SlideShare a Scribd company logo
1 of 1
Download to read offline
Materion
Hawlfraint
Materion
Hawlfraint
www.wisekids.org.uk
• Tra gall rhaglenni rhannu ffeiliau fel BitTorrent, BearShare, FrostWire ac ati, gael eu
defnyddio i rannu cynnwys cyfreithlon, maent yn aml yn cael eu defnyddio i rannu
cerddoriaeth a ffilmiau sydd dan hawlfraint. Gall defnydd o'r fath eich gwneud yn
agored i dderbyn cynnwys sydd ddim yn addas, firysau a chael eich erlyn yn gyfreithiol.
Mae hyn yn bod oherwydd gall unrhyw un uwchlwytho ffeiliau i’w rhannu, gan
ddefnyddio’r rhaglenni hyn, ac, mewn rhai achosion gall y ffeiliau gynnwys firysau.
Gyda rhai rhaglenni rhannu ffeiliau, rydych mewn gwirionedd yn chwilio cynnwys
cyfrifiaduron rhanwyr eraill!
Mae gwrando ar gerddoriaeth a gwylio fideos ar-lein gan ddefnyddio Spotify
ac YouTube yn wych! Gallwch hefyd brynu a lawrlwytho cerddoriaeth o
Amazon, iTunes a gwasanaethau eraill. Fodd bynnag, mae yna rai pobl o
hyd hoffai lawrlwytho’u ffeiliau cerddoriaeth a ffilmiau am ddim, a rhaglenni
cyfrifiadur hefyd, mewn rhai achosion! Mae gan hyn nifer o ganlyniadau, a
dyma rai pwyntiau allweddol i chi eu cadw mewn cof:
• Gofalwch bob amser gydnabod ffynhonnell eich gwybodaeth, hyd yn oed os cawsoch
yr wybodaeth oddi ar wefan. Mae yna lawer o fyfyrwyr sydd ddim yn gwneud hyn, ac yn
mynd i drwbwl! Yn gyffredinol, mae’r deunydd sydd ar gael ar- lein dan hawlfraint yn
awtomatig oni bai ei fod yn dweud yn wahanol
• Os ydych yn gallu creu cerddoriaeth, fideo neu gynnwys arall, ac am gael trwydded i’ch
gwaith am ddim, tra’n caniatáu iddo gael ei rannu, gallwch ddefnyddio trwydded Creative
Commons – fel y ddogfen hon! Sefydliad wedi’i leoli yn UDA yw Creative Commons:
http://www.creativecommons.org sy’n amcanu at helpu pobl i drwyddedu a rhannu eu
cynnwys yn hawdd, tra’n cadw hawliau priodol. Felly hefyd, os ydych yn chwilio am
luniau, fideos a cherddoriaeth ar gyfer eich gwaith cartref neu’ch prosiectau sy’n
gyfreithlon i’w defnyddio, edrychwch ar wefan Creative Commons:
http://search.creativecommons.org
• Pe byddech am wrando ar gerddoriaeth ar-lein am ddim, mae safleoedd fel:
http://www.youtube.com, http://www.spotify.com, http://www.deezer.com a
http://www.we7.com yn wych! Bydd rhai o’r safleoedd hyn hefyd yn gadael i chi lunio
rhestrau chwarae o’ch hoff ganeuon a’ch fideos cerddoriaeth
• Mae lawrlwytho a rhannu cerddoriaeth, ffilmiau, rhaglenni a chynnwys sydd dan
hawlfraint yn anghyfreithlon yn y DU. Mae llawer o bobl yn dadlau ynglŷn â hyn a
hawliau digidol eraill. Yn y DU, mae’r Diwydiant Pornograffi Prydeinig wedi erlyn
unigolion am rannu cerddoriaeth dan hawlfraint gan ddefnyddio rhaglenni fel Limewire.
I ddysgu mwy am y materion hyn, gweler: https://www.eff.org a
http://www.pro-music.org
Hawlfraint © 2012 WISE KIDS. Trwydded Creative Commons: CC BY-NC-ND 3.0
http://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/3.0/deed.en_GB

More Related Content

More from WISE KIDS

WISE KIDS Leaflet: Smart Phones, Social Networks, Messenger, Chat and Locatio...
WISE KIDS Leaflet: Smart Phones, Social Networks, Messenger, Chat and Locatio...WISE KIDS Leaflet: Smart Phones, Social Networks, Messenger, Chat and Locatio...
WISE KIDS Leaflet: Smart Phones, Social Networks, Messenger, Chat and Locatio...WISE KIDS
 
WISE KIDS Leaflet: Smart Phones, Social Networks, Messenger, Chat and Locatio...
WISE KIDS Leaflet: Smart Phones, Social Networks, Messenger, Chat and Locatio...WISE KIDS Leaflet: Smart Phones, Social Networks, Messenger, Chat and Locatio...
WISE KIDS Leaflet: Smart Phones, Social Networks, Messenger, Chat and Locatio...WISE KIDS
 
WISE KIDS Leaflet: eSecurity (in Welsh)
WISE KIDS Leaflet: eSecurity (in Welsh)WISE KIDS Leaflet: eSecurity (in Welsh)
WISE KIDS Leaflet: eSecurity (in Welsh)WISE KIDS
 
WISE KIDS Leaflet: eSecurity
WISE KIDS Leaflet: eSecurityWISE KIDS Leaflet: eSecurity
WISE KIDS Leaflet: eSecurityWISE KIDS
 
WISE KIDS Leaflet: Copyright Matters
WISE KIDS Leaflet: Copyright MattersWISE KIDS Leaflet: Copyright Matters
WISE KIDS Leaflet: Copyright MattersWISE KIDS
 
Internet Literacy and Safety
Internet Literacy and SafetyInternet Literacy and Safety
Internet Literacy and SafetyWISE KIDS
 

More from WISE KIDS (6)

WISE KIDS Leaflet: Smart Phones, Social Networks, Messenger, Chat and Locatio...
WISE KIDS Leaflet: Smart Phones, Social Networks, Messenger, Chat and Locatio...WISE KIDS Leaflet: Smart Phones, Social Networks, Messenger, Chat and Locatio...
WISE KIDS Leaflet: Smart Phones, Social Networks, Messenger, Chat and Locatio...
 
WISE KIDS Leaflet: Smart Phones, Social Networks, Messenger, Chat and Locatio...
WISE KIDS Leaflet: Smart Phones, Social Networks, Messenger, Chat and Locatio...WISE KIDS Leaflet: Smart Phones, Social Networks, Messenger, Chat and Locatio...
WISE KIDS Leaflet: Smart Phones, Social Networks, Messenger, Chat and Locatio...
 
WISE KIDS Leaflet: eSecurity (in Welsh)
WISE KIDS Leaflet: eSecurity (in Welsh)WISE KIDS Leaflet: eSecurity (in Welsh)
WISE KIDS Leaflet: eSecurity (in Welsh)
 
WISE KIDS Leaflet: eSecurity
WISE KIDS Leaflet: eSecurityWISE KIDS Leaflet: eSecurity
WISE KIDS Leaflet: eSecurity
 
WISE KIDS Leaflet: Copyright Matters
WISE KIDS Leaflet: Copyright MattersWISE KIDS Leaflet: Copyright Matters
WISE KIDS Leaflet: Copyright Matters
 
Internet Literacy and Safety
Internet Literacy and SafetyInternet Literacy and Safety
Internet Literacy and Safety
 

WISE KIDS Leaflet: Copyright (In Welsh)

  • 1. Materion Hawlfraint Materion Hawlfraint www.wisekids.org.uk • Tra gall rhaglenni rhannu ffeiliau fel BitTorrent, BearShare, FrostWire ac ati, gael eu defnyddio i rannu cynnwys cyfreithlon, maent yn aml yn cael eu defnyddio i rannu cerddoriaeth a ffilmiau sydd dan hawlfraint. Gall defnydd o'r fath eich gwneud yn agored i dderbyn cynnwys sydd ddim yn addas, firysau a chael eich erlyn yn gyfreithiol. Mae hyn yn bod oherwydd gall unrhyw un uwchlwytho ffeiliau i’w rhannu, gan ddefnyddio’r rhaglenni hyn, ac, mewn rhai achosion gall y ffeiliau gynnwys firysau. Gyda rhai rhaglenni rhannu ffeiliau, rydych mewn gwirionedd yn chwilio cynnwys cyfrifiaduron rhanwyr eraill! Mae gwrando ar gerddoriaeth a gwylio fideos ar-lein gan ddefnyddio Spotify ac YouTube yn wych! Gallwch hefyd brynu a lawrlwytho cerddoriaeth o Amazon, iTunes a gwasanaethau eraill. Fodd bynnag, mae yna rai pobl o hyd hoffai lawrlwytho’u ffeiliau cerddoriaeth a ffilmiau am ddim, a rhaglenni cyfrifiadur hefyd, mewn rhai achosion! Mae gan hyn nifer o ganlyniadau, a dyma rai pwyntiau allweddol i chi eu cadw mewn cof: • Gofalwch bob amser gydnabod ffynhonnell eich gwybodaeth, hyd yn oed os cawsoch yr wybodaeth oddi ar wefan. Mae yna lawer o fyfyrwyr sydd ddim yn gwneud hyn, ac yn mynd i drwbwl! Yn gyffredinol, mae’r deunydd sydd ar gael ar- lein dan hawlfraint yn awtomatig oni bai ei fod yn dweud yn wahanol • Os ydych yn gallu creu cerddoriaeth, fideo neu gynnwys arall, ac am gael trwydded i’ch gwaith am ddim, tra’n caniatáu iddo gael ei rannu, gallwch ddefnyddio trwydded Creative Commons – fel y ddogfen hon! Sefydliad wedi’i leoli yn UDA yw Creative Commons: http://www.creativecommons.org sy’n amcanu at helpu pobl i drwyddedu a rhannu eu cynnwys yn hawdd, tra’n cadw hawliau priodol. Felly hefyd, os ydych yn chwilio am luniau, fideos a cherddoriaeth ar gyfer eich gwaith cartref neu’ch prosiectau sy’n gyfreithlon i’w defnyddio, edrychwch ar wefan Creative Commons: http://search.creativecommons.org • Pe byddech am wrando ar gerddoriaeth ar-lein am ddim, mae safleoedd fel: http://www.youtube.com, http://www.spotify.com, http://www.deezer.com a http://www.we7.com yn wych! Bydd rhai o’r safleoedd hyn hefyd yn gadael i chi lunio rhestrau chwarae o’ch hoff ganeuon a’ch fideos cerddoriaeth • Mae lawrlwytho a rhannu cerddoriaeth, ffilmiau, rhaglenni a chynnwys sydd dan hawlfraint yn anghyfreithlon yn y DU. Mae llawer o bobl yn dadlau ynglŷn â hyn a hawliau digidol eraill. Yn y DU, mae’r Diwydiant Pornograffi Prydeinig wedi erlyn unigolion am rannu cerddoriaeth dan hawlfraint gan ddefnyddio rhaglenni fel Limewire. I ddysgu mwy am y materion hyn, gweler: https://www.eff.org a http://www.pro-music.org Hawlfraint © 2012 WISE KIDS. Trwydded Creative Commons: CC BY-NC-ND 3.0 http://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/3.0/deed.en_GB