Your SlideShare is downloading. ×
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru
Upcoming SlideShare
Loading in...5
×

Thanks for flagging this SlideShare!

Oops! An error has occurred.

×
Saving this for later? Get the SlideShare app to save on your phone or tablet. Read anywhere, anytime – even offline.
Text the download link to your phone
Standard text messaging rates apply

Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru

177
views

Published on

Published in: Technology

0 Comments
0 Likes
Statistics
Notes
  • Be the first to comment

  • Be the first to like this

No Downloads
Views
Total Views
177
On Slideshare
0
From Embeds
0
Number of Embeds
0
Actions
Shares
0
Downloads
1
Comments
0
Likes
0
Embeds 0
No embeds

Report content
Flagged as inappropriate Flag as inappropriate
Flag as inappropriate

Select your reason for flagging this presentation as inappropriate.

Cancel
No notes for slide

Transcript

  • 1. Mwynhau’r ManteisionGwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru
  • 2. Crynodeb GweithredolMae Llywodraeth Cymru yn ystyried bod gan ynni adnewyddadwy rôl bwysigmewn datblygu economaidd. Fodd bynnag, mae llawer o fanteision eraill ymae’r diwydiant yn ei roi i gymunedau lleol ledled Cymru sydd efallai heb eucydnabod na’u deall cystal. Bydd llawer o weithredwyr ynni adnewyddadwy yncyfranogi mewn llwyddiant cymunedau lleol, o ran amser a thrwy gyfraniadaugwirfoddol i ‘achosion da’ lleol drwy amrywiaeth o wahanol gynlluniau. Foddbynnag, nid yw nifer na ffurf cynlluniau o’r fath sydd ar waith yng Nghymru ynwybyddus.Bydd cronfeydd a chynlluniau budd cymunedol (a adwaenir o hyn ymlaen felCBC) i’w gweld yn nodweddiadol ar ffurf taliad blynyddol swm sy’n gysylltiedigâ gallu’r fferm wynt gan y datblygwr. Fe’u bwriedir fel arfer i’w defnyddio argyfer prosiectau lleol a fydd o fudd cymdeithasol, megis cadwraethamgylcheddol neu adfywiad cymdeithasol. Ar wahân i ddim ond rhoi grantiauar gyfer defnydd lleol, mae cronfeydd budd cymunedol yn rhoi cyfle igymunedau lleol chwarae mwy o ran mewn diwallu eu hanghenion eu hunainmewn modd sy’n rhoi manteision hirdymor a chynaliadwy.Yn benodol, mae’r adroddiad hwn yn archwilio dimensiynau lleol y CBC ar ysector ynni gwynt ar y tir - fodd bynnag, mae ynni gwynt ar y môr hefyd yn rhoilefel uchel o gefnogaeth gymunedol, a bydd ein hargymhellion hefyd ynberthnasol i brosiectau ynni gwynt ar y môr i raddau helaeth. Ei nod ywdangos y ffordd gyfrifol y mae perchnogion ffermydd gwynt ar y tir yngweithredu, a sut mae cynaliadwyedd yr ynni a gynhyrchant yn mynd law ynllaw â chynaliadwyedd y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar ddimensiynau lleol datblygu ynni gwynt,ac yn fwy penodol mae’n ceisio archwilio darpariaeth budd cymunedolehangach sy’n cefnogi cynaliadwyedd hirdymor ar y raddfa leol yn ogystal âbyd-eang. Mae’r ystod o fanteision posibl yn cynnwys buddrannaueconomaidd drwy berchnogaeth cyfranddaliadau lleol, cronfeydd buddcymunedol, cyfraniad i’r seilwaith cymdeithasol, economaidd neuamgylcheddol ar gyfer yr ardal, neu filiau ynni is ar gyfer trigolion lleol.
  • 3. Ers i’r ffermydd gwynt masnachol cyntaf gael eu comisiynu yng Nghymruaethpwyd i’r afael â mater ‘budd cymunedol’ mewn modd ad hoc. Ni fu fawrddim ymchwil systematig i’w nifer na’u cwmpas, nac i’r dibenion a wneir o’rmanteision hyn. Ar yr un pryd cafwyd esblygiad cyflym o ran maint a ffurf ybudd cymunedol a ddarperir gan ddatblygiadau ffermydd gwynt. Mewn ymatebmae Llywodraeth Cymru yn ceisio llywio a gwella’r broses o drafod a chyflawnibudd cymunedol.Mae llawer o brosiectau gwynt yng Nghymru eisoes yn rhoi budd cymunedolsy’n dod o dan ddiffiniad datblygu cynaliadwy, ond mae bylchau yn eingwybodaeth ynglŷn â’u niferoedd, eu graddfa a’u cwmpas.Wrth i ffermydd gwynt gynyddu mewn nifer a maint, mae CBC yn dod yn fwycyffredin. Felly gall ymchwil pellach i’r cronfeydd presennol fod yn werthfawr ogofio defnydd cynyddol y model hwn. Dim ond ystyried ffermydd gwynt ar y tirsy’n weithredol ar hyn o bryd a wna’r astudiaeth hon, ac nid y rhai hynny sy’nymwneud â phrosiectau sydd yn y system gynllunio, sydd wedi derbyncaniatâd cynllunio neu sydd yn cael eu codi nawr.Gwelodd yr astudiaeth bod ystod eang o CBC yn gweithredu yng Nghymrusy’n cyfrannu’n gadarnhaol iawn i gymunedau lleol. Yn arbennig, dangosodd ydata:• Bod tua phedair o bob pump fferm wynt sy’n gweithredu yng Nghymru eisoes yn cyfrannu i’w cymunedau lleol mewn modd strwythuredig;• Bod llawer o endidau gwahanol yn manteisio o gyfraniadau ffermydd gwynt;• Mae CBC yng Nghymru wedi eu gweinyddu yn bennaf drwy ymddiriedolaeth leoledig (neu gyrff tebyg), neu gynghorau cymuned;• Y math mwyaf cyffredin o daliad gan weithredwr fferm wynt yw symiau penodedig, yn cael eu dilyn gan swm a gyfrifir yn ôl megawatt (MW) a osodwyd; ac• O blith 55% o ymatebwyr ledled Cymru, daeth y symiau a dalwyd i CBC neu eu tebyg yn 2011 i gyfanswm o £623, 853.30.Mae achos cryf, yn seiliedig ar dryloywder, agoredrwydd a’r gallu i ddysgu ganarfer da, am gofrestr megis Cofrestr Llywodraeth yr Alban ar Fudd Cymunedolo Ynni Adnewyddadwy, fel y caiff ei weinyddu gan Ynni Cymunedol yr Alban.Fel y cyfryw, rydym o’r farn y dylai’r argymhellion canlynol gael eu mabwysiadugan Lywodraeth Cymru:
  • 4. • Mae angen i Lywodraeth Cymru ddarparu ariannu er mwyn creu cofrestr CBC ar gyfer ffermydd gwynt ‘byw’ neu ffermydd gwynt cymeradwyedig, sy’n hawdd ei gyrchu’n gyhoeddus;• Yn ogystal, dylai Llywodraeth Cymru ddarparu ariannu i hwyluso creu cofrestr CBC ar gyfer cynigion sydd newydd eu cyflwyno;• Dylai CBC sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y diwydiant a’r cymunedau ac y cânt eu rheoli mewn modd ‘craff’, a dylai Llywodraeth Cymru glustnodi ariannu i Ynni Cymunedol Cymru (neu gorff tebyg) i gefnogi cymunedau i ddatblygu’r CBC gorau ar gyfer eu hanghenion penodol;• Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gall taliadau CBC fod yn fwyaf effeithiol dros gyfnod bywyd prosiect, o gofio ffenomen gynyddol perchnogaeth prosiectau sy’n cael eu trosglwyddo i gyfryngau megis cronfeydd mantoli, cronfeydd ecwiti preifat, ac ati. Mae’n bwysig nodi y cafodd gwybodaeth fanwl ar gyfer yr astudiaeth hon ei darparu gan swmp aelodaeth RenewableUK Cymru tra bod y rhai heb fod yn rhan o’r sefydliad ar lefel aelodaeth (yn arbennig sefydliadau ariannol) yn llai tebygol o ymateb.Mae’r astudiaeth hefyd yn cynnwys cofrestr o gronfeydd budd cymunedolffermydd gwynt yng Nghymru, yn rhestru gwerth y cronfeydd a threfniadaugweinyddol.
  • 5. Rhestr CynnwysRhagair 5Rhagymadrodd 6Methodoleg 8Strwythur yr Adroddiad 11Cynnwys 12Canfyddiadau 17Endidau a gyflogir i weinyddu’r CBC 21Dulliau Cyfrannu 25Cofrestr CBC ffermydd gwynt yng Nghymru 29Sylwadau ychwanegol 33Casgliadau ac Argymhellion 35Atodiad 1 39 Adroddiad a gynhyrchwyd gan Connections Cyfalaf ar gyfer RenewableUK
  • 6. Rhagair Yn 2012 gwelwyd Cymru sy’n dair rhan; y de lle rhoddwyd cymeradwyaeth i un o ffermydd gwynt mwyaf y DU, a lle mae cwmnïau lleol yn disgwyl eu tro i gefnogi’r datblygiad a’r gwaith gosod; canolbarth Cymru sy’n drwm dan bryder lleol am y grid a thrafnidiaeth, a lle mae economïau lleol yn cloffi wrth i swyddi, sgiliau a phobl ifanc ddiflannu o drefi marchnad a chymunedau gwledig; a’r gogledd, lle mae ffermydd gwynt ar y môr yn adfywio porthladdoedd a chymunedau arfordirol.Mae’r disgrifiad hwn yn orsymleiddiad dybryd ond y mae’n dangos rhaigwahaniaethau allweddol, a hefyd yn amlygu bod adnoddau naturiol Cymruwedi cyflwyno cyfle anferth i rai o’n cymunedau, na fanteisir arno ar hyn bryd.Mae budd cymunedol yn bwysig, er dylem gofio ei fod yn un o nifer o resymaupam y maer amgylchedd, yr economi a chymdeithas yn elwa o wynt ar y tir.Mae’r adroddiad hwn yn rhan allweddol o’r jig-so cyffredinol o wybodaeth, ynamlygur gefnogaeth ariannol ychwanegol a roddir i gymunedau yn, ac oamgylch llawer o’n safleoedd gwynt yng Nghymru.Amcangyfrifir yn geidwadol bod y gwerth cyfan a dalwyd i Gronfeydd BuddCymunedol (neu gyfatebol) yn ystod 2011 yn rhagor na £620,000, swm y maedisgwyl iddo godi’n sylweddol wrth i ragor o ffermydd gwynt ddechraucynhyrchu ac wrth i natur mynegrifol llawer o’r cronfeydd esblygu.Fel diwydiant, fel cymdeithas sifil, ac fel gwlad mae angen i ni archwilio sut ydefnyddiwn y cronfeydd hyn, ac a oes rhagor y gellir ei wneud. Mae gennymgyfle unwaith ac am byth i adfywio, i ysgogi ac i gefnogi cymunedau abusnesau yn strategol mewn rhannau o Gymru sydd hyd yn hyn wedi bod ynanodd eu cyrraedd. Gobeithiaf y gall hwn fod yn bwynt pwysig arall yn ybroses barhaus sy’n rhoi’r budd mwyaf i rannau o Gymru sydd â’r angenmwyaf.Dr David ClubbCyfarwyddwr, RenewableUK Cymru
  • 7. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK CymruRhagymadroddDIBEN YR ADRODDIAD Mae’r diwydiant ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn chwarae rhan hollbwysig yn ein heconomi ac o bosibl ein sicrwydd ynni. Fodd bynnag, mae’r cyfraniad hwn yn ymestyn y tu hwnt i fudd economaidd uniongyrchol y busnes. Mae’n aml yn cefnogi ystod eang o brosiectau a phartneriaethau iadeiladau cymunedau cryfach a mwy cynaliadwy.Aeth RenewableUK Cymru ati i ddarganfod ehangder a natur cronfeydd buddcymunedol ffermydd gwynt yng Nghymru, y gallai gwaith pellach o bosibl gaelei wneud arno i werthuso sut y gall cronfeydd o’r fath gyfrannu at ddatblygulleol ac ymchwilio ffactorau sy’n cynorthwyo neu’n cyfyngu ar eu defnyddystyrlon.Amcan trosfwaol yr astudiaeth oedd penderfynu ar gyfran y ffermydd gwyntyng Nghymru sydd â chronfeydd budd cymunedol, ac yn fwy penodol:• Darganfod ehangder a natur cronfeydd budd cymunedol ffermydd gwynt yng Nghymru;• Creu cofrestr o gronfeydd budd cymunedol ffermydd gwynt yng Nghymru, gan nodi gwerth y gronfa a’r trefniadau gweinyddol; a• Gwneud cyfres o argymhellion polisi ynglŷn â’u gweithrediad ar lefel Cymru gyfan.Cyfyngwyd yr astudiaeth i CBC a ddarparwyd gan ddatblygwyr ffermydd gwyntmasnachol ar y tir a gysylltwyd i’r grid, oedd yn weithredol ym mis Mehefin2012, ac yn cael eu gweinyddu gan gymunedau neu drydydd parti abenodwyd ar eu rhan. Mae’n amlinellu cyfraniadau blynyddol nodweddiadol yn 6
  • 8. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymruôl y megawatt o allu a osodwyd, sy’n ein galluogi ni i amcangyfrif swm ycyfraniadau ariannol a dalwyd gan y diwydiant i gymunedau lleol ledledCymru.Mae’r astudiaeth hon yn caniatáu i ni hefyd i ganfod y math mwyaf cyffredin ogorff rheoli cronfa, boed eu bod yn Gynghorau Cymuned, YmddiriedolaethauCymunedol, Cwmnïau Cyfyngedig trwy Warant, trydydd parti, neu AwdurdodLleol, gweinyddiaeth ac, yn ei dro, edrych ar ddetholiad o astudiaethau achossydd â rhwymedigaethau ar gyfer gweinyddu CBC.Amlinella rhan derfynol yr adroddiad hwn y rhwymedigaethau i weithredwyrCBC a gwneuthurwyr polisi - yn enwedig sut y gall y diwydiant gynnwyspolisïau llywodraeth datganoledig yn y gwaith o greu a gweithredu cynlluniau. 7
  • 9. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK CymruMethodolegO gofio’r data cyfyngedig ar fudd cymunedol ffermydd gwynt, ein bwriad oeddcreu cofrestr gynhwysfawr o CBC yng Nghymru gan ddefnyddior fethodolegganlynol. Yn gyntaf, cynhaliwyd ymchwil desg cychwynnol i benderfynu pagyfran o ffermydd gwynt yng Nghymru sydd â CBC, a chreu cofrestr o’rcronfeydd hyn.Lluniwyd rhestr o’r holl ffermydd gwynt ar y tir sy’n weithredol yng Nghymru(gweithredol ym mis Mehefin 2012) a chawsom enw’r datblygiad, nifer ytyrbinau, cynnyrch megawatt, y datblygwr a’r perchennog. Fferm Wynt Tyrbinau MW Datblygwr Perchennog Alltwalis 10 23 Catamount/Force 9 Statkraft BDCR II 1 0.5 Ynni Adnewyddadwy Bro Dyfi Blaen Bowi 3 3.9 Windjen Power Cyf Windjen Power Cyf Fferm Braich Ddu 3 3.9 REG WINDPOWER Bryn Titli 22 9.9 RWE Npower Renewables Beaufort Wind Limited Carno A a B 56 33.6 RWE Npower Renewables Beaufort Wind Limited Carno estyniad (Carno 2) 12 15.6 Amegni Amegni Fferm Castle Pill - ail-bweru 4 3.2 Infinergy Cefn Croes (yn cynnwys Pontarfynach) 39 58.5 RDC Falck Renewables Cemmaes 18 15.3 First Windfarm Holdings Cyf First Wind Farm Holdings Dyffryn Brodyn 11 5.5 New World Power RES Ferndale 8 6.4 Infinergy Infinergy Ffynnon Oer 16 32 RWE Npower Renewables RWE Npower Renewables G24I 1 2.3 Ecotricity Ecotricity Hafoty Ucha 1 1 0.6 Tegni Tegni Hafoty Ucha 2 estyniad 2 1.7 Tegni Tegni Hafoty Ucha 3 estyniad 1 0.85 Tegni Llandinam P & L 103 30.9 Scottish Power/Eurus Energy ScottishPower/Eurus Energy Llangwyryfon ail-bweru 11 9.35 First Windfarm Holdings Cyf First Wind Farm Holdings Llyn Alaw 34 20.4 RWE Npower Renewables Beaufort Wind Cyf Maesgwyn 13 26 Pennant Walters Mawla (Moel Maelogen) 3 3.9 Energiekontor Co WP Mombkg UK branch Moel Maelogen estyniad 9 11.7 Ail Wynt Cyf Monier Redland Plant 1 0.5 Infinite Energy Mynydd Clogau 17 14.45 Novera Infinis Mynydd Gorddu 19 10.2 Amgen Beaufort Wind Limited Parc Cynog 5 3.6 Nuon Renewables Nuon Renewables Pendine (Parc Cynog Estyniad I) 6 4.8 Nuon Renewables Nuon Renewables 8
  • 10. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru Rheidol 8 2.4 E.ON UK Renewables Infinis Rhyd-y-Groes 24 7.2 Cyd-fenter EcoGen, Seawest & Tomen E.on Renewables Solutia UK Cyf 2 5 Wind Direct Wind Direct Cyf Dociau Abertawe 1 0.25 EnergyTech Partneriaeth Ynni Bae Abertawe Cyf Taf Elai 20 9 Perma Energy RWE Npower Renewables Canolfan Ddosbarthu Tesco 2 1.6 TNEI Tir Mostyn a Foel Goch 25 21.25 Windjen Power Cyf HG Capital Trysglwyn 14 5.6 RWE Npower Renewables Beaufort Wind Limited Wern Ddu (Craig Lelo) 4 9.2 Tegni Triodos RenewablesYna nodwyd manylion cyswllt ar gyfer pob un o’r datblygwyr/gweithredwyr agofynnwyd am y wybodaeth sylfaenol ganlynol:๏ Enw’r cwmni๏ Enw’r fferm wynt (ffermydd gwynt) a weithredir๏ Cod(au) post y fferm wynt (ffermydd gwynt) a weithredir๏ Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) a weithredir๏ Yn fras, oed y datblygiad(au) fferm wynt a weithredir๏ Enw a swydd yr ymatebwr❖ Gwerth y budd cymunedol (os o gwbl)❖ Sut caiff y gronfa ei gweinyddu❖ Rheolau ar gyfer defnydd y gronfa❖ Cwestiwn agored er mwyn ysgogi sylwadau pellach ar naill ai eu trefniadau CBC eu hunain neu CBC yn gyffredinol.Y cwestiynau a ofynnwyd oedd:• A yw eich cwmni yn cyfrannu i Gynllun neu Gronfa Budd Cymunedol? (os mai “Na” oedd yr ateb, ni ofynnwyd rhagor o gwestiynau)• I ba endid yr ydych yn cyfrannu i’r Cynllun neu Gronfa Budd Cymunedol (h.y. enw’r Cynllun neu Gronfa a phwy sy’n gweinyddu)?• Beth yw strwythur rheolir Cynllun neu Gronfa Budd Cymunedol i ba un yr ydych yn cyfrannu (e.e. ymddiriedolaeth gymunedol, cwmni cydweithredol, neu endid a gynhelir gan Awdurdod Lleol)?• Beth yw swm y cyfraniad a wnewch i Gynllun neu Gronfa Budd Cymunedol (e.e. taliad yn ôl gallu MW, neu yn ôl MW a gynhyrchir, neu mewn modd arall, er enghraifft, budd ‘mewn nwyddau’)? 9
  • 11. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru• Ar gyfer pa weithgareddau y defnyddir arian y Cynllun neu Gronfa Budd Cymunedol (e.e. prosiectau cymunedol, noddi digwyddiadau cymunedol neu dimau chwaraeon ac ati)?• A oes gennych unrhyw sylwadau pellach am eich ymgysylltiad â’r Cynlluniau neu Gronfeydd Budd Cymunedol (e.e. a ydych chi’n credu eu bod yn gweithio’n dda neu a ydych yn credu bod ffyrdd eraill y gallai ariannu o’r fath gael ei ddyrannu’n well)?Cynlluniwyd y cwestiynau i gasglu data meintiol oedd yn caniatáudadansoddiad categorïaidd. Cynhwyswyd y cwestiwn agored ar y diwedd igasglu data ansoddol, cyfoethocach. Yna adroddwyd ar y data categorïaiddmeintiol fel canrannau ar gyfer cymhariaeth haws. Rhoddwyd dadansoddiadcynnwys byr i’r data ansoddol gan gategoreiddio’r pwyntiau sylweddol fel ygallai’r data gael ei gyflwyno’n feintiol, ynghyd a dyfyniadau o ddatganiadaucynrychioliadol.MATERION A CHYFYNGIADAURoeddem yn cydnabod y gallai natur sensitif y data gyfyngur ymatebion, fellycysylltwyd â’r bobl a ymchwiliwyd ymlaen llaw gan eu sicrhau bod natur y datayn cael ei werthfawrogi ac y byddai’n cael ei drin yn sensitif ac yn adeiladol.Roedd cynnwys astudiaethau achos yn cynnig mewnwelediadau dyfnach, fel ygwnaeth casglu sylwadaur gweithredwyr. Gallai materion yn codi o’rastudiaethau achos hyn a’r sylwadau roi’r sail ar gyfer ymchwiliadau pellachyn y maes hwn.Y gobaith yw y bydd hwn hefyd yn cyfrannu at feddylfryd ehangach am y moddy gallai Cronfeydd Budd Cymunedol yng Nghymru gael eu datblyguymhellach. 10
  • 12. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK CymruStrwythur yr AdroddiadYng ngweddill yr adroddiad hwn rydym yn:• Amlinellu’r cyd-destun ar gyfer yr astudiaeth;• Cyflwyno ein canfyddiadau; a• Rhoi ein casgliadau a gwneud rhai argymhellion ar gyfer y diwydiant a gwneuthurwyr polisi. 11
  • 13. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK CymruCyd-destunGosodir yr adroddiad yn erbyn cefndir o ddarnau mawr diweddar oddeddfwriaeth (a deddfwriaeth arfaethedig) Llywodraeth Cymru a chynnal yrAdolygiad Bandio o ran Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy gan yr AdranYnni a Newid Hinsawdd.Mae gan raglen Newid Carbon Isel Llywodraeth Cymru, a lansiwyd ym misMawrth 2012, nod cyffredinol o sicrhau bod buddsoddiad yn creu swyddi, gangynorthwyo busnesau i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd, a sicrhau bodcymunedau yn elwa o ddatblygiadau ynni drwy sicrhau mai Cymru yw’r ‘gorauyn y dosbarth’. “[Byddwn yn] gweithredu er mwyn sicrhau bod cymunedau ynelwa o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy ac ymdrechu i ddangos esiampl” -Ynni Cymru: Newid Carbon Isel (Mawrth 2012). “Mae Cymru, fel gweddill ybyd, yn gweithio’n galed i wneud y symudiad hwn i ynni cynaliadwy carbonisel. Mae’n hollbwysig ein bod yn gwneud hyn mewn modd sy’n sensitif ianghenion ein cymunedau, yn creu swyddi cynaliadwy lleol ac yn cefnogieconomi ehangach Cymru,” John Griffiths Gweinidog dros yr Amgylchedd1.Ym mis Gorffennaf 2011 mynegodd Rhaglen Ddeddfwriaethol LlywodraethCymru 2012-16 ei bwriad i gyflwyno Mesur Datblygu Cynaliadwy i gryfhaucyfeiriad ‘Cymrun Un: Cenedl Un Blaned’ a newid yr ymrwymiad hwn i fod ynddyletswydd gyfreithiol. Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Maecynaliadwyedd yn ymwneud â diffinior llwybr datblygu hirdymor ar gyfer eincenedl. Golyga bobl iach gynhyrchiol; cymunedau byw, cynhwysol;amgylchedd amrywiol a gwydn ac economi ddatblygedig a blaengar.”2Yn ogystal, cydnabu Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd, agyflwynwyd ym mis Hydref 2010, bwysigrwydd datblygu economaidd mewnmynd i’r afael â newid hinsawdd: “Rydym am sicrhau bod Cymru yn y sefyllfaorau bosibl nid dim ond i greu swyddi newydd a chyfleoedd y gadwyn gyflenwi,ond i fanteisio ar y potensial i allforio ynni, arbenigedd, nwyddau a1 http://wales.gov.uk/newsroom/firstminister/2012/120314energyvision/?lang=en2 http://wales.gov.uk/topics/sustainabledevelopment/sdbill/?lang=en 12
  • 14. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymrugwasanaethau i genhedloedd eraill sy’n awyddus i newid i economi carbonisel.”3Ar ddiwedd mis Gorffennaf 2012 cyhoeddwyd yr Adolygiad Bandio o ranRhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy gan Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd 4,sy’n gosod prif fecanwaith y Llywodraeth ar gyfer cefnogi ynni adnewyddadwygraddfa fawr ar gyfer y cyfnod 2013-17. Mae’r Rhwymedigaeth YnniAdnewyddadwy yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth y DU i gynyddu defnyddynni adnewyddadwy er mwyn gwneud y DU yn fwy ynni sicr, cynorthwyo iddiogelu defnyddwyr rhag ansefydlogrwydd prisiau tanwydd ffosil, hybubuddsoddiad mewn swyddi a busnesau newydd yn y sector ynniadnewyddadwy, yn ogystal â chadw’r DU ar y llwybr i fodloni ei amcanionlleihau carbon ar gyfer y degawdau sydd i ddod (mae’r DU wedi ymrwymo igynhyrchu 15% o’n hynni o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2020).Ar hyn o bryd y Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy yw’r prif fecanwaithariannol drwy ba un y mae’r Llywodraeth yn rhoi cymhelliant i wneud defnyddo gynhyrchu trydan ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr. Rhoddir cefnogaetham 20 mlynedd, sy’n cydbwyso’r angen i roi sicrwydd hirdymor i fuddsoddwyrgyda’r angen i gadw costau i ddefnyddwyr mor isel â phosibl.Caiff lefel y gefnogaeth ar gyfer gwynt ar y tir ar gyfer cyfnod yr AdolygiadBandio ei leihau i Dystysgrifau Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy 0.9, awarantir tan fis Mawrth 2014. Fodd bynnag, mae’r Llywodraeth wedi gwneudcais am dystiolaeth, a ddechreuwyd ym mis Medi 2012 ac yn adrodd yngynnar yn 2013, a fydd yn ail-asesu costau’r diwydiant gwynt ar y tir. Os byddcanfyddiadau’r cais am dystiolaeth yn nodi newid sylweddol mewn costaucynhyrchu, bydd y Llywodraeth yn dechrau adolygiad ar unwaith o lefelauTystysgrifau Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy gwynt ar y tir, gydagunrhyw drefniadau cefnogi newydd ar gyfer gwynt ar y tir yn gweithredu o fisEbrill 2014. Fel rhan o’r cais am dystiolaeth, byddant yn archwilio sut y gallcymunedau gael mwy o lais mewn, a derbyn rhagor o fudd economaidd o,gynnal ffermydd gwynt ar y tir.Mae’r Adolygiad Bandio wedi dechrau canolbwyntio’r ddadl ar lefelau ariannolcyllido budd cymunedol. Er bod gwerth y taliadau yn sicr yn sylweddol3 http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/climatechange/publications/strategy/?lang=en4 http://www.decc.gov.uk/en/content/cms/news/wms_ro_lm/wms_ro_lm.aspx 13
  • 15. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru(dyfynna Regeneris, yr ymgynghorwyr ynni adnewyddadwy, bod rhaidatblygwyr yn cynnig swm sy’n gyfwerth â £5 miliwn dros fywyd cynllun50MW5 ), mae diffyg eglurder cyffredinol yn parhau ynglŷn â’r diben a’r defnyddmwyaf effeithiol o’r taliadau.Mae CBC yn ddull unigryw o ddatblygu ystod o fanteision ychwanegol igymunedau lleol. Mae Sefydliad Joseph Rowntree yn dyfynnu ystod oresymau am eu canlyniadau cadarnhaol, yn cynnwys rhannu manteisiondatblygiadau gyda chymunedau sy’n eu cynnal, mynd i’r afael â chyfiawndercymdeithasol gan gysylltu adnoddau lleol wrth economïau lleol, a sicrhaucefnogaeth cymunedau lleol 6.Mae protocol budd cymunedol RenewableUK ar gyfer Lloegr yn cynnigisafswm taliad o £1,000 am bob MW o allu gosodedig, wedi ei fynegrifo i’rMynegai Prisiau Manwerthu (ar gyfer cynlluniau dros 5MW). Bwriad gosod yrisafswm ffigwr hwn oedd cynorthwyo i sicrhau bod datblygwyr llai ddim o dananfantais o gofio’r wasgfa sy’n cael ei rhoi ar gostau gwynt ar y tir a pheryglgostyngiadau pellach i lefelau Tystysgrifau Rhwymedigaeth YnniAdnewyddadwy a FIT. Fodd bynnag, gall datblygwyr gynnig symiau mwysylweddol na’r isafswm ac mewn gwirionedd mae gwerth y budd dros yblynyddoedd diwethaf wedi cynyddu’n sylweddol gyda £5,000 am bob MW ynaml yn cael ei gynnig ar gynlluniau gan ddatblygwyr a gweithredwyr sydd âdiddordeb brwd mewn llwyddiant cymunedau lleol, sydd mewn sawl achos yngyfwerth â rhwng 6-7% o’u costau datblygu. Fel cymhariaeth mae’n werth nodibod John Lewis - a berchir fel enghraifft dda o Fudd Cymunedol - yn cyfrannutua 0.25% o’i drosiant i gynlluniau o’r fath7.Yn erbyn y cefndir hwn mae posibilrwydd bod angen rhagor o wybodaeth arddatblygwyr, ac yn wir cymunedau, fel y gallant edrych ar ystod o ffyrdd drwyba rai y gall budd cymunedol gael ei drafod, ei weinyddu a’i ddosbarthu ganwneud yr holl bartïon yn fwy abl i ddatblygur fframwaith gorau posibl ar gyferprosiectau newydd ledled Cymru, ynghyd â sylweddoliad gan wneuthurwyr5 http://regeneris.co.uk/latest/blog/entry/money-on-the-wind-the-future-of-wind-farm-community-benefits6 http://www.jrf.org.uk/publications/wind-energy-disadvantaged-communities7 http://www.johnlewispartnership.co.uk/content/dam/cws/pdfs/financials/interim%20reports/john_lewis_partnership_interim_report_2012.pdf 14
  • 16. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymrupolisi, Awdurdodau Lleol a chymunedau lleol o’r cyfyngiadau ariannol y maedatblygwyr yn eu hwynebu o gofio cost rhoi’r cynlluniau ar waith.Nod yr adroddiad hwn yw gwella gwybodaeth am fudd cymunedol yngNghymru. Er bod cymunedau, fel y nodwyd uchod, yn dod yn fwy ymwybodolo CBC a’u heffaith posibl, mae hefyd rôl bwysig i ddatblygiadau presennollywio arfer gorau rhair dyfodol (yn cynnwys nodi ffactorau lleol a all, amresymau da, beri gwahaniaethau yng ngweithrediad gwahanol CBC). Mae’rysbryd mwy agored hwn wedi, er enghraifft, cael ei amlygu fel cam pwysig ganLywodraeth yr Alban 8, gan arwain at gyflwyno cronfa data ar gyfer taliadau ynyr Alban. O’r pwysigrwydd pennaf, fodd bynnag, maer angen am wybodaeth oansawdd da am y modd y caiff budd cymunedol ei ddefnyddio a’i reoli a’reffaith mae’n ei gael ar gyfer cymunedau lleol. Mae angen i ddatblygwyr,cymunedau a rhanddeiliaid eraill ddysgu gan y dystiolaeth hon.Mae’n bwysig deall y modd y defnyddir adnoddau Cronfeydd Budd Cymunedolac i ofyn cwestiynau ynglŷn ag a ellid eu dyrannu mewn modd mwy strategol.Hyd yn oed os yw llawer ohonynt yn ymateb i anghenion penodol a lleol iawn,efallai y gellir eu gwario’n well mewn cyd-destun economaidd gymdeithasolcyffredinol yn ôl y cymunedau a wasanaethir ganddynt (gweler y siart ar ydudalen nesaf) drwy, er enghraifft, ddefnyddior ariannu i ysgogi arian offrydiau ariannu eraill (e.e. Cronfa Gymdeithasol Ewrop, Llywodraeth Cymru acati). Efallai hefyd bod marciau cwestiwn ynghylch pa faint o ymwybyddiaethsydd gan rai o’r cronfeydd eu hunain o gyfleoedd o’r fath, a allai o bosibl roimanteision mwy a mwy parhaol.8 http://www.scotland.gov.uk/Topics/Business-Industry/Energy/Energy-sources/19185/Communities 15
  • 17. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru 16
  • 18. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK CymruCanfyddiadauCyfanswm nifer yr ymatebion i’r astudiaeth oedd 21 allan o 37 posibl, a oeddyn cyfateb i gyfradd ymateb o 56%. O’r rhai hynny na wnaeth ymateb, maellawer ar ben is y raddfa o ran cyfraniadau i Gronfeydd Budd Cymunedol erbod llawer o ffermydd gwynt mwy eu maint yn cael eu gweithredu gan, neu’neiddo i, sefydliadau ariannol mawr (er enghraifft, cronfeydd mantoli neugronfeydd ecwiti preifat) sy’n gwneud casglu gwybodaeth yn anodd.Mae’n bwysig cydnabod bod RenewableUK Cymru yn sefydliad sy’n cael eiarwain gan yr aelodau, sy’n adeiladau consensws ymhlith rhanddeiliaid ac yncodi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol. Fel y cyfryw mae gan ysefydliad enw da o fewn y diwydiant sy’n rhoi lefel mynediad pellgyrhaeddol i’rrhai hynny sy’n gweithredu prosiectau ynni adnewyddadwy o ddydd i ddydd.Darparwyd gwybodaeth fanwl gan y rhan fwyaf o’r aelodaeth, tra roedd y rhaihynny heb gysylltiad â RenewableUK ar lefel aelodaeth (h.y. sefydliadauariannol) yn llai tebyg o ymateb. Gellir gweld rhestr lawn manylion yrymatebwyr yn Atodiad 1.O’r rhai a wnaeth ymateb, dengys y tabl canlynol y math o ddatblygiad sy’ncyfranogi ac a yw’n cyfrannu i CBC: Enw’r fferm Gallu Oed y fferm Gweithredu wynt wynt cynllun CBC? Alltwalis 23MW 2 flynedd Ydy Wern Ddu 9.2MW 2 flynedd Ydy Hafoty Ucha 3.15 MW 8 mlynedd Ydy Vestas 575kW 9 mlynedd Ydy Nordtank 575kW 4 blynedd Ydy Carno II 15.6 MW 3 blynedd Ydy Llandinam 30MW 20 mlynedd Ydy Bryn Titli 9.9MW 18 mlynedd Ydy 17
  • 19. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru Carno 33.6MW 16 mlynedd Ydy Ffynnon Oer 33MW 6 mlynedd Ydy Llyn Alaw 20.4MW 15 mlynedd Ydy Maesgwyn 26MW 18 mis Ydy Mynydd Gorddu 10.2MW 14 mlynedd Ydy Trysglwyn 5.6MW 14 mlynedd Ydy Taf Elai 9MW 19 mlynedd Ydy Cefn Croes 58.5 MW 8 mlynedd Ydy Rhyd-Y-Groes 7.2MW 20 mlynedd Na Moel Moelogan 11.7MW 4 blynedd Ydy Castle Pill 3.2MW 3 blynedd Na Ferndale 6.4MW 2 flynedd Na Dyffryn Brodyn 5.5MW 18 mlynedd NaFel y gallwn weld o’r tabl uchod mae’r mwyafrif llethol o’r datblygiadauffermydd gwynt (80%) yn cyfrannu i CBC:Faint o ffermydd gwynt sy’n gweithredu Cronfa neu gynllun Budd Cymunedol? Na Ydy 20% 80% 18
  • 20. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru “Mae ein system yn gweithio’n eithaf da oherwydd, yn dechnegol, trefniant ‘perchnogaeth’ ydyw gyda rhannu elw yn hytrach na thaliad ‘budd’ gan ddatblygwr. Fodd bynnag, pwyllgor gwirfoddol ydym ac mae’n anodd rhedeg y busnes. Credwn y dylai fod mwy o berchnogaeth nag sydd ar hyn o bryd, ac y dylai pob datblygwr sefydlumecanweithiau ar gyfer rhan berchnogaeth lleol fel y gall cymunedau ddod ynfuddiolwyr uniongyrchol a gwella eu profiad o gael ffermydd gwynt gerllaw.Rydym hefyd o’r farn y dylai cronfeydd budd gael eu targedu gan gymunedauar fesurau gwytnwch ynni lleol a charbon isel / effeithlonrwydd ynni, ynghyd âgweithgareddau adfywio. Mae angen gwneud llawer iawn mwy o waith ifeithrin ein hymwybyddiaeth ar gyfer newidiadau sylweddol i’n defnydd o ynniac o lle y gallwn ei gael os ydym i roi ystyriaeth ddifrifol i fynd i’r afael â newidhinsawdd a gweithredu gydag argyhoeddiad.”Michael Phillips, Ynni Adnewyddadwy Cymunedol Bro DyfiASTUDIAETH ACHOS UNCynllun Disgownt Trydan LleolMae Cynllun Disgownt Trydan Lleol (LEDS) 9 yn fenter RES newydd sy’n ceisio rhoibudd uniongyrchol a gwirioneddol i bobl sy’n byw ac yn gweithio agosaf at euffermydd gwynt arfaethedig.Caiff LEDS ei gynnig fel budd ychwanegol i Gronfeydd Budd Cymunedol, sydd yn eisafleoedd newydd yn darparu cyfraniad blynyddol o £2,000 y megawatt (MW) igymunedau lleol. Cynigir bod cyfanswm taliadau LEDS am safle yn £3,000 y MW yflwyddyn. Os yw LEDS yn costio llai na £3,000 y MW y flwyddyn yna caiff ygwahaniaeth ei ychwanegu at y Gronfa Budd Cymunedol gan olygu cyfanswm buddcymunedol gwerth £5,000 y MW y flwyddyn.O dan y fenter LEDS a gynigir bydd yr eiddo preswyl, cymunedol a busnes hynnysydd agosaf at fferm wynt LEDS arfaethedig i gyd yn derbyn isafswm disgownt o£100 y flwyddyn ar eu biliau trydan, a gaiff ei dalu’n uniongyrchol i’w cyflenwr trydan.Mae’r isafswm hwn yn cynrychioli bron i chwarter bil trydan blynyddol cyfartalog yn yDU (£453 yn 2011 ar sail y ffigurau diweddaraf i gael eu rhyddhau gan yr Adran Ynnia Newid Hinsawdd, 29 Mawrth 2012). Byddai taliadau yn dechrau unwaith y byddai’rfferm wynt yn dechrau gweithio.Bydd yr union ardal a nifer yr adeiladau sy’n gymwys ar gyfer cynllun LEDS ynamrywio o safle i safle, gan roi ystyriaeth i ffactorau megis nifer a gallur tyrbinaugwynt a gynigir a’r dwysedd tai o amgylch y fferm wynt.Cyfrifir y dalgylch ar gyfer cynllun LEDS RES drwy bellter llinell syth - y PellterGosodedig - o bob tyrbin gwynt (a osodir i ddechrau yn 3 cilomedr) a nodir holl ffiniau9 http://www.thisissouthwales.co.uk/Windfarm-plan-brings-benefits/story-16745570-detail/story.html 19
  • 21. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymrudaearyddol cod post (fel y’u diffinnir gan yr Arolwg Ordnans) gydag eiddo ar neu ofewn y Pellter Gosodedig hwn er mwyn creur Ardal Gymwys. Gall y PellterGosodedig gael ei gynyddu neu ei leihau i sicrhau bod yr eiddo sydd o fewn yr ArdalGymwys derfynol yn derbyn disgownt sydd o leiaf yn £100 y flwyddyn.LEDS ym Mryn LlywelynCyflwynodd RES ei gynllun LEDS cyntaf ar ei safle arfaethedig ym Mryn Llywelyn, SirGaerfyrddin. Mae hyn yn dilyn ymgynghori cychwynnol gyda’r gymuned leol oamgylch safle Bryn Llywelyn a ddangosodd bod bron i 80% o’r ymatebwyr yncefnogi’r syniad o drydan a ddisgowntir a bron i 85% â diddordeb mewn cyfranogimewn cynllun o’r fath. Os bydd LEDS yn llwyddiannus ym Mryn Llywelyn rhagwelir ygallai gael ei lansio mewn ffermydd gwynt RES eraill a ddatblygir yn ddiweddarach yn2012.Bydd LEDS ym Mryn Llywelyn yn darparu disgownt blynyddol ar gyfer biliau trydanadeiladau sy’n agos i fferm wynt arfaethedig RES, os daw’n weithredol. Mae’r cynllunyn agored i bob adeilad preswyl, masnachol a chymunedol (gan gynnwys ysgolion,eglwysi a neuaddau pentref) o fewn yr ardal sy’n gymwys sydd â mesurydd trydan.Caiff disgownt blynyddol gwerth £225 ei roi wrth fil trydan pob eiddo, wedi ei dalu’nuniongyrchol i’w cyflenwyr trydan, unwaith y bydd y fferm wynt ar waith. Yn ogystal,mae LEDS yn cynnig Cronfa Budd Cymunedol o bron i £100,000 y flwyddyn a fydd yncefnogi grwpiau a mentrau lleol.Mae RES wedi ysgrifennu’n uniongyrchol at bob eiddo sy’n gymwys yn cynnig y cyfleiddynt gofrestru diddordeb mewn ymuno â’r cynllun disgownt. Ym Mryn Llywelynmae’r disgownt ar gael i bob eiddo o fewn tair cilomedr a hanner i bob tyrbin gwyntarfaethedig. Bydd y disgownt ar gael i bob eiddo o fewn yr ardal sy’n gymwys, waethbeth fo barn y bobl am y fferm wynt a fwriedir. Fodd bynnag, caiff y disgownt dim ondei weithredu os caiff y fferm wynt ei chymeradwyo a’i chodi.Bydd y disgownt blynyddol yn gymwys unwaith y bydd y fferm wynt yn llwyrweithredol, a allai gymryd rhwng dwy a phedair blynedd o roi’r caniatâd cynllunio.Caiff ei dalu dros fywyd llawn y tyrbinau neu am gyhyd ag y bydd pobl yn byw o fewnyr ardal gymwys.Mae sawl ffordd y gall trigolion gofrestru eu diddordeb yn LEDS ym Mryn Llywelyn a,thrwy ddefnyddior Cod Cyfeirnod Unigryw sydd mewn llythyr a anfonir at bob un,gallant naill ai gysylltu drwy’r post, ffon, e-bost neu ar-lein. Telir y disgownt yn ôl eiddoyn unig ac felly dim ond un person ym mhob eiddo sydd angen cofrestru. 20
  • 22. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK CymruEndidau a gyflogir iweinyddu’r CBCMae trafodaethau budd cymunedol yn aml yn deillio ar daliadau ariannolblynyddol i gymunedau drwy gydol bywyd cynllun ynni adnewyddadwy. Maehyn yn cynnig cyfle sylweddol i gymuned gynllunio ar gyfer, a datblygumentrau cymunedol a allai fod o fudd hirdymor, parhaol. Mae hefyd yn codinifer o ystyriaethau sydd angen mynd i’r afael â hwy:• Sefydlu gweledigaeth ar gyfer y gronfa a chynnwys y gymuned gyfan mewn gwneud penderfyniadau: Sut y bydd holl sectorau’r gymuned yn cael y cyfle i benderfynu ar y ffordd y caiff cronfeydd budd cymunedol eu defnyddio a’u rheoli? Mae angen i rai elfennau allweddol o ddibenion, trefn a gweithrediad y gronfa fod yn dderbyniol i’r gymuned yn gyffredinol a dylid penderfynu hyn drwy ymgynghoriad cymunedol priodol.• Dewis endid cyfreithiol - h.y. pwy yn hollol sy’n derbyn y taliad? Air Cyngor Cymuned, Ymddiriedolaeth, Fforwm, cwmni neu grŵp llywio lleol? A ddylai fod yn endid cyfreithiol penodol, wedi ei sefydlu i dderbyn taliad a gweithredur cyfrifoldeb sy’n perthyn i fod yn berchen ar gronfeydd, ac os felly, pa fath o endid cyfreithiol ddylai fod?• Rheoli cronfeydd budd cymunedol - h.y. beth sy’n digwydd i’r arian pan gaiff ei dderbyn? Beth a wna’r endid hwn â’r arian? Beth yw ei amcanion? A ddylai’r amcanion fod yn gwbl elusennol eu natur? Beth yw’r goblygiadau o ran treth? A ellir osgoi treth? 21
  • 23. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK CymruYn gyffredinol, mae tua 34 endid yn elwa o gyfraniadau’r ymatebwyr: Sefydliadau/Ymddiriedolaethau/Fforymau Cynghorau Tref/Cymuned Prosiectau Cymunedol Lleol (uniongyrchol) Cyfraniadau Unwaith yn unig Elusennau Mentrau Cymdeithasol Cwmnïau Preifat Awdurdod Lleol 15 10 5 0 EndidauO’r diagram uchod gellir gweld mai endidau megis sefydliadau acymddiriedolaethau - ar y cyd â chynghorau tref a chynghorau cymuned - yw’rcyfryngau o ddewis ar gyfer CBC. Mantais ymddiriedolaethau a sefydliadau ywy gellir eu sefydlu i fod yn sefydliadau a arweinir gan y gymuned, yn aml wedieu rheoli gan fwrdd o ymddiriedolwyr neu grŵp llywio ac maent yn agored oran eu gweinyddu, a gallant ymgorffori arsylwyr o awdurdodau lleol agweithredwyr ffermydd gwynt. Fel arfer maent yn darparu rhyw gymaint o fuddeconomaidd, amgylcheddol, addysgol, cymdeithasol neu ddiwylliannol i boblsy’n byw yn yr ardal.Mae dau brif fodel ar gyfer Endid Cyfreithiol cysylltiedig â Chyngor Tref neuGyngor Cymuned sydd yn cael eu hystyried yn fwyaf cyffredin ar gyfergweinyddu cronfeydd budd cymunedol:• Cwmni wedi ei ymgorffori o dan y Ddeddf Cwmnïau gydag atebolrwydd cyfyngedig, lle mae’r cyfyngiad o ran atebolrwydd trwy Warant, a lle mae Aelodau’r Cwmni bob un yn ymgymryd i dalu ar ddyddiad penodol, neu ar adeg digwyddiad penodol (fel arfer dirwyn y Cwmni i ben), swm i fyny hyd at swm penodedig (fel arfer £1) fel gall fod ei angen i setlo unrhyw ddyledion sydd heb eu talu gan y cwmni. Bydd Cwmnïau Gwarant o’r fath yn aml, ond nid bob tro, yn cael eu defnyddio ar gyfer dibenion elusennol. 22
  • 24. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru• Ymddiriedolaeth Gymunedol Leol a sefydlir gan y gymuned leol i’r diben o dderbyn, gweinyddu a dyrannu cronfeydd ar ran y gymuned drwy ymddiriedolwyr a benodwyd gan y gymuned.Gall dryswch godi weithiau gan y cyfeirir at y ddau fodel fel“ymddiriedolaethau”, er mai dim ond yr ail fodel sy’n ymddiriedolaeth mewnystyr cyfreithiol. Er bod iddo statws cyfreithiol ar wahân i Ymddiriedolaeth,bydd cymunedau sy’n mabwysiadur model Cwmni Cyfyngedig trwy Warant ynaml yn enwir sefydliad yn “Ymddiriedolaeth Cymunedol [Lleol]” - sy’n egluro’rdryswch.Sianelau cyfrannu nodedig eraill yw cynllun Ynni Adnewyddadwy CymunedolBro Dyfi (cwmni ynni cymunedol cydweithredol a gofrestrwyd o dan y DeddfauCymdeithasau Diwydiannol a Darbodus) drwy ddifidend rhannu llog achyfraniad yn y drefn honno (gan weithredwr y Datblygiad BDCR II);cyfraniadau a wneir yn ôl disgresiwn y gweithredwr (fel ag yn achos HafotyUcha); a thrwy elusen rhoi grantiau proffesiynol (h.y. datblygiad Taf Elai sy’ngwneud cyfraniadau drwy Sefydliad Cymunedol yng Nghymru). ““Caiff cronfeydd eu cymhwyso er budd trigolion y cymunedau. Dylai’r cronfeydd anelu at hyrwyddo ysbryd cymunedol a dod â phobl at ei gilydd; gwella ansawdd bywyd a hyrwyddo lles pobl; a meithrin cymunedau bywiog, cynaliadwy. Ni ddylai’r cronfeydd gael eu defnyddio at ddibenion gwleidyddol, crefyddol, adloniant na lletygarwch, nac ar gyfer unrhyw ddiben sy’n niweidiol i fudd gweithredwr y ffermwynt. Rydym yn awyddus bod y cronfeydd yn cael eu defnyddio i sicrhaugrantiau a chronfeydd eraill ar batrwm ariannu cyfatebol, gan ganiatáu i’rgymuned sicrhaur budd mwyaf o gyfraniadau ffermydd gwynt.”Monika Paplaczyk, Triodos Renewables (Wern Ddu) CyfASTUDIAETH ACHOS DAUWindfallMae Windfall (a elwir yn swyddogol yn Ymddiriedolaeth Ynni Cymunedol CanolbarthCymru) yn casglu cyfran o’r refeniw a geir o gynhyrchu ynni yng Nghanolbarth Cymruac yn ei ail ddosbarthu ymhlith cymunedau lleol. Cynigir yr arian hwn fel grantiau argyfer prosiectau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy i gymunedau ledledCanolbarth Cymru. Ategir yr incwm sylfaenol gydag incwm gan weithredwyr tirlenwi, 23
  • 25. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymrudrwy’r Gronfa Cymunedau Tirlenwi, i fanteisio i’r eithaf ar allu ariannol y cynllun. MaeWindfall yn gwmni dim er elw a sefydlwyd yn benodol i gyflawni’r nodau hyn.Wedi ei sbarduno gan arian gan npower renewables ac ENTRUST, sicrhaoddWindfall £104,000 ar gyfer ei brosiectau cyntaf yn 2005. O ganlyniad, maecymunedau Carno a Threfeglwys yn mwynhau manteision systemau ynniadnewyddadwy megis ynni pren a ffotofoltäig. Mae rhaglenni addysgiadol hefyd wedibod yn rhan o’r cynllun hwn.Gan adeiladau ar y llwyddiant hwn, mae Windfall yn bwriadu ymestyn ei waith i roimanteision i gymunedau eraill ledled Canolbarth Cymru. Er bod yr Ymddiriedolaeth yncydnabod gwerth Cronfeydd lleol gyda meini prawf budd cymunedol eang iawn,mae’n cynnig ei hun i gynhyrchwyr ynni presennol a darpar gynhyrchwyr fel y cyfrwngi ategu’r rhain, drwy ddarparu budd carbon isel o ynni adnewyddadwy drwy weithreducymunedol. 24
  • 26. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK CymruDulliau CyfrannuRoedd pedwar dull talu clir i gyd, gyda thua 32 sianel taliadau, a oedd fel aganlyn: (1); yn ôl y MW a osodwyd (6); taliadau penodedig (24); ac mewnnwyddau (1): 0 10 20 30 % o’r elwFesul MW a osodwyd Taliadau penodedig Mewn nwyddauTaliadau penodedig yw’r mathau mwyaf cyffredin o gyfraniadau, ac mae’rsymiau a ddyfynnwyd fel â ganlyn: Fferm Wynt Lefel sylfaen taliad / i ba Lefel taliad gwirioneddol endid (2011) Alltwalis £75,000 y flwyddyn wedi’i £78,600 fynegrifo / Cronfa Ymddiriedolaeth Budd Cymunedol Fferm Wynt Alltwalis BDCR II 5-10% o’r elw / Ecodyfi Ni ddatgelwyd Bryn Titli £2,500 / Cyngor Tref £3,530.38 £2,500 / Cyngor Cymuned £3,530.38 25
  • 27. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru Carno 2 £2,000 am bob MW a £6,000 osodwyd, y flwyddyn wedi’i fynegrifo / Cronfa Ymddiriedolaeth Gymunedol Carno £2,000 am bob MW a £6,000 osodwyd, y flwyddyn wedi’i fynegrifo / Cronfa Ymddiriedolaeth Gymunedol Leol Llanbrynmair £2,000 am bob MW a £20,000 osodwyd, y flwyddyn wedi’i fynegrifo / Cronfa Ynni Cymunedol Canolbarth Cymru (Windfall) Carno A a B £12,000 / Cyngor £18,156.08 Cymuned Carno Cefn Croes £1000 am bob MW, wedi’i £72,240 fynegrifo / Ymddiriedolaeth Gymunedol Cefn Croes Ffynnon Oer £22,000 / Fforwm Afan £25,978.84 Uchaf Hafoty Ucha £1k am bob MW a £4,000 osodwyd / Gwneir cyfraniadau yn ôl disgresiwn y perchennog Llandinam P & L £5,000 / Celtpower Cyf £5,000 £20,000 / Ymddiriedolaeth £20,000 Gymunedol Llandinam Llyn Alaw £16,000 / Cyngor £23,059.10 Cymuned Tref Alaw £4,000 / Cyngor Cymuned £5,776.98 Llannerchymedd £4,000 / Cyngor Cymuned £5,776.98 Mechell £2,000 / Sefydliad £2,000 Cymunedol Cymru Maesgwyn £175,000 y flwyddyn / £175,000 Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot 26
  • 28. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru Estyniad Moel Maelogen £50k y flwyddyn x 3 £50,000 blynedd / Clwb Rygbi Nant Conwy £50k y flwyddyn x 2 £50,000 flynedd / Menter Wledig Dyffryn Conwy £7.5k y flwyddyn am hyd £7,500 bywyd (mynegedig) / Cyngor Cymuned Bro Garmon £7.5k y flwyddyn am hyd £7,500 bywyd (mynegedig) / Cyngor Cymuned Bro Cernyw Mynydd Gorddu £10,000 / Amgen £14,670.38 Taf Elai £2,500 / Sefydliad £2,500 Cymunedol Cymru Trysglwyn £5,000 / Cyngor Cymuned £7,035.18 Rhosybol Wern Ddu (Craig Lelo) £3,333 / Cyngor Cymuned £3,333 Derwen £3,333 £3,333 £3,333 £3,333Cyfanswm y symiau a ddatgelwyd a ddyfarnwyd yn 2011 oedd £623,853.30. ““Maent yn gweithio’n dda hyd rhyw bwynt. Adeiledir y mwyafrif o ffermydd gwynt mewn ardaloedd gwledig lle mae cyflogaeth yn broblem. Mae angen i ni ddenu diwydiannau i ardaloedd gwledig fel ein bod yn gallu cadw pobl ifanc yn yr ardal. Os rhoddir arian i bobl leol i osod dyfeisiau arbed ynni, megis systemau adennill gwres, pympiau gwres ac ati, efallai y gallem ddenu cwmni sy’n gwneud y math yma o offer i sefydlu ynyr ardal. Gall taflu symiau mawr o arian at gymunedau gael effaith andwyol adylid ei osgoi ar bob cyfrif. Hefyd, yr unig beth wnaiff yr arian yw disodliariannu a ddarparwyd yn flaenorol gan y cynghorau a Llywodraeth Cymru sy’ngolygu nad oes yn rhaid iddynt gyfrannu, yn enwedig pan nad yw’r diwydiantgwynt yn cael llawer o gefnogaeth ganddynt hwy!”Huw Smallwood, Tegni Cyf 27
  • 29. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK CymruASTUDIAETH ACHOS TRICronfa Ymddiriedolaeth Cymunedol Fferm Wynt Cefn CroesYmddiriedolaeth Elusennol a ariennir gan Ynni Gwynt Cambrian a anelir atsefydliadau bach a arweinir gan y gymuned yw Cronfa Ymddiriedolaeth GymunedolFferm Wynt Cefn Croes. Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau yn Ardaloedd CynghorauCymuned Blaenrheidol a Phontarfynach ac yna i ardal ehangach Sir Ceredigion.Rheolir y gronfa gan fwrdd o bump Ymddiriedolwr yn cynrychioli Ynni GwyntCambrian a Chymunedau Blaenrheidol a Phontarfynach.Diben yr Ymddiriedolaeth yw cefnogi unrhyw fath o weithgaredd sy’n cynnwys poblleol, drwy sefydliadau cymunedol bach sydd o fudd i’w cymuned. Rhaid i’rgweithgareddau ddarparu rhywfaint o fudd economaidd, amgylcheddol, addysgol,cymdeithasol neu ddiwylliannol ar gyfer pobl sy’n byw yn yr ardal. Bydd Ynni GwyntCambrian yn talu £58,500 yn ogystal â chwyddiant yn flynyddol i Gronfa’rYmddiriedolaeth tra bydd fferm wynt Cefn Croes yn gweithredu.Er mwyn gwneud cais am ariannu mae’n rhaid i brosiectau fynd drwy weithdrefn owneud cais. Mae’r ddogfennaeth berthnasol i’w chael ar-lein, sy’n cynnwys copi llawno’r canllawiau gwneud cais 10; copi o’r ffurflen gais 11; copi o adroddiad DiweddProsiect y gronfa, a ddefnyddir at ddibenion gwerthuso12 . Ceir hefyd grynodeb manwlo’r cronfeydd a ddyrannwyd hyd yma er mwyn gweld y math o gynlluniau a gefnogir13.10 http://ponterwyd.pumlumon.org.uk/assets/File/Cefn_Croes_Application_Guidelines_Jan10.pdf11 http://ponterwyd.pumlumon.org.uk/assets/File/Cefn_croes_Trust_Fund_Application_Jan10.pdf12 http://ponterwyd.pumlumon.org.uk/assets/File/CefnCroesendofproject.pdf13 http://ponterwyd.pumlumon.org.uk/index.php?lang=eng&page=104 28
  • 30. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK CymruCofrestr o CBC ffermyddgwynt yng NghymruFel rhan o Gynllun Ynni Cymunedol ac Adnewyddadwy (CARES) Llywodraethyr Alban, mae Ynni Cymunedol yr Alban yn gweinyddu Cofrestr Llywodraeth yrAlban ar Fudd Cymunedol o Ynni Adnewyddadwy. Mae hwn yn offeryngwerthfawr i gynorthwyo cymunedau drwy’r proses budd cymunedol. Drwyddangos yr ystod o ffyrdd y gall budd cymunedol gael ei drafod, ei weinyddua’i ddyrannu, mae Llywodraeth yr Alban yn gobeithio y bydd gan gymunedau adatblygwyr adnoddau da i ddatblygur fframwaith gorau posibl ar gyferprosiectau adnewyddadwy newydd ledled yr Alban.Mae’r Gofrestr yn manylu ar wariant y gronfa ac yn darparu syniadau achyngor ar gyfer cymunedau sy’n dymuno sicrhau y caiff eu cronfeydd eugwario’n ddoeth. Gall unrhyw un gyrchu’r gronfa ddata 14 a darganfod beth sy’ndigwydd ledled yr Alban, ac mae hyn yn annog tryloywder y cynlluniau arhannu syniadau a phrofiadau. Bydd Ynni Cymunedol yr Alban hefyd yndefnyddio’r wybodaeth er mwyn gweld beth sy’n digwydd yn y maes. Mae’rgofrestr yn wirfoddol ac yn dibynnu ar fod cymunedau a datblygwyr yn rhannueu profiadau a’r gwersi a ddysgwyd. Anogir darparwyr cronfeydd buddcymunedol i lenwi’r ffurflen berthnasol 15.Ar y dudalen ganlynol ceir sgrinluniau yn dangos lefel nodweddiadol ywybodaeth sydd ar gael.Cafodd man cychwyn sylfaenol ar gyfer y math hwn o wybodaeth ynglŷn âchofrestr o gronfeydd budd cymunedol ffermydd gwynt yng Nghymru, ynmanylu ar werth y gronfa a’r trefniadau gweinyddol, ei pharatoi o’r ymatebioni’r astudiaeth hon.14 http://www.communityenergyscotland.org.uk/register15 http://www.communitybenefitregister.org.uk/form.aspx?formtype=1 29
  • 31. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru “Cwmni lleol yw Amegni a sefydlwyd gan ffermwyr sydd wedi arallgyfeirio ac sy’n byw yn y gymuned leol. Rydym yn berchen ar ac yn gweithredu fferm wynt 15.6MW a’n nod hirdymor yw i gynnal ac i gadwr budd o’r prosiect yn lleol - felly credwn fod perchnogaeth leol fel hyn yn fath o fudd cymunedol yn ei hawl ei hun (ond anaml y cydnabyddir hynny!). Fel cwmni lleol gofynnir i ni’n barhaus i noddi a chyfrannuat wahanol ddigwyddiadau cymunedol, prosiectau a chynorthwyo i ariannusefydliadau y byddwn yn ei wneud yn gyson uwchlawr taliadau ffurfiol a wneir. 30
  • 32. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK CymruMae’n anffodus ac yn afresymol dim ond i dargedu budd cymunedol arffermydd gwynt gan nad oes fawr ddim diwydiannau eraill yn gwneudcyfraniadau i’r cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt. Fel cwmni lleolrydym serch hynny yn gweld y gymuned leol yn gefnogol iawn i’r fferm wynt aci’n cwmni ni - mae hyn yn rhannol yn fwy na thebyg oherwydd y ffaith ein bodyn gwmni lleol ond yn fwy na hynny am eu bod hwy yn cael rhannu’rmanteision gyda ni.”Sion Thomas, AmegniASTUDIAETH ACHOS PEDWAREnghraifft o Wynt ar y Môr: Pecyn Budd Cymunedol Fferm Wynt ar y MôrGwastadeddau y RhylMewn cydweithrediad â Fferm Wynt ar y Môr Gwastadeddau y Rhyl sefydlwyd cronfagymunedol i gynorthwyo prosiectau cymunedol lleol mewn wardiau sy’n cyffinio â’rfferm wynt. Dechreuodd y gronfa flynyddol ar lefel sylfaen o £90,000, caiff eimynegrifo bob blwyddyn yn unol â chwyddiant a bydd ar gael dros fywyd gweithredoly fferm wynt.Er mwyn rhoi’r budd mwyaf i gymunedau lleol, mae npower renewables RWE wedigweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu trefniant gweinyddolar gyfer y gronfa hon sy’n rhoi mynediad haws i gymunedau lleol at ddewisiadauariannu ehangach drwy un ffurflen gais syml.Yn dibynnu ar lle mae’r grwpiau cymunedol wedi eu lleoli, gallant fod yn gymwys igyrchu arian gan Becyn Budd Cymunedol Fferm Wynt ar y Môr Gwastadeddau y Rhyla Chronfa Cydlyniant Cymunedol Ardal Adfywio Arfordir Gogledd Cymru, a ariennirgan Lywodraeth Cymru, gan ddefnyddio’r un ffurflen gais mewn rhai achosion. Gyda’igilydd mae hyn yn rhoi mynediad i grwpiau at gronfa gyfun gwerth £1 miliwn yflwyddyn i gefnogi elfennau cyfalaf a refeniw prosiectau. Mae gan Grwpiau yn y Rhylfynediad at Gronfeydd Budd Cymunedol Fferm Wynt ar y Môr Gwastadeddau y Rhyla North Hoyle a weinyddir gan yr un sefydliad, Partneriaeth Arfordirol Sir Ddinbych.• Lefel sylfaen y gronfa flynyddol yw £90,000 y flwyddyn dros fywyd gweithredol y fferm wynt, a ddisgwylir i fod tua 25 mlynedd.• Caiff y Gronfa ei mynegrifo bob blwyddyn yn unol â’r mynegai prisiau manwerthu.• Caiff £75,000 y flwyddyn ei neilltuo ar gyfer y wardiau canlynol yng Nghonwy: Pensarn, Colwyn, Eirias, Gele, Glyn, Bae Cinmel, Llanddulas, Llandrillo yn Rhos, Llysfaen, Mochdre, Pentre Mawr, Rhiw a Thowyn.• Caiff £15,000 y flwyddyn ei neilltuo ar gyfer y Rhyl.• Caiff cronfa prosiectau cyfalaf a/neu refeniw y cynllun eu rhedeg gan elusennau, grwpiau cymunedol a grwpiau gwirfoddol.Gweinyddiaeth Cronfa Gymunedol Fferm Wynt ar y Tir Gwastadeddau y RhylGweinyddir rhan Conwy o’r gronfa ochr yn ochr â Chronfa Cydlyniant CymunedolArdal Adfywio Arfordir Gogledd Cymru bresennol a ariennir gan Lywodraeth Cymru.Bydd y trefniadau hyn yn bodoli dros fywyd y Gronfa Cydlyniant Cymunedol. Eu nodyw cytuno ar strwythur weinyddol briodol i gymryd yr awenau ar ddiwedd cyfnodCronfa Cydlyniant Cymunedol Ardal Adfywio Arfordir Gogledd Cymru am weddillbywyd gweithredol y fferm wynt. 31
  • 33. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK CymruGweinyddir rhan y Rhyl o’r gronfa gan Bartneriaeth Arfordirol Sir Ddinbych -gweinyddwyr cyfredol y Gronfa Gymunedol sy’n bodoli’n barod mewn cydweithrediadâ Fferm Wynt ar y Môr North Hoyle. Caiff penderfyniadau ynglŷn â sut y caiff yrariannu ei dyrannu ei wneud gan Bartneriaeth Gymunedol y Rhyl, grŵp agyfansoddwyd yn llawn sy’n cynnwys gwirfoddolwyr lleol, yn cynrychioli’r cyngor tref,y sector gwirfoddol, y gymuned fusnes leol, cymdeithasau trigolion a’r heddlu. 32
  • 34. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK CymruSylwadau ychwanegolDyma’r sylwadau ychwanegol a gasglwyd yn ystod yr astudiaeth: “Ar hyn o bryd rydym yn darparu dros £1.4 miliwn y flwyddyn o fudd cymunedol ar draws ein portffolio o brosiectau adeiladau a gweithredol yn y DU. Caiff ein budd cymunedol ei weinyddu gan amrywiaeth o ymddiriedolaethau, cwmnïau a diddordebau cymunedol, mentrau adfywio cymdeithasol ac awdurdodau lleol. Ein model arfer gorau o’n portffolio lles cymunedol yw un lle mae cymunedau wedi creu cwmni diddordeb cymunedol ardal- benodol ac yn gweinyddu’r cronfeydd yn uniongyrchol eu hunain. Maehyn wedi arwain at nodi a chyflawni prosiectau adfywio sylweddol er lles y Rhanbarth,nid dim ond cymunedau penodol. Mae mewnbwn gan y datblygwr ar y dechrau acymgysylltu rheolaidd yn hanfodol i sicrhau bod meini prawf yr ariannu yn unol âgofynion y ddau barti.Mae trydydd parti i ddarparu ysgrifenyddiaeth a chymorth gyda gweinyddu cyffredinolac adrodd hefyd yn hanfodol i sicrhau nid yn unig y cedwir at y meini prawf ond hefyder mwyn cynorthwyo i wireddu prosiectau mawr a allai fod ar gael drwy ariannucyfatebol y Budd Cymunedol gyda ffrydiau ariannu perthnasol eraill, ac ati.Efallai y byddai grŵp wedi ei rymuso o gymunedau sy’n amgylchynu safleoedd gwyntar y tir sy’n derbyn Budd Cymunedol angen cyfnod dechreuol rhwng un neu ddwyflynedd i fynd i’r afael â phryderon cymunedol ‘normal’ e.e. cynnal a chadw neuaddbentref ac ati, ond dangosodd ein profiad y bydd yr un cymunedau, o gael ygefnogaeth iawn, hefyd mewn byr o dro yn dechrau creu a gweithredu Prosiectaueconomaidd ac amgylcheddol strategol ar gyfer eu hardal ehangach.”Daniel Ferrier, Celtpower Cyf (Scotish Power Renewables ac Eurus Energy) “Elfennau o’r cronfeydd budd cymunedol sy’n gweithio’n dda: Hyd yn hyn gall lefelau cymharol fach o ariannu gael effaith gadarnhaol sylweddol ar yr ardal leol agos; Ymgysylltu cynrychiolwyr lleol mewn gwneud penderfyniadau - gan rymuso pobl leol i gael rhagor o reolaeth dros eu tynged eu hunain; Mae trefniadau ariannu at y diben wedi eu teilwra i gymunedau unigol; Partneriaeth arloesol gyda Llywodraeth Cymru - ariannu cymunedol ffermydd gwynt wedi ei weinyddu ochr yn ochr ag ariannuardaloedd adfywio Llywodraeth Cymru, 2 gronfa - 1 ffurflen gais syml, gall cronfeyddgyfateb ei gilydd, gall ariannu ffermydd gwynt ariannu prosiectau refeniw sydd wedieu heithrio o ariannu Llywodraeth Cymru.Dewisiadau amgen ar gyfer y dyfodol:Rydym yn ymdrechu’n gyson i wella ein darpariaeth budd cymunedol ac yn hynny obeth rydym eisoes yn ymgysylltu yn nifer o’r mentrau hyn;Ystyried strwythurau yr ydym wedi eu defnyddio mewn ardaloedd eraill o’r DU yn fwydiweddar; 33
  • 35. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK CymruYmgynghoriad cynyddol a chynharach gyda chymunedau lleol a rhanddeiliadallweddol;Ystyriaeth ofalus o ganfyddiad cyhoeddus mecanweithiau/ffocws darpariaeth newydd;Dull newydd wedi ei alinio’n well i’r lefelau uwch o ariannu sydd ar gael;Canolbwyntio ar sicrhau ariannu cyfatebol;Ystyried manteision ar gyfer ardaloedd rhanbarthol ehangach;Aliniad agosach gyda strategaeth leol, rhanbarthol a chenedlaethol;Ffocws cynyddol ar ddatblygu economaidd yn cynnwys swyddi a sgiliau;Cydweithio posibl ymhlith datblygwyr;Hwn o hyd yn gyfle gorau cymunedau lleol i ddylanwadu ar ddatblygiadau ynni gwynt– cymryd gofal i beidio eu hallgau o’r broses hon;Cofio y gall grantiau lleol bach ddal i wneud gwahaniaeth mawr a lle bo’n briodol dylideu hystyried fel rhan o becyn cyffredinol;Gwell cydweithio o fewn y diwydiant er mwyn dangos y manteision a roddir gan ynnigwynt.”Katy Woodington, npower renewables RWE 34
  • 36. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK CymruCasgliadau acArgymhellionMae prosiectau ynni adnewyddadwy eisoes yn rhoi ystod o fanteisioncymunedol, yn ychwanegol at gynhyrchu ynni glân a chynaliadwy. Mae’r rhainyn cynnwys rhagor o gyfleoedd swyddi a gwelliannau i’r amgylchedd adeilediga naturiol. Yn ogystal, mae ystod eang o Gronfeydd Budd Cymunedol yngweithredu yng Nghymru sy’n cyfrannu’n eithriadol o gadarnhaol i gymunedaulleol ar draws y wlad. Dylai cronfeydd lleol sefydledig gael eu gweld fel ffordd oddweud ‘diolch’ wrth y cymunedau sy’n rhoi cartref i ffermydd gwynt achynlluniau ynni adnewyddadwy eraill.Gallwn gasglu o’r data a gasglwyd gennym bod:• Tua phedair o bob pump fferm wynt sy’n gweithredu yng Nghymru yn cyfrannu i’w cymunedau lleol mewn modd strwythuredig;• Llawer o endidau gwahanol yn elwa o gyfraniadau ffermydd gwynt (nodwyd cyfanswm o 34 allan 20 ymateb);• Caiff CBC yng Nghymru eu gweinyddu’n bennaf drwy ymddiriedolaethau lleoledig (neu gyrff tebyg) neu Gynghorau Cymuned;• Y math mwyaf cyffredin o daliad gan weithredwyr fferm wynt yw drwy symiau penodedig, yn cael ei ddilyn gan gyfrifiad fesul MW a osodwyd; ac mai• Cyfanswm y symiau a ddatgelwyd a ddyfarnwyd i Gronfeydd Budd Cymunedol neu debyg yn 2011 oedd £623,853.30.Yng ngoleuni agendâu gwleidyddol cyfredol, efallai bod yr amser wedi dod llegallai datblygwyr ffermydd gwynt ar y tir fod am sicrhau bod budd penodol o’urhaglenni yn cael ei ddarparu i gymunedau mewn modd mwy uchel ei broffil athryloyw er mwyn dangos yn fwy effeithiol y canlyniadau cadarnhaol agynhyrchir ganddynt. 35
  • 37. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK CymruMae’r ddogfen ‘Sicrhau manteision cymunedol o ddatblygu ynni gwynt: PecynCymorth’16 yn amlinellu nifer o ffactorau gwahanol y dylid eu hystyried wrthgynllunio cynllun budd cymunedol:• Pam ddylid ystyried manteision cymunedol?• Beth yw costau, risgiau a gwobrau ynni gwynt a sut mae budd cymunedol yn ffitio i’r darlun hwn?• Beth yw’r berthynas rhwng budd cymunedol a’r broses gynllunio?• Beth yw’r gwahanol ffyrdd y gellir cynnig budd cymunedol drwyddynt?• Pwy ddylai elwa a sut ddylai hyn gael ei reoli a’i weinyddu?• Pa gytundebau ellir ac a ddylid eu rhoi ar waith i sicrhau’r budd hwn?Mae’r cyngor yn pwysleisio pwysigrwydd canolbwyntio ar y budd a gaiff eigyflenwi ‘mewn cylch’. Gallai fod yn fanteisiol i weithredwyr cysylltiedig âChronfeydd Budd Cymunedol ail-edrych ar gyfeiriad strategol eu cynlluniau ermwyn sicrhau eu bod wedi eu halinio gyda phrif bolisi economaidd ehangach.Er enghraifft, byddai’r astudiaeth achos LEDS a amlinellwyd yn flaenorol(Astudiaeth Achos Un; tudalen 19) o bosibl yn apelio at drigolion yn ardal eiweithredu, ond efallai ddim yn apelio at bolisi Llywodraeth Cymru o ranhyrwyddo effeithlonrwydd ynni. Os, fodd bynnag, y bydd y cynllun wedi eiddatblygu ar y cyd â Llywodraeth Cymru, er enghraifft, yna gallai gael eigyplysu gyda’r cynllun Arbed17 er mwyn cydlynu buddsoddiad i berfformiadynni cartrefi yng Nghymru.Dylai CBC sicrhau eu bod yn addas ar gyfer diwydiant a chymunedau, a’u bodwedi eu rheoli mewn modd ‘craff’. Un ffordd o’r fath yw archwilior posibilrwyddo ‘dynnu’ ariannu i mewn o wahanol ffrydiau e.e. Cronfa Gymdeithasol Ewrop,Llywodraeth Cymru, Canolfan Byd Gwaith). Mae pecyn Budd CymunedolFferm Wynt ar y Môr Gwastadeddau y Rhyl (Astudiaeth Achos Pedwar;tudalen 31), er enghraifft, yn ymgorffori Cronfa Cydlyniant Cymunedol aariennir gan Lywodraeth Cymru, ac mewn sawl achos drwy’r un ffurflen gais.Gyda’i gilydd mae hyn yn rhoi mynediad i grwpiau at gronfa gyfun gwerth £1miliwn y flwyddyn i gefnogi elfennau cyfalaf a refeniw prosiectau, ac fellygwneud y mwyaf o’r gwariant drwy alluogi prosiectau mwy eu maint. Mae rôl ar16 http://www.cse.org.uk/downloads/file/Delivering%20community%20benefits%20from%20wind%20energy%20-%20a%20tookit.pdf17 http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/energy/efficiency/arbed/?lang=en 36
  • 38. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymrugyfer Llywodraeth Cymru mewn cynnig cyngor i Gronfeydd Budd Cymunedol oran y ffordd fwyaf effeithiol y gall eu hariannu gael ei ddefnyddio, efallai drwygyfrwng megis Ynni Cymunedol Cymru neu Gronfa Ynni CymunedolCanolbarth Cymru (Windfall).Mae hefyd angen sicrhau bod Cronfeydd Budd Cymunedol wedi eu cydweddui reidrwydd economaidd yn ogystal â pharhau â’r budd cymdeithasol lleol ymaent yn amlwg yn eu rhoi. Gallai Cronfeydd Budd Cymunedol gael eudefnyddio ar gyfer amcanion datblygu economaidd rhanbarthol mwy strategol:er enghraifft, gallai trefniadau gwirfoddol gefnogi datblygu economaiddrhanbarthol, creu swyddi a gwella sgiliau. Un awgrym yw creu cronfafuddsoddi Ardal Chwilio Strategol (SSA) 25 mlynedd ar gyfer pob SSA, ybyddai iddi fodel llywodraethu rhanbarthol, strategol yn edrych ar faterioneconomaidd pwysig rhanbarthol a chasglu mewnbwn gan sefydliadau megisFforymau Economaidd Rhanbarthol. Gallai cyfryngau or fath gael eu sefydlufel cronfeydd ymddiriedolaethau gyda’r datblygwyr yn cael eu gwahodd i dalurhan o’u Cronfeydd Budd Cymunedol i mewn iddo, a allai wedyn godi ariannucyfatebol (e.e. cronfeydd Ewropeaidd), neu adlenwadau gan lywodraeth.Byddai’r cronfeydd SSA hyn yn sicrhau ffocws ar faterion datblygueconomaidd rhanbarthol, ac nid dim ond ar faterion lleol mewn cymunedausydd yn aml yn gymharol denau o ran poblogaeth.Dylai Llywodraeth Cymru gynorthwyo datblygwyr a chymunedau i ddewis ycyfrwng Cronfeydd Budd Cymunedol iawn ar gyfer eu hamgylchiadauarbennig hwy ac i wneud y defnydd mwyaf effeithiol o’r arian i’w ddyrannu, obosibl drwy gyflwyno ‘Cynghorwyr CBC’ i alluogi eu cyswllt i ariannu posiblsydd yn aml yn cyd-fynd â mentrau llywodraeth.Dylai Llywodraeth Cymru hefyd ariannu cofrestrfa swyddogol agored i’rcyhoedd (tebyg i fodel yr Alban) a fyddai’n annog rhannur arfer gorau,syniadau a phrofiadau. Dylent ariannu cofrestrfa bellach a fyddai’n rhestruceisiadau ffermydd gwynt sydd wedi eu cymeradwyo ond hyd yma heb eucodi, a’r math o drefniadau CBC sy’n cael eu rhoi ar waith neu’n cael eucynnig. Byddai hyn yn galluogi grwpiau lleol a rhanbarthol i gyflwyno eucynigion eu hunain i weithio gyda’r CBC i’r dyfodol.Dylai’r cyfryngau a ddefnyddir i ddarparu CBC sicrhau tryloywder eugweithgareddau. Er enghraifft, fel arfer gorau dylai’r ymddiriedolaeth neuGyngor Cymuned perthnasol sefydlu gwefan agored i’r bobl yn dangos hanfod 37
  • 39. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymruy cynllun, gan restru sut cafodd arian ei ddyrannu ac ar ba sail, ynghyd âmanylion cyswllt. Hefyd, dylid rhoi lefel resymol o arian o’r CBC o’r neilltu isicrhau y caiff y CBC eu hyrwyddo ar lefel leol ac y caiff cymunedau lleolwybod am eu gweithgareddau. Mae’r ddau argymhelliad hwn er lles ydiwydiant fel bod gweithgareddau da nid yn unig yn digwydd ond yn cael eiweld yn digwydd.Mae’r ddadl ynghylch protocol budd cymunedol yn Lloegr wedi nodi isafswmtaliad o £1,000 y flwyddyn am bob MW o ynni gwynt a osodir yn ystod bywyd yfferm wynt. Yng Nghymru dylai’r argymhellion uchod wneud y ddadl hon i bobpwrpas yn amherthnasol. Dylai ein gweledigaeth ni fod am gynlluniau aweithiwyd allan yn dda ac a gaiff eu cynnal yn dda gydag amcanion clir, sy’ntynnu amrywiol bartneriaid i mewn i ddenu’r ariannu mwyaf posibl, ac sydd yndryloyw ac yn gyrchadwy i gymunedau a rhanddeiliaid. Dyma ddylai’r fforddymlaen fod ar gyfer y diwydiant, gan weithio’n agos gyda chymunedau ar lefelmicro a gyda Llywodraeth Cymru ar y lefel macro.Ni ddylai rhywun danbrisio gwerth y CBC eu hunain, na’r ffermydd gwynt ymaent yn eu cynrychioli. Darparwyd tua 8,600 o swyddi gan y diwydiant gwyntar y tir yn 2011, gyda £548 miliwn wedi ei ychwanegu i economi y DU, yn ôlastudiaeth ar y cyd a gyhoeddwyd gan RenewableUK a’r Adran Ynni a NewidHinsawdd18. Canfu bod y gwir werth a ddarperir gan wynt (yn agos i £700,000am bob MW a osodwyd yn y DU) yn fwy na £100,000 o fewn ardal yrAwdurdod Lleol. Mae CBC yn elfen hollbwysig mewn dangos i gymunedaulleol nid dim ond manteision amgylcheddol ynni adnewyddadwy ond hefyd ymanteision economaidd lleol. Rhaid canolbwyntio ar sut y gall y cymunedauhyn sicrhau’r budd mwyaf ac, yn enwedig, y rhan hollbwysig sydd gan y CBCyn y deinamig hwn.18 http://www.decc.gov.uk/assets/decc/11/meeting-energy-demand/wind/5585-economic-benefits-onshore-wind-full-pn.pdf 38
  • 40. Atodiad 1 39
  • 41. Enw’r cwmni: Triodos Renewbales (Wern Ddu) CyfEnw’r fferm wynt a weithredir: Fferm Wynt Wern DduGallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) 9.2MWa weithredir:Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a 2 flyneddweithredir:Enw a swydd yr ymatebwr: Monika Paplaczyk, Rheolwr BuddsoddiEnw’r cwmni: Tegni CyfEnw’r fferm wynt a weithredir: Hafoty Ucha (Ll21 0RL)Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) 3.15 MWa weithredir:Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a 8 mlyneddweithredir:Enw a swydd yr ymatebwr: Huw Smallwood (Perchennog)Enw’r cwmni: Ynni Adnewyddadwy Cymunedol Bro DyfiEnw’r fferm wynt a weithredir: Vestas a Nordtank (SY20 8AX)Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) 575kWa weithredir:Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a 9 mlynedd a 4 mlynedd yn y drefnweithredir: honnoEnw a swydd yr ymatebwr: Michael Phillips, Pwyllgor RheoliEnw’r cwmni: AmegniEnw’r fferm wynt a weithredir: Carno II (SY17 5JS)Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) 15.6 MWa weithredir:Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a 3 blyneddweithredir:Enw a swydd yr ymatebwr: Sion Thomas – Perchennog / Gweithredwr 40
  • 42. Enw’r cwmni: Celtpower Cyf (Scottish Power Renewables ac Eurus Energy)Enw’r fferm wynt a weithredir: Llandinam (Cyf Grid Cenedlaethol SO 028836)Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) 30MWa weithredir:Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a 20 mlyneddweithredir:Enw a swydd yr ymatebwr: Daniel Ferrier - Rheolwr Prosiect CynorthwyolEnw’r cwmni: RWE npower renewablesEnw’r fferm wynt a weithredir: Bryn Titli; Carno; Ffynnon Oer; Llyn Alaw; Mynydd Gorddu; Trysglwyn; Taf ElaiGallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) 9.9MW; 33.6MW; 33MW; 20.4MW;a weithredir: 10.2MW; 5.6MW; 9MWYn fras, oed y datblygiad fferm wynt a 18 mlynedd; 16 mlynedd; 6 mlynedd; 15weithredir: mlynedd; 14 mlynedd; 14 mlynedd; 19 mlyneddEnw a swydd yr ymatebwr: Katy Woodington, Uwch Swyddog Buddsoddi CymunedolEnw’r cwmni: EC&R (menter ar y cyd rhwng EC&R ac Eurus Energy)Enw’r fferm wynt a weithredir: Rhyd-Y-GroesGallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) 7.2MWa weithredir:Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a 20 mlyneddweithredir:Enw a swydd yr ymatebwr: Jonn Barnes, Uwch Gychwynnwr 41
  • 43. Enw’r cwmni: Moelogan 2 CccEnw’r fferm wynt a weithredir: Moel Moelogan (LL28 5UN)Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) 11.7MWa weithredir:Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a 4 blyneddweithredir:Enw a swydd yr ymatebwr: Geraint Davies, Perchennog/ GweithredwrEnw’r cwmni: Cambrian Wind Energy LimitedEnw’r fferm wynt a weithredir: Fferm Wynt Cefn Croes (SY23 3LE)Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) 58.5 MWa weithredir:Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a 8 mlyneddweithredir:Enw a swydd yr ymatebwr: Roger Jones, Rheolwr AsedauEnw’r cwmni: InfinergyEnw’r fferm wynt a weithredir: Fferm wynt Castle Pill (SA73) + Fferm wynt Ferndale (CF43)Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) Castle Pill (3.2MW) + Ferndale (6.4MW)a weithredir:Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a Castle Pill (3 blynedd) + Ferndale (2weithredir: flynedd)Enw a swydd yr ymatebwr: Lorraine Dallmeier, Cyfarwyddwr Prosiect 42
  • 44. Enw’r cwmni: RESEnw’r fferm wynt a weithredir: Dyffryn Brodyn (SA34 0JE)Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) 5.5MWa weithredir:Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a 18 mlyneddweithredir:Enw a swydd yr ymatebwr: Samantha Mayes, Cydlynydd Cysylltiadau CymunedolEnw’r cwmni: Pennant Walters Maesgwyn CyfEnw’r fferm wynt a weithredir: Maesgwyn (SA10)Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) 26MWa weithredir:Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a 18 misweithredir:Enw a swydd yr ymatebwr: Dale Hart, CyfawyddwrEnw’r cwmni: StatkraftEnw’r fferm wynt a weithredir: Alltwalis (SA32 7ED)Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) 23MWa weithredir:Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a 2 flynedd a hannerweithredir:Enw a swydd yr ymatebwr: Rob Fellows (Cynghorydd Cysylltiadau Cymunedol) 43

×