Elfennau Mythaidd a Chwedlonol Un Nos Ola Leuad, Caradog Prichard
- 3. A YW’R PRIF GYMERIAD YN FETHIANT?
Yn ôl safonau heddiw, yndi, mwy na thebyg.
OND
Mae hwn yn fachgen sydd yn sicr iawn yn ei
dynged.
Mae DOETHINEB yma – doethineb a gysylltir
a GWALLGOFRWYDD.
Yn ei safonau o, a safonau mythaidd, ai
LLWYDDIANT, BUDDIGOLIAETH a
CHYFLAWNIAD yw’r hunanladdiad?
I arwr chwedlonol, nid yw marw yn fethiant.
©IestynTyne2015
- 4. DOD O OED
Defodau byd-eang i urddo bechgyn yn
aelodau llawn o’r gymdeithas, h.y.:
• Dod i oed
• Mynd i berthyn i gymdeithas
• Derbyn galwedigaeth arbennig
Un o’r gofynion mythaidd yn hyn yw bod
arwr y chwedl yn gorfod wynebu taith ar ei
ben ei hun!
Dechrau – Arwr yng nghanol cymdogion,
perthynasau, cyfeillion ayyb
Diwedd – Ffarwelio cyn ei siwrnai ei hun
©IestynTyne2015
- 5. HYN YN HOLLOL WIR YN U.N.O.L
1 –
Mam = gofal,
Canon = crefydd,
Wmffra = Y Byd,
Guto Bwlch = Edmygedd,
Huw a Moi = Y Drindod
Drwy’r nofel collir hwy fesul un…
15 –
Dim ond yr adroddwr a Jini Bach - y ‘femme fatale’
Emyn cynhebrwng Moi (p.7):
‘Mae fy nghyfeillion adre’n myned
O fy mlaen o un i un
Gan fy ngadael yn amddifad
Fel pererin wrtho’i hun’
UNION beth sy’n digwydd
©IestynTyne2015
- 6. NID OES GAN YR ADRODDWR ENW!
Elfen chwedlonol, e.e.:
CHWEDL BLODEUWEDD
Arianrhod, Mam Lleu Llaw
Gyffes yn rhoi tynged arno na
chaiff enw.
Gorfod cael help Gwydion i gael
un CYN Y BYDD YN GALLU
BOD YN DDYN CYFLAWN A
GWYNEBU’R BYD!
Ydi adroddwr U.N.O.L, ar hyd yn
nofel, yn disgwyl am enw?
©IestynTyne2015
- 7. FEMME FATALE
Rhaid cofio peidio gosod y daith hon
mewn testun presennol.
Er mwyn cyflawni y daith mae wedi
cychwyn allan arni, RHAID i’r
adroddwr gyflawni yr amodau.
2 amod sy’n rhan o ddeddfau urddo
mythaidd, y mae Jini Bach Pen Cae
yn ei helpu i’w cyflawni yw:
CONCWEST RYWIOL
CYMRYD BYWYD DYNOL
Cymdeithasau CYNTEFIG – Bachgen o
oed yn cael ei yrru allan i LADD, cyn
caiff ei dderbyn yn aelod llawn o’r
gymdeithas
©IestynTyne2015
- 8. A SORI, PWY YDI’R TAD?
Llawer o awgrymiadau yn y nofel. OND, thema gryf yw
ABSENOLDEB LLWYR Y TAD.
Absenoldeb tad yn agos at graidd arwr mythaidd. Rhoi
rhyw rymoedd goruwchnaturiol yn gysylltiedig ag o.
Y syniad o DAD GORUWCHNATURIOL – h.y. – tad sydd
ddim yn perthyn i’r byd hwn – Y ‘Person Hardd’ ym
mhennod 8, sydd wedi mynd, a gadael y fam yn ‘niderfyn
awr esgor’ – sef y methiant llwyr yma i dorri’r llinyn bogail!
©IestynTyne2015
- 9. FFIGYRAU BENYWAIDD YW’R
LLEUAD A’R LLYN…
Absenoldeb y tad i arwain y ffordd yn
golygu fod RHAID i’r adroddwr ddod
i delerau a merched ar ei ben ei hun.
Elfen fythaidd y LLEUAD a’r LLYN –
Y merched pwerus, goruwchnaturiol
sydd yn bygwth, ac yn llwyddo i’w
fygu a’i ormesu.
©IestynTyne2015
- 10. BENYWOD MEWN LLYNOEDD?
Beth am chwedl Llyn y Fan?
Dyn yn disgyn mewn cariad hefo merch o’r tylwyth teg. Pan
mae’n gwneud cam a hi, mae hi’n diflannu yn ol i’r llyn gan
fynnu mynd a’i heiddo efo hi!
©IestynTyne2015