2. Le présent
Mae amser y presennol yn cael ei ddefnyddio
i esbonio:
yr hyn rydych yn gwneud nawr
(Rwy’n gwneud fy ngwaith cartref)
yr hyn rydych yn gwneud fel arfer
(Rwy’n chwarae rygbi ar ddydd Sul)
eich barn yn gyffredinol
(Rwy’n hoffi mynd i’r sinema)
ffeithiau sydd ddim yn newid
(Fy enw i yw Sioned)
3. Attention!
• Rhaid cymryd gofal wrth gyfieithu
berfau yn y presennol o’r
Gymraeg/Saesneg i’r Ffrangeg.
• E.e. wrth gyfieithu ‘Rydw i yn chwarae’,
chwarae
mae nifer yn gwneud camgymeriad drwy
gyfieithu ‘Rydw i yn’ a ‘chwarae’ ar
yn chwarae
wahan (yn Saesneg – ‘I am’ a ‘playing’) –
am playing
ac yn ysgrifennu rhywbeth tebyg i hyn:
Je suis joue NEU je suis jouer
4. Meddyliwch yn ofalus!
• Rhaid bob amser cysidro yr hyn sydd
yn dod ar ôl ‘Rydw i yn’ – os mai
yn
rhywbeth gallwch wneud yw hi (yn
hytrach nac ansoddair i ddisgrifio),
yna’r gair sy’n dilyn yw’r ferf sydd ei
angen: Rydw i’n chwarae / I am playing
• ‘Chwarae’ (‘jouer’ yn Ffrangeg) yw’r
ferf sydd ei angen yn yr achos yma.
5. Gwneud y dewis cywir
• Felly, gan ddefnyddio’r ferf ‘jouer’,
er
a’i ddefnyddio yn amser y presennol,
mi ddylech gyfieithu ‘Rydw i yn
chwarae’ fel hyn:
chwarae
Je joue
(Nodwch: Wrth gyfieithu o’r Saesneg,
mae ‘je joue’ yn gallu golygu unai I
play neu I am playing )
6. Vocabulaire utile
Geirfa defnyddiol i’w gynnwys wrth
ddefnyddio berfau yn y presennol:
•Heddiw = Aujourd’hui
•Nawr = Maintenant
•Fel arfer = D’habitude
•Fel arfer = Normalement
•Yn aml = Souvent
•Pob dydd = Tous les jours
•Pob wythnos = Chaque semaine
•Yn reolaidd = Régulièrement
7. Les verbes -er
regarder (gwylio)
Je regarde Nous regardons
Tu regardes Vous regardez
Il/Elle regarde Ils/Elles regardent
8. Les verbes -ir
finir (gorffen)
Je finis Nous finissons
Tu finis Vous finissez
Il/Elle finit Ils/Elles finissent
9. Les verbes -re
perdre (colli)
Je perds Nous perdons
Tu perds Vous perdez
Il/Elle perd Ils/Elles perdent
10. Nawr, ceisiwch gwblhau eich
rhestri o ferfau rheolaidd
eraill yn eich llyfryn.
Yna, ceisiwch yr ymarferion
sy’n dilyn.