WISE KIDS Leaflet: Cyberbullying and Sexting (in Welsh)
- 1. Hawlfraint © 2012 WISE KIDS. Trwydded Creative Commons: CC BY-NC-ND 3.0
Bwlio Seiber a
Negeseuon o
Natur Rhywiol
Bwlio Seiber a
Negeseuon o
Natur Rhywiol
http://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/3.0/deed.en_GB
www.wisekids.org.uk
Allwch chi ddim dianc rhagddo
oherwydd gall y troseddwyr
anfon negeseuon testun neu
bostio sylwadau unrhyw amser
o’r dydd. Weithiau hefyd bydd
yn anodd gweithio allan pwy
sy’n anfon y negeseuon.
Mae rhai pobl ifanc hefyd wedi bod yn gysylltiedig â digwyddiadau ’secstio’ – h.y., defnyddio‘u
ffonau symudol, camerau neu gamerau gwe i greu ac anfon delweddau a fideos cignoeth ohonyn
nhw’u hunain neu o’u cariadon. Mae hyn yn anghyfreithlon yn y DU ac yn drosedd y gellid ei
herlyn os yw’r delweddau/fideos o rywun sy’n iau na 18 oed. Da chi, dywedwch wrth eich ffrindiau
am hyn! Gall canlyniadau cymdeithasol ac emosiynol y gweithredoedd hyn fod yn ddifrifol.
Felly beth allwch chi ei wneud?
Mae rhwydweithiau cymdeithasol, sgwrsio, messenger, negeseuon testun, chwarae gemau a
gweithgareddau Rhyngrwyd eraill yn wych pan fyddan nhw’n cael eu defnyddio mewn ffordd
bositif! Yn anffodus, mewn nifer fach o achosion mae’r technolegau hyn wedi’u defnyddio i
aflonyddu a bychanu eraill. Dyma beth yw ystyr ‘bwlio seiber’ a gall fod yn beth ofnadwy am nifer
o resymau:
Oherwydd natur cyhoeddus
a firal y Rhyngrwyd, gellir
lledaenu’r e-gynnwys negyddol
hwn yn rhwydd, gan ddefnyddio
YouTube,Gweplyfr a hyd yn oed
dechnolegau fel Bluetooth.
Gall eraill sy’n gweld y cynnwys
hwn hefyd ei storio neu wneud
copїau ohono felly mae’n amhosib
ei ddileu. Mewn rhai achosion,
defnyddir cynnwys o’r fath i lunio
proffiliau ffug neu wefannau ffug
o’r dioddefwr!
• Peidiwch fyth â rhannu nag anfon unrhyw un o’r negeseuon hyn ymlaen ond cadwch nhw fel tystiolaeth. Yn
y DU, mae yna achosion wedi bod o bobl ifanc yn cael eu herlyn am fwlio seiber
• Os dewch ar draws unrhyw ddigwyddiadau bwlio/bwlio seiber, neu os cewch chi eich hun unrhyw negeseuon
cas, neu rai sy’n aflonyddu arnoch, blociwch yr anfonwr (os yn bosib) a dywedwch wrth eich rhieni neu wrth
oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo ar unwaith! Efallai y byddwch am ofyn i’ch rhieni ddweud wrth eich athro
ysgol os yw’r bwlio’n ymwneud â phlant eraill o’r ysgol. Mae gwefan CyberMentors hefyd yn rhoi cefnogaeth
dda: http://www.cybermentors.org.uk
• Os cafodd proffil ffug ei sefydlu, neu os yw rhywun yn postio sylwadau neu negeseuon cas ar-lein, gallwch
riportio hyn drwy ddefnyddio’r cyfleuster ‘Report Abuse’ sydd ar y gwefannau eu hunain. Bydd sawl cwmni fel
Gweplyfr yn gweithredu’n gyflym i ddileu’r cynnwys cas neu’r cyfrif. Am fwy o wybodaeth gweler:
http://www.facebook.com/safety a http://www.google.com/support/youtube
• Os ydych chi neu rywun y gwyddoch amdano wedi derbyn negeseuon/ cynnwys rhywiol amhriodol, gallwch
riportio hyn i’r Ganolfan Ymelwa ar Blant a Gwarchodaeth Ar-lein (CEOP):
https://www.ceop.police.uk/Ceop-Report. Os ydych chi wedi cael eich hunan yn gysylltiedig â digwyddiad
secstio dywedwch wrth eich rhieni neu wrth oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo. Mae’n hawdd cael eich
twyllo i wneud pethau ar-lein, felly peidiwch â bod ofn mynd am help. Gallwch hefyd siarad â rhywun yn
Childline ar 0800-1111. Cofiwch os bydd bywyd rhywun mewn perygl, cysylltwch â’r heddlu ar unwaith!