SlideShare a Scribd company logo
1 of 8
Rôl Ymchwil a Gwerthuso
Cyflwyniad
Mae Pobl a Gwaith yn gwmni ac elusen Gymreig a sefydlwyd yn yr 1980au mewn
ymateb i'r dadleoliad economaidd a chymdeithasol a achoswyd gan ddad-
ddiwydiannu yng Nghymru. Ers hynny, rydym wedi newid bywydau drwy gymysgedd
unigryw o waith cymunedol wedi'i ariannu a gwaith ymchwil a gwerthuso wedi'i
gomisiynu. Mae unrhyw arian dros ben o incwm a enillir yn mynd i gefnogi gwaith
gyda chymunedau.
Mae ein gwaith ymchwil a gwerthuso yn cynnwys cymysgedd cyffrous o ddatblygu
polisi llywodraeth blaenllaw, ymatebion a ddatblygir yn lleol i faterion ynghylch sgiliau
a chyflogaeth a gwaith yn y sector gwirfoddol i adeiladu newid cynaliadwy. Mae
gwaith diweddar i Lywodraeth Cymru yn cynnwys:
 Gwerthusiad o'r Gwarant i Bobl Ifanc Cymru
 Gwerthusiad o Gymunedau am Waith a Chymunedau am Waith a Mwy
 Adolygiad o'r Galw, Capasiti a Chynllun Gwasanaethau Niwroddatblygiadol
 Adolygiad o Ddarpariaeth Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru
 Astudiaeth Cyflogaeth a Chymorth Sgiliau Ffoaduriaid
 Adolygiad o'r dystiolaeth ar wasanaethau iechyd meddwl pob oed
 Gwerthusiad o'r rhaglen beilot CAMHS Mewngymorth i Ysgolion
 Adolygiad o waith ieuenctid yng Nghymru
Rydym hefyd yn gweithio ar astudiaethau ar gyfer y sector gwirfoddol gan gynnwys,
Astudiaeth ar Werth Cymdeithasol Sefydliadau Ieuenctid ; Gwerthusiad o Buddsoddi
Lleol ; cymorth gwerthuso i Meddwl Ymlaen yng Ngogledd Cymru; adolygiad o
addysg oedolion yng Nghymru a phrosiectau llai gan gynnwys gwerthuso gwaith
cwmni theatr cymunedol a rhaglen gymorth i bobl hŷn mewn teuluoedd sy'n ffermio.
Y canolbwynt ar gyfer ein holl waith yw y dylai fod yn ystyrlon, yn wrthrychol ac yn
effeithiol. Rydym yn dîm bach iawn sydd, serch hynny, yn cyflawni llawer drwy
ddefnyddio data, dadansoddi deallus a sgiliau myfyrio yn ein holl waith.
Rôl ymchwil a gwerthuso
Rydym yn poeni am y gwaith rydym yn ei wneud ac am ddod o hyd i rywun a fydd yn
poeni amdano hefyd. Mae'r gwaith yn aml yn ddwys, gan weithio i derfynau amser,
ond yn ddiddorol iawn hefyd, ac mae gan lawer ohono y potensial i wneud
gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru. Rydym yn gwerthfawrogi ein
staff ac yn buddsoddi ynddynt a chefnogi eu datblygiad proffesiynol parhaus.
Bydd y rôl yn cael ei datblygu o amgylch profiad a sgiliau'r ymgeisydd llwyddiannus
ond gallai gynnwys:
 Adolygiadau llenyddiaeth a pholisi
 Arolygon
 Cyfweliadau a grwpiau ffocws
 Dadansoddi data ansoddol a meintiol
 Ysgrifennu adroddiadau
 Nodi gwaith posibl
 Paratoi tendrau
 Cymorth gwerthuso i dîm gwaith cymunedol Pobl a Gwaith
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm o dri ymchwilydd arall a thîm
ehangach o ymchwilwyr cyswllt a bydd disgwyliad i weithio'n agos iawn gyda
chydweithwyr.
Canolfan weithio
Mae'r swyddfa yng Nghaerdydd ac mae'r tîm cymunedol yn y Rhondda. Gall y
gweithiwr ymchwil a gwerthuso weithio o bell neu o'r swyddfa yn ôl ei ddymuniad ond
bydd yn ofynnol ymweld â'r ganolfan yn y Rhondda o leiaf unwaith y mis a
Chaerdydd yn amlach. Mae gweddill y tîm ymchwil yn swyddfa Caerdydd ar un neu
ddau ddiwrnod yr wythnos, gan weithio gartref ar gyfer gweddill yr amser. Er bod
llawer o'n gwaith ymchwil bellach yn cael ei wneud o bell, mae ein hymchwil yn dal i
ymgymryd â pheth gwaith maes fel cyfweliadau a grwpiau ffocws wyneb yn wyneb a
byddai disgwyl i'r gweithiwr newydd gyfrannu at hyn, a fyddai'n cynnwys teithio
ledled Cymru.
Cyflog
Mae gennym ddiddordeb mewn dod o hyd i'r person iawn ac felly rydym yn ceisio
bod mor hyblyg â phosibl o ran y cam y maent arno yn eu gyrfa. Gall person
graddedig sydd â phrofiad cyfyngedig o waith ymchwil a gwerthuso ddisgwyl cael ei
dalu £23,000 ynghyd â chyfraniad pensiwn 5% am swydd amser llawn. Gall
gweithiwr ymchwil a gwerthuso profiadol iawn sy'n gallu ysgrifennu adroddiadau
astudio a thendrau a chynorthwyo wrth sicrhau gwaith ar gyfer y dyfodol ddisgwyl
cael ei dalu £33,000 ynghyd â phensiwn 5% am swydd amser llawn. Rhwng y ddau
eithaf hyn bydd swm a math y profiad, sgiliau a chapasiti i gyfrannu at ein gwaith yn
cael eu hystyried wrth benderfynu ar y cyflog sydd i'w gynnig.
Bydd ymgeisydd sy’n dymuno gweithio llai nag amser llawn yn cael ei dalu ar sail pro
rata.
Proses recriwtio
RHAID gwneud ceisiadau gan ddefnyddio'r ffurflen gais a dylai gynnwys CV. Y
dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 8am ar 20 March ac ni ellir ystyried unrhyw
gais sy'n cyrraedd ar ôl yr amser hwnnw. Cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb yng
Nghaerdydd ar 31 Mawrth.
Manyleb y person
Gofynnol
Addysg i safon gradd
Chwilfrydedd a diddordeb mewn polisi Cymru mewn meysydd fel addysg,
hyfforddiant a chyflogaeth, datblygu cymunedol, (lleihau) anghydraddoldebau,
anabledd ac iechyd
Meddwl ymchwiliol a dadansoddol
Sgiliau ysgrifenedig a llafar rhagorol (e.e. fel cyfwelydd ac wrth gyfathrebu
canfyddiadau i eraill)
Sgiliau TG e.e. MS Word, Excel, Teams, PowerPoint)
Yn hapus i weithio ar eich pen eich hun ac yn hunangyfeiriedig ond i fod yn rhan o
dîm hefyd
Yn ymrwymedig i gynhyrchu gwaith o ansawdd uchel; sylw i fanylion.
Gonest, dibynadwy ac yn agored i heriau newydd
Parodrwydd i deithio ledled Cymru.
Dymunol
Yr iaith Gymraeg
Gradd Meistr neu uwch mewn dulliau ymchwil, polisi cymdeithasol neu economeg
(neu debyg)
Profiad o werthuso a/neu ymchwil iechyd gymdeithasol neu gymunedol
Ymchwil feintiol a/neu ansoddol a/neu sgiliau dadansoddi
Ffurflen gais
Defnyddiwch y ffurflen hon ar y cyd â'ch CV i roi darlun mor glir â phosibl i ni o ran
pam yr hoffech ymuno â'n tîm ymchwil a'r hyn y gallwch ei gynnig.
Pobl a Gwaith: cymerwch ychydig o amser i edrych ar wefan Pobl a Gwaith a'r
adroddiadau y gallwch eu gweld drwy'r dolenni yn y disgrifiad swydd. Esboniwch
pam y byddech am weithio gyda ni (hyd at uchafswm o 750 o eiriau).
Eich cefndir: atodwch eich CV ac, yn ychwanegol, nodwch isod ddarlun mor glir ag
y gallwch am yr hyn rydych yn teimlo y gallwch ei gynnig i Pobl a Gwaith. Dylai hyn
gynnwys sut y byddai eich sgiliau, eich profiad hyd yma, yn gyflogedig ac yn
wirfoddol, a'ch diddordebau yn cyfrannu at ein gwaith (hyd at uchafswm o 750 gair).
Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau ac anfantais: mae llawer o'n gwaith yn
canolbwyntio ar ffyrdd y gall ymchwil a gwerthuso gael eu defnyddio i fynd i'r afael ag
anghydraddoldebau addysgol, economaidd, cymdeithasol ac iechyd. Beth, i chi, yw'r
heriau allweddol y mae Cymru yn eu hwynebu yn yr ychydig flynyddoedd nesaf a sut
yr hoffech weld ymchwil a gwerthuso yn cael eu defnyddio i fynd i'r afael â'r materion
hyn (hyd at hyd at uchafswm o 750 gair)?
Hygyrchedd: Nod Pobl a Gwaith yw gwneud y gweithle yn hygyrch a dileu
rhwystrau diangen i weithio effeithiol.
Diogelu: Mae'n ofynnol i'r holl dîm ymchwil gael gwiriad DBS cyfoes. Nid yw
euogfarn o reidrwydd yn rhwystr i gyflogaeth yn dibynnu ar ei natur. A oes unrhyw
beth y dylem ei wybod amdanoch chi a fyddai'n dod i'r amlwg drwy wiriad DBS?
Dychwelwch y ffurflen hon gyda'ch CV i admin@peopleandwork.org.uk erbyn
8am ar 20 Mawrth. Cynhelir cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ar y rhestr fer yng
Nghaerdydd ar 31 Mawrth.

More Related Content

More from James Hall

Community Digital Assistant job description
Community Digital Assistant job descriptionCommunity Digital Assistant job description
Community Digital Assistant job descriptionJames Hall
 
Coding resources
Coding resourcesCoding resources
Coding resourcesJames Hall
 
Rhondda and Cynon Digital champion specification
Rhondda and Cynon Digital champion specificationRhondda and Cynon Digital champion specification
Rhondda and Cynon Digital champion specificationJames Hall
 
Participatory Action Research course - Cardiff Met
Participatory Action Research course - Cardiff MetParticipatory Action Research course - Cardiff Met
Participatory Action Research course - Cardiff MetJames Hall
 
Emp booking form [1987636]
Emp booking form [1987636]Emp booking form [1987636]
Emp booking form [1987636]James Hall
 
Glyncoch infograph
Glyncoch infographGlyncoch infograph
Glyncoch infographJames Hall
 
Rhondda Volunteering Project Worker
Rhondda Volunteering Project WorkerRhondda Volunteering Project Worker
Rhondda Volunteering Project WorkerJames Hall
 
Stronger Rhondda Gryfach baseline paper
Stronger Rhondda Gryfach baseline paperStronger Rhondda Gryfach baseline paper
Stronger Rhondda Gryfach baseline paperJames Hall
 
Glyncoch: a learning community
Glyncoch: a learning communityGlyncoch: a learning community
Glyncoch: a learning communityJames Hall
 
Job specification for Community Attendance Worker, Willows High School
Job specification for Community Attendance Worker, Willows High SchoolJob specification for Community Attendance Worker, Willows High School
Job specification for Community Attendance Worker, Willows High SchoolJames Hall
 
Application form for Community Attendance Officer
Application form for Community Attendance OfficerApplication form for Community Attendance Officer
Application form for Community Attendance OfficerJames Hall
 
Glyncoch apprentice
Glyncoch apprenticeGlyncoch apprentice
Glyncoch apprenticeJames Hall
 
FREE university learning in Glyncoch
FREE university learning in GlyncochFREE university learning in Glyncoch
FREE university learning in GlyncochJames Hall
 
Pontypridd Communities First Job Clubs
Pontypridd Communities First Job ClubsPontypridd Communities First Job Clubs
Pontypridd Communities First Job ClubsJames Hall
 
Using statistics for Communities First clusters
Using statistics for Communities First clustersUsing statistics for Communities First clusters
Using statistics for Communities First clustersJames Hall
 
Where next for the Welsh Voluntary Sector?
Where next for the Welsh Voluntary Sector?Where next for the Welsh Voluntary Sector?
Where next for the Welsh Voluntary Sector?James Hall
 
Research Intern opportunity - 1 year contract from January 2015
Research Intern opportunity - 1 year contract from January 2015Research Intern opportunity - 1 year contract from January 2015
Research Intern opportunity - 1 year contract from January 2015James Hall
 
Play worker part time
Play worker part timePlay worker part time
Play worker part timeJames Hall
 
Play leader and play worker posts - Glyncoch & Ynysybwl
Play leader and play worker posts - Glyncoch & YnysybwlPlay leader and play worker posts - Glyncoch & Ynysybwl
Play leader and play worker posts - Glyncoch & YnysybwlJames Hall
 
Play leader/work
Play leader/workPlay leader/work
Play leader/workJames Hall
 

More from James Hall (20)

Community Digital Assistant job description
Community Digital Assistant job descriptionCommunity Digital Assistant job description
Community Digital Assistant job description
 
Coding resources
Coding resourcesCoding resources
Coding resources
 
Rhondda and Cynon Digital champion specification
Rhondda and Cynon Digital champion specificationRhondda and Cynon Digital champion specification
Rhondda and Cynon Digital champion specification
 
Participatory Action Research course - Cardiff Met
Participatory Action Research course - Cardiff MetParticipatory Action Research course - Cardiff Met
Participatory Action Research course - Cardiff Met
 
Emp booking form [1987636]
Emp booking form [1987636]Emp booking form [1987636]
Emp booking form [1987636]
 
Glyncoch infograph
Glyncoch infographGlyncoch infograph
Glyncoch infograph
 
Rhondda Volunteering Project Worker
Rhondda Volunteering Project WorkerRhondda Volunteering Project Worker
Rhondda Volunteering Project Worker
 
Stronger Rhondda Gryfach baseline paper
Stronger Rhondda Gryfach baseline paperStronger Rhondda Gryfach baseline paper
Stronger Rhondda Gryfach baseline paper
 
Glyncoch: a learning community
Glyncoch: a learning communityGlyncoch: a learning community
Glyncoch: a learning community
 
Job specification for Community Attendance Worker, Willows High School
Job specification for Community Attendance Worker, Willows High SchoolJob specification for Community Attendance Worker, Willows High School
Job specification for Community Attendance Worker, Willows High School
 
Application form for Community Attendance Officer
Application form for Community Attendance OfficerApplication form for Community Attendance Officer
Application form for Community Attendance Officer
 
Glyncoch apprentice
Glyncoch apprenticeGlyncoch apprentice
Glyncoch apprentice
 
FREE university learning in Glyncoch
FREE university learning in GlyncochFREE university learning in Glyncoch
FREE university learning in Glyncoch
 
Pontypridd Communities First Job Clubs
Pontypridd Communities First Job ClubsPontypridd Communities First Job Clubs
Pontypridd Communities First Job Clubs
 
Using statistics for Communities First clusters
Using statistics for Communities First clustersUsing statistics for Communities First clusters
Using statistics for Communities First clusters
 
Where next for the Welsh Voluntary Sector?
Where next for the Welsh Voluntary Sector?Where next for the Welsh Voluntary Sector?
Where next for the Welsh Voluntary Sector?
 
Research Intern opportunity - 1 year contract from January 2015
Research Intern opportunity - 1 year contract from January 2015Research Intern opportunity - 1 year contract from January 2015
Research Intern opportunity - 1 year contract from January 2015
 
Play worker part time
Play worker part timePlay worker part time
Play worker part time
 
Play leader and play worker posts - Glyncoch & Ynysybwl
Play leader and play worker posts - Glyncoch & YnysybwlPlay leader and play worker posts - Glyncoch & Ynysybwl
Play leader and play worker posts - Glyncoch & Ynysybwl
 
Play leader/work
Play leader/workPlay leader/work
Play leader/work
 

Ffurflen Gais a ddisgrifiad swydd.docx

  • 1. Rôl Ymchwil a Gwerthuso Cyflwyniad Mae Pobl a Gwaith yn gwmni ac elusen Gymreig a sefydlwyd yn yr 1980au mewn ymateb i'r dadleoliad economaidd a chymdeithasol a achoswyd gan ddad- ddiwydiannu yng Nghymru. Ers hynny, rydym wedi newid bywydau drwy gymysgedd unigryw o waith cymunedol wedi'i ariannu a gwaith ymchwil a gwerthuso wedi'i gomisiynu. Mae unrhyw arian dros ben o incwm a enillir yn mynd i gefnogi gwaith gyda chymunedau. Mae ein gwaith ymchwil a gwerthuso yn cynnwys cymysgedd cyffrous o ddatblygu polisi llywodraeth blaenllaw, ymatebion a ddatblygir yn lleol i faterion ynghylch sgiliau a chyflogaeth a gwaith yn y sector gwirfoddol i adeiladu newid cynaliadwy. Mae gwaith diweddar i Lywodraeth Cymru yn cynnwys:  Gwerthusiad o'r Gwarant i Bobl Ifanc Cymru  Gwerthusiad o Gymunedau am Waith a Chymunedau am Waith a Mwy  Adolygiad o'r Galw, Capasiti a Chynllun Gwasanaethau Niwroddatblygiadol  Adolygiad o Ddarpariaeth Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru  Astudiaeth Cyflogaeth a Chymorth Sgiliau Ffoaduriaid  Adolygiad o'r dystiolaeth ar wasanaethau iechyd meddwl pob oed  Gwerthusiad o'r rhaglen beilot CAMHS Mewngymorth i Ysgolion  Adolygiad o waith ieuenctid yng Nghymru Rydym hefyd yn gweithio ar astudiaethau ar gyfer y sector gwirfoddol gan gynnwys, Astudiaeth ar Werth Cymdeithasol Sefydliadau Ieuenctid ; Gwerthusiad o Buddsoddi Lleol ; cymorth gwerthuso i Meddwl Ymlaen yng Ngogledd Cymru; adolygiad o addysg oedolion yng Nghymru a phrosiectau llai gan gynnwys gwerthuso gwaith cwmni theatr cymunedol a rhaglen gymorth i bobl hŷn mewn teuluoedd sy'n ffermio. Y canolbwynt ar gyfer ein holl waith yw y dylai fod yn ystyrlon, yn wrthrychol ac yn effeithiol. Rydym yn dîm bach iawn sydd, serch hynny, yn cyflawni llawer drwy ddefnyddio data, dadansoddi deallus a sgiliau myfyrio yn ein holl waith.
  • 2. Rôl ymchwil a gwerthuso Rydym yn poeni am y gwaith rydym yn ei wneud ac am ddod o hyd i rywun a fydd yn poeni amdano hefyd. Mae'r gwaith yn aml yn ddwys, gan weithio i derfynau amser, ond yn ddiddorol iawn hefyd, ac mae gan lawer ohono y potensial i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru. Rydym yn gwerthfawrogi ein staff ac yn buddsoddi ynddynt a chefnogi eu datblygiad proffesiynol parhaus. Bydd y rôl yn cael ei datblygu o amgylch profiad a sgiliau'r ymgeisydd llwyddiannus ond gallai gynnwys:  Adolygiadau llenyddiaeth a pholisi  Arolygon  Cyfweliadau a grwpiau ffocws  Dadansoddi data ansoddol a meintiol  Ysgrifennu adroddiadau  Nodi gwaith posibl  Paratoi tendrau  Cymorth gwerthuso i dîm gwaith cymunedol Pobl a Gwaith Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm o dri ymchwilydd arall a thîm ehangach o ymchwilwyr cyswllt a bydd disgwyliad i weithio'n agos iawn gyda chydweithwyr. Canolfan weithio Mae'r swyddfa yng Nghaerdydd ac mae'r tîm cymunedol yn y Rhondda. Gall y gweithiwr ymchwil a gwerthuso weithio o bell neu o'r swyddfa yn ôl ei ddymuniad ond bydd yn ofynnol ymweld â'r ganolfan yn y Rhondda o leiaf unwaith y mis a Chaerdydd yn amlach. Mae gweddill y tîm ymchwil yn swyddfa Caerdydd ar un neu ddau ddiwrnod yr wythnos, gan weithio gartref ar gyfer gweddill yr amser. Er bod llawer o'n gwaith ymchwil bellach yn cael ei wneud o bell, mae ein hymchwil yn dal i ymgymryd â pheth gwaith maes fel cyfweliadau a grwpiau ffocws wyneb yn wyneb a byddai disgwyl i'r gweithiwr newydd gyfrannu at hyn, a fyddai'n cynnwys teithio ledled Cymru.
  • 3. Cyflog Mae gennym ddiddordeb mewn dod o hyd i'r person iawn ac felly rydym yn ceisio bod mor hyblyg â phosibl o ran y cam y maent arno yn eu gyrfa. Gall person graddedig sydd â phrofiad cyfyngedig o waith ymchwil a gwerthuso ddisgwyl cael ei dalu £23,000 ynghyd â chyfraniad pensiwn 5% am swydd amser llawn. Gall gweithiwr ymchwil a gwerthuso profiadol iawn sy'n gallu ysgrifennu adroddiadau astudio a thendrau a chynorthwyo wrth sicrhau gwaith ar gyfer y dyfodol ddisgwyl cael ei dalu £33,000 ynghyd â phensiwn 5% am swydd amser llawn. Rhwng y ddau eithaf hyn bydd swm a math y profiad, sgiliau a chapasiti i gyfrannu at ein gwaith yn cael eu hystyried wrth benderfynu ar y cyflog sydd i'w gynnig. Bydd ymgeisydd sy’n dymuno gweithio llai nag amser llawn yn cael ei dalu ar sail pro rata. Proses recriwtio RHAID gwneud ceisiadau gan ddefnyddio'r ffurflen gais a dylai gynnwys CV. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 8am ar 20 March ac ni ellir ystyried unrhyw gais sy'n cyrraedd ar ôl yr amser hwnnw. Cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd ar 31 Mawrth.
  • 4. Manyleb y person Gofynnol Addysg i safon gradd Chwilfrydedd a diddordeb mewn polisi Cymru mewn meysydd fel addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, datblygu cymunedol, (lleihau) anghydraddoldebau, anabledd ac iechyd Meddwl ymchwiliol a dadansoddol Sgiliau ysgrifenedig a llafar rhagorol (e.e. fel cyfwelydd ac wrth gyfathrebu canfyddiadau i eraill) Sgiliau TG e.e. MS Word, Excel, Teams, PowerPoint) Yn hapus i weithio ar eich pen eich hun ac yn hunangyfeiriedig ond i fod yn rhan o dîm hefyd Yn ymrwymedig i gynhyrchu gwaith o ansawdd uchel; sylw i fanylion. Gonest, dibynadwy ac yn agored i heriau newydd Parodrwydd i deithio ledled Cymru. Dymunol Yr iaith Gymraeg Gradd Meistr neu uwch mewn dulliau ymchwil, polisi cymdeithasol neu economeg (neu debyg) Profiad o werthuso a/neu ymchwil iechyd gymdeithasol neu gymunedol Ymchwil feintiol a/neu ansoddol a/neu sgiliau dadansoddi
  • 5. Ffurflen gais Defnyddiwch y ffurflen hon ar y cyd â'ch CV i roi darlun mor glir â phosibl i ni o ran pam yr hoffech ymuno â'n tîm ymchwil a'r hyn y gallwch ei gynnig. Pobl a Gwaith: cymerwch ychydig o amser i edrych ar wefan Pobl a Gwaith a'r adroddiadau y gallwch eu gweld drwy'r dolenni yn y disgrifiad swydd. Esboniwch pam y byddech am weithio gyda ni (hyd at uchafswm o 750 o eiriau).
  • 6. Eich cefndir: atodwch eich CV ac, yn ychwanegol, nodwch isod ddarlun mor glir ag y gallwch am yr hyn rydych yn teimlo y gallwch ei gynnig i Pobl a Gwaith. Dylai hyn gynnwys sut y byddai eich sgiliau, eich profiad hyd yma, yn gyflogedig ac yn wirfoddol, a'ch diddordebau yn cyfrannu at ein gwaith (hyd at uchafswm o 750 gair).
  • 7. Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau ac anfantais: mae llawer o'n gwaith yn canolbwyntio ar ffyrdd y gall ymchwil a gwerthuso gael eu defnyddio i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau addysgol, economaidd, cymdeithasol ac iechyd. Beth, i chi, yw'r heriau allweddol y mae Cymru yn eu hwynebu yn yr ychydig flynyddoedd nesaf a sut yr hoffech weld ymchwil a gwerthuso yn cael eu defnyddio i fynd i'r afael â'r materion hyn (hyd at hyd at uchafswm o 750 gair)?
  • 8. Hygyrchedd: Nod Pobl a Gwaith yw gwneud y gweithle yn hygyrch a dileu rhwystrau diangen i weithio effeithiol. Diogelu: Mae'n ofynnol i'r holl dîm ymchwil gael gwiriad DBS cyfoes. Nid yw euogfarn o reidrwydd yn rhwystr i gyflogaeth yn dibynnu ar ei natur. A oes unrhyw beth y dylem ei wybod amdanoch chi a fyddai'n dod i'r amlwg drwy wiriad DBS? Dychwelwch y ffurflen hon gyda'ch CV i admin@peopleandwork.org.uk erbyn 8am ar 20 Mawrth. Cynhelir cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ar y rhestr fer yng Nghaerdydd ar 31 Mawrth.