2. Sut mae cofio darn estynedig o waith
llafar ar y cof?
• D’abord…edrychwch ar lefel geiriol:
Pa eiriau sydd yn anodd i’w cofio?
Pam ydyn nhw’n anodd i’w cofio?
Ystyr? / Sillafu? / Lleoliad yn y frawddeg? / Ynganu?
Sut fedrwch chi gofio’r geiriau yma? Meddyliwch
am ddull gyda’ch partner!
4. Cofio darn estynedig o waith ar y cof
• Ensuite…edrychwch dros y testun yn ei
chyfanrwydd:
Oes unrhyw frawddegau dydych chi ddim yn deall?
• Sicrhewch eich bod yn DEALL eich darn yn llwyr!
Os nad ydych yn deall unrhyw ddarn – beth fedrwch
chi wneud?
5. Cofio darn estynedig o waith ar y cof
• Après…dysgwch un darn neu baragraff ar y tro.
• Ne vous inquietez pas – Madame James a des
techniques pour vous!
6. Technique No. 1 => 3-2-1
• Darllenwch eich darn yn uchel, gan gymryd
tro gyda’ch ffrind neu aelod o’ch teulu i
ddweud unai 1, 2 neu 3 gair ar y tro.
• Pwy bynnag sy’n dweud gair olaf y
frawddeg sy’n colli pob tro!
• Essayez-le maintenant!
• Sut mae’r dechneg yma yn ein helpu?
7. Technique 2 => Action!
• Rydym wedi defnyddio meim yn aml wrth
ddysgu geiriau a strwythurau yn y dosbarth.
Defnyddiwch y meimiau yma eto wrth ddysgu
eich gwaith!
• Wrth i chi ddarllen eich gwaith yn uchel,
defnyddiwch unrhyw symudiadau medrwch
gofio o’r dosbarth – neu dyfeisiwch rai eich
hunain!
• Essayez-le maintenant!
• Sut mae’r dechneg yma yn ein helpu?
8. Technique No. 3 => On dessine…
• Gadewch eich artist mewnol allan!
• Tynnwch luniau i ddangos ystyr y
brawddegau a gwelwch os medrwch ail-
greu’r frawddeg ar lafar dim ond trwy edrych
ar y lluniau.
• Dewiswch dau frawddeg o’ch cyflwyniad nawr a
newidiwch nhw i luniau. Yna, ceisiwch ddweud
eich brawddegau yn uchel i’ch partner.
• Sut mae’r dechneg yma yn ein helpu?
9. Technique 4 => Code Secret!
• Ysgrifennwch lythrennau cyntaf eich geiriau yn
unig. Cofiwch gynnwys eich holl atalnodi!
(Pam?)
• Fedrwch chi gofio eich cynnwys gan
ddefnyddio’r cod yn unig? Uwcholeuwch
unrhyw lythrennau rydych yn cael trafferth yn
cofio a gwiriwch nhw’n ofalus cyn trio eto.
• Essayez-le maintenant!
• Sut mae’r dechneg yma yn ein helpu?
10. Finalement (très important)…!
• Cofiwch ddysgu ychydig bob nos – 15 munud
bob nos am wythnos yn llawer mwy effeithiol
na 2 awr y noswaith o flaen yr arholiad.
• Gallwch ddarllen yn dawel yn eich
pen, ddarllen yn uchel, ysgrifennu fe
mas, recordio eich hunan ar eich ffôn a
gwrando nol arno…cofiwch i’w ymarfer mewn
amrywiaeth o ffyrdd er mwyn helpu’r gwaith i
sticio yn y cof!