SlideShare a Scribd company logo
1 of 9
1
Teithio ar y Môr
Gellir rhannu teithio ar y môr yn ddau gategori. Yn gyntaf, defnyddir fferi pan fo
twristiaid am groesi darn o fôr i gyrraedd eu cyrchfan. Yn ail defnyddir, llongau
pleser gan bobl sy’n treulio’i gwyliau cyfan yn teithio ar y môr, gan fwynhau’r
cyfleusterau ar fwrdd y llong a mynd ar wibdeithiau i weld atyniadau pan fo’r llong yn
ymweld â phorthladd.
Fferi
Mae nifer o lwybrau fferi yn
gweithredu o gwmpas
arfordir Ynysoedd Prydain.
Mae llawer o’r rhain yn
cludo cerbydau sy’n golygu y
gall y teithwyr fynd â’u ceir
a cherbydau eraill ar y fferi
gyda nhw. Mae’r llwybrau
pwysicaf yn gweithredu
rhwng porthladdoedd ar
arfordir de Lloegr a Ffrainc,
a’r daith rhwng Dover a
Calais yw’r daith fyrraf a’r fwyaf poblogaidd.
Er mai’r llwybr fferi bwysicaf ar gyfer twristiaid y Deyrnas Unedig yw’r un ar draws y
Sianel i Ewrop, mae fferis yn gweithredu hefyd:
Lerpwl a phorthladdoedd yng
Nghymru i Weriniaeth Iwerddon
I Ynys Wyth (Isle of Wight) ac
Ynysoedd y Sianel ac yn ôl
Rhwng y tir mawr ac ynysoedd yr
Alban
Defnyddir fferis mewn llawer o gyrchfannau i gludo twristiaid.
2
Cwmnïau fferi poblogaidd
11. Mae yna nifer o gwmnïau fferi poblogaidd. Gan ddefnyddio’r côd QR fel
cymorth, nodwch enwau rhai o’r cwmnïau yma isod (gyda’r logos!)
12. a) Labelwch y llwybrau fferi poblogaidd isod yn glir o gwmpas y map (A-D)
b) Defnyddiwch y côd QR (ger y map) i gwblhau’r tabl isod, gan gofio cyfrifo cost ar
gyfer TEULU O 4 GYDA CHAR (taith ddwyffordd – ‘return’)
Llwybr Nifer o
deithiau/ dydd
Cwmnioedd Hyd y daith Cost
A: Dover i Calais
B: Abergwaun i Rosslare
C: Caergybi (Holyhead)
i Ddulyn (Dublin)
CH: Lerpwl i Belfast
D: Portsmouth i St Malo
3
Llongau pleser
Mae mwy a mwy o dwristiaid o’r Deyrnas Unedig yn dewis mynd ar wyliau mordaith. Tra
bo’r niferoedd sy’n mynd ar wyliau pecyn yn gyffredinol wedi parhau’n sefydlog, mae’r
gyfran sy’n mynd ar fordaith yn tyfu.
Ardal Môr y Canoldir yw’r gyrchfan fwyaf poblogaidd gyda llawer o bobl yn manteisio ar
y cyfle i hedfan o’r Deyrnas Unedig i gwrdd â’u llong mewn porthladd. Hedfan-hwylio
yw’r enw am hyn.
Yn y blynyddoedd diwethaf mae mordeithio wedi dod yn ffasiynol, gyda mwy o bobl yn
gallu fforddio’r math hwn o wyliau. Disgwylir i’r galw am fordeithiau barhau i dyfu yn y
dyfodol agos.
Un o atyniadau gwyliau mordaith yw bod twristiaid yn gallu ymweld â nifer o
gyrchfannau yn ystod un gwyliau, tra ar yr un pryd yn mwynhau nifer o gyfleusterau a
chysur llong bleser fodern.
4
Hedfan
Hedfan yw’r dull mwyaf poblogaidd o deithio i dwristiaid o’r Deyrnas Unedig sy’n mynd
ar ymweliadau tramor ac mae pwysigrwydd teithiau awyr yn parhau i dyfu.
Er mwyn deall teithiau awyr yn y Deyrnas Unedig mae angen deall y berthynas rhwng
meysydd awyr a chwmnïau hedfan. Mae’r naill a’r llall yn fusnesau masnachol sy’n
ceisio gwneud elw.
Mae meysydd awyr yn gwneud elw trwy godi
tâl ar sefydliadau megis tai bwyta am
safleoedd mewn lolfeydd ymadael.
Mae cwmnïau hedfan yn gwneud elw trwy
gludo teithwyr, tra bod meysydd awyr yn
gwneud elw trwy godi tâl ar gwmnïau
hedfan i lanio ar y rhedfeydd a defnyddio
cyfleusterau’r maes awyr. Taliadau glanio
yw’r enw ar y rhain.
Maes awyr Heathrow Llundain yw un o
feysydd awyr prysuraf y byd ac mae’n delio â bron i 70 miliwn o deithwyr bob
blwyddyn.
Yn Heathrow mae’r prif gwmnïau hedfan yn
gwmnïau ‘gwasanaeth llawn’ sefydledig
megis British Airways, BMI a Virgin
Atlantic. Ym meysydd awyr eraill y DU mae’r
defnyddwyr yn cynnwys cwmnïau hedfan
rhad megis Ryanair ac easyJet.
Mae’r gwahaniaethau rhwng cwmnïau hedfan
‘gwasanaeth llawn’ a ‘rhad’ yn mynd yn llai
eglur wrth i natur y diwydiant hedfan newid.
Yn draddodiadol, roedd y prif gwmnïau
hedfan megis British Airways ac Air France
yn cael eu hadnabod fel ‘cwmnïau
cenedlaethol’ a oedd yn aml yn eiddo i’r
cyhoedd. Erbyn heddiw mae’r cwmnïau awyr
hyn yn eiddo i sefydliadau’r sector preifat.
5
Mae’r holl brif gwmnïau hedfan megis British Airways a Ryanair yn gweithredu
gwasanaeth rheolaidd.
Mae hyn yn golygu bod yna amserlen bendant y mae’r cwmni hedfan yn ei dilyn am
gyfnod. Mae awyrennau’n hedfan ar deithiau rheolaidd does wahaniaeth faint o
deithwyr sydd arnynt.
Un o’r datblygiadau mwyaf arwyddocaol ym maes hedfan yn ystod yr ugain mlynedd
diwethaf yw’r cwmnïau hedfan cost isel neu rad. O’r rhain y gweithredwyr mwyaf yw
Ryanair ac easyJet. Mae twf Ryanair ac easyJet dros y degawd diwethaf wedi bod yn
rhyfeddol.
Mae’r cwmnïau hedfan rhad wedi bod mor llwyddiannus fel eu bod wedi gorfodi
cwmnïau hedfan gwasanaeth llawn sefydledig i newid eu harferion gweithredu er
mwyn cystadlu. Ar lwybrau taith fer boblogaidd i gyrchfannau megis Paris a
Barcelona, gall y prisiau y mae’r cwmnïau hedfan traddodiadol yn eu codi fod yn debyg
i’r cwmnïau rhad. Nid yw cwmnïau hedfan rhad yn hedfan ar deithiau hir i’r UDA a
chyrchfannau eraill y tu hwnt i Ewrop.
Mae cwmnïau rhad wedi cael effaith ar waith sefydliadau teithio a thwristiaeth eraill
hefyd. Mae mwy o deithwyr bellach yn gallu ac yn barod i archebu eu taith hedfan yn
uniongyrchol gyda’r cwmni yn hytrach na defnyddio asiantau teithio. Hefyd, mae
cwmnïau hedfan wedi bod yn gyfrifol am hunanbecynnu lle mae’r teithwyr yn
archebu eu teithiau hedfan, llety a chludiant arall eu hunain, yn hytrach na phrynu
gwyliau pecyn traddodiadol. Hefyd, mae nifer y teithwyr sy’n croesi’r sianel ar fferi wedi
dirywio am fod mwy o deithiau hedfan ar gael i gyrchfannau yn Ewrop.
12. Mae yna nifer o gwmnïau hedfan poblogaidd. Gan ddefnyddio’r rhyngrwyd fel
cymorth, nodwch enwau rhai o’r cwmnïau yma yn y colofnau cywir isod.
Cwmnïau Hedfan Gwasanaeth Llawn Cwmnïau Hedfan Rhad
6
13. Llenwch y geiriau sydd ar goll yn y darn isod.
Mae meysydd awyr a chwmnïau hedfan yn sefydliadau sy’n ceisio gwneud elw.
Mae cwmnïau hedfan yn gwneud elw trwy gludo teithwyr, tra bod meysydd awyr yn
gwneud elw trwy godi tâl ar gwmnïau hedfan i lanio ar redfeydd. Gelwir y rhain yn .
Yn Heathrow mae’r prif gwmnïau hedfan yn gwmnïau
sefydledig megis British Airways. Ym meysydd awyr eraill y DU mae’r defnyddwyr yn
cynnwys cwmnïau hedfan megis Ryanair ac easyJet.
Yn draddodiadol roedd prif gwmnïau hedfan megis British Airways ac Air France yn cael
eu galw yn a oedd yn aml yn eiddo i’r cyhoedd. Erbyn heddiw mae’r cwmnïau hedfan hyn
yn eiddo i sefydliadau’r sector preifat.
Mae’r holl gwmnïau hedfan megis British Airways a Ryanair yn gweithredu gwasanaethau
rheolaidd.
Ar lwybrau boblogaidd i gyrchfannau megis Paris a Barcelona, gall y prisiau y mae’r
cwmnïau hedfan traddodiadol yn eu codi fod yn debyg i’r cwmnïau rhad.
Nid yw cwmnïau hedfan rhad yn hedfan ari’r UDA a chyrchfannau eraill y tu hwnt i Ewrop.
Mae cwmnïau rhad wedi cael effaith ar waith sefydliadau teithio a thwristiaeth eraill hefyd.
Mae mwy o deithwyr bellach yn gallu ac yn barod i archebu eu taith hedfan yn uniongyrchol
gyda’r cwmni yn hytrach na defnyddio asiantau teithio. Hefyd, mae cwmnïau hedfan wedi
bod yn gyfrifol amlle mae’r teithwyr yn archebu eu teithiau hedfan, llety a chludiant arall
eu hunain, yn hytrach na phrynu gwyliau pecyn traddodiadol.
7
14. Ar fap gwag o’r Deyrnas Unedig dangoswch ble mae’r prif feysydd awyr canlynol:
 Heathrow Llundain
 Gatwick Llundain
 Stansted Llundain
 Birmingham
 Manceinion
 Caerdydd
 Newcastle
 Bryste
 Glasgow
 Belfast Rhyngwladol
 Dwyrain Canolbarth Lloegr
8
Taflenni Teithio ar Fôr & Hedfan

More Related Content

More from Mrs Serena Davies

Hinsawdd Parc Cenedlaethol Sir Benfro
Hinsawdd Parc Cenedlaethol Sir BenfroHinsawdd Parc Cenedlaethol Sir Benfro
Hinsawdd Parc Cenedlaethol Sir BenfroMrs Serena Davies
 
Atyniadau Naturiol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Atyniadau Naturiol Parc Cenedlaethol Arfordir PenfroAtyniadau Naturiol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Atyniadau Naturiol Parc Cenedlaethol Arfordir PenfroMrs Serena Davies
 
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: Hygyrchedd & Lleoliad
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: Hygyrchedd & LleoliadParc Cenedlaethol Arfordir Penfro: Hygyrchedd & Lleoliad
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: Hygyrchedd & LleoliadMrs Serena Davies
 
Effeithiau Digwyddiadau (Glastonbury)
Effeithiau Digwyddiadau (Glastonbury)Effeithiau Digwyddiadau (Glastonbury)
Effeithiau Digwyddiadau (Glastonbury)Mrs Serena Davies
 
Taflen Waith A3 Eco-Dwristiaeth
Taflen Waith A3 Eco-DwristiaethTaflen Waith A3 Eco-Dwristiaeth
Taflen Waith A3 Eco-DwristiaethMrs Serena Davies
 
Llety Gwyrdd: Malewa Wildlife Lodge, Kenya
Llety Gwyrdd: Malewa Wildlife Lodge, KenyaLlety Gwyrdd: Malewa Wildlife Lodge, Kenya
Llety Gwyrdd: Malewa Wildlife Lodge, KenyaMrs Serena Davies
 
Lleoliad a Hygyrchedd Barcelona 2016
Lleoliad a Hygyrchedd Barcelona 2016Lleoliad a Hygyrchedd Barcelona 2016
Lleoliad a Hygyrchedd Barcelona 2016Mrs Serena Davies
 
Ffactorau i'w Hystyried Cyn Teithio
Ffactorau i'w Hystyried Cyn TeithioFfactorau i'w Hystyried Cyn Teithio
Ffactorau i'w Hystyried Cyn TeithioMrs Serena Davies
 
Gwyliau Diddordeb Arbennig, Gwyliau Gweithgaredd & Twristiaeth Chwaraeon
Gwyliau Diddordeb Arbennig, Gwyliau Gweithgaredd & Twristiaeth ChwaraeonGwyliau Diddordeb Arbennig, Gwyliau Gweithgaredd & Twristiaeth Chwaraeon
Gwyliau Diddordeb Arbennig, Gwyliau Gweithgaredd & Twristiaeth ChwaraeonMrs Serena Davies
 

More from Mrs Serena Davies (20)

Hinsawdd Parc Cenedlaethol Sir Benfro
Hinsawdd Parc Cenedlaethol Sir BenfroHinsawdd Parc Cenedlaethol Sir Benfro
Hinsawdd Parc Cenedlaethol Sir Benfro
 
Atyniadau Naturiol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Atyniadau Naturiol Parc Cenedlaethol Arfordir PenfroAtyniadau Naturiol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Atyniadau Naturiol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
 
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: Hygyrchedd & Lleoliad
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: Hygyrchedd & LleoliadParc Cenedlaethol Arfordir Penfro: Hygyrchedd & Lleoliad
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: Hygyrchedd & Lleoliad
 
Taflen Waith Glastonbury
Taflen Waith GlastonburyTaflen Waith Glastonbury
Taflen Waith Glastonbury
 
Eco-Dwristiaeth yn Kenya
Eco-Dwristiaeth yn KenyaEco-Dwristiaeth yn Kenya
Eco-Dwristiaeth yn Kenya
 
Effeithiau Digwyddiadau (Glastonbury)
Effeithiau Digwyddiadau (Glastonbury)Effeithiau Digwyddiadau (Glastonbury)
Effeithiau Digwyddiadau (Glastonbury)
 
Twristiaeth Gynaliadwy
Twristiaeth GynaliadwyTwristiaeth Gynaliadwy
Twristiaeth Gynaliadwy
 
Taflen Waith A3 Eco-Dwristiaeth
Taflen Waith A3 Eco-DwristiaethTaflen Waith A3 Eco-Dwristiaeth
Taflen Waith A3 Eco-Dwristiaeth
 
Llety Gwyrdd: Malewa Wildlife Lodge, Kenya
Llety Gwyrdd: Malewa Wildlife Lodge, KenyaLlety Gwyrdd: Malewa Wildlife Lodge, Kenya
Llety Gwyrdd: Malewa Wildlife Lodge, Kenya
 
Taflen Llety Gwyrdd
Taflen Llety Gwyrdd Taflen Llety Gwyrdd
Taflen Llety Gwyrdd
 
Diwylliant Barcelon
Diwylliant BarcelonDiwylliant Barcelon
Diwylliant Barcelon
 
Atyniadau Barcelona 2016
Atyniadau Barcelona 2016Atyniadau Barcelona 2016
Atyniadau Barcelona 2016
 
Atyniadau Barcelona 2016
Atyniadau Barcelona 2016Atyniadau Barcelona 2016
Atyniadau Barcelona 2016
 
Hinsawdd Barcelona
Hinsawdd BarcelonaHinsawdd Barcelona
Hinsawdd Barcelona
 
Lleoliad a Hygyrchedd Barcelona 2016
Lleoliad a Hygyrchedd Barcelona 2016Lleoliad a Hygyrchedd Barcelona 2016
Lleoliad a Hygyrchedd Barcelona 2016
 
Hinsawdd Efrog Newydd
Hinsawdd Efrog NewyddHinsawdd Efrog Newydd
Hinsawdd Efrog Newydd
 
Hygyrchedd Efrog Newydd
Hygyrchedd Efrog NewyddHygyrchedd Efrog Newydd
Hygyrchedd Efrog Newydd
 
Ffactorau i'w Hystyried Cyn Teithio
Ffactorau i'w Hystyried Cyn TeithioFfactorau i'w Hystyried Cyn Teithio
Ffactorau i'w Hystyried Cyn Teithio
 
Teithio ar y Môr & Hedfan
Teithio ar y Môr & HedfanTeithio ar y Môr & Hedfan
Teithio ar y Môr & Hedfan
 
Gwyliau Diddordeb Arbennig, Gwyliau Gweithgaredd & Twristiaeth Chwaraeon
Gwyliau Diddordeb Arbennig, Gwyliau Gweithgaredd & Twristiaeth ChwaraeonGwyliau Diddordeb Arbennig, Gwyliau Gweithgaredd & Twristiaeth Chwaraeon
Gwyliau Diddordeb Arbennig, Gwyliau Gweithgaredd & Twristiaeth Chwaraeon
 

Taflenni Teithio ar Fôr & Hedfan

  • 1. 1 Teithio ar y Môr Gellir rhannu teithio ar y môr yn ddau gategori. Yn gyntaf, defnyddir fferi pan fo twristiaid am groesi darn o fôr i gyrraedd eu cyrchfan. Yn ail defnyddir, llongau pleser gan bobl sy’n treulio’i gwyliau cyfan yn teithio ar y môr, gan fwynhau’r cyfleusterau ar fwrdd y llong a mynd ar wibdeithiau i weld atyniadau pan fo’r llong yn ymweld â phorthladd. Fferi Mae nifer o lwybrau fferi yn gweithredu o gwmpas arfordir Ynysoedd Prydain. Mae llawer o’r rhain yn cludo cerbydau sy’n golygu y gall y teithwyr fynd â’u ceir a cherbydau eraill ar y fferi gyda nhw. Mae’r llwybrau pwysicaf yn gweithredu rhwng porthladdoedd ar arfordir de Lloegr a Ffrainc, a’r daith rhwng Dover a Calais yw’r daith fyrraf a’r fwyaf poblogaidd. Er mai’r llwybr fferi bwysicaf ar gyfer twristiaid y Deyrnas Unedig yw’r un ar draws y Sianel i Ewrop, mae fferis yn gweithredu hefyd: Lerpwl a phorthladdoedd yng Nghymru i Weriniaeth Iwerddon I Ynys Wyth (Isle of Wight) ac Ynysoedd y Sianel ac yn ôl Rhwng y tir mawr ac ynysoedd yr Alban Defnyddir fferis mewn llawer o gyrchfannau i gludo twristiaid.
  • 2. 2 Cwmnïau fferi poblogaidd 11. Mae yna nifer o gwmnïau fferi poblogaidd. Gan ddefnyddio’r côd QR fel cymorth, nodwch enwau rhai o’r cwmnïau yma isod (gyda’r logos!) 12. a) Labelwch y llwybrau fferi poblogaidd isod yn glir o gwmpas y map (A-D) b) Defnyddiwch y côd QR (ger y map) i gwblhau’r tabl isod, gan gofio cyfrifo cost ar gyfer TEULU O 4 GYDA CHAR (taith ddwyffordd – ‘return’) Llwybr Nifer o deithiau/ dydd Cwmnioedd Hyd y daith Cost A: Dover i Calais B: Abergwaun i Rosslare C: Caergybi (Holyhead) i Ddulyn (Dublin) CH: Lerpwl i Belfast D: Portsmouth i St Malo
  • 3. 3 Llongau pleser Mae mwy a mwy o dwristiaid o’r Deyrnas Unedig yn dewis mynd ar wyliau mordaith. Tra bo’r niferoedd sy’n mynd ar wyliau pecyn yn gyffredinol wedi parhau’n sefydlog, mae’r gyfran sy’n mynd ar fordaith yn tyfu. Ardal Môr y Canoldir yw’r gyrchfan fwyaf poblogaidd gyda llawer o bobl yn manteisio ar y cyfle i hedfan o’r Deyrnas Unedig i gwrdd â’u llong mewn porthladd. Hedfan-hwylio yw’r enw am hyn. Yn y blynyddoedd diwethaf mae mordeithio wedi dod yn ffasiynol, gyda mwy o bobl yn gallu fforddio’r math hwn o wyliau. Disgwylir i’r galw am fordeithiau barhau i dyfu yn y dyfodol agos. Un o atyniadau gwyliau mordaith yw bod twristiaid yn gallu ymweld â nifer o gyrchfannau yn ystod un gwyliau, tra ar yr un pryd yn mwynhau nifer o gyfleusterau a chysur llong bleser fodern.
  • 4. 4 Hedfan Hedfan yw’r dull mwyaf poblogaidd o deithio i dwristiaid o’r Deyrnas Unedig sy’n mynd ar ymweliadau tramor ac mae pwysigrwydd teithiau awyr yn parhau i dyfu. Er mwyn deall teithiau awyr yn y Deyrnas Unedig mae angen deall y berthynas rhwng meysydd awyr a chwmnïau hedfan. Mae’r naill a’r llall yn fusnesau masnachol sy’n ceisio gwneud elw. Mae meysydd awyr yn gwneud elw trwy godi tâl ar sefydliadau megis tai bwyta am safleoedd mewn lolfeydd ymadael. Mae cwmnïau hedfan yn gwneud elw trwy gludo teithwyr, tra bod meysydd awyr yn gwneud elw trwy godi tâl ar gwmnïau hedfan i lanio ar y rhedfeydd a defnyddio cyfleusterau’r maes awyr. Taliadau glanio yw’r enw ar y rhain. Maes awyr Heathrow Llundain yw un o feysydd awyr prysuraf y byd ac mae’n delio â bron i 70 miliwn o deithwyr bob blwyddyn. Yn Heathrow mae’r prif gwmnïau hedfan yn gwmnïau ‘gwasanaeth llawn’ sefydledig megis British Airways, BMI a Virgin Atlantic. Ym meysydd awyr eraill y DU mae’r defnyddwyr yn cynnwys cwmnïau hedfan rhad megis Ryanair ac easyJet. Mae’r gwahaniaethau rhwng cwmnïau hedfan ‘gwasanaeth llawn’ a ‘rhad’ yn mynd yn llai eglur wrth i natur y diwydiant hedfan newid. Yn draddodiadol, roedd y prif gwmnïau hedfan megis British Airways ac Air France yn cael eu hadnabod fel ‘cwmnïau cenedlaethol’ a oedd yn aml yn eiddo i’r cyhoedd. Erbyn heddiw mae’r cwmnïau awyr hyn yn eiddo i sefydliadau’r sector preifat.
  • 5. 5 Mae’r holl brif gwmnïau hedfan megis British Airways a Ryanair yn gweithredu gwasanaeth rheolaidd. Mae hyn yn golygu bod yna amserlen bendant y mae’r cwmni hedfan yn ei dilyn am gyfnod. Mae awyrennau’n hedfan ar deithiau rheolaidd does wahaniaeth faint o deithwyr sydd arnynt. Un o’r datblygiadau mwyaf arwyddocaol ym maes hedfan yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf yw’r cwmnïau hedfan cost isel neu rad. O’r rhain y gweithredwyr mwyaf yw Ryanair ac easyJet. Mae twf Ryanair ac easyJet dros y degawd diwethaf wedi bod yn rhyfeddol. Mae’r cwmnïau hedfan rhad wedi bod mor llwyddiannus fel eu bod wedi gorfodi cwmnïau hedfan gwasanaeth llawn sefydledig i newid eu harferion gweithredu er mwyn cystadlu. Ar lwybrau taith fer boblogaidd i gyrchfannau megis Paris a Barcelona, gall y prisiau y mae’r cwmnïau hedfan traddodiadol yn eu codi fod yn debyg i’r cwmnïau rhad. Nid yw cwmnïau hedfan rhad yn hedfan ar deithiau hir i’r UDA a chyrchfannau eraill y tu hwnt i Ewrop. Mae cwmnïau rhad wedi cael effaith ar waith sefydliadau teithio a thwristiaeth eraill hefyd. Mae mwy o deithwyr bellach yn gallu ac yn barod i archebu eu taith hedfan yn uniongyrchol gyda’r cwmni yn hytrach na defnyddio asiantau teithio. Hefyd, mae cwmnïau hedfan wedi bod yn gyfrifol am hunanbecynnu lle mae’r teithwyr yn archebu eu teithiau hedfan, llety a chludiant arall eu hunain, yn hytrach na phrynu gwyliau pecyn traddodiadol. Hefyd, mae nifer y teithwyr sy’n croesi’r sianel ar fferi wedi dirywio am fod mwy o deithiau hedfan ar gael i gyrchfannau yn Ewrop. 12. Mae yna nifer o gwmnïau hedfan poblogaidd. Gan ddefnyddio’r rhyngrwyd fel cymorth, nodwch enwau rhai o’r cwmnïau yma yn y colofnau cywir isod. Cwmnïau Hedfan Gwasanaeth Llawn Cwmnïau Hedfan Rhad
  • 6. 6 13. Llenwch y geiriau sydd ar goll yn y darn isod. Mae meysydd awyr a chwmnïau hedfan yn sefydliadau sy’n ceisio gwneud elw. Mae cwmnïau hedfan yn gwneud elw trwy gludo teithwyr, tra bod meysydd awyr yn gwneud elw trwy godi tâl ar gwmnïau hedfan i lanio ar redfeydd. Gelwir y rhain yn . Yn Heathrow mae’r prif gwmnïau hedfan yn gwmnïau sefydledig megis British Airways. Ym meysydd awyr eraill y DU mae’r defnyddwyr yn cynnwys cwmnïau hedfan megis Ryanair ac easyJet. Yn draddodiadol roedd prif gwmnïau hedfan megis British Airways ac Air France yn cael eu galw yn a oedd yn aml yn eiddo i’r cyhoedd. Erbyn heddiw mae’r cwmnïau hedfan hyn yn eiddo i sefydliadau’r sector preifat. Mae’r holl gwmnïau hedfan megis British Airways a Ryanair yn gweithredu gwasanaethau rheolaidd. Ar lwybrau boblogaidd i gyrchfannau megis Paris a Barcelona, gall y prisiau y mae’r cwmnïau hedfan traddodiadol yn eu codi fod yn debyg i’r cwmnïau rhad. Nid yw cwmnïau hedfan rhad yn hedfan ari’r UDA a chyrchfannau eraill y tu hwnt i Ewrop. Mae cwmnïau rhad wedi cael effaith ar waith sefydliadau teithio a thwristiaeth eraill hefyd. Mae mwy o deithwyr bellach yn gallu ac yn barod i archebu eu taith hedfan yn uniongyrchol gyda’r cwmni yn hytrach na defnyddio asiantau teithio. Hefyd, mae cwmnïau hedfan wedi bod yn gyfrifol amlle mae’r teithwyr yn archebu eu teithiau hedfan, llety a chludiant arall eu hunain, yn hytrach na phrynu gwyliau pecyn traddodiadol.
  • 7. 7 14. Ar fap gwag o’r Deyrnas Unedig dangoswch ble mae’r prif feysydd awyr canlynol:  Heathrow Llundain  Gatwick Llundain  Stansted Llundain  Birmingham  Manceinion  Caerdydd  Newcastle  Bryste  Glasgow  Belfast Rhyngwladol  Dwyrain Canolbarth Lloegr
  • 8. 8