WISE KIDS Leaflet: eSecurity (in Welsh)
- 1. Rhaglenni Gwrth-firws/ Gwrth-Ysbїwedd
Mae pawb sy’n defnyddio’r Rhyngrwyd, p’un ai ar iPad, eu ffôn
smart neu gyfrifiadur angen cael rhaglenni gwrth-firws a
gwrth-ysbїwedd da neu apps. Gofalwch bod y rhain wedi’u
diweddaru! Credwch neu beidio, mae’n bosib cael firysau ar
ffonau smart, cyfrifiaduron tabled ac iffonau wedi’u datgloi hefyd!
Bydd wal dân dda yn helpu.
Ffrapio a Lladrad Hunaniaeth
Mae ffrapio’n digwydd pan fydd ffrind neu aelod o’ch teulu yn esgus mai chi ydyn nhw
ac yn defnyddio eich cyfrif Gweplyfr i bostio sylwadau diweddar doniol! I rwystro ffrapio,
neu rhywun yn hacio eich hunaniaeth, gofalwch allgofnodi ar ôl defnyddio gwasanaethau
fel e-bost, Pinterest, Amazon, Gweplyfr, Trydar, Foursquare ac ati. Hefyd defnyddiwch
gyfrineiriau anodd eu dyfalu a pheidiwch fyth â rhannu’r rhain gyda’ch ffrindiau.
Ffeiliau a Deunydd Amheus a Lawrlwythwyd
Peidiwch fyth ag agor e-byst sydd am bynciau rhyfedd neu oddi wrth bobl dydych chi
ddim yn eu hadnabod. Hefyd peidiwch â derbyn ffeiliau sy’n edrych yn amheus sy’n cael
eu hanfon/rhannu drwy Bluetooth, Dropbox, rhaglenni Messenger, Skype, E-bost neu
wasanaethau tebyg. Bydd peth drwgwedd yn cael ei lawrlwytho gyda meddalwedd, felly
darllenwch y print mân bob amser, cyn clicio ar ‘Agree’, a lawrlwythwch raglenni o
wefannau y gallwch ymddiried ynddynt yn unig er enghraifft
Diogelwch Rhwydwaith Ddiwifr
Os oes gennych rwydwaith ddiwifr, diogelwch hi gyda chyfrinair, cuddiwch hi, newidiwch
gyfrinair y llwybrydd rhagodsodedig, a defnyddiwch ffiltro ‘lefel peiriant’ i gyfyngu ar
fynediad i’ch rhwydwaith ddiwifr i ddyfeisiadau penodol. Gellir addasu eich gosodiadau
drwy fewngofnodi i’ch llwybrydd. Er nad yn berffaith, bydd y camau hyn yn lleihau’r
posibilrwydd o gamddefnydd.
Diweddarwch eich System Weithredu a Meddalwedd
Mae eich cyfrifiadur neu ffôn smart yn dod gyda system weithredu. Dros gyfnod, mae
datblygwyr yn gwneud newidiadau i hon ac yn cynnig diogelwch a diweddariadau eraill,
y dylech bob amser eu cyflawni. Cadwch unrhyw apps/ rhaglenni y byddwch yn eu gosod
wedi’u diweddaru hefyd! Am ddiweddariadau i’r system weithredu Windows, gweler:
Hawlfraint © 2012 WISE KIDS. Creative Commons License: CC BY-ND 3.0
http://www.tucows.com
http://windowsupdate.microsoft.com
e-Ddiogelwche-Ddiogelwch
http://creativecommons.org/licenses/by-nd/3.0/
www.wisekids.org.uk
Y mwyaf o ddefnydd a wnewch chi o’r Rhyngrwyd, y mwyaf
pwysig fydd hi i sicrhau eich bod yn gallu rheoli eich
diogelwch ar-lein. Mae’r DU yn colli biliynau bob blwyddyn i
e-droseddwyr. Nodwch y pwyntiau allweddol canlynol:
Copїau Wrth Gefn
Gan ddefnyddio disg galed allanol dda, neu wasanaeth storio 'cwmwl seiliedig'
(enghreifftiau: Dropbox: http://www.dropbox.com, SkyDrive: http://www.skydrive.com,
SpiderOak: http://www.spideroak.com), cofiwch wneud copiau wrth gefn o'ch data bob
amser - gallai fod yn waith cwrs, e-byst, lluniau, fideos neu unrhyw gynnwys yr ydych
wedi'i greu.