tendering for public service contracts. For companies based in Wales, it is far easier to recruit a Welsh speaker, which in itself strengthens your position in retaining tenders at renewal. We can also form part of your tendering team. Customer service Providing bilingual customer service enhances the entire customer service proposition; offering the service inthe language of the consumer’s choice. It demonstrates a stronger commitment to customer service. In contrast to other recruitment companies I’ve used, Swyddle were committed to understanding the ethos and objectives of my company. Yn wahanol i’r cwmnïau eraill defnyddiais yn y gorffennol roeddynt wedi ymroddi i dreulio amser yn sicrhau eu bod yn deall amcanion ac ethos eincwmni. Thomas Williams, Asiantaeth EiddoMaison Thomas Williams, Maison Lettings Agency
  • 9. Effeithlonrwydd Nid yw’n angenrheidiol i gael tîm Cymraeg ymroddedig sy’n ymdrîn yn unig â chleientiaid sy’n dewis defnyddio’r Gymraeg. Drwy recriwtio siaradwyr Cymraeg i swyddi sy’n wynebu’r cwsmer a/neu swyddi allweddol eraill, rydych yn cynyddu eich gwasanaeth i’r cwsmer yn effeithiol iawn. Gall un person dwyieithog berfformio dwy swyddogaeth, gan y gallant weithredu’r un swydd yn y ddwy iaith. Twf yn yfarchnad Os nad ydych erioed wedi cyrraedd lleiafrif sylweddol yn eich marchnad domestig, mae’n anhebygol eich bod yn derbyn llawer o fasnach ganddynt. Drwy gyfathrebu â nhw yn eu hiaith nhw, rydych yn debygol o ennilll cwsmeriaid nad ydych wedi eu cyrraedd o’r blaen. Drwy barhau i ddatblygu a masnachu’n ddwyieithog, byddwch yn ennill teyrngarwch mawr a thwf cynyddol yn y farchnad. Mae hyn yn enwedig yn wir wrth i’r genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg ddod yn oedolion. Efficiency It’s not necessary to have a dedicated Welsh language team, dealing solely with clients whose language preference is the Welsh language. By recruiting Welsh speakers into customer facing and/or other key positions, you very efficiently increase your customer offering and service proposition. One bilingual individual can perform two functions, because they can conduct the same role in both languages. Market growth If you have never reached out to a sizable minority of your domestic market, it’s unlikely that you gain much custom from them. By communicating with them in their language you are likely to quickly win over customers that you have never reached before. By continuing to develop and trade bilingually you will gain customer loyalty and increased market growth. This is particularly true as the next generation of current Welsh speakers move into adulthood. Yr Achos Busnes | The Business Case 7
  • 10. 8 Ein Gwasanaethau | OurServices Mae Swyddle yn cynnig mynediad at siaradwyr Cymraeg ar draws Cymru ac sy’n meddu ar sgiliau gwahanol. Fe fyddwn ond yn cyflwyno’r unigolion hynny yr ydym yn hyderus fod y sgiliau priodol ar gyfer swyddi penodedig ganddynt ynghyd â’r gallu iaith priodol. Rydym ni’n cynnig ystod pwrpasol o becynnau recriwtio gyda strwythurau cost hyblyg ac sy’n addas i chi (gan gynnwys recriwtio ar sail comisiwn neu ffipenodedig). Swyddle offers access to bilingual Welsh speakers from across Wales and all skillsets. We only introduce those individuals whom we are confident have both the appropriate skillsets for the specific posts along with the appropriate Welsh language ability. We offer a range of recruitment packages with flexible charging structures to suit your needs (including commission based recruitment or a fixedfee). Rhwydwaith o siaradwyrCymraeg Anetwork of Welshspeakers Ein Gwasanaethau Our Services
  • 11. Recriwtio parhaol/contract Bydd Swyddle yn weithredol wrth chwilio am yr ymgeiswyr cywir ar eich cyfer. Fe fyddwn yn darganfod ymgeiswyr yn gyflym drwy ein cronfa ddata a’n rhwydwaith ehangach ar sail eich gofynion unigol ar gyfer y swydd. Fe fyddwn i ddechrau yn dod i’ch cyfarfod yn eich sefydliad er mwyn deall y cwmni, y cyd destun a diben y swydd, yn ogystal â manyleb y person. Ar ddiwedd yr hysbysebu a’r cyfnod chwilio fe fyddwn yn gwirio’r ymgeiswyr am eu gallu, addasrwydd a gallu ieithyddol yr ymgeiswyr. Ein nod yw darparu isafswm o bedwar ymgeisydd addas i chi eu gwahodd am gyfweliad. Os nad ydych yn gallu penodi wedi cyfweliadau, rydym yn gweithredu gwasanaeth ‘dim recriwtio – dim ffi’ ar elfen recriwtio’r pecyn. Yn olaf, rydym yn cynnig trefnu’r cyfweliadau gyda chi a chysylltu â’r ymgeiswyr llwyddiannus ac aflwyddiannus a thrafod telerau ar eich rhan. Drwy’r broses gyfan fe fyddwn yn cyfathrebu’n effeithiol ac yn bwrpasol gyda chi, gan sicrhau bod y broses o recriwtio mor hwylus a phosib i chi. Permanent/Contract recruitment Swyddle will actively seek out the right candidates for you. We will source candidates through our own database and our wider networks based on your individual requirements for the post. We will initially meet with you at your organisation to fully understand the company, the culture of the working environment, the context and purpose of the role, and person specification. At the end of the advertising and sourcing period we will screen all applicants for competence, suitability and Welsh Language ability. We aim to provide you with a minimum of four suitable candidates for you to invite for interview. If you are unable to appoint after interviews, we operate a ‘no recruit - no fee’ service on the recruitment element of the package. Finally, we are able to organise the interviews with you and contact the successful and unsuccessful candidates and negotiate terms on your behalf. Throughout the process we will communicate effectively and purposefully with you, ensuring that you find the process of recruiting as painless as possible. Ein Gwasanaethau | OurServices 9 I’m happy with the price and service we received (fromSwyddle)... I was pleasantly surprised by the number of applicants,particularly considering our failure to find them in the first place! Rwy’n hapus gyda’r pris a’r gwasanaeth rydym wedi derbyn (gan Swyddle)... Cefais syndod da parthed nifer yr ymgeiswyr, yn enwedig o ystyried ein methiant i’w denu yn y lle cyntaf! Hywel Ifans BCCIT yn sgîl ymgyrch llwyddiannus i ganfod aelod newydd dwyieithog i’r tîm gwerthu. Hywel Ifans BCCIT following a successful campaign to recruit a bilingual sales consultant.
  • 12. 10 Ein Gwasanaethau | OurServices Recriwtio dros dro Gall Swyddle ddarparu gweithwyr dwyieithog ar gontractiau dros dro yn ôl y gofyn. Rydym yn cyfarfod ein ymgeiswyr wyneb yn wyneb, asesu eu gallu ar gyfer y swydd dan sylw yn ogystal â’u gallu yn y Gymraeg. Bydd pob un o’n ymgeiswyr yn rhugl yn y Gymraeg yn ogystal â bod yn addas a chymwys argyfer y swydd. Gallwn hefyd ateb eich gofynion cofrestru. (e.e. gwiriadau DBSayyb). Hysbysebu Os ydych am estyn cyrhaeddiad eich hysbysebion yn unig, mae pecyn hysbysebu cynhwysfawr gennym. Gallwch bostio swydd ar ein gwefan, a fydd hefyd yn cael ei rannu gyda phob ymgeisydd cofrestredig drwy ebost. Gallwn eich cynorthwyo gydag ysgrifennu’r hysbyseb swydd neu gyfieithu hybsyseb swydd sy’n bodoli’n barod. Yn ogystal â’n sianeli hysbysebu ein hunain, mae Swyddle’n gwneud defnydd oadnoddau ychwanegol fel Hysbysfyrddau Cenedlaethol Mawr y DU, Cymdeithasau Masnachu/ Proffesiynol, sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach ymysg eraill. Mae ein gwasanaeth hysbysebu yn gynhwysfawr ac wedi ei dargedu i weddu i ofynion pob swydd ac wedi ei ganolbwyntio ar ddenu ymgeiswyr. Temporary recruitment Swyddle can provide bilingual workers on temporary contracts as required. We meet all our candidates face to face, assess their capability for the role under question as well as their abilities in the Welsh language. Each of our candidates will be fluent in Welsh in addition to being appropriate and qualified for the role. We can also meet your registration requirements (e.g. DBS checks etc). Advertising If you only want to extend the reach of your advertisements, we have a comprehensive advertising package. You can post a job on our website, which will also be shared with all registered candidates via email. We can assist with writing the Job advert or a Welsh translation of an existing English Job advert. In addition to our own channels, Swyddle utilises additional resources such as large UK National Jobs Boards, Trade/Professional Associations, Further and Higher Education institutions amongst others. Our advertising service is comprehensive and targeted to match the requirements of each role and is focused on attracting applications. We were very pleased with the recruitment service received from Swyddle for our bilingual Press Officer post. We found Swyddle’s approach helpful, personable and accommodating from the outset. We will certainly use their service again. Roeddwn yn hapus iawn gyda’r gwasanaeth recriwtio ycawsom gan Swyddle ar gyfer ein swydd Swyddog i’r Wasg. Gwelom fod eu dull o weithio yn bersonnol a chymwynasgar o’r dechrau. Byddwn yn sicr o ddefnyddio eu gwasanaeth eto. Shelter Cymru Shelter Cymru
  • 13. Rhwydwaith talent Rydym yn parhau i ddatblygu Cronfa Ddata CV arlein o ymgeiswyr sydd wedi’u hasesu am eu gallu yn y Gymraeg. Yn fuan, fe fydd modd i chi gael mynediad i’r rhwydwaith hwn o ymgeiswyr a chysylltu yn uniongyrchol â nhw. Cymorth i’r rhaisy’n wynebu diswyddo Mae Swyddle hefyd yn cynnig gwasanaeth ar gyfer unigolion sy’n wynebu colli eu swyddi, lle gallwn chwilio am gyfleoedd cyflogaeth i’r dyfodol lle mae galw am eu sgiliau dwyieithog. Rydym yn ymrwymo i gwrdd ag unigolion wyneb yn wyneb er mwyn asesu eu gofynion yn llawn a gweithio gyda nhw nes eu bod yn darganfod gwaith newydd. Ein gwasanaethau dwyieithog ehangach Yn ychwanegol i’ch cynorthwyo i ddenu pobl i’r cwmni neu sefydliad, rydym yn cynnig gwasanaethau busnes ychwanegol, gan gynyddu eich ymrwymiad i ddwyieithrwydd yn y gweithle ac yn holl bwysig, yfarchnad: • Gwasanaethau Rheoli Gweithwyr a Gweinyddol Dwyieithog • Cyfathrebu Dwyieithog • Hwb Dwyieithog – mae Swyddle hefyd yn borth sy’n arwain at wasanaethau dwyieithog eraill fel adeiladu gwefan, cynllunio graffeg, cyfieithu, cyfrifo a chyflogres, cyngor cyfreithiol, cynyrchiadau clyweledol a mwy. • Gwneud y gorau o Dendrau ar gyfer Contractau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru Talent pool We are continuing to develop a searchable online CV Database of candidates who have been assessed for their competence in the Welsh language. Soon you will be able to access this pool of candidates and contact them directly. Redundancy pools Swyddle also offers a service for bilingual individuals who are faced with a redundancy situation, whereby we can actively seek future employment opportunities where their bilingual skills are in demand. We commit to meet individuals face to face in order to assess their needs in full and work with them until they find new work. Our wider bilingualservices In addition to helping you to get people into your company or organisation, we offer additional business services, enhancing your commitment to bilingualism in the workplace and crucially the marketplace: • Bilingual Employee Management and Administration Services • Bilingual Communications • A Bilingual Hub - Swyddle also acts as a portal to other bilingual services such as web building, graphic design, translation, accounting and payroll, legal advice, audiovisual productions, and more. • Optimize Tenders for Public Service Contracts in Wales Ein Gwasanaethau | OurServices 11
  • 14. 12 Bywgraffiadau | Biographies Dafydd is a fluent Welsh speaker, with a degree in marketing from the University of Wales. He spent 10 years at Legal & General, including three years as a Business Development Manager. His recruitment career includes undertaking internal recruitment for Capita as their Welsh Medium recruitment consultant at BBC Wales. In 2011, he joined New Directions Education and was specifically responsible for the provision of Welsh Medium staff in South East Wales. Within three years, he more than trebled the turnover of the South East Welsh medium desk and lead and co-ordinated two other Welsh Medium desks – in the West and North. Bywgraffiadau Biographies Alun is a fully bilingual, independent consultant, specialising in policy and public affairs communications. He holds aMasters degree in International Politics and a CIM Professional Diploma in Marketing. He was a Board Director at Positif Ltd, one of the largest Political and Integrated Communication companies in Wales. He is also a Trustee of the Rhondda Cynon Taf Citizens Advice Bureau. Alun joined Positif following six years as the Public Affairs Officer for Citizens Advice Cymru, managing their public affairs programme, including proposals for legislation in the fields of education, community regeneration and health. Prior to this, Alun had been a Private Secretary at the National Assembly for Wales’s Presiding Office. Dafydd Rhun Henry Partner Mae Dafydd yn siaradwr Cymraeg rhugl, yn meddu ar râdd mewn marchnata o Brifysgol Cymru. Treuliodd 10 mlynedd yn Legal & General, gan gynnwys tair blynedd fel Rheolwr Datblygu Busnes. Mae ei yrfa recriwtio yn cynnwys bod yn gyfrifol am recriwtio mewnol ar ran Capita fel eu ymgynghorydd recriwtio yn BBC Cymru. Yn 2011, ymunodd â New Directions Addysg ac roedd yn benodol gyfrifol am ddarparu staff Cyfrwng y Gymraeg yn Ne Ddwyrain Cymru. O fewn tair blynedd, bu i Dafydd dros dreblu trosiant y ddesg Cyfrwng Gymraeg yn y De Ddwyrain a bu’n arwain a chydlynu dwy ddesg Cyfrwng y Gymraeg – yn y Gorllewin a’r Gogledd. Alun Gruffudd Partner Mae Alun yn ymgynghorydd annibynnol, cwbl ddwyieithog, sy’n arbenigo mewn polisi a chyfathrebu materion cyhoeddus. Mae ganddo râdd Meistri mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Diploma Proffesiynol mewn marchnata gan CIM. Buodd yn Gyfarwyddwr Bwrdd yn Positif Cyf, un o gwmnïau Gwleidyddiaeth a Chyfathrebu Integredig mwyaf Cymru. Mae hefyd yn Ymddiriedolwr i Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf. Ymunodd Alun â Positif wedi chwe mlynedd fel Swyddog Materion Cyhoeddus i Cyngor ar Bopeth Cymru, yn rheoli eu rhaglen materion cyhoeddus, gan gynwys cynigion ar gyfer deddfwriaeth ym maes addysg, adfywio cymunedol a iechyd. Cyn hynny, buodd Alun yn Ysgrifennydd Preifat yn Swyddfa Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
  • 15. 1 Defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru 2013-15; Llywodraeth Cymru a Chomisi ynydd y Gymraeg, (26 Tachwedd 2015) 2 Hefyd ar gael yn Gymraeg: deall ydefnydd a’r diffyg defnydd o wasanaethau Cymraeg. Cyngor Ar Bopeth (2015) 3 Ibid. 4 Defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru 2013-15; Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg, (26 Tachwedd 2015) 5 Manteision y Gymraeg yn y byd gwaith, Papur Cefndir ac Astudiaethau Achos. Paratowyd gan Trywydd ar gyfer Gyrfaoedd Cymru (2010) 6 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 7 “Defnydd o’r Iaith Gymraeg yn y Sector Preifat, Astudiaethau Achos”, Adroddiad wedi ei darparu i Llywodraeth Cynulliad Cymru Uned Ymchwil Economaidd gan Canolfan Ymchwil Busnes a Gwybodaeth y Farchnad Y Ganolfan Rheolaeth, Prifysgol Bangor (2008) 1 National Survey for Wales, 2013-14:Welsh Language Use Survey. Welsh Government & Welsh Language Commissioner (29 January2015) 2 English by Default, Understanding the use and non-use of Welsh language services, Citizens Advice; 2015 3 Ibid. 4 National Survey for Wales, 2013-14:Welsh Language Use Survey. Welsh Government & Welsh Language Commissioner (29 January2015) 5 The Use of the Welsh Language in the World of Work, Briefing Paper and Case Studies prepared by Trywydd for Careers Wales(2010) 6 Welsh Language (Wales) Measure 2011 7 “Use of the Welsh Language in the Private Sector: Case Studies”, Areport prepared for The Welsh Assembly Government Economic Research Unit by Centre for Business Research and Market Intelligence, Bangor University (2008) Cyfeiriadau References Cyfeiriadau | References 13
  • 16. Cysylltwch âni Ffôn 029 2030 2182 Ebost post@swyddle.com www.swyddle.cymru @swyddle Contact us Tel 029 2030 2182 Email post@swyddle.com www.swyddle.wales @swyddle