1. Effeithiau twrisitaeth (ACED)
Mae pobl wedi dod yn fwy ymwybodol o
effaith twristiaeth ar yr amgylchedd a’r
gymdeithas lle mae twristiaeth wedi cynyddu
dros yr ugain mlynedd diwethaf.
2. Amgylcheddol
Cadarnhaol
• Ymwybyddiaeth gynyddol felly mae’r amgylchedd yn cael ei rheoli
• Deyrnas Unedig – hen safleoedd diwydiannol ac ardaloedd gyda tir
anffrwythlon wedi cael eu datblygu i fod yn atyniadau twristiaid
• Helpu cynyddu’r arian sy’n cael ei wario ar adnewyddu adeiladau
hanesyddol e.e cestyll, eglwysi cadeiriol – cadw ar gyfer cenedlaethau’r
dyfodol
• Hen safleoedd diwydiannol yn newid i fod yn amgueddfeydd – helpu
gwella amgylchedd yr ardal
• Cynllun banner las
Negyddol
• Teithio yn gallu niweidio’r amgylchedd e.e trenau, ceir, awyrennau a
llongau – tanwydd a chynhyrchu allyriadau carbon
• Llygredd aer yn achosi niwed i adeiladau
• Sbwriel yn cael ei adael gan dwristiaid – bygythiad i anifeiliaid
• Llygredd dŵr
3. Cymdeithasol
Cadarnhaol
• Cwrdd â phobl newydd a ddysgu am ddiwylliant gwahanol
• Mae twristiaeth yn gwella dealltwriaeth rhwng pobl sy’n byw mewn
cymdeithas gwahanol
• Cyfleusterau newydd/datblygu e.e. siopau twristiaeth
• Atyniadau newydd yn cael eu hadeiladu mewn ardaloedd gwahanol
Negyddol
• Gwrthdaro a throseddu yn cynyddu
• Mwy o droeseddu yn yr ardal e.e. puteindra, gamblo anghyfreithlon, gwerthu
cyffuriau a lladrata
• Pobl leol wedi gorfod symud o’u cartrefi traddodiadol o ganlyniad i
ddatblygiad twristiaeth e.e. yn Sbaen – pobl leol yn gorfod symud o
ganlyniad i fflatiau a chwrs golff yn cael ei adeiladu
• Diweithdra
4. Economaidd
Cadarnhaol
• Incwm i fusnesau lleol a chreu gyfleoedd gwaith
• DU – diwydiant dwristiaeth o dramor yn cynhyrchu tua £16 biliwn bob
blwyddyn
• Twristiaeth fewnol gan gynnwys ymweliadau un dydd yn cynhyrchu dros
£60 biliwn y flwyddyn
• 1.4 miliwn o swyddi yn y DU yn gysylltiedig â thwristiaeth
• Incwm twristiaeth yn gwella seilwaith sef gwella’r ffyrdd a’r rheilffyrdd,
datblygu meysydd awyr a gwella gwasanaethau e.e. cyflenwad dŵr
Negyddol
• Prisiau nwyddau a gwasanaethau yn codi oherwydd bod cymaint o bobl
yn ymweld ag ardal penodol – pobl leol yn gorfod talu mwy
• Ardal twristiaeth poblogaidd – mwy o siopau nwyddau ar gyfer
twristiaid na phobl leol
• Pobl leol yn gorfod talu trethi ychwanegol weithiau i dalu am
wasanaethau twristiaid
• Ail gartrefi a thai haf yn boblogaidd iawn – pobl leol yn colli mas