SlideShare a Scribd company logo
1 of 34
 Deall beth yw cynhwysiant ariannol
 Cydnabod yr effaith a gaiff ar fywydau pobl
 Deall eich rôl wrth fynd i’r afael â
chynhwysiant ariannol
 Gwybod am yr adnoddau a’r gwasanaethau
arbenigol sydd ar gael
 Gwybod sut i gyfeirio ac atgyfeirio’n effeithiol
 Mae’n amser i ni ddarganfod pa fath o
bersonoliaeth ‘ariannol’ sydd
gennych chi?
 Aelwydydd ag incwm sydd 60 % neu lai na lefel incwm
cyfartalog (canolrif) aelwydydd.
(Person sengl £129 yr wythnos (yw), Rhiant sengl un plentyn £179 yw,
cwpl â 2 o blant £321yw)
 3.5 miliwn (27%) o blant o dan y llinell
 7.9 miliwn (21%) o oedolion oed gweithio o dan y llinell
 1.6 miliwn (14%) o oedolion oed pensiwn o dan y llinell
(ffigyrau 2011 /12 ar ôl cynnwys costau tai)
 Sicrhau bod gan bawb gyfle i gael
mynediad at wasanaethau ariannol a
chynhyrchion sydd eu hangen er mwyn
cymryd rhan yn llawn yn y gymdeithas
gyfoes.
Mynediad at
wasanaethau
ariannol prif
ffrwd
Gallu ariannol
Gwella
mynediad at
gyngor ar arian
a dyledion
Mwyhau incwm
Darparu credyd
fforddiadwy a
chynilion
Gallu unigolion i ddeall eu hamgylchiadau
ariannol eu hunain, ynghyd â’r cymhelliant i
weithredu.
 Os bydd cartref yn gwario 10% neu fwy o’i
incwm net ar gostau ynni, ystyrir hyn yn dlodi
tanwydd.
 Tlodi tanwydd difrifol yw gwariant o 20 % neu
fwy
 Cyngor ar Ddiwygiadau Lles / Budd-daliadau
 Grantiau – Cronfa Cymorth Dewisol, Cymorth
Dŵr, Grantiau ynni
 Defnyddio cynlluniau ailgylchu /
ailddefnyddio (CREST / Freecycle)
 Cynlluniau menter, gwirfoddoli a dychwelyd
i’r gwaith
Beth yw gwerth y budd-
daliadau a chredydau
treth nad ydynt yn cael
eu hawlio yng Nghonwy
a Sir Ddinbych?
£76.8 miliwn!
Mewn grwpiau, cymerwch 5 munud i drafod sut
y mae cynhwysiant ariannol yn rhan o’ch rôl.
 Sefyllfaoedd lle gallech gyfarfod dinasyddion
â chanddynt broblem
 Unrhyw brofiadau blaenorol rydych wedi’u
cael yn ymwneud â chynhwysiant ariannol
 Mewn grwpiau A, B ac C
◦ Grŵp A – 5 munud i drafod pa ffactorau a allai
olygu bod rhywun mewn perygl o gael problemau
yn ymwneud â chynhwysiant ariannol
◦ Grŵp B – 5 munud i drafod manteision cynhwysiant
ariannol a’r rhwystrau i gynhwysiant ariannol
◦ Grŵp C – 5 munud i drafod effeithiau problemau yn
ymwneud â chynhwysiant ariannol
 Cynnig cymorth sylfaenol
 Cyfeirio
 Atgyfeirio
Cyfeirio
Mae hyn yn golygu bod y dinesydd yn cymryd
cyfrifoldeb (neu rhoddir cyfrifoldeb iddo) am gysylltu
â sefydliadau eraill i gael help i ddatrys y broblem.
Gall y gweithiwr roi cymorth trwy adnabod beth yw’r
broblem, trafod gwahanol ffynonellau cymorth a
rhoi’r wybodaeth angenrheidiol.
Atgyfeirio
Mae hyn yn golygu bod y gweithiwr yn cymryd
cyfrifoldeb am gysylltu â sefydliad arall i drefnu’r
cymorth sydd ei angen ar y dinesydd
Nodi’r mater o
ran
cynhwysiant
ariannol
Nodi mater mwy
cymhleth (dyled
/ budd-daliadau)
Nodi mater
lefel isel
Cynnig cymorth
Trafod y
dewisiadau a rhoi
gwybodaeth
gyfeiriol
Os ceir
cydsyniad,
atgyfeirio i’r
sefydliad
priodol
Ailymweld –
beth yw’r
canlyniad? A
oes angen mwy
o gymorth?
Darpariaeth Lefel Isel
(Lefel 1)
Gwasanaethau gwybodaeth, e.e. cyfeirio, a
rhoi gwybodaeth i’r cleient, megis taflenni
neu wybodaeth ar lafar.
Darpariaeth Lefel
Canolig (Lefel 2)
Gwasanaethau cynghori e.e. gwirio os ydynt
yn gymwys i dderbyn budd-daliadau.
Cymorth i lenwi ffurflenni.
Darpariaeth Lefel Uchel
(Lefel 3)
Cyngor arbenigol, e.e. oherwydd anghenion
niferus a chymhleth y cleient neu yn achos
darnau o waith dwys iawn bydd angen
gwybodaeth gyfreithiol arbenigol i ddatrys y
broblem.
:
Sefydliadau atgyfeirio
Cyngor ar Bopeth Conwy
Uned Hawliau Lles Cyngor Conwy
Uned Budd-daliadau Cyngor Conwy
Uned Treth Cyngor Conwy
Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych
Tîm Hawliau Lles Sir Ddinbych
Refeniw a Budd-daliadau Sir Ddinbych
Siop Cyngor Budd-daliadau
Shelter Cymru
Mae Undeb Credyd Gogledd Cymru
 Bancio – holl fanteision banc arferol, dewis o
gyfrifon ar gyfer gwahanol anghenion
 Cynilion – (Rhoi trwy’r gyflogres, Cyfrifon Clwb
Nadolig, Cronfeydd Ymddiriedolaethau Plant) - telir
difidend yn hytrach na llog, 1.5% ar gyfartaledd
 Benthyciadau – lleiafrif benthyciadau £50 - £10,000
cystadleuol iawn yn gwarantu’r gyfradd orau ar
fenthyciad £2000 - £7000.
“APR yw’r Gyfradd Ganrannol Blynyddol. Gallwch ei defnyddio i
gymharu gwahanol gynigion credyd a benthyciadau. Mae’r APR yn
cynnwys y llog ar y benthyciad a hefyd unrhyw daliadau eraill y
mae’n rhaid i chi eu talu, er enghraifft ffi trefnu. Mae’n rhaid i
fenthycwyr ddweud wrthych beth yw’r APR cyn i chi arwyddo
cytundeb. Bydd yn amrywio o un benthycwr i’r llall”
Benthyciad o £400 dros 30 diwrnod
• Wonga – ad-daliad o £527.15 (5853% APR)
• Undeb Credyd – ad-daliad o £404.63 (@26%
APR)
 Cynllun tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru
 Os yw’r eiddo wedi’i raddio yn F neu G ac os
oes unrhyw un yn y cartref ar fudd-daliadau
prawf modd maent yn gymwys i gael
gwelliannau
Ffoniwch 0808 808 2244 neu ewch i
www.nestwales.org.uk
 Cyngor diduedd,
annibynnol, am ddim ar
faterion ariannol
 Cyngor ac adnoddau arlein
 Cymorth dros y ffôn
 Gellir trefnu apwyntiadau
personol
 Templadau ac adnoddau y
gellir eu lawrlwytho
Ffôn: 0300 330 0520
Ebost:moneyadviser@citizensadvice.org.uk
Gwefan: www.moneyadviceservice.org.uk
 Cefnogir gan Lywodraeth Cymru
 Llwybr digidol i’r Gronfa Cymorth Dewisol
 Cyngor ac arweiniad ar faterion ariannol
 Mae Turn2us yn wasanaeth
elusennol sy’n helpu pobl i gael
mynediad at yr arian sydd ar gael
iddynt – lles, budd-daliadau,
grantiau, mathau eraill o gymorth.
 Cynlluniwyd y wefan hygyrch er mwyn eich helpu i ddod
o hyd i gymorth ariannol priodol yn gyflym ac yn
hwylus, yn seiliedig ar eich anghenion a’ch
amgylchiadau personol.
 Cysylltwch â Pat Cripps
pat.cripps@elizabethfinn.org.uk 01676 541 654
 Cyflwyniad i gynhwysiant ariannol
 Pryd i gyfeirio a phryd i atgyfeirio
 Mynediad at gyngor a gwasanaethau
• Ymarferiad mapio
• Darpariaeth TG
• Gwybodaeth gyfeirio ychwanegol
 Mwyhau Incwm
• Arolwg o’r diwygiadau lles
• Gwybodaeth am grantiau
• Cyfraddau Budd-daliadau
• Tlodi Tanwydd
 Gallu ariannol
• Taflen gyllideb
• Cost credyd
• Blaenoriaethau / dyledion sy’n
flaenoriaethau
• Beilïaid
 Cysylltiadau defnyddiol
 Geirfa
Ewch i www.moneymadeclear.org i lawrlwytho’r
wybodaeth ddiweddaraf
Mewn grwpiau dewiswch un astudiaeth achos
byr yr un, ac ar sail yr wybodaeth a roddwyd,
amlinellwch y camau y byddech yn eu cymryd
Cyfeirio Atgyfeirio
Mân broblem Proses sy’n fwy cymhleth
Nid yw’r unigolyn yn cydsynio
i’r atgyfeiriad
Problem sy’n fwy cymhleth a /
neu difrifol
Nid yw’r unigolyn yn derbyn
bod yna broblem.
Anghenion ychwnaegol
Hyderus y bydd yr unigolyn yn
gweithredu ar sail yr
wybodaeth a roddir
 chymhelliad i weithredu
Yn cydsynio i’r broses
atgyfeirio
Nid yw’n fater du a gwyn bob amser wrth benderfynu a ddylech gyfeirio
neu atgyfeirio. Dyma rai pethau i’w hystyried wrth ddod i benderfyniad:
Ar nodiadau gludiog??
Yn sgil y sesiwn heddiw, sut y byddwch yn
rhoi’r egwyddorion ar waith?
Awareness raising presentation cym

More Related Content

Viewers also liked

Промени в библиотеките - технологии и ангажираност
Промени в библиотеките - технологии и ангажираностПромени в библиотеките - технологии и ангажираност
Промени в библиотеките - технологии и ангажираностSilva Vasileva
 
Fowlkesdigestivesystem
FowlkesdigestivesystemFowlkesdigestivesystem
Fowlkesdigestivesystemlfowlkes28
 
Cardiovascular diagnostic procedures
Cardiovascular diagnostic proceduresCardiovascular diagnostic procedures
Cardiovascular diagnostic procedureslfowlkes28
 
Money Advice Service Quality Framework Presentation
Money Advice Service Quality Framework PresentationMoney Advice Service Quality Framework Presentation
Money Advice Service Quality Framework Presentationmoneymadeclearwales
 

Viewers also liked (7)

Промени в библиотеките - технологии и ангажираност
Промени в библиотеките - технологии и ангажираностПромени в библиотеките - технологии и ангажираност
Промени в библиотеките - технологии и ангажираност
 
Fowlkesch12
Fowlkesch12Fowlkesch12
Fowlkesch12
 
Crib sheet exercise 2 cym
Crib sheet exercise 2 cymCrib sheet exercise 2 cym
Crib sheet exercise 2 cym
 
Antonio cuello
Antonio cuelloAntonio cuello
Antonio cuello
 
Fowlkesdigestivesystem
FowlkesdigestivesystemFowlkesdigestivesystem
Fowlkesdigestivesystem
 
Cardiovascular diagnostic procedures
Cardiovascular diagnostic proceduresCardiovascular diagnostic procedures
Cardiovascular diagnostic procedures
 
Money Advice Service Quality Framework Presentation
Money Advice Service Quality Framework PresentationMoney Advice Service Quality Framework Presentation
Money Advice Service Quality Framework Presentation
 

More from moneymadeclearwales

Tackling Homeless through Financial Inclusion from Wales Co-operative Centre
Tackling Homeless through Financial Inclusion from Wales Co-operative CentreTackling Homeless through Financial Inclusion from Wales Co-operative Centre
Tackling Homeless through Financial Inclusion from Wales Co-operative Centremoneymadeclearwales
 
The Discretionary Assistance Fund
The Discretionary Assistance FundThe Discretionary Assistance Fund
The Discretionary Assistance Fundmoneymadeclearwales
 
Getting tenants involved in financial capability
Getting tenants involved in financial capabilityGetting tenants involved in financial capability
Getting tenants involved in financial capabilitymoneymadeclearwales
 
Presentation for fin cap forums2
Presentation for fin cap forums2Presentation for fin cap forums2
Presentation for fin cap forums2moneymadeclearwales
 

More from moneymadeclearwales (6)

Illegal money lending film clip
Illegal money lending film clipIllegal money lending film clip
Illegal money lending film clip
 
Tackling Homeless through Financial Inclusion from Wales Co-operative Centre
Tackling Homeless through Financial Inclusion from Wales Co-operative CentreTackling Homeless through Financial Inclusion from Wales Co-operative Centre
Tackling Homeless through Financial Inclusion from Wales Co-operative Centre
 
The Discretionary Assistance Fund
The Discretionary Assistance FundThe Discretionary Assistance Fund
The Discretionary Assistance Fund
 
THFI & Welfare Reforms
THFI & Welfare ReformsTHFI & Welfare Reforms
THFI & Welfare Reforms
 
Getting tenants involved in financial capability
Getting tenants involved in financial capabilityGetting tenants involved in financial capability
Getting tenants involved in financial capability
 
Presentation for fin cap forums2
Presentation for fin cap forums2Presentation for fin cap forums2
Presentation for fin cap forums2
 

Awareness raising presentation cym

  • 1.
  • 2.  Deall beth yw cynhwysiant ariannol  Cydnabod yr effaith a gaiff ar fywydau pobl  Deall eich rôl wrth fynd i’r afael â chynhwysiant ariannol  Gwybod am yr adnoddau a’r gwasanaethau arbenigol sydd ar gael  Gwybod sut i gyfeirio ac atgyfeirio’n effeithiol
  • 3.  Mae’n amser i ni ddarganfod pa fath o bersonoliaeth ‘ariannol’ sydd gennych chi?
  • 4.  Aelwydydd ag incwm sydd 60 % neu lai na lefel incwm cyfartalog (canolrif) aelwydydd. (Person sengl £129 yr wythnos (yw), Rhiant sengl un plentyn £179 yw, cwpl â 2 o blant £321yw)  3.5 miliwn (27%) o blant o dan y llinell  7.9 miliwn (21%) o oedolion oed gweithio o dan y llinell  1.6 miliwn (14%) o oedolion oed pensiwn o dan y llinell (ffigyrau 2011 /12 ar ôl cynnwys costau tai)
  • 5.  Sicrhau bod gan bawb gyfle i gael mynediad at wasanaethau ariannol a chynhyrchion sydd eu hangen er mwyn cymryd rhan yn llawn yn y gymdeithas gyfoes.
  • 6. Mynediad at wasanaethau ariannol prif ffrwd Gallu ariannol Gwella mynediad at gyngor ar arian a dyledion Mwyhau incwm Darparu credyd fforddiadwy a chynilion
  • 7.
  • 8. Gallu unigolion i ddeall eu hamgylchiadau ariannol eu hunain, ynghyd â’r cymhelliant i weithredu.
  • 9.  Os bydd cartref yn gwario 10% neu fwy o’i incwm net ar gostau ynni, ystyrir hyn yn dlodi tanwydd.  Tlodi tanwydd difrifol yw gwariant o 20 % neu fwy
  • 10.
  • 11.  Cyngor ar Ddiwygiadau Lles / Budd-daliadau  Grantiau – Cronfa Cymorth Dewisol, Cymorth Dŵr, Grantiau ynni  Defnyddio cynlluniau ailgylchu / ailddefnyddio (CREST / Freecycle)  Cynlluniau menter, gwirfoddoli a dychwelyd i’r gwaith Beth yw gwerth y budd- daliadau a chredydau treth nad ydynt yn cael eu hawlio yng Nghonwy a Sir Ddinbych? £76.8 miliwn!
  • 12. Mewn grwpiau, cymerwch 5 munud i drafod sut y mae cynhwysiant ariannol yn rhan o’ch rôl.  Sefyllfaoedd lle gallech gyfarfod dinasyddion â chanddynt broblem  Unrhyw brofiadau blaenorol rydych wedi’u cael yn ymwneud â chynhwysiant ariannol
  • 13.
  • 14.  Mewn grwpiau A, B ac C ◦ Grŵp A – 5 munud i drafod pa ffactorau a allai olygu bod rhywun mewn perygl o gael problemau yn ymwneud â chynhwysiant ariannol ◦ Grŵp B – 5 munud i drafod manteision cynhwysiant ariannol a’r rhwystrau i gynhwysiant ariannol ◦ Grŵp C – 5 munud i drafod effeithiau problemau yn ymwneud â chynhwysiant ariannol
  • 15.
  • 16.  Cynnig cymorth sylfaenol  Cyfeirio  Atgyfeirio
  • 17. Cyfeirio Mae hyn yn golygu bod y dinesydd yn cymryd cyfrifoldeb (neu rhoddir cyfrifoldeb iddo) am gysylltu â sefydliadau eraill i gael help i ddatrys y broblem. Gall y gweithiwr roi cymorth trwy adnabod beth yw’r broblem, trafod gwahanol ffynonellau cymorth a rhoi’r wybodaeth angenrheidiol. Atgyfeirio Mae hyn yn golygu bod y gweithiwr yn cymryd cyfrifoldeb am gysylltu â sefydliad arall i drefnu’r cymorth sydd ei angen ar y dinesydd
  • 18. Nodi’r mater o ran cynhwysiant ariannol Nodi mater mwy cymhleth (dyled / budd-daliadau) Nodi mater lefel isel Cynnig cymorth Trafod y dewisiadau a rhoi gwybodaeth gyfeiriol Os ceir cydsyniad, atgyfeirio i’r sefydliad priodol Ailymweld – beth yw’r canlyniad? A oes angen mwy o gymorth?
  • 19. Darpariaeth Lefel Isel (Lefel 1) Gwasanaethau gwybodaeth, e.e. cyfeirio, a rhoi gwybodaeth i’r cleient, megis taflenni neu wybodaeth ar lafar. Darpariaeth Lefel Canolig (Lefel 2) Gwasanaethau cynghori e.e. gwirio os ydynt yn gymwys i dderbyn budd-daliadau. Cymorth i lenwi ffurflenni. Darpariaeth Lefel Uchel (Lefel 3) Cyngor arbenigol, e.e. oherwydd anghenion niferus a chymhleth y cleient neu yn achos darnau o waith dwys iawn bydd angen gwybodaeth gyfreithiol arbenigol i ddatrys y broblem. :
  • 20. Sefydliadau atgyfeirio Cyngor ar Bopeth Conwy Uned Hawliau Lles Cyngor Conwy Uned Budd-daliadau Cyngor Conwy Uned Treth Cyngor Conwy Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych Tîm Hawliau Lles Sir Ddinbych Refeniw a Budd-daliadau Sir Ddinbych Siop Cyngor Budd-daliadau Shelter Cymru Mae Undeb Credyd Gogledd Cymru
  • 21.
  • 22.  Bancio – holl fanteision banc arferol, dewis o gyfrifon ar gyfer gwahanol anghenion  Cynilion – (Rhoi trwy’r gyflogres, Cyfrifon Clwb Nadolig, Cronfeydd Ymddiriedolaethau Plant) - telir difidend yn hytrach na llog, 1.5% ar gyfartaledd  Benthyciadau – lleiafrif benthyciadau £50 - £10,000 cystadleuol iawn yn gwarantu’r gyfradd orau ar fenthyciad £2000 - £7000.
  • 23. “APR yw’r Gyfradd Ganrannol Blynyddol. Gallwch ei defnyddio i gymharu gwahanol gynigion credyd a benthyciadau. Mae’r APR yn cynnwys y llog ar y benthyciad a hefyd unrhyw daliadau eraill y mae’n rhaid i chi eu talu, er enghraifft ffi trefnu. Mae’n rhaid i fenthycwyr ddweud wrthych beth yw’r APR cyn i chi arwyddo cytundeb. Bydd yn amrywio o un benthycwr i’r llall”
  • 24. Benthyciad o £400 dros 30 diwrnod • Wonga – ad-daliad o £527.15 (5853% APR) • Undeb Credyd – ad-daliad o £404.63 (@26% APR)
  • 25.  Cynllun tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru  Os yw’r eiddo wedi’i raddio yn F neu G ac os oes unrhyw un yn y cartref ar fudd-daliadau prawf modd maent yn gymwys i gael gwelliannau Ffoniwch 0808 808 2244 neu ewch i www.nestwales.org.uk
  • 26.  Cyngor diduedd, annibynnol, am ddim ar faterion ariannol  Cyngor ac adnoddau arlein  Cymorth dros y ffôn  Gellir trefnu apwyntiadau personol  Templadau ac adnoddau y gellir eu lawrlwytho Ffôn: 0300 330 0520 Ebost:moneyadviser@citizensadvice.org.uk Gwefan: www.moneyadviceservice.org.uk
  • 27.  Cefnogir gan Lywodraeth Cymru  Llwybr digidol i’r Gronfa Cymorth Dewisol  Cyngor ac arweiniad ar faterion ariannol
  • 28.  Mae Turn2us yn wasanaeth elusennol sy’n helpu pobl i gael mynediad at yr arian sydd ar gael iddynt – lles, budd-daliadau, grantiau, mathau eraill o gymorth.  Cynlluniwyd y wefan hygyrch er mwyn eich helpu i ddod o hyd i gymorth ariannol priodol yn gyflym ac yn hwylus, yn seiliedig ar eich anghenion a’ch amgylchiadau personol.  Cysylltwch â Pat Cripps pat.cripps@elizabethfinn.org.uk 01676 541 654
  • 29.
  • 30.  Cyflwyniad i gynhwysiant ariannol  Pryd i gyfeirio a phryd i atgyfeirio  Mynediad at gyngor a gwasanaethau • Ymarferiad mapio • Darpariaeth TG • Gwybodaeth gyfeirio ychwanegol  Mwyhau Incwm • Arolwg o’r diwygiadau lles • Gwybodaeth am grantiau • Cyfraddau Budd-daliadau • Tlodi Tanwydd  Gallu ariannol • Taflen gyllideb • Cost credyd • Blaenoriaethau / dyledion sy’n flaenoriaethau • Beilïaid  Cysylltiadau defnyddiol  Geirfa Ewch i www.moneymadeclear.org i lawrlwytho’r wybodaeth ddiweddaraf
  • 31. Mewn grwpiau dewiswch un astudiaeth achos byr yr un, ac ar sail yr wybodaeth a roddwyd, amlinellwch y camau y byddech yn eu cymryd
  • 32. Cyfeirio Atgyfeirio Mân broblem Proses sy’n fwy cymhleth Nid yw’r unigolyn yn cydsynio i’r atgyfeiriad Problem sy’n fwy cymhleth a / neu difrifol Nid yw’r unigolyn yn derbyn bod yna broblem. Anghenion ychwnaegol Hyderus y bydd yr unigolyn yn gweithredu ar sail yr wybodaeth a roddir  chymhelliad i weithredu Yn cydsynio i’r broses atgyfeirio Nid yw’n fater du a gwyn bob amser wrth benderfynu a ddylech gyfeirio neu atgyfeirio. Dyma rai pethau i’w hystyried wrth ddod i benderfyniad:
  • 33. Ar nodiadau gludiog?? Yn sgil y sesiwn heddiw, sut y byddwch yn rhoi’r egwyddorion ar waith?

Editor's Notes

  1. Cyflwyniad / Trefniadaeth Ynglŷn â’r prosiect hwn ….. Noddir y prosiect gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru Menter ar y Cyd rhwng Bwrdd Gwasanaeth Lleol Sir Ddinbych a Chonwy Mae’r bwrdd gwasanaeth lleol hwn ar y cyd yn cynnwys y prif sefydliadau gwasanaeth megis Awdurdodau Lleol, yr Heddlu, Tân, Tai, Coleg Llandrillo, felly mae’r holl sefydliadau hyn wedi cydnabod rhan allweddol cynhwysiant ariannol wrth gyflenwi gwasanaethau. Mae’r ffaith bod y Byrddau Gwasanaeth Lleol yn cefnogi’r prosiect hwn yn cydnabod pwysigrwydd cynhwysiant ariannol a bod gan holl weithwyr y sefydliadau hyn gyfrifoldeb (a hawl) i fynd i’r afael â’r broblem. Prif amcanion y prosiect yw: Gwella cydlyniant a chydweithio strategol ar draws Conwy a Sir Ddinbych Gwella mynediad at wybodaeth a gwasanaethau o ansawdd a gaiff eu cynnig gan y cyngor ar gynhwysiant ariannol Gwella’r gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli, nid creu gwasanaethau newydd Fel y gwelwn, mae Cynhwysiant Ariannol yn faes eang a nod y sesiwn byr hwn yw rhoi trosolwg o’r pwnc, yn ogystal â’r offer / adnoddau sydd eu hangen arnoch i ddarganfod mwy. Caiff y prosiect hwn ei ystyried fel prosiect peilot i Gymru. Mae’n hanfodol ein bod yn clywed eich safbwynt chi fel gweithiwr rheng flaen am yr hyn sy’n digwydd ac am effaith materion yn ymwneud â chynhwysiant ariannol yr ydych yn dod ar eu traws yn y maes. Mae hwn yn gyfle i ni drosglwyddo’r wybodaeth hon i’r Bwrdd Gwasanaeth Lleol a Llywodraeth Cymru yn y gobaith y gellir dylanwadu ar newidiadau a phenderfyniadau.
  2. Mae’n bwysig nodi y gall, ac mae, rhai o’r materion rydym am sôn amdanynt heddiw effeithio ar bawb, felly efallai y bydd rhai o’r pethau y byddwn yn eu trafod yn berthnasol i’ch amgylchiadau personol, neu i’ch teulu neu ffrindiau. Os oes gan unrhyw un broblemau, mae croeso i chi gael sgwrs â mi yn ystod yr egwyl neu ar ddiwedd y sesiwn. Gallwch rannu yr hyn rydych yn ei ddymuno ac os gwelwch yn dda, a wnaiff pawb barchu cyfrinachedd eraill. Efallai y bydd y materion y byddwn yn eu trafod heddiw o fudd personol i chi, neu efallai y gallech gynnig cyngor i ffrindiau a theulu. Hefyd, mae’r sesiwn heddiw yn broses ddwyffordd …. rydym yn awyddus i dderbyn eich adborth os ydych wedi cael profiadau yn y maes, bydd hyn yn werthfawr iawn i’r prosiect. Ni fyddwn yn trafod y canlynol … Cyngor Ariannol sydd wedi’i reoleiddio. Er mwyn cynnig cyngor arbenigol ar ddyledion, mae’n rhaid i chi gael trwydded credyd defnyddiwr ac yswiriant. Mae cyngor ar fudd-daliadau yn faes cymhleth sy’n newid yn gyson. Fel gweithwyr rheng flaen, mae’n bwysig eich bod yn deall ffiniau a therfynau’r cymorth y gallwch ei gynnig …. Hefyd, mae’n bwysig cydnabod eich cyfyngiadau o ran amser.
  3. Mae gan arian ei ddefnydd amlwg … mae’n ein galluogi i ddarparu ar gyfer ein hanghenion sylfaenol. Yn aml iawn, bydd gennym berthynas eithaf cymhleth ag arian, mae’n cysylltu â’n hemosiynau a sut rydym yn teimlo am ein hunain. Mae’r cwis hwn yn ychydig o hwyl ond mae’n rhoi cyfle i ni feddwl am ein hagweddau personol at arian a gall hyn fod yn rhywbeth i’w ystyried pan fyddwn mewn sefyllfa gwaith. Beth am gyflwyno ein gilydd o amgylch y bwrdd, eich enw, o ble rydych yn dod? beth yw eich gwaith? Os ydych yn hapus i rannu … ydych chi’n rhoi gwên ar wyneb y casglwr dyledion? / oes gennych ddyledion arferol? / ydych chi’n wariwr clyfar? / yn rheolwr gofalus neu’n wiwer? Ar beth rydych yn hoffi gwario eich arian, a beth y mae’n gas gennych wario arian arno?
  4. Yn y pen draw, mae cynhwysiant ariannol yn ffordd o drechu tlodi felly beth am ddechrau trwy ddiffinio tlodi. Mae Trechu Tlodi Plant erbyn 2020 yn parhau yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac yn ganolbwynt nifer o raglenni eraill megis Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a Chymunedau yn Gyntaf. Premiwm tlodi Mae’r teuluoedd tlotaf yn talu prisiau uchel am anghenion sylfaenol megis nwy, trydan a bancio. Gall y costau y bydd teuluoedd tlawd yn eu hysgwyddo i gael arian parod a chredyd, ac i brynu nwyddau a gwasanaethau fod yn ‘bremiwm tlodi’ o £1300 y flwyddyn. Mae hyn wedi cynyddu 20% er 2007!! (Achub y Plant 2010) Mae Sefydliad Joseph Rowntree yn amcangyfrif ei fod yn costio 20 – 30% yn fwy i gael safon byw sylfaenol digonol mewn ardaloedd gwledig Y diwygiadau lles mwyaf er 60 mlynedd, ac economi sydd mewn trafferthion: Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd gostyngiad o 600 m yn incwm 2014 – 2015 ac yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol – bydd rhieni sengl yn colli 8.5% o’u hincwm blynyddol erbyn 2015. 3 X y cyfanswm y bydd cwpl cyffredin di-blant yn ei golli. Mae’r galw am fanciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell wedi treblu er 2011 / 2012
  5. Diffiniad Trysorlys Ei Mawrhydi Mae Cynhwysiant Ariannol yn golygu mwy na chael pobl i gyllidebu a chael mynediad at wasanaethau ariannol yn yr ystyr draddodiadol Yn fwy sylfaenol ac amlochrog – os nad oes gan bobl ddigon o arian i fyw, maent yn dlawd o ran cyfleoedd a gwasanaethau. Cynhwysiant Ariannol yw’r dull o fynd i’r afael â THLODI, mae cynhwysiant ariannol yn lliniaru effeithiau tlodi ac yn cynnig ateb rhagweithiol i dlodi Dengys gwaith ymchwil gan Cyngor ar Bopeth a’r Ganolfan Ymchwil Gwasanaethau Cyfreithiol (LSRC) bod cyngor da yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol yn gymdeithasol, economaidd ac o ran iechyd. Elw o’r buddsoddiad, ac arbedion posibl a fesurwyd: Pam ei fod yn bwysig? Bydd yr unigolyn rydych yn ei gefnogi mewn gwell sefyllfa i gadw tenantiaeth / dod o hyd i gartref Datblygu ymdeimlad a pherthynas â’r dinesydd Wrth leihau straen sy’n ymwneud â sefyllfa ariannol, bydd modd canolbwyntio ar faterion eraill, gwella iechyd a pherthnasoedd yn y cartref Creu mwy o gydluniad cymunedol Bydd £1 a gaiff ei gwario ar gyngor ar dai yn arbed £2.34 Bydd £1 a gaiff ei gwario ar gyngor ar ddyledion yn arbed £2.98 Bydd £1 a gaiff ei gwario ar gyngor ar fudd-daliadau lles yn arbed £8.80 Bydd £1 a gaiff ei gwario ar gyngor ar gyflogaeth yn arbed £7.13
  6. Mae’n werth ystyried pum thema graidd Llywodraeth Cymru a nodwyd yn Strategaeth Cynhwysiant Ariannol 2009. Mwyhau Incwm – Mae Cynhwysiant Ariannol yn golygu mwy na chael pobl i gyllidebu’n well. Gall olygu na fydd cymaint o bobl yn byw gyda thlodi tanwydd gan eu bod wedi cael mynediad at gyngor ar les. Mynediad at gredyd a benthyciadau fforddiadwy – gall olygu y bydd mwy o bobl yn benthyca ar gyfraddau rhesymol gan undebau credyd ac y bydd mwy o bobl yn rhoi gwybod i’r Uned Benthyg Arian Anghyfreithlon am fenthycwyr arian didrwydded. Gwella mynediad at gyngor am arian a dyledion, gall olygu y bydd mwy o bobl yn cael mynediad at y gwasanaethau cynghori, eiriolaeth a gwybodaeth sydd eu hangen arnynt yn gynt a chyn iddynt gyrraedd sefyllfa o argyfwng. Llythrennedd a Gallu Ariannol, gall olygu y bydd mwy o bobl yn elwa o gynhwysiant digidol ac yn gallu rheoli biliau a chwilio am y cyfraddau isaf. Mynediad at wasanaethau ariannol prif ffrwd, gall olygu y bydd pobl yn rheoli eu llif arian trwy gyfrif banc ag undeb credyd lleol, gan gadw’r arian o fewn yr economi leol Mae Prifysgol John Moores Lerpwl wedi gwerthuso Banc y Co-operative a’i waith yng ngharchar Forest Bank yn Salford rhwng 2007 a 2009. Dim ond 39% o’r rheini a oedd wedi agor cyfrif banc sydd wedi aildroseddu: 59.9% yw’r gyfradd aildroseddu genedlaethol ymhlith carcharorion sy’n bwrw dedfryd o llai na blwyddyn Dywedodd Franklin, Prif Swyddog Gweithredol Gwasanaethau Ariannol y Co-operative:   Os nad oes gennych gyfrif banc, gall hyn beryglu eich cyfleoedd gwaith, ei gwneud yn llawer anoddach i rentu tŷ a chymhlethu mynediad at grantiau addysg. Hefyd, gall ei gwneud yn anodd i hawlio budd-daliadau.
  7. Gall jargon a thermau anghyfarwydd effeithio ar ein hyder i fynd i’r afael â Chynhwysiant Ariannol felly, rwyf am esbonio rhai o’r termau mwyaf cyffredin
  8. Dealltwriaeth a’r gallu i gyllidebu Blaenoriaethu dyledion Beiliaid gwir / gau o’r pecyn Cost credyd Deall APR (Cyfradd Gyfrannol Flynyddol)
  9. Caiff ei gydnabod fod gennym y tai oeraf a mwyaf tamp yn Ewrop! Mae astudiaeth gan Llais Defnyddwyr Cymru yn nodi bod 34% o gartrefi Cymru yn dioddef o dlodi tanwydd. Gall tlodi tanwydd (fel pob math o dlodi) gael effaith sylweddol ar iechyd a lles. Gall achosi salwch sy’n gysylltiedig â thlodi – pwysau geni isel, afiechydon anadlol, marwolaethau yn ystod y gaeaf… Mwy o achosion o lithro, baglu a chwympo, salwch meddwl a mwy o risg o dân yn sgil defnyddio dulliau gwresogi amhriodol Effeithiau: Effaith sylweddol o ran iechyd, gan effeithio ar y system anadlu a chylchrediad y gwaed ac arthritis – marwolaethau 3 gwaith yn fwy tebygol mewn tai oer Yn 2011 amcangyfrifodd Consumer Focus fod 425,161 o gartrefi yn dioddef o dlodi tanwydd – 33.5% o’r holl gartrefi yng Nghymru Yn 2012, £1250 oedd bil ynni cartref ar gyfartaledd Y tymheredd boddhaol ar gyfer cynhesu tŷ yw rhwng 18 - 21c Y prif ystyriaethau yw: Effeithlonrwydd ynni yr eiddo Cost ynni Incwm y cartref Mae tai mewn ardaloedd gwledig yn broblem sylweddol gan fod llawer ohonynt wedi’u hadeiladu o waliau solet ac nid ydynt wedi’u cysylltu â’r prif gyflenwad nwy. Cynhelir gweithdai Cynnig Ynni Gorau o fis Hydref gan Pennysmart / Cyngor ar Bopeth Mae Cymunedau yn Gyntaf yn trefnu sesiynau Gweithredu Ynni Cenedlaethol ym Mae Cinmel, Peulwys a Llandudno
  10. Yn sgil cyflwyno Credyd Cynhwysol a’r symudiad at chwilio am swyddi ar-lein. Yn ogystal, mae banciau a chwmnïau ynni yn symud at filiau ar-lein, ac ati Mae 2 fater i’w hystyried o ran mynediad … a ellir cael mynediad at yr offer angenrheidiol ac a oes gan bobl y sgiliau angenrheidiol Amcangyfrifir bod 35% o oedolion yng Nghonwy a Sir Ddinbych wedi’u heithrio’n ddigidol Pam fod hyn yn bwysig? – Arwahanrwydd cymdeithasol - 75% o bobl dros 75 oed sy’n byw ar eu pennau eu hunain yn teimlo’n ynysig Arian – Gall siopa ar-lein a thalu biliau yn electronig arbed hyd at £560 Gwaith – bydd 90% o swyddi yn gofyn am sgiliau TGCh erbyn 2015, nid yw 38% o bobl ddi-waith ar-lein Arbedion i’r llywodraeth – 1.8 biliwn trwy ddarparu gwasanaethau yn ddigidol Yn eich pecynnau, ceir manylion am gyfleusterau TG ar draws Conwy a Sir Ddinbych Mae prosiectau yn cynnwys: prosiect CVC a ariennir gan Cymunedau 2.0 Sir Ddinbych Ddigidol – Alex Fairclough – 01824 702441 / 0788 591 0953 Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy (CGGC) Ceri Quirk Sesiynau blasu, hyfforddiant a gweithdai CGGC Adnoddau cynhwysiant digidol – Niace www.learnmyway.com – cyrsiau ar-lein am ddim www.getonline@home.org gall elusennau ac unigolion ar rai budd-daliadau gael cyfrifiadur sydd wedi’i adnewyddu a’i baratoi ar gyfer y rhyngrwyd o £99
  11. Mae’n bwysig cofio bod cyngor ar fudd-daliadau yn faes arbenigol felly byddwn yn atgyfeirio pobl i Gyngor ar Bopeth, Cyngor ar Fudd-daliadau neu Hawliau Lles os oes unrhyw broblem £35m y flwyddyn yw cyfanswm yr arian nad yw’n cael ei hawlio na’i dalu yn Sir Ddinbych Bwriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw lleihau’r gwariant net ar faterion lles yn y Deyrnas Unedig o 18 biliwn y flwyddyn (cyfanswm o £39,180,000,000 dros y 5 mlynedd nesaf, 2010 i 2015), Mae pobl ar incwm isel yn methu’n gyson â hawlio’r holl fudd-daliadau a chredydau treth y mae ganddynt hawl i’w cael Mae gwiriwr grantiau gwych ar wefan ‘turn 2 us’ – llawer o grantiau arbenigol Mae’r Gronfa Cymorth Dewisol yn disodli’r hen gronfa gymdeithasol ac yn cael ei rheoli gan Lywodraeth Cymru Cronfa Cymorth Dewisol – taliadau / cymorth o fath arall er mwyn rhoi help ar frys i bobl Taliadau Cymorth mewn Argyfwng / Taliadau Cymorth i Unigolion
  12. Felly, gobeithio ein bod bellach yn deall beth yn union yw cynhwysiant ariannol. Mewn grwpiau, hoffwn i ni dreulio rhyw 5 munud yn trafod sut y mae’n effeithio ar eich rôl. Unrhyw themâu cyffredin / sy’n dod i’r amlwg Heriau
  13. Yn ogystal, mae nifer o brosiectau a sefydliadau yn ceisio mynd i’r afael â thlodi – cymaint yn wir fel y gall fod yn ddryslyd fel gweithiwr wybod pwy sy’n gwneud beth Dyma Ffilm yn dangos safbwyntiau gweithiwr rheng flaen a dinesydd a ffilmiwyd yn ystod ein ‘Digwyddiad Mawr’ a Digwyddiad ‘Energy Matters’ Cymunedau yn Gyntaf dros yr haf. Gofyn am sylwadau / barn am y ffilm
  14. Adborth o’r drafodaeth ymhlith y grwpiau Mae problemau yn ymwneud â chynhwysiant ariannol yn aml yn codi o ganlyniad i newid mewn amgylchiadau megis perthynas yn dod i ben, salwch, marwolaeth partner neu golli swydd – felly mae’n hawdd gweld sut y gall pawb, gan ein cynnwys ni ein hunain, fod mewn perygl. Effeithiau – mwy o dlodi ac eithrio cymdeithasol Mae’r cysylltiad rhwng tlodi a salwch cronig yn hysbys – pwysau geni isel, problemau anadlol, problemau deintyddol, problemau â’r galon. Iechyd meddwl (arolwg panel o Gartrefi Prydeinig gan Brifysgol Essex 2010) Yng Nghymru rydych 50% yn fwy tebygol o wynebu problemau yn ymwneud â iechyd meddwl os ydych yn ddi-waith neu’n dioddef o salwch hirdymor / yn anabl
  15. Cliciwch i ychwanegu testun
  16. Angen ailadrodd yma, nad ydym yn disgwyl i chi gymryd rôl gweithiwr arbenigol – mae angen i chi gofio ffiniau eich rôl. Cofiwch, fel y dywedwyd ar y dechrau – mae Cynhwysiant Ariannol yn gyfrifoldeb i bawb. Os rhoddwyd amser i chi ddod i’r sesiwn heddiw, yna mae hyn yn cadarnhau bod eich sefydliad yn gweld bod manteision i chi fynd i’r afael â chynhwysiant ariannol Cynigiwch gymorth – yn dibynnu ar eich rôl, efallai y gallech baratoi taflen gyllidebu syml, defnyddio cyfrifiannell ar-lein i ddangos ‘arbedion’, os yw’r peiriant golchi dillad wedi torri, gallech awgrymu ymweliad â’r ganolfan ailgylchu lleol yn hytrach na mynd i Brighthouse. Yn dilyn trafodaeth, efallai y byddwch yn awgrymu bod angen mewnbwn sefydliad arall felly byddwch yn cyfeirio’r unigolyn ato. Er enghraifft, efallai y byddwch yn cyfeirio rhywun at NYTH os yw’n cael anhawster i wresogi’r tŷ ac os ydych o’r farn y gallai fod yn gymwys ar gyfer cynllun NYTH. Neu os ydych yn gwybod bod rhywun yn defnyddio benthycwyr stepen y drws, gallech eu cyflwyno i’r Undeb Credyd ac esbonio pa wasanaethau a gynigir ganddynt, y manteision posibl a rhoi gwybodaeth am amseroedd / lleoliadau’r pwyntiau casglu. Os oes gan yr unigolyn broblem mwy cymhleth / difrifol, ac os ydynt yn cytuno ar ôl i chi drafod y mater, efallai y byddwch yn penderfynu eu hatgyfeirio. Os bydd rhywun yn dweud wrthych nad ydynt yn gallu talu’r rhent a’u bod yn mynd i ddyled, gallech eu hatgyfeirio i Cyngor ar Bopeth. Ni fydd hyn yn golygu cynnydd mawr yn eich llwyth gwaith, gellir gwneud hyn ochr yn ochr â’ch ‘gwaith bob dydd’ a gall fod o gymorth i chi yn eich rôl
  17. Mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng y 2 Gwahanol ddulliau a gwahanol ganlyniadau. Mae amser a lle i’r ddau Rhesymau dros gyfeirio neu atgyfeirio Mae’r broblem y tu hwnt i faes arbenigol y gweithiwr neu’r grŵp targed (h.y. anghenion penodol unigolyn byddar / digartref / person hŷn) Materion yn ymwneud â gallu Mae ystyriaethau pwysig yn cynnwys Ymddiriedaeth – angen gwneud yr hyn a gytunwyd Yr wybodaeth gyfredol, ddiweddaraf
  18. Defnyddiwch eich crebwyll ar sail anghenion y dinesydd Bydd ystyriaethau yn cynnwys natur a difrifoldeb y broblem Faint o hunan-gymhelliant sydd gan yr unigolyn? Mae sgiliau holi / agwedd anfeirniadol yn hanfodol, mae angen cydnabod bod stigma yn gysylltiedig â materion ariannol Cydsyniad y dinesydd Gallu’r dinesydd (anghenion sgiliau sylfaenol, anghenion ychwanegol, lefel eu cynhwysiant digidol ac ati) Lefel y cymorth sydd eisoes ar gael h.y Ni fydd y Siop Cyngor Budd-daliadau yn gweithio gyda chleient os ydynt eisoes wedi dechrau apêl gyda Cyngor ar Bopeth ac i’r gwrthwyneb
  19. Cliciwch i ychwanegu testun
  20. Cliciwch i ychwanegu nodiadau
  21. Mae mwy o wybodaeth am sefydliadau y gallwch gyfeirio atynt yn eich pecynnau, ond nid yw’r rhestr yn gynhwysfawr. Rydym am dynnu sylw at rai o’r prif sefydliadau / adnoddau y gallwch gyfeirio atynt
  22. Mae credydau undeb yn sefydliadau cydweithredol ariannol, sydd yn eiddo i’r aelodau ac yn cael eu rheoli ganddynt. Maent yn cael eu rheoleiddio, yn yr un modd â banciau, gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, felly caiff yr arian ei amddiffyn gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol. Mae credydau undeb yn fentrau cymdeithasol, felly maent er budd y gymuned. Caiff undeb Gogledd Cymru ei gydnabod fel un o’r undebau credyd mwyaf blaenllaw yn y Deyrnas Unedig. Maent yn cynnig dewis eang o gynhyrchion ariannol yn cynnwys: Cyfrifon cynilo (cynilion Nadolig, cynilion i oedolion a chynilion i blant). Maent yn talu difidend ar y cynilion. 1.5% yw’r difidend cyffredin. Nid yw Cronfeydd Ymddiridolaethau Plant (CYP) bellach ar gael, ond mae’r Undebau Credyd yn parhau i gynnal y CYP a agorwyd a gellir talu arian iddynt. Nid ydynt yn cael eu cynnig bellach fel cynnyrch newydd. Benthyciadau Fforddiadwy – benthyciadau hyd at £10,000 â chyfraddau cystadleuol. Isafswm benthyciad £50. Cyfrif banc (Cyfrif Cyfredol Undeb Credyd) Cynlluniau rhoi trwy’r Gyflogres lle gall staff drosglwyddo arian o’u cyflog i gyfrif cynilion yr Undeb Credyd. Yswiriant bywyd am ddim ar gynilion a benthyciadau. Nid yw undebau credyd ar gyfer pobl sydd wedi’u heithrio’n ariannol yn unig, maent i bawb! Cymerwch olwg ar eu gwefan: www.northwalescu.co.uk Os nad ydych yn aelod, ymaelodwch rŵan!!
  23. Mae’n werth sôn am y canlynol .. Byddwch yn ofalus pan fydd y llog misol yn cael ei gyhoeddi … Bydd yn gwneud i’r gyfradd swnio’n llawer is – mae llog misol o 2% yn gyfystyr â 27% APR – mae’n bosibl defnyddio troswyr ar wefannau arbed arian arbenigol Nid yw’r APR sy’n cael ei hysbysebu bob amser yn gymwys i chi – (mae APR cynrychioliadol yn golygu bod 51% o ymgeiswyr llwyddiannus yn cael y gyfradd honno) Mae angen bod yn wyliadwrus am yswiriant / gwarchod taliadau a gaiff ei ychwanegu yn awtomatig Mae adlog yn effeithio ar gynilion a benthyciadau – yn y bôn, rydych yn ennill / talu llog ar y llog … felly mae hyn yn cynyddu dyledion a chynilion.
  24. Mae ethos a diwylliant gwahanol y sefydliadau hefyd yn ffactor. Awdurdodau Taliadau Parhaus (CPAs). Gwnaeth Cyngor ar Bopeth ddadansoddiad manwl o sefyllfa 665 o gwsmeriaid benthyciadau diwrnod cyflog a gysylltodd â gwasanaeth cwmeriaid yr elusen rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2013, ac roedd gan 32% ohonynt (201 o bobl) gwynion am yr Awdurdodau Taliadau Parhaus. O’r rhain: Roedd yn bosibl bod gan 9 o bob 10 sail i gwyno i Ombwdsmon y Gwasanaeth Ariannol. Roedd 1 o bob 5 eisoes yn cael problemau ariannol neu ar gynllun rheoli dyledion. Yn achos 1 o bob 6, roedd arian wedi ei gymryd heb ganiatâd. Dywedodd 1 o bob 6 fod y benthycwr diwrnod cyflog wedi defnyddio Awdurdod Taliadau Parhaus i gymryd mwy o arian na’r hyn a gytunwyd yn wreiddiol.
  25. Fel y dywedwyd eisoes, mae gennym y tai hynaf, a mwyaf anodd i’w cynhesu yn Ewrop Nyth yw cynllun tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru. Ei nod yw lleihau nifer y cartrefi sy’n dioddef o dlodi tanwydd a gwneud cartrefi Cymru yn gynhesach ac yn fwy ynni-effeithiol. Os ydych yn poeni am gost cynhesu eich cartref, gallwch ffonio 0808 808 2244 am ddim o linell dir neu ffôn symudol. Gall ein ymgynghorwyr cyfeillgar roi cyngor ar: Arbed ynni Rheoli arian Sicrhau eich bod ar y tariff tanwydd gorau i chi; Gwirio a oes gennych hawl i dderbyn unrhyw fudd-daliadau i roi hwb i’ch incwm Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael gwelliannau i’ch cartref yn rhad ac am ddim, er mwyn gwneud eich cartref yn gynhesach a lleihau eich biliau ynni. Daw Rick Ward y rheolwr ardal i siarad â chi / eich sefydliad a rhoi mwy o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael ac mae mwy o wybodaeth yn y pecynnau
  26. Gallwn roi rhestr hir o wefannau i chi sydd yn cynnig gwahanol wasanaethau … ond yn aml y lle gorau i gyfeirio ato yw ‘Money Advice Service’ gwasanaeth annibynnol a sefydlwyd gan y llywodraeth. Mae’n cynnwys llawer iawn o adnoddau yn cynnwys cyfrifianellau (cynilion, cyfrifianellau costau babi, gwirio cyllidebau, cyfrifianellau ysgaru / gwahanu) marwolaeth partner, tabl cymharu, templadau llythyrau, clipiau fideo ar nifer o bynciau h.y. gofalu am faterion ariannol ar ôl i’ch partner farw), cynllunwyr cyllidebau Nid yw’n cael ei rheoleiddio felly nid yw’n rhoi cyngor ariannol penodol
  27. Cliciwch i ychwanegu testun
  28. Mae hyfforddiant ar gael i sefydliadau ar sut i ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau’r wefan ac ati
  29. Mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng benthyciadau diwrnod cyflog cyfreithiol a trwyddedig â benthycwyr arian anghyfreithlon / benthycwyr arian didrwydded. Mae unrhyw un sy’n benthyca arian heb drwydded yn torri’r gyfraith Yn targedu’r bobl mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas Gallwch ofyn i’r tîm ddod i roi sgwrs i’ch sefydliad. Byddant yn gweithredu ar sail unrhyw wybodaeth, ni waeth pa mor amhendant ydyw, ac er bod yr Uned wedi’i lleoli yng Nghaerdydd maent yn treulio llawer o amser yn y Gogledd. Gan fod y benthyciad yn anghyfreithlon, nid oes yn rhaid i’r dioddefwr dalu’r arian yn ôl. Cynigir pecyn amddiffyn llawn i’r dioddefwr.
  30. Eich eiddo chi yw’r pecynnau hyn, felly gellir diweddaru’r dogfennau. Os ydych yn dymuno, gallwch ysgrifennu ar y tabiau rhannu i’w gwneud yn haws i chi bori drwy’r pecyn
  31. Adborth mewn parau
  32. Cliciwch i ychwanegu testun
  33. Ar ôl heddiw, sut ydych yn bwriadu mynd ati i ymgorffori Cynhwysiant Ariannol yn eich gwaith. Ar nodiadau gludiog Heriau wrth fynd i’r afael â Chynhwysiant Ariannol yn eich gwaith Cyfryngau ar gyfer mynd i’r afael â Chynhwysiant Ariannol yn eich gwaith Eich annog i ystyried sut y byddwch yn ymgorffori’r hyn a ddysgwyd / adnoddau yn eich gwaith a’r rhwystrau / manteision
  34. Mae derbyn adborth yn bwysig iawn i’r prosiect, felly byddem yn gwerthfawrogi’n fawr petaech yn treulio munud neu ddau i lenwi’r ffurflen. Prosiect peilot yw hwn ar hyn o bryd, felly bydd eich sylwadau yn cael eu defnyddio i ddatblygu’r sesiwn. Ffurflenni Gwerthuso Gwerthusiad 12 wythnos / Logs Hyfforddiant Cynhwysiant Ariannol Astudiaethau achos – Cyfle i ddangos eich gwaith, dangos enghreifftiau o arfer gorau y gellid eu defnyddio i ddylanwadu ar bolisi cymdeithasol Byddwn yn anfon diweddariadau electronig atoch, oni bai eich bod yn dweud wrthym nad ydych eisiau eu derbyn Gofyn am astudiaethau achos Byddwn yn ymweld â chi eto mewn 12 wythnos