SlideShare a Scribd company logo
1 of 44
Lloches Iaith I Language of Refuge
Cymru fel Cenedl Noddfa Wales as a Nation of Sanctuary
Gwennan Higham / Adran y Gymraeg / g.e.higham@abertawe.ac.uk / @gwennanelin
Llywodraeth Cymru
Tiwtoriaid Cymraeg i
Oedolion
Tiwtoriaid ESOL
Cyngor Gwynedd
Cyngor Caerdydd
Mewnfudwyr Rhyngwladol
Dosbarthiadau Cymraeg i
fewnfudwyr
Nod y ddarlith
• Darlun o sefyllfa mewnfudo ac iaith ym Mhrydain a Chymru
• Canlyniadau ymchwil ar y Gymraeg a mewnfudwyr rhyngwladol
• Goblygiadau ar gyfer polisïau addysg / iaith / cymunedol
Polisi Mewnfudo Prydain 1970-2020
1970–2000
Amlddiwylliannedd
2000–2010
Integreiddio
2010–2019
Awyrgylch gelyniaethus
2020–2030
2020–2030
• ???
Polisi Mewnfudo Prydain
• Mewnfudo ‘diawdurdod’
wedi cynyddu ers 2010
• Mewnfudo yn cael ei gysylltu
â’r economi yn unig
• Mewnfudo ar sail pwyntiau
• Polisi mewnfudo y dyfodol yn
aneglur
”One nation, one language”
Pwerau Llywodraeth Cymru I Pwerau Llywodraeth Prydain
• Addysg
• Diwylliant
• Cydlyniant cymdeithasol
• Y Gymraeg
• Mewnfudo
• Polisi tramor
• Masnach a diwydiant
• Cyflogaeth
Gwersyll Penalun, Sir Benfro
Cymru: Cenedl Noddfa
Wythnos Ffoaduriaid 2020
Dywedodd Homa, ffoadur o Iran:
“Rwy’ am ddiolch i Lywodraeth Cymru a phobl Cymru am fy helpu i. Rwy’n gallu bod
yn dawel fy meddwl yma. Mae byw yng Nghymru wedi fy helpu i adennill yr hunan
hyder a gollais yn fy ngwlad. Yma, mae pobl yn fy annog i – maen nhw’n fy ngwneud
i’n gryfach. Rwy’n credu bod modd i fi wneud rhywbeth dros y wlad hon, dros y
llywodraeth a’r bobl garedig. Rydych chi’n gwneud i mi deimlo fy mod i’n perthyn, mai
dyma fy nghartref.”
Cymraeg 2050
“Mae mewnfudo yn her i’r Gymraeg, ond gall hefyd fod yn
gyfle i ddangos sut gall yr iaith gael ei defnyddio i gofleidio
amlddiwyllianedd ac amrywiaeth.”
“Mewnfudo yw un o’r prif ffactorau sydd wedi effeithio
ar y nifer sydd yn siarad Cymraeg” (Jones 2015)
Mae
mewnfudo
yng Nghymru
• wedi dyblu yn y degawd diwethaf
• yn debygol o barhau (neu gynyddu) er gwaethaf Brexit
• yn debygol o fod yn brif ffactor a fydd yn effeithio ar y
nifer sydd yn siarad Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021
‘Gall dysgu ESOL yng Nghymru fod yn
fwy o her i ddysgwyr. Gall adnabod a
deall enwau lleoedd ac arwyddion
Cymraeg fod yn anodd, yn enwedig
pan fo Saesneg yn ‘ddieithr’ hefyd.’
In terms of learning Welsh, there’s not much interest because
they have enough to do learning English and they feel English
is what is going to get them a job and get them to speak to
their doctor and help their kids in school. Tiwtor ESOL
Everybody has got constraints on their time. If they have to
choose to learn Welsh or English they need to concentrate on
their English. Sorry. Tiwtor ESOL
And then it was actually a case of questioning whether or not
that that’s really helpful to immigrants because if they can’t
speak English then Welsh is great in certain communities in
order to really exist in the UK – English. And it [Welsh] can be
more confusing for them. Swyddog Llywodraeth Cymru
‘[Mae’r Llywodraeth] yn gweithio
gyda darparwyr ESOL a’r Ganolfan
Dysgu Cymraeg Cenedlaethol i
gryfhau hyrwyddo’r Gymraeg mewn
cyrsiau ESOL’
Cymraeg i fewnfudwyr: datblygiadau
2012-14
• Sesiynau blasu i
ddosbarthiadau ESOL ar
ddydd Gŵyl Dewi
2018
• Dosbarthiadau Cymraeg i
ffoaduriaid a cheiswyr
lloches yng Nghaerdydd
2019
• Diweddariad i bolisi ESOL
Llywodraeth Cymru
2019
• Cwrs Cymraeg i
ffoaduriaid yng
Ngasnewydd (y Groes
Goch)
2019
• Sesiynau codi
ymwybyddiaeth am y
Gymraeg i diwtoriaid ESOL
2020
• Cwrs Blasu Cymraeg i
Bawb / Partneriaeth gyda
Addysg Oedolion Cymru
2021
• ?
Polisi Cymraeg i fewnfudwyr?
Yn anaml iawn y soniwyd am sgiliau
Cymraeg gwan neu gyfyngedig fel rhwystr
i gyflogaeth. […] Mewn gwrthgyferbyniad
â hynny, canfu'r Astudiaeth Cymorth
Cyflogaeth a Sgiliau i Ffoaduriaid […] er
yn gyfyngedig o hyd, o'r angen am
sgiliau iaith Gymraeg er mwyn cael gafael
ar waith a gwneud cynnydd ynddo, yn
enwedig yng ngogledd Cymru.
Lleisiau
mewnfudwyr
https://wales.britishcouncil.org/mudwyr-
amlieithrwydd-’r-iaith-gymraeg
Herio
For me, English is my 3rd language, and Welsh my 4th.
Someone said to me ‘you have a lot of children; it’s not
even your second language and you still want to try to
learn!’ But my point of view is not like them. I encourage
them. Why not do that? They are living all life here.
Herio
mae pobl yn dweud 'I feel ashamed because I’m Welsh and I
can't speak Welsh'—hoffwn i wneud iddynt feddwl yn
wahanol. Dw i'n meddwl bod rhywbeth diddorol yn y
Gymraeg—ac mae'n atynnu pobl o ddiwylliannau eraill.
Perchnogi
A few people I know—they look at me
like—what's the idea? Why have you
done that? I'm not sure what they are
thinking. They're not used to seeing
this, especially an ethnic minority
learning the language. It's a reaction—
I’m not sure—it's like you speak
Welsh—OK!
Perchnogi Dw i’n teimlo mwy gartref yng Nghymru
nawr. Dw i o wlad arall a Saesneg yw fy
ail iaith. Felly mae'n rhyfedd mai dyma
un o’r rhesymau dw i wedi dechrau
dysgu Cymraeg. Falle do’n i ddim yn
realise, sylweddoli [. . .] ond siwr o fod
er mwyn bod yn gartrefol yma.
Cyfranogi
Even if it's only for my pride, it is good enough. But it's
not the case. It's about business—some jobs require
Welsh. At this moment— just some. How I said earlier,
maybe in the near future, more and more jobs will
require knowing Welsh. This is quite a powerful reason
Cyfranogi
I am in this country, sooner or later I will be a citizen of
this country—I want to learn Welsh.
“ I did think to myself, are they really going to go for
this? Because I presumed, we have got enough
troubles with English but they really enjoyed it - they
come from multilingual societies themselves and they
kind of 'get that'. Do you know what I mean?"
“ I imagine that the concept of Wales isn’t a difficult
concept for them. It doesn’t matter about the geopolitical
situation does it? Kurdistan with its language exists. It’s
oddly similar. They may not be analysing it like that but it
kind of makes sense to them
Di-ffinio Dinasyddiaeth
Dadleuir bod diffyg ewyllys polisi i
gysylltu’r Gymraeg, mewnfudo ac
integreiddio yn cynhyrchu ‘anninasyddion’
yn hytrach na ‘dinasyddion’ yng Nghymru.
Datrefedigaethu
amlieithrwydd
Lletygarwch
ieithyddol
Mewnfudwyr,
y Gymraeg a’r
Cwricwlwm
Newydd
Addysg Gymraeg
Mewnfudwyr, y
Gymraeg a
Deddf Llesiant
Cenedlaethau’r
Dyfodol
PRIFYSGOL
?
Her
A dwi di gweld yr agwedd yma efo lot o Gymry Cymraeg ond maen
nhw'n dweud ‘you’re learning Welsh, that's great’ ond dydyn nhw
ddim yn trafferthu lot i chdi allu ddysgu…
Diolch
g.e.higham@abertawe.ac.uk
@gwennanelin
Ffoaduriaid
Elidyr Glyn & Meilyr Wyn
Language of Refuge - Wales a Nation of Sanctuary / Lloches Iaith - Cymru fel Cenedl Noddfa

More Related Content

Featured

How Race, Age and Gender Shape Attitudes Towards Mental Health
How Race, Age and Gender Shape Attitudes Towards Mental HealthHow Race, Age and Gender Shape Attitudes Towards Mental Health
How Race, Age and Gender Shape Attitudes Towards Mental Health
ThinkNow
 
Social Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie Insights
Social Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie InsightsSocial Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie Insights
Social Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie Insights
Kurio // The Social Media Age(ncy)
 

Featured (20)

How Race, Age and Gender Shape Attitudes Towards Mental Health
How Race, Age and Gender Shape Attitudes Towards Mental HealthHow Race, Age and Gender Shape Attitudes Towards Mental Health
How Race, Age and Gender Shape Attitudes Towards Mental Health
 
AI Trends in Creative Operations 2024 by Artwork Flow.pdf
AI Trends in Creative Operations 2024 by Artwork Flow.pdfAI Trends in Creative Operations 2024 by Artwork Flow.pdf
AI Trends in Creative Operations 2024 by Artwork Flow.pdf
 
Skeleton Culture Code
Skeleton Culture CodeSkeleton Culture Code
Skeleton Culture Code
 
PEPSICO Presentation to CAGNY Conference Feb 2024
PEPSICO Presentation to CAGNY Conference Feb 2024PEPSICO Presentation to CAGNY Conference Feb 2024
PEPSICO Presentation to CAGNY Conference Feb 2024
 
Content Methodology: A Best Practices Report (Webinar)
Content Methodology: A Best Practices Report (Webinar)Content Methodology: A Best Practices Report (Webinar)
Content Methodology: A Best Practices Report (Webinar)
 
How to Prepare For a Successful Job Search for 2024
How to Prepare For a Successful Job Search for 2024How to Prepare For a Successful Job Search for 2024
How to Prepare For a Successful Job Search for 2024
 
Social Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie Insights
Social Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie InsightsSocial Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie Insights
Social Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie Insights
 
Trends In Paid Search: Navigating The Digital Landscape In 2024
Trends In Paid Search: Navigating The Digital Landscape In 2024Trends In Paid Search: Navigating The Digital Landscape In 2024
Trends In Paid Search: Navigating The Digital Landscape In 2024
 
5 Public speaking tips from TED - Visualized summary
5 Public speaking tips from TED - Visualized summary5 Public speaking tips from TED - Visualized summary
5 Public speaking tips from TED - Visualized summary
 
ChatGPT and the Future of Work - Clark Boyd
ChatGPT and the Future of Work - Clark Boyd ChatGPT and the Future of Work - Clark Boyd
ChatGPT and the Future of Work - Clark Boyd
 
Getting into the tech field. what next
Getting into the tech field. what next Getting into the tech field. what next
Getting into the tech field. what next
 
Google's Just Not That Into You: Understanding Core Updates & Search Intent
Google's Just Not That Into You: Understanding Core Updates & Search IntentGoogle's Just Not That Into You: Understanding Core Updates & Search Intent
Google's Just Not That Into You: Understanding Core Updates & Search Intent
 
How to have difficult conversations
How to have difficult conversations How to have difficult conversations
How to have difficult conversations
 
Introduction to Data Science
Introduction to Data ScienceIntroduction to Data Science
Introduction to Data Science
 
Time Management & Productivity - Best Practices
Time Management & Productivity -  Best PracticesTime Management & Productivity -  Best Practices
Time Management & Productivity - Best Practices
 
The six step guide to practical project management
The six step guide to practical project managementThe six step guide to practical project management
The six step guide to practical project management
 
Beginners Guide to TikTok for Search - Rachel Pearson - We are Tilt __ Bright...
Beginners Guide to TikTok for Search - Rachel Pearson - We are Tilt __ Bright...Beginners Guide to TikTok for Search - Rachel Pearson - We are Tilt __ Bright...
Beginners Guide to TikTok for Search - Rachel Pearson - We are Tilt __ Bright...
 
Unlocking the Power of ChatGPT and AI in Testing - A Real-World Look, present...
Unlocking the Power of ChatGPT and AI in Testing - A Real-World Look, present...Unlocking the Power of ChatGPT and AI in Testing - A Real-World Look, present...
Unlocking the Power of ChatGPT and AI in Testing - A Real-World Look, present...
 
12 Ways to Increase Your Influence at Work
12 Ways to Increase Your Influence at Work12 Ways to Increase Your Influence at Work
12 Ways to Increase Your Influence at Work
 
ChatGPT webinar slides
ChatGPT webinar slidesChatGPT webinar slides
ChatGPT webinar slides
 

Language of Refuge - Wales a Nation of Sanctuary / Lloches Iaith - Cymru fel Cenedl Noddfa

  • 1. Lloches Iaith I Language of Refuge Cymru fel Cenedl Noddfa Wales as a Nation of Sanctuary Gwennan Higham / Adran y Gymraeg / g.e.higham@abertawe.ac.uk / @gwennanelin
  • 2. Llywodraeth Cymru Tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion Tiwtoriaid ESOL Cyngor Gwynedd Cyngor Caerdydd Mewnfudwyr Rhyngwladol Dosbarthiadau Cymraeg i fewnfudwyr
  • 3. Nod y ddarlith • Darlun o sefyllfa mewnfudo ac iaith ym Mhrydain a Chymru • Canlyniadau ymchwil ar y Gymraeg a mewnfudwyr rhyngwladol • Goblygiadau ar gyfer polisïau addysg / iaith / cymunedol
  • 4.
  • 5. Polisi Mewnfudo Prydain 1970-2020 1970–2000 Amlddiwylliannedd 2000–2010 Integreiddio 2010–2019 Awyrgylch gelyniaethus 2020–2030 2020–2030 • ???
  • 6. Polisi Mewnfudo Prydain • Mewnfudo ‘diawdurdod’ wedi cynyddu ers 2010 • Mewnfudo yn cael ei gysylltu â’r economi yn unig • Mewnfudo ar sail pwyntiau • Polisi mewnfudo y dyfodol yn aneglur
  • 7.
  • 8. ”One nation, one language”
  • 9.
  • 10. Pwerau Llywodraeth Cymru I Pwerau Llywodraeth Prydain • Addysg • Diwylliant • Cydlyniant cymdeithasol • Y Gymraeg • Mewnfudo • Polisi tramor • Masnach a diwydiant • Cyflogaeth
  • 13. Wythnos Ffoaduriaid 2020 Dywedodd Homa, ffoadur o Iran: “Rwy’ am ddiolch i Lywodraeth Cymru a phobl Cymru am fy helpu i. Rwy’n gallu bod yn dawel fy meddwl yma. Mae byw yng Nghymru wedi fy helpu i adennill yr hunan hyder a gollais yn fy ngwlad. Yma, mae pobl yn fy annog i – maen nhw’n fy ngwneud i’n gryfach. Rwy’n credu bod modd i fi wneud rhywbeth dros y wlad hon, dros y llywodraeth a’r bobl garedig. Rydych chi’n gwneud i mi deimlo fy mod i’n perthyn, mai dyma fy nghartref.”
  • 14. Cymraeg 2050 “Mae mewnfudo yn her i’r Gymraeg, ond gall hefyd fod yn gyfle i ddangos sut gall yr iaith gael ei defnyddio i gofleidio amlddiwyllianedd ac amrywiaeth.”
  • 15. “Mewnfudo yw un o’r prif ffactorau sydd wedi effeithio ar y nifer sydd yn siarad Cymraeg” (Jones 2015)
  • 16. Mae mewnfudo yng Nghymru • wedi dyblu yn y degawd diwethaf • yn debygol o barhau (neu gynyddu) er gwaethaf Brexit • yn debygol o fod yn brif ffactor a fydd yn effeithio ar y nifer sydd yn siarad Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021
  • 17. ‘Gall dysgu ESOL yng Nghymru fod yn fwy o her i ddysgwyr. Gall adnabod a deall enwau lleoedd ac arwyddion Cymraeg fod yn anodd, yn enwedig pan fo Saesneg yn ‘ddieithr’ hefyd.’
  • 18. In terms of learning Welsh, there’s not much interest because they have enough to do learning English and they feel English is what is going to get them a job and get them to speak to their doctor and help their kids in school. Tiwtor ESOL Everybody has got constraints on their time. If they have to choose to learn Welsh or English they need to concentrate on their English. Sorry. Tiwtor ESOL And then it was actually a case of questioning whether or not that that’s really helpful to immigrants because if they can’t speak English then Welsh is great in certain communities in order to really exist in the UK – English. And it [Welsh] can be more confusing for them. Swyddog Llywodraeth Cymru
  • 19. ‘[Mae’r Llywodraeth] yn gweithio gyda darparwyr ESOL a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol i gryfhau hyrwyddo’r Gymraeg mewn cyrsiau ESOL’
  • 20. Cymraeg i fewnfudwyr: datblygiadau 2012-14 • Sesiynau blasu i ddosbarthiadau ESOL ar ddydd Gŵyl Dewi 2018 • Dosbarthiadau Cymraeg i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghaerdydd 2019 • Diweddariad i bolisi ESOL Llywodraeth Cymru 2019 • Cwrs Cymraeg i ffoaduriaid yng Ngasnewydd (y Groes Goch) 2019 • Sesiynau codi ymwybyddiaeth am y Gymraeg i diwtoriaid ESOL 2020 • Cwrs Blasu Cymraeg i Bawb / Partneriaeth gyda Addysg Oedolion Cymru 2021 • ?
  • 21.
  • 22. Polisi Cymraeg i fewnfudwyr?
  • 23.
  • 24. Yn anaml iawn y soniwyd am sgiliau Cymraeg gwan neu gyfyngedig fel rhwystr i gyflogaeth. […] Mewn gwrthgyferbyniad â hynny, canfu'r Astudiaeth Cymorth Cyflogaeth a Sgiliau i Ffoaduriaid […] er yn gyfyngedig o hyd, o'r angen am sgiliau iaith Gymraeg er mwyn cael gafael ar waith a gwneud cynnydd ynddo, yn enwedig yng ngogledd Cymru.
  • 26. Herio For me, English is my 3rd language, and Welsh my 4th. Someone said to me ‘you have a lot of children; it’s not even your second language and you still want to try to learn!’ But my point of view is not like them. I encourage them. Why not do that? They are living all life here.
  • 27. Herio mae pobl yn dweud 'I feel ashamed because I’m Welsh and I can't speak Welsh'—hoffwn i wneud iddynt feddwl yn wahanol. Dw i'n meddwl bod rhywbeth diddorol yn y Gymraeg—ac mae'n atynnu pobl o ddiwylliannau eraill.
  • 28. Perchnogi A few people I know—they look at me like—what's the idea? Why have you done that? I'm not sure what they are thinking. They're not used to seeing this, especially an ethnic minority learning the language. It's a reaction— I’m not sure—it's like you speak Welsh—OK!
  • 29. Perchnogi Dw i’n teimlo mwy gartref yng Nghymru nawr. Dw i o wlad arall a Saesneg yw fy ail iaith. Felly mae'n rhyfedd mai dyma un o’r rhesymau dw i wedi dechrau dysgu Cymraeg. Falle do’n i ddim yn realise, sylweddoli [. . .] ond siwr o fod er mwyn bod yn gartrefol yma.
  • 30. Cyfranogi Even if it's only for my pride, it is good enough. But it's not the case. It's about business—some jobs require Welsh. At this moment— just some. How I said earlier, maybe in the near future, more and more jobs will require knowing Welsh. This is quite a powerful reason
  • 31. Cyfranogi I am in this country, sooner or later I will be a citizen of this country—I want to learn Welsh.
  • 32. “ I did think to myself, are they really going to go for this? Because I presumed, we have got enough troubles with English but they really enjoyed it - they come from multilingual societies themselves and they kind of 'get that'. Do you know what I mean?"
  • 33. “ I imagine that the concept of Wales isn’t a difficult concept for them. It doesn’t matter about the geopolitical situation does it? Kurdistan with its language exists. It’s oddly similar. They may not be analysing it like that but it kind of makes sense to them
  • 34. Di-ffinio Dinasyddiaeth Dadleuir bod diffyg ewyllys polisi i gysylltu’r Gymraeg, mewnfudo ac integreiddio yn cynhyrchu ‘anninasyddion’ yn hytrach na ‘dinasyddion’ yng Nghymru.
  • 39. Mewnfudwyr, y Gymraeg a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
  • 41. Her A dwi di gweld yr agwedd yma efo lot o Gymry Cymraeg ond maen nhw'n dweud ‘you’re learning Welsh, that's great’ ond dydyn nhw ddim yn trafferthu lot i chdi allu ddysgu…

Editor's Notes

  1. Diolch yn fawr am y croeso ac am y gwahoddiad i draddodi Darlith Goffa Henry Lewis eleni ac yn rhithiol am y tro cyntaf. Mae’n bleser gennyf gyflwyno’r pwnc ichi heno sydd yn seiliedig ar fy ngwaith a diddordebau ymchwil ym maes y Gymraeg a mewnfudo rhyngwladol yn bennaf. Rwyf yn aml yn dechrau cyflwyniad yn olrhain fy niddordeb yn y pwnc. Dechreuais ddoethuriaeth ar ddysgu Cymraeg i fewnfudwyr nol yn 2012 ym Mhrifysgol Caerdydd ar ôl gweithio am gyfnod yn datblygu darpariaeth Cymraeg i fewnfudwyr drwy dreialu cyrsiau blasu i fewnfudwyr (grwpiau ESOL (English for Speakers of Other Languages) yn benodol). Wrth ddod at y teitl felly, mae ystyried y berthynas rhwng iaith a lloches yn fwyfwy diddorol yn fy marn gyda chynllun Llywodraeth Cymru i ddod yn Genedl Noddfa ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn benodol. Un o’r themâu y byddaf yn ei thrafod yw beth yw swyddogaeth iaith yn hyn oll?Does dim ateb syml. Yn fwriadol felly, mae rhyw amwyster yn nheitl y ddarlith wrth gymharu’r Gymraeg a Saesneg
  2. Falle bydd yn werth son nawr cyn mynd ymhellach am y grwpiau a fu'n rhan o'r ymchwil. Byddaf yn tynnu ar ganlyniadau ymchwil a wnaed fel rhan o'r ddoethuriaeth a pheth ymchwil ers hynny. Mae'r deiagram ar y sgrin yn rhoi trosgolwg o'r grwpiau a fu'n rhan o'r ymchwil - gwnaed cyfweliadau yng Ngogledd a De Cymru - gwnaeth wedi selio mewn effnograffiaeth gan gynnwys cyfweliadau gyda swyddogion llywodraethol / tiwtoriaid iaith / mewnfudwyr dysgu Saesneg - rhan o'r ymchwil oedd peilota dosbarthiadau Cymraeg i fewnfudwyr - Daeth dim byd llawer iawn o’r peth ar y pryd ond mae’n syndod yn yn 5 mlynedd ddiwethaf bod cryn dipyn o ddatblygiadau wedi bod yn y maes ar lefel y gymuned ac ar lefel polisi. Byddai’n trafod y rhain yn ystod y ddarlith.
  3. Mae’n bosibl rhannu’r ddarlith mewn un i dair rhan yn dechrau gyda darlun o’r sefyllfa gyfredol ynghylch mewnfudo ac iaith (addysg iaith i fewnfudwyr) ym Mhrydain ac yng Nghymru. Wedyn byddaf yn trafod rhai canlyniadau a sylwadau ynghylch fy ymchwil ar y Gymraeg a mewnfudo rhyngwladol ac yna argymell goblygiadau pellach ar gyfer polisïau….
  4. Yn sicr, rydym yn gyfarwydd erbyn hyn ag arwyddion ac iaith sydd yn ein rhwystro a’n gwahardd rhag mynd i’r llefydd yr ydym wedi bod yn gyfarwydd â nhw a gweld ein ffrindiau a’n teuluoedd yn ystod y flwyddyn hon. Un peth sydd wedi fy nharo i bod y sefyllfa bresennol ddim mor wahanol i nifer o ffaoduraid a cheiswyr lloches sydd wedi cael eu gwahardd rhag cael eu haduno gydag aelodau o’u teulu (hawl sydd bellach wedi ei diddymu gan y Swyddfa Gartref). Yn wir, cyfyngu ar hawliau mewnfudwyr a rhoi’r croeso mwyaf digroeso iddynt yw nod polisi Llywodraeth San Steffan gyda’r ymgais o leihau mewnfudo ym Mhrydain - sydd yng ngeiriau’r Ceidwadwyr yn ‘trwsio ein system mewnfudo doredig’…
  5. Efallai ei bod yn syniad olrhain rhywfaint o bolisi mewnfudo Prydain ac i ddangos y newid mawr sydd wedi cymryd lle ers cyflwyno syniadau am amlddiwylliannedd o tua’r 70degau tan ddechrau’r ganrif hon - yn benodol daeth i ben yn sgil ymosodiadau yn Efrog Newydd ar y Twin towers. Syniad amlddiwylliannedd (a ddaeth o Ganada yn wreiddiol a sefydlwyd ar hawliau dwyieithog trigolion yno) oedd caniatáu hawliau i grwpiau lleiafrifol gwahanol (ee iaith, crefydd ac ati). Beiwyd amlddiwylliannedd am broblemau o ymwahanu mewn cymunedau a'r gwrthdystio a fu yn dilyn hyn. Y llywodraeth lafur dan Tony Blair a David Blunkett yn Weinidog Cartref a fu’n gyfrifol am dro’r llanw wrth osod pwysau ar fewnfudwyr i integreiddio (neu gymhathu?) i Brydain a thrwy gyflwyno syniadau o’r angen blaenllaw i ddysgu Saesneg er mwyn bod yn rhan o Brydain.
  6. Mae’r Gweinidog Cartref cyfredol wedi addo ‘ailwampio’ system lloches yn y blynyddoedd nesaf ond nid yw’r eglur beth fydd y newidiadau hyn heblaw am newid i system o bwyntiau sydd wedi’i selio yn ôl model Awstralia. Y gwir amdani yw bod nad yw tactegau’r Llywodraeth wedi llwyddo gostwng cyfradd mewnfudo (ac yn annhebygol o wneud hyn) ond yn hytrach cynyddu mewnfudo ‘diawdurdod’ a thrin mewnfudo yn unig ôl ei gwerth economaidd. Nid yw’r eglur serch hynny beth yw polisi mewnfudo ar hyn o bryd ond mae’r system lloches eisoes wedi cael ei alw’n hyll ond mae’n debygol o fod yn fwy creulon eto yn y dyfodol.
  7. Wrth drafod y cysylltiad gydag iaith, nodir eto bod y Llywodraeth Geidwadol wedi mabwysiadu syniadau’r Llywodraeth Llafur am ‘un iaith ac un genedl’ yn ôl ee yr hyn a ddywedodd Ed Miliband yn ei swydd fel arweinydd y Blaid Llafur. Mae’r Llywodraeth bresennol wedi cynyddu ar y gofynion o ran yr iaith Saesneg ac wedi awgrymu bod hyn yn allwedd ar gyfer integreiddio er gwaethaf hefyd cwtogi ar y cyllid ar gyfer cyrsiau iaith Saesneg.
  8. Dyma’r rhai enghreifftiau i chi – yr enghraifft mwyaf diweddar yn awgrymu y byddant yn dethol mewnfudwyr yn ôl eu sgiliau Saesneg.
  9. Yn amlwg, dydy’r trafodaethau am integreiddio mewnfudwyr drwy’r Saesneg ddim yn ystyried sefyllfa ddwyieithog swyddogol Cymru na manteisio amlieithrwydd yn gyffredinol. Yn wir, mae fy ymchwil wedi datgelu hyd yn oed gyda’r gefnogaeth flaenorol i amlddiwylliannedd, fersiwn hegemonaidd Saesneg o amlddiwylliannedd oedd hynny ac nid oedd yn ystyried arwahanrwydd Cymru a’r effaith gwahanol y gall mewnfudo gael ar hyn. Pwy fyddai’n meddwl y byddai feirws heintus yn golygu y byddai llais Cymru yn dod yn fwy amlwg. Nid ydw i’n bwriadu dweud llawer am oblygiadau posib y feirws ar hunaniaeth Cymru a sefyllfa mewnfudo a chroesawu mewnfudwyr gan eu bod hi’n ddyddiau cynnar eto ond yn fwy penodol achos y byddaf yn cyffwrdd a’r prosiect cyffrous newydd gan fyfyrwraig ymchwil yr Adran, Sarah Tierney.
  10. Y realiti presennol yw nad oes pwerau gan Lywodraeth Cymru dros fewnfudo - mae hynny yn nwylo’r Llywodraeth Brydeinig (y Swyddfa Gartref yn benodol). Dyma restr ddetholus o bwerau gwahanol y ddwy lywodraeth. Serch hynny, gwelir bod pwerau gan Gymru dros rannau pwysig o fywydau cyffredinol ei thrigolion gan gynnwys addysg, diwylliant yn ogystal â chydlyniant cymdeithasol a’r Gymraeg. HAWL FFOADURIAID (A CHEISWYR LLOCHES??) I BLEIDLEISIAU YN ETHOLIADAU CYNGOR
  11. Nid yw pwerau Llywodraeth Cymru serch hynny yn ddigon i rwystro Llywodraeth San Steffan rhag sefydlu gwersyll (carchar?) ar gyfer ceiswyr lloches (dynion) mewn hen farics yn Sir Benfro. Mae’n gynyddol bosibl i geiswyr lloches aros misoedd a blynyddoedd cyn derbyn unrhyw gysylltiad gan y Swyddfa Gartref ynghylch eu dyfodol yn wlad. Mae’r llun yn dangos rhai o’r 200 ceiswyr lloches yno yn protestio dros amodau'r gwersyll.
  12. I gyferbynnu â hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn eglur bod ganddynt weledigaeth wahanol ar gyfer croesawu mewnfudwyr i Gymru. Mae hynny wrth gwrs yn cael ei grynhoi orau drwy ei strategaeth ddiweddaraf i sefydlu Cymru yn ‘Genedl Noddfa’. Bwriad y strategaeth lleihau anghydraddoldebau (ar wahân i’r pethau nad oedd pwerau ganddynt drostynt), cynyddu mynediad at gyfleoedd, a bod y berthynas rhwng eu cymunedau a’r gymdeithas yn gwella. Un maes amlwg yn fy marn yw iaith – mae’r llun yn dangos ffoadur o Syria o’r enw Mohammed ar egwyl gyda’i gydweithwyr yn Nhregaron lle mae e wedi bod yn dysgu ac yn defnyddio Cymraeg. Mae’n werth nodi hefyd bod Mohammed wedi cael ei wobrwyo gan wobrau “Cenedl Noddfa’ am ei ymdrech i ddysgu Cymraeg.
  13. Yr hyn sydd yn ddiddorol yw’r gwrthdrawiad cynyddol – er gwaethaf cymuned ar lefel Prydeinig sydd yn fwyfwy drwgdybus a gelyniaethus tuag at eraill, yw bod rhai yn edrych ar Gymru fel cartref ac nid estyniad ar Loegr ac yn gyfle iddynt ailafael yn eu bywydau.
  14. Sut mae hyn oll yn cysylltu â pholisïau am y Gymraeg? Yn sicr, nid yw mewnfudo yn flaenoriaeth o ran strategaethau adfywio’r Gymraeg. Roedd hynny’n eglur wrth imi wneud cyfweliadau gyda swyddogion llywodraeth Cymru (er bod hynny rhyw 5 mlynedd yn ôl erbyn hyn). Roedd cyflwyno Cymraeg i fewnfudwyr ar y pryd yn cael ei hystyried yn broblem – yn erbyn polisïau mewnfudo Prydain a phwysigrwydd a roddir ar y Saesneg. Serch hynny, mae datblygiadau’r blynyddoedd diwethaf wedi gweld mwy o sylwi mewn polisi at y Gymraeg a mewnfudwyr er o bosib ddim digon (?) neu yn docynystaidd (?). Dyma’r unig gyfeiriad at fewnfudo yn strategaeth Cymraeg 2050 I greu miliwn o siaradwyr Cymraeg.
  15. Efallai bod hyn yn realistig wrth ystyried cyfradd cymharol fach o fewnfudwyr rhyngwladol sydd yng Nghymru o gymharu â Lloegr. Wrth gwrs, wrth ystyried mewnfudo yn ei ystyr ehangach (gan gynnwys unrhyw o’r tu allan i Gymru) mae’n wir fod mewnfudo yn un o’r prif ffactorau sydd wedi effeithio ar y nifer sydd yn siarad Cymraeg. Serch hynny, mae mewnfudo rhyngwladol hefyd yn codi cwestiynau hanfodol o ran ein perthynas â gweddill y Deyrnas Unedig a’n perthynas ag eraill yn gyffredinol a’r ffaith fod cynaliadwyedd prosiect cenedlaethol Cymru yn ddibynnol ar integreiddio mewnfudwyr i Gymru
  16. Gellir datgan serch hynny y bydd pwysigrwydd mewnfudo yn cynyddu yn y dyfodol a gobeithio y bydd hyn yn golygu mwy o ymyrraeth polisi a’r gymuned o ran y Gymraeg.
  17. Datblygiadau polisi Saesneg i fewnfudwyr serch hynny sydd wedi bod yn nodweddiadol yn 5 mlynedd diwethaf – hynny drwy polici ESOL ar gyfer Cymru a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru. Nid oedd fawr o sôn am y Gymraeg yn y polisi gwreiddiol a gyhoeddwyd yn 2014 heblaw am ddweud ‘Gall dysgu ESOL…’.
  18. Mae hyn i raddau helaeth yn cyfateb ag ymagweddau tiwtoriaid iaith a swyddogion llywodraethol a gyfwelwyd a nhw yn ystod fy ymchwil ac yn cyfleu i raddau helaeth bod dysgu iaith arall heblaw’r Saesneg yn ormod o ddisgwyl i fewnfudwyr. Un o’r prif ganfyddiadau oedd darganfod ymagwedd hegemonaidd unieithog tuag at iaith i fewnfudwyr er gwaethaf dwyieithrwydd swyddogol Cymru – y syniad bod iaith yn system statig yn hytrach na phroses creadigol a hyblyg.
  19. Serch hynny, mae diweddaraid i’r polsii ESOL wedi cael ei chyhoeddi yn dilyn tipyn o bwyslais ar y ddiffyg sylw at y Gymraeg ac yn sgil hynny mae tipyn o ddatblygiadau wedi bod gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol ond hyd yma nid oes llawer iawn o ymwneud wedi bod rhwng y ddarpariaeth Gymraeg a’r ddarpariaeth Saesneg i oedolion. Fel y dywedwyd yn un o’m cyfweliadau gyda swyddgo Llywodraeth Cymru – maen nhw’n ddau beth gwahanol iawn!
  20. Mae’n bwysig cofio bod na datblygiadau bach wedi bod sydd wedi cael effaith ar fywydau rhai unigiolion gan gynwnys Joseff Gnagbo, sydd yma heno ac ym bellach yn fyfyriwr ymchwil yn yr Adran. Yn wir, heb y pwysau ar y Llywodraeth yn y blynyddoedd diwethaf ni fyddai tybiwn i wedi bod yn bosibl iddo ddysgu Cymraeg a gallu cyfranogi i fywyd Cymreig mewn ffordd amhrisadwy.
  21. Serch hynny, polsi Cymraeg i fewnfudwyr yw dilyniant rhesymegol o bosibl fel sydd ar gael yn nifer o is-wladwriaethau eraill gyda iaith genedlaethol lleiafrifol megis gwlad y Basg, y Ffindir, Catalwnia a Quebec. Nid yw’r Llywodraeth i weld yn barod eto i gymryd cam o’r fath.
  22. Mae ymchwil pellach gan prosiect COMBI wedi datgelu bod diddordeb gan fewnfudwyr mewn cwrs penodol ar eu cyfer.
  23. Yn wir, dim ond yr wyhtnos diwethaf y cyhoeddwyd dogfen ymcwhil AilGychwyn Llywodraeth Cymru ar integreiddio ffoaduriad – yn y troednodion roedd cyfeiriad at y Gymraeg ond yn dweud yn hytrach nad oedd diffyg sgiliau Cymraeg yn rhwystr – er bod yr angen (yn gyfyngedig unwaith eto) yn Ngogeldd Cymru yn unig. Dydw i ddim yn siwr ar sail beth mae nhw wedi dod i'r casgliad hwn - sut aethon nhw ati i wneud y ymchwil ond does dim syndod gan fod fy mychwil i wedi datgelu y cynlleid o wybodaeth sydd gan fnewufdwyr am y Gymraeg - addysg Gymraeg / manteision economaidd ac ati.
  24. Mae hyn yn dilyn at adran y rwyf wedi enwi’n ‘Lleisiau Mewnfudwyr” : mae canfyddiadau’r ymchwil yn tynnu sylw’n benodol at leisiau mudwyr yng Nghymru mewn perthynas ag iaith ac integreiddio. Yr hyn sy’n ddiddorol yw bod y lleisiau hyn, petaem ni’n gwrando arnynt, yn herio rhagdybiaethau, agweddau a chategoreiddio unieithog am ieithoedd ac integreiddio yng Nghymru. Yn ogystal, mae hynny’n awgrymu bod angen ailfeddwl ac ail-lunio polisiau iaith ac addysg i ateb gofynion mudwyr os yw mudwyr yn mynd i gael dylanwad ar y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.
  25. Un canfyddaid amlwg oedd y gwrthdrawdiad rhwng lleisau mewnfudwyr a safbwyntiau tiwtoriaid iaith (Saesneg) a swyddogion llywodraethol. Dengys bod mewnfudwyr, drwy ddysgu Cymraeg, yn gallu herio, goresgyn neu dorri ffiniau ieithyddol
  26. Dengys hefyd eu bod yn gallu perchnogi iaith fel adnodd (economaidd / cydmeithasol) ac yn dangos hyder wrth berchnogi er gwaethaf ymateb negyddol y gymdeithas (gallu hyn fod yn rhwystr hefyd: gweler fy llyfr am fwy o wybodaeth)
  27. O ganlyniad, mae hyn yn esgor ar bosibiliadau newydd i ddatblygu ac ymarfer dinasyddiaeth leol sef yn ol strategaeth Cenedl Noddfa dymuniad cadarnhaol iawn a gellir ei ddatblygu.
  28. Mae’r ymchwil wedi dilyn at newid agweddau tiwtoriaid iaith (ESOL) yn benodol - nifer o enghreifftiau lle oedd y mewnfudwyr yn herio safbwyntiau'r tiwtoriaid iaith
  29. Gwaith mwyaf anodd yw newid agweddau rhai unigolion yn y gymuned groeso - deall bod gymlethdodau ac anghyfartaledd rhwng y ddarpariaeth iaith Saesneg a'r iaith Gymraeg i oedolion - ond efallai ein bod yn colli tric yma wrth beidio a flaenoriaethu darpariaeth Cymraeg i fewnfudwyr - sef bod nifer o'r unigolion amlieithog hyn eisoes at agweddau cadarnhaol - yn dymuno cyfrannu at yr economi / ymsefydlu yng Nghymru / cyfrannu at fywyd Cymreig. -Efallai mae y gymuned groeso sydd ar eu colled
  30. Dwi’n dadlau llawer mwy am y pwnc hwn yn fy nghyfrol ar greu dinasyddiaeth I Gymru ac yn gyntaf mae angen di-ffinio dinasyddiaeth hynny yw troi dinasyddiaeth (sydd yn cael eu hystyried fel hawliau a freintir gyda'r Genedl Wladwriaeth) wyneb i waered a meddwl am ddiffinio dinasyddiaeth leol greadigol a chymunedol o’r gwaelod i fyny. Dadleuir bod diffyg ewyllys polisi i gysylltu’r Gymraeg, mewnfudo ac integreiddio yn cynhyrchu ‘anninasyddion’ yn hytrach na ‘dinasyddion’ yng Nghymru. Beth hoffwn i bwysleisio yma i nid mater o gynyddu hawliau mewnfudwyr ond yn hytrach meddwl am fodel sydd yn hybu medrau mewnfudwyr ( a lle y gall y Gymraeg, Saesneg ac ieithoedd eraill bod yn fedr ymhlith eraill)
  31. Dydw i ddim wedi sôn am hyn yn y llyfr ond yn sgil sesiwn bues i’n cymryd rhan ynddi gan yr Athro Alison Phipps, awdur “datrefedigaethu amlieithrwydd’ mae hyn hefyd yn ddadl dros gynnig y Gymraeg i fewnfudwyr. Gwelwyd bod y rhwystrau rhag cyflwyno’r Gymraeg mewn strategaeth integreiddio yng Nghymru ynghlwm wrth ymagweddau gwladwriaethol ynghylch iaith ac integreiddio. Yn wir, nid yw darpariaeth Cymraeg i fewnfudwyr yn ceisio efelychu darpariaeth wladwriaethol o flaenoriaethu'r Saesneg er mwyn integreiddio – dylid yn hytrach ganolbwyntio ar ddarpariaeth holistaidd sydd wedi’i gwreiddio mewn amlieithrwydd, cynwysoldeb a gofal am eraill yn galluogi mewnfudwyr i fraenaru’r tir ar gyfer syniadau ystyrlon am ddinasyddiaeth amlddiwylliannol.
  32. Mae ‘lletygarwch ieithyddol’ (Ricoeur 2004) yn gysyniad y gellid ei gymhwyso i ddarpariaeth Cymraeg i fewnfudwyr – y syniad yn ol Ricoeur (athronydd Ffrengig) yw bod angen i’r gymuned groeso ceisio deall (hyd ag y bod modd) profiadu o fewnfudo / alltud / erlid / problemau cyfathrebu. Un fenter diddorol iawn yn yr Alban yw ymchwil sydd yn edrych ar brofiadau’r gymuned groeso yn dysgu ieithoedd mewnfudwyr ac mae’r canlyniadau yn dangos bod hyn yn helpu’r gymuned groeso a’r mewnfudwyr i ddeall ei gilydd (nid o reidrwydd y gallu i gyfathrebu yn yr iaith yn dda ond y dealltwraeth am brofiadau / anhawsterau mewnfudwyr wrth ymsefydlu yn y wlad.
  33. Gellid hefyd cymhwyso hyn ar gyfer Maes Dysgu a Phrofiad ‘Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu’ y Cwricwlwm Newydd. Byddai hynny’n golygu arfogi athrawon â’r sgiliau angenrheidiol i ymgysylltu â dysgwyr mudol i fanteisio’n llawn ar eu hadnoddau diwylliannol ac ieithyddol gwerthfawr. Byddai hefyd yn golygu annog ‘lleisiau’ amlieithog teuluoedd mudol a chynnig llwyfan cymunedol iddynt drafod y pethau sy’n gyffredin ac sy’n wahanol o ran geiriau, ymadroddion, traddodiadau, eu ffordd o fyw ac iaith eu bywydau bob dydd. Mae pwysigrwydd hyn yn amlwg: gall atal gallu amlieithog dysgwyr arwain at eithrio cymdeithasol (Piller 2016) a thangyflawni addysgol (Tsimpli 2017).
  34. Er bod nifer o fewnfudwyr rhyngwladol yn gadael Cymru, bydd rhai yn dewis aros, gan gynnwys y rheini sydd â theuluoedd. Felly mae gan y drefn addysg iaith yng Nghymru ddyletswydd i sicrhau bod y Gymraeg ar gael ac yn hygyrch i deuluoedd o gefndir mudol, gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae Ysgol Hamadryad, a sefydlwyd yn 2016 yn Nhrebiwt yng Nghaerdydd, yn enghraifft o ysgol gymunedol sydd wedi mabwysiadu dull uniongyrchol o godi ymwybyddiaeth o addysg cyfrwng Cymraeg ymysg trigolion amlddiwylliannol De Caerdydd. Gan fod dros draean o ddisgyblion presennol yr ysgol yn dod o gefndir BAME, hon yw’r ysgol cyfrwng Cymraeg sydd â’r amrywiaeth fwyaf o bell ffordd o ieithoedd a diwylliannau yng Nghymru. Mae cynyddu’r nifer o blant mudol sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn golygu bod gofyn i’r cwricwlwm ystyried anghenion amlieithog rhieni mudol yn ogystal â’u plant.
  35. Ac felly wrth ddod at ddiwedd y cyflwyniad – dyma adlewyrchu ar y goblygiadau posibl ar gyfer Deddfa Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Yn wir, os ydy’r Llywodraeth yn dymuno Cymru llewyrchus, cydnerth, iachad, mwy cyfartal, cymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, yna mae llawer mwy y gellid ei wneud o ran y ddarpariaeth iaith a chroesawu mewnfudwyr. Sefydlwyd dobarthaidau dinasyddiaeth fel rhan o’r ymchwil – efallai nid hynny yw’r unig beth / neu’r enw iawn am ymyrraeth o’r fath ond roedd hyn wedi cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth mewnfudwyr a thiwtoriaid o’r Gymraeg a diwylliant a hanes Cymru yn ogystal â mynd i’r afael â nifer o ragfarnau, ystrydebau am Gymru a’r Gymraeg ymhlith mewnfudwyr a thiwtoriaid ESOL a CiO fel ei gilydd
  36. Ar lefel Prifysgolion, mae na le i wneud mwy o waith yn hwyluso profiadau ffoaduriadi a cheiswyr llcohes yn benodol i gael mynediad at Addysg Uwch. Rwy'n gwybod o brofiad nad yw hi'n hawdd o gwbl i ffoadriaid gael mynediad - mae'n bosibl i Brifysgol dod yn rhan o gynllun Prifysgol Noddfa ond er mwyn gnwued hynny mae'n debyg y byddai angen sicrhau cefnogaeth o ran dysgu Saesneg (neu pwy a wyr, dysgu Cymraeg?)
  37. Y gair olaf yw ar ein cyfer ni - y gymuned groeso (host community) - a beth ydyn ni’n ei wneud – ydych chi’n nabod unigolion / oes na fentrau yn cymryd lle yn eich ardal? Sut y gallwn ddod ynghyd yn y sefyllfa sydd ohoni? A all y Gymraeg fod yn gyfrwng i helpu newydd-ddyfodiad ymsefydlu yng Nghymru?
  38. Diolch yn fawr am wrando.
  39. Rwy’n falch felly o orffen heno tipyn bach yn wahanol i’r drefn arferol o bosib gyda chân gan fy nghefnder Elidyr Glyn sydd wedi rhoi caniatad imi ddefnyddio ei gân am ffoaduriaid (heb ei chyhoeddi’n swyddogol) ar y cyd gyda Meilyr Wyn – ac sydd yn cynnig un ffordd o ymateb i fewnfudo yng Nghymru.