Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol

551 views
378 views

Published on

Published in: Technology
0 Comments
0 Likes
Statistics
Notes
  • Be the first to comment

  • Be the first to like this

No Downloads
Views
Total views
551
On SlideShare
0
From Embeds
0
Number of Embeds
7
Actions
Shares
0
Downloads
3
Comments
0
Likes
0
Embeds 0
No embeds

No notes for slide

Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol

  1. 1. Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol Adroddiad gan RegenerisConsulting ac Uned Ymchwil iEconomi Cymru, Ysgol Fusnes Caerdydd
  2. 2. RenewableUK CymruCyfleoedd Economaidd iGymru yn sgil DatblyguYnni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol Ionawr 2013 Regeneris Consulting Ltd Faulkner House Faulkner Street Manchester M1 4DY 0161 234 9910 www.regeneris.co.uk
  3. 3. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●CynnwysCrynodeb Gweithredol 11. Cyflwyniad 102. Trosolwg or Dull Asesu 123. Y Sector Ynni Gwynt ar y Tir yng Nghymru 204. Cyfleoedd Economaidd i Gymru 355. Buddiannau Economaidd Lleol 506. Casgliadau ac Argymhellion 66Atodiad A Methodoleg Effaith Economaidd A-1Atodiad B Holiadur yr Arolwg B-1Atodiad C Ymgynghoreion C-1Atodiad D Astudiaethau Achos D-1
  4. 4. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ● Ynglŷn âr AwduronCwmni ymgynghori economaidd annibynnol syn arbenigo mewn datblygu economaidd ywRegeneris Consulting. Rydym yn gwmni blaenllaw ym maes asesu effeithiau economaidd-gymdeithasol sydd wedi cynnal llawer o astudiaethau mewn amrywiaeth o sectorau, gangynnwys ynni, tai, band eang, twristiaeth a hamdden, tir ac eiddo, fferylliaeth, y diwydiantmoduro ac awyrofod, ac eraill. Rydym yn arbenigo mewn defnyddio technegau dadansoddi ermwyn nodi effeithiau economaidd-gymdeithasol amrywiol sectorau, cwmnïau, prosiectaubuddsoddi ac ergydion economaidd.Lleolir Uned Ymchwil i Economi Cymru (WERU) o fewn Ysgol Fusnes Caerdydd ym MhrifysgolCaerdydd ac mae ganddi gryn brofiad o ddarparu gwasanaethau ymchwil ac ymgynghori isefydliadau yn y sector cyhoeddus ar sector preifat. Un o themâu pwysig ymchwil ddiweddarWERU fu asesiadau economaidd ac adroddiadau ar sectorau diwydiant (cyfryngau, treftadaetha diwylliant, twristiaeth, dur a glo, a mathau eraill o ynni). Mae WERU wedi llunio tablauMewnbwn-Allbwn ar gyfer Cymru. Maer tablau hyn yn rhoir darlun mwyaf cynhwysfawr achadarn sydd ar gael o economi Cymru, gan nodi llif nwyddau a gwasanaethau rhwngdiwydiannau, defnyddwyr a llywodraeth a thynnu sylw at y rhyng-gydberthnasau agos rhwngdiwydiannau o fewn economi gyfoes Cymru. Ynglŷn â’r AdroddiadMae’r adroddiad yma yn cael ei ariannu gyda chyfraniadau oddi wrth:AmegniLlywodraeth CymruPennant WaltersRenewableUK CymruRESRWE npower renewablesScottishPower RenewablesSSE RenewablesTegni Cymru CyfVattenfallWest Coast Energy
  5. 5. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ● Crynodeb Gweithredol Diben a Chwmpas yr Adroddiadi. Cafodd Regeneris Consulting ei benodi gan Renewable UK Cymru, Llywodraeth Cymru a grŵp o ddatblygwyr ffermydd gwynt i gynnal asesiad o gyfleoedd economaidd datblygiadau gwynt ar y tir i Gymru. Maer astudiaeth wedi cael ei chynnal ar y cyd ag Uned Ymchwil i Economi Cymru yn Ysgol Fusnes Caerdydd, gyda chyngor gan PMSS Ltd., cwmni ymgynghori ar ynni adnewyddadwy.ii. Maer asesiad yn cwmpasu cyfanswm y buddsoddiad gan gwmnïau Cymreig a chwmnïau eraill or ffynonellau canlynol:  Gwariant uniongyrchol yng Nghymru drwy weithgynhyrchu cydrannau tyrbinau gwynt; gwaith cynllunio a datblygu; adeiladur safle ar fferm wynt; gweithrediadau a chynnal a chadw; a datgomisiynu/ailbweru  Gwariant anuniongyrchol drwy gydrannau cadwyn gyflenwi a ddaw o Gymru a buddsoddi mewn seilwaith grid  Buddsoddiad wedii ysgogi a wneir gan gyflogeion a gefnogir drwy effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol  Taliadau buddiannau cymunedol.iii. Maer ffocws gofodol ar Gymru yn ei chyfanrwydd, gydag arwydd o leoliad daearyddol posibl effeithiau ar bob cam o gylch oes y fferm wynt.iv. Maer astudiaeth yn canolbwyntio ar gyfleoedd economaidd craidd a fyddain cael eu creu yn sgil datblygur sector yn y dyfodol. Nid ywn asesur effeithiau amgylcheddol neu gymdeithasol ehangach.v. Cynhaliwyd yr astudiaeth gan ddefnyddior canlynol:  Adolygiad or llenyddiaeth  Dadansoddiad o Gronfa Ddata ffermydd gwynt Renewable UK  Arolwg o ddatblygwyr a gweithredwyr ffermydd gwynt yng Nghymru  Ymgynghoriadau âr diwydiant, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill  Gwaith modelu Mewnbwn-Allbwn  Astudiaethau achos. 1
  6. 6. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ● Trosolwg or Sector Ynni Gwynt ar y Tir yng Nghymru Cyd-destun Polisivi. Mae polisi Cymru o ran y sector ynni gwynt ar y tir wedi esblygu dros y blynyddoedd diwethaf. Rhydd canllawiau cynllunio TAN 8, a gyhoeddwyd yn 2005, ganllawiau ar leoliad ffermydd gwynt mewn Ardaloedd Chwilio Strategol. Disgwylir mair lleoliadau hyn a fydd yn gartref ir rhan fwyaf o ffermydd gwynt yn y blynyddoedd i ddod.vii. Maer canllawiau cynllunio diweddaraf yn cyfeirio at y nod i gyflawni cyfanswm o 2,000 MW o ffermydd gwynt ar y tir erbyn 2025, gyda chryn dipyn or gwaith yn cael ei gyflawni erbyn 2020. Dylid nodi mai Arolygiaeth Gynllunior DU syn penderfynu ar brosiectau uwchlaw 50 MW.viii. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod buddiannau economaidd-gymdeithasol posibl datblygur sector, ai phrif nodau yw cyflawnir buddiannau economaidd hirdymor hyn ir graddau mwyaf posibl a sicrhau bod cymunedau lleol yn cael budd o ddatblygiadau seilwaith ynni. Datblygur Sector: Profiad Blaenorol a Rhagolygonix. Ystyriwyd bod TAN 8 wedi ysgogir gwaith o ddatblygur sector, er mai rhywbeth byrdymor fu hyn. Dim ond tua chwarter o darged TAN 8 ar gyfer 2010 a gyflawnwyd.x. Yn ôl cronfa ddata RenewableUK o ffermydd gwynt, mae digon o adnoddau ar y gweill i gyflawnir nod o 2,000 MW erbyn 2025: yn ogystal âr 420 MW sydd eisoes ar waith, mae tua 1,800 MW wedi cael caniatâd neu yn y system gynllunio. Fodd bynnag, maen amlwg na chaiff yr holl brosiectau hyn eu cymeradwyo ac mae rhai, yn wir, yn annibynnol ar ei gilydd.xi. Rydym wedi ystyried tair sefyllfa ddatblygu ar gyfer y dyfodol (gweler Atodiad A am ragor o fanylion)  2,000 MW: er mwyn cyflawnir nod hwn erbyn 2025 byddai angen tua 120 MW arall bob blwyddyn hyd hynny.  Tueddiadau Hanesyddol: parhau â thueddiadau 2001-11, gan awgrymu y bydd angen 27 MW arall bob blwyddyn, a chyfanswm o 800 MW erbyn 2025  Tueddiadau Diweddar: parhau â thueddiadau cydsynio mwy diweddar, gan awgrymu y bydd angen 86 MW arall bob blwyddyn, a chyfanswm o 1,560 MW erbyn 2025.xii. Modelwn effaith economaidd y sefyllfaoedd hyn yn Adran 4. Barn y Diwydiantxiii. Ar y cyfan, mae datblygwyr yn gadarnhaol ynghylch presenoldeb cyflenwyr Cymreig ym meysydd peirianneg sifil, gwasanaethau amgylcheddol ac ymgynghoriaeth amgylcheddol, ac maer rhan fwyaf yn ymwybodol or gwaith gweithgynhyrchu tyrau a geir yng Nghymru (h.y. Mabey Bridge).xiv. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn gallu gweld rhywfaint o botensial o leiaf i gynyddu eu defnydd o gwmnïau ar y camau datblygu ac adeiladu dros y tair blynedd nesaf, gyda thraean yn nodi cryn botensial. Roedd cyfran lai - ond mwyafrif sylweddol serch hynny - or farn y 2
  7. 7. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ● gellid cynyddur defnydd o gwmnïau ym maes gweithrediadau a chynnal a chadw. Roedd bron hanner yn gweld llawer o botensial.xv. Nododd datblygwyr amrywiaeth o rwystrau polisi ac economaidd i dyfur gadwyn gyflenwi yng Nghymru, gan gynnwys risgiau ac ansicrwydd sylweddol ynghylch cael caniatâd cynllunio a chanfyddiad bod diffyg perchenogaeth o ddyheadau cenedlaethol ar lefel leol. Roedd cyfyngiadau o ran seilwaith (ar y ffyrdd ar grid) hefyd yn rhwystrau cyffredin.xvi. Ar y cyfan, mae 40% or datblygwyr a arolygwyd or farn bod Cymru yn lle eithaf ffafriol neu ffafriol iawn i fuddsoddi ynddo. Dim ond lleiafrif bach o ymatebwyr syn ystyried bod Cymru yn lle ffafriol iawn (7%). Nododd tua thraean o’r datblygwyr fod Cymru yn lle eithaf anffafriol neu anffafriol iawn.xvii. Gan edrych o dan y datganiadau hyn, nid oedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr or farn bod y sylfaen sgiliau yn gyfyngiad ac roedd y rhan fwyaf yn gadarnhaol neun niwtral ynghylch polisi cynllunio Cymru (h.y. TAN 8). Roedd cytundeb clir bod polisïau ac arferion cynllunio lleol ynghyd â seilwaith grid a ffyrdd yn ffactorau negyddol wrth ystyried Cymru fel lleoliad i fuddsoddi ynddo o ran prosiectau gwynt ar y tir. Effeithiau Economaidd i Gymru Datblygu ac Adeiladuxviii. Amcangyfrifwn mai £1.13m yw cyfanswm y costau adeiladu cyfartalog fesul MW o gapasiti wedii osod, a chyfanswm y costau datblygu yw £0.12m, ar sail prisiau 2012.xix. Mae ein hamcangyfrifon yn awgrymu bod disgwyl i 35% or holl wariant ar y cam adeiladu aros yng Nghymru ar gyfartaledd, ynghyd â 71% or gwariant cynllunio a datblygu. Ar gyfartaledd, mae datblygwyr yn disgwyl i ryw dri chwarter y gofyniad am dyrau tyrbinau ddod o Gymru, gyda Mabey Bridge a chyflenwyr eraill o bosibl yn cyflenwir tyrau dur. Er bod Mabey Bridge mewn sefyllfa i fodlonir gofyniad hwn, er mwyn sicrhau darbodusrwydd ac adlewyrchur risgiau negyddol o ran y disgwyliad hwn, rydym wedi lleihaur dybiaeth brynu hon i 50% at ddibenion modelu. Mae gan Gymru nifer fawr o ddarpar gyflenwyr ym maes peirianneg sifil hefyd, ynghyd â choedwigaeth a gwasanaethau amgylcheddol.xx. Gan nad oes gweithgynhyrchydd tyrbinau yng Nghymru, maer holl wariant ar dyrbinau gwynt yn digwydd y tu allan i Gymru. Ni ddisgwyliwn allu denu gweithgynhyrchydd tyrbinau i Gymru, o ystyried yr adnoddau presennol a geir yn Ewrop ar arbedion maint a fyddain ofynnol er mwyn llywior fath fuddsoddiad.xxi. Amcangyfrifwn, yn 2005-11, ir gwaith o gynllunio ac adeiladu prosiectau gwynt ar y tir yng Nghymru gyfrannu £7.8m mewn GYC a 335 o swyddi cyfwerth ag amser llawn (CALl) bob blwyddyn ar gyfartaledd. Maer effeithiau economaidd o dan ein sefyllfaoedd ar gyfer y dyfodol fel a ganlyn: 3
  8. 8. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ● Effeithiau Economaidd y Camau Cynllunio, Datblygu ac Adeiladu i Gymru (cyfartaledd y flwyddyn) Sefyllfa 2,000 MW Senario Tueddiadau Senario Tueddiadau Hanesyddol Diweddar 2012-24 2025-50 2012-24 2025-50 2012-24 2025-50 GYC (£m) 38 20 12 6 23 11 Cyflogaeth (CALl) 1,610 820 500 240 810 410 Ffynhonnell: Cyfrifiadau WERU, yn seiliedig ar arolygon datblygwyr a Chronfa Ddata RenewableUK o ffermydd gwynt. Noder: Mynegir holl ffigurau GYC ar sail prisiau 2012. Maer amcangyfrifon yn cynnwys effeithiau datgomisiynu/ailbweru. Gweithrediadau a chynnal a chadwxxii. Disgwylir i 76% or holl wariant yn y cylch cyntaf aros yng Nghymru, gydar gwariant hwn yn cyfateb i £38,600 fesul MW y flwyddyn.xxiii. Ymhlith yr eitemau mwyaf o wariant mae rhenti tir a thaliadau mynediad, a delir ir Comisiwn Coedwigaeth/Llywodraeth Cymru a thirfeddianwyr lleol. Cyfanswm y costau cyflogaeth uniongyrchol yr eir iddynt gan ddatblygwyr yw £9,800 fesul MW gydar rhan fwyaf yn aros yn economi Cymru. Mae taliadau Buddiannau Cymunedol yn rhan bwysig o wariant gweithredol i gymunedau lleol a leolir gerllaw ffermydd gwynt a chaiff yr arian ei wario yn yr ardal leol ar y cyfan.xxiv. Amcangyfrifwn, rhwng 2005 a 2011, i weithgarwch gweithrediadau a chynnal a chadw gefnogi £6m o GYC a 210 o swyddi CALl bob blwyddyn ar gyfartaledd. Maer effeithiau economaidd o dan ein sefyllfaoedd ar gyfer y dyfodol fel a ganlyn: Effeithiau Economaidd y Cam Gweithrediadau a Chynnal a Chadw i Gymru (cyfartaledd y flwyddyn) Senario 2,000 MW Senario Tueddiadau Senario Tueddiadau Hanesyddol Diweddar 2012-2024 2025-2050 2012-2024 2025-2050 2012-2024 2025-2050 GYC (£m) 22 37 11 15 14 23 Cyflogaeth (CALl) 720 1,260 370 500 470 770 Ffynhonnell: Cyfrifiadau WERU, yn seiliedig ar arolygon datblygwyr a Chronfa Ddata RenewableUK o ffermydd gwynt. Noder: Mynegir holl ffigurau GYC ar sail prisiau 2012. Effeithiau Economaidd a Ragwelirxxv. Dros y cyfnod asesu llawn, sef 2012-2050, gallai Cymru sicrhau cyfanswm o £2.3bn mewn GYC, ar yr amod bod 2,000 MW o gapasiti wedii osod yn cael ei gyflawni erbyn 2025. Byddai hyn yn cyfateb i:  £1.4bn yn fwy mewn GYC na phetai tueddiadau hanesyddol yn parhau  £0.9bn yn fwy mewn GYC na phetai cyfraddau cydsynio mwy diweddar yn parhau. 4
  9. 9. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ● Effeithiau Economaidd y Camau Datblygu, Adeiladu a Gweithrediadau a Chynnal a Chadw i Gymru (cyfartaledd y flwyddyn) Senario 2,000 MW Senario Tueddiadau Senario Tueddiadau Hanesyddol Diweddar 2012-2024 2025-2050 2012-2024 2025-2050 2012-2024 2025-2050 GYC (£m) 60 57 23 21 36 34 Cyflogaeth (CALl) 2,330 2,080 870 740 1,280 1,180 Ffynhonnell: Cyfrifiadau WERU, yn seiliedig ar arolygon datblygwyr a Chronfa Ddata RenewableUK o ffermydd gwynt. Noder: Mynegir holl ffigurau GYC ar sail prisiau 2012. Maer amcangyfrifon yn cynnwys effeithiau datgomisiynu/ailbweru.xxvi. Byddair rhan fwyaf or effaith hon yn y senario 2,000 MW iw gweld mewn gweithgareddau adeiladu, gyda gweithgynhyrchu (yn arbennig dur) hefyd ar ei ennill. Amcangyfrifir y bydd nifer y swyddi mewn gwasanaethau preifat yn cynyddu bron 300 o swyddi CALl y flwyddyn hyd at 2025 a bron 400 ar ôl hynny, tra y bydd gwasanaethau proffesiynol ac ariannol (syn canolbwyntio ar weithgareddau cynllunio a pheirianneg yma) yn cynyddu tua 300 o swyddi bob blwyddyn hyd at 2050.xxvii. Byddair buddsoddiad mewn Seilwaith Grid a fyddain ofynnol er mwyn cefnogir gwaith o leoli tyrbinau gwynt yn y Canolbarth hefyd o fudd economaidd. Yn dibynnu ar y datrysiad terfynol (uwchben neu dan ddaear), amcangyfrifwn y byddair buddsoddiad hwn yn cefnogi rhwng £11m a £57m mewn GYC a 360-1,950 o flynyddoedd gwaith pobl yng Nghymru. Cwmpas i Sicrhaur Buddiannau Mwyaf i Gymruxxviii. Yn seiliedig ar asesiad o adnoddau presennol ar yr ochr gyflenwi a buddiannau economaidd ymylol newidiadau mewn systemau prynu, gallai camau i gadw mwy o wariant yng Nghymru ar gyfer amrywiaeth o sectorau arwain at £7.3m ychwanegol o GYC a 250 ychwanegol o swyddi CALl y flwyddyn yn y senario 2,000 MW rhwng 2012 a 2024 - gweler y tabl isod. Ir gwrthwyneb, maer tabl hefyd yn dangos effaith sefyllfa lle byddai llai o brynu o Gymru nar disgwyl.xxix. Maen bosibl mai ym meysydd rheoli gwaith adeiladu, gwaith sifil, gwaith trydanol a chysylltiadau grid y gellid sicrhaur enillion mwyaf o brynu mwy o Gymru. Byddai cynnydd o 10 pwynt canran mewn lefelau prynu yng Nghymru yn y sector cyfunol hwn yn creu amcangyfrif o £3.7m yn ychwanegol o GYC a 140 o swyddi CALl y flwyddyn yn y cyfnod 2012- 24 yn y senario 2,000 MW.xxx. Byddai cynnydd tebyg mewn lefelau prynu yng Nghymru ym maes cynllunio, gwasanaethau proffesiynol a rheoli prosiectau yn creu £1.6m mewn GYC a 50 o swyddi CALl y flwyddyn. 5
  10. 10. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ● Effeithiau Economaidd Prynu Mwy o Gymru % a gaiff ei Cynnydd o 10 pwynt canran mewn phrynu o Lefelau Prynu Lleol Gymru ar hyn Fesul MW Effaith Flynyddol o bryd Ychwanegol yn y Senario 2,000 MW; 2012-24 GYC Swyddi GYC Swyddi CALl CALl Cynllunio, Gwasanaethau Proffesiynol a 71% £10,100 0.3 1.6 50 Rheoli Prosiectau Adeiladu, Gwaith ar y Tir a Pheirianneg 61% £23,300 0.9 3.7 140 Drydanol Gweithgynhyrchu 50% £7,000 0.2 1.1 30 Trafnidiaeth, coedwigaeth ac Arall 67% £5,700 0.2 0.9 30 Cynnydd 10 pwynt canran mewn lefelau £46,100 1.5 7.3 250 prynu lleol ar draws pob mewnbwn Ffynhonnell: Dadansoddiad WERU Buddiannau Economaidd Lleolxxxi. Ni fyddair cyfleoedd economaidd a amlinellir yn Adran 4 yn cael eu rhannun gyfartal ledled Cymru a byddai rhai or buddiannau iw gweld y tu hwnt i ardal gyfagos y ffermydd gwynt. Serch hynny, mae cyfleoedd i ardaloedd lleol lle ceir ffermydd gwynt fanteisio ar y datblygiadau, gan gynnwys:  contractau a enillir gan gwmnïau lleol ar y camau cynllunio, datblygu, adeiladu a gweithrediadau  cyflogaeth i drigolion lleol drwyr camau hyn, naill ain uniongyrchol neu drwy gadwyni cyflenwi  gwariant lleol yn y sector manwerthu ar sector lletygarwch wrth ir gweithwyr syn ymwneud âr camau hyn wario eu hincwm yn yr economi leol  y buddiannau economaidd ehangach i gymunedau lleol, gan gynnwys buddsoddi mewn seilwaith ffisegol, economaidd a chymunedol lleol a budd ariannol i grwpiau penodol fel tirfeddianwyr.xxxii. Gan ddefnyddio astudiaethau achos, maer adran hon yn edrych ar y buddiannau hyn ar hyn syn sail iddynt. Datblygu ac Adeiladuxxxiii. Mae gan economïau lleol sydd â nifer dda o gwmnïau adeiladu a gweithgynhyrchu well siawns o gyfrannu at y gadwyn gyflenwi a chadw gwariant personol gweithwyr adeiladu nad ydynt yn lleol. Mae ffermydd gwynt syn agos at ganolfannau trefol yn debygol o weld mwy o fudd uniongyrchol a chadwyn gyflenwi. Er enghraifft:  Yng Nghefn Croes, roedd mewnbynnau lleol yn gyfyngedig oherwydd natur wledig yr ardal ar ffaith nad oedd contractwyr addas ar gyfer y mathau o fewnbynnau adeiladu a oedd yn ofynnol.  Ir gwrthwyneb, roedd tua 13% o werth adeiladu cyffredinol fferm wynt Ffynnon Oer, a leolir yng Nghastell-nedd Port Talbot, o fewn ardal o 30 milltir, gan gynnwys agregau a gwaith sifil cysylltiedig.xxxiv. Fodd bynnag, bydd ardaloedd gwledig yn aml mewn sefyllfa dda iawn i gyflenwi rhai mathau o nwyddau a gwasanaethau, oherwydd bod yr economïau syn gysylltiedig â phrynur 6
  11. 11. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ● mewnbynnau hyn o fudd i gyflenwyr lleol a bod sail gyflenwi dda ar gael yn lleol. Maer enghreifftiau yn cynnwys agregau, gwaith sifil anarbenigol, gwasanaethau coedwigaeth a thirlunio.xxxv. Mae contractau adeiladu mwy o faint a gweithgareddau mwy arbenigol yn aml yn gofyn ir sawl syn cyflwyno tendr gyrraedd safonau penodol a chaiff cwmnïau mwy o faint, sydd âr profiad, y gweithdrefnau rheoli ar arbedion maint angenrheidiol, eu ffafrio. Felly, caiff llawer or prif gontractau ac is-gontractau haen gyntaf mawr eu rhoi i gwmnïau y tu allan i Gymru. Maer rhan fwyaf or gwerth a sicrheir gan gwmnïau o Gymru yn dueddol o fod yn haenau is y gadwyn gyflenwi (ail haen ac is).xxxvi. Maer cam adeiladu o fudd i economïau lleol gwledig syn seiliedig ar wasanaethau gan eu bod yn darparu gwasanaethau ir contractwyr a gaiff eu lleoli yno dros dro, megis lletygarwch a manwerthu. Er enghraifft, yng Nghefn Croes, roedd llawer o weithwyr adeiladu, yn cynnwys Jones Brothers, wediu lleoli ar y safle am flwyddyn gyfan bron.xxxvii. Mae gallu economïau lleol i gael budd or gwariant personol hwn a gaiff ei ysgogi yn dibynnu ar natur anghysbell y safle adeiladu, argaeledd llety a lletygarwch a siopau cysylltiedig, hyd y cyfnod adeiladu ac o ba wlad y dawr prif gyflenwyr cydrannau.xxxviii. Dywed datblygwyr fod llawer or sgiliau sydd eu hangen ym maes adeiladu ffermydd gwynt (ymchwilwyr safleoedd, peirianwyr sifil, gweithredwyr cyfarpar, gweithgynhyrchwyr gosodiadau a ffitiadau metal) ar gael yng Nghymru. Serch hynny, mae argaeledd y sgiliau hyn ar farchnad lafur yn amrywio o un lleoliad ir llall yng Nghymru.xxxix. Os yw sgiliaun brin ar hyn o bryd, gellir mynd ir afael â hyn drwy wneud ymdrech briodol i uwchsgilio gweithwyr, a bod digon o amser i gynllunio ar gyfer hynny. Er enghraifft, mae Vattenfall wedi sefydlu partneriaeth â busnes peirianneg lleol (ISO Feb Ltd) er mwyn cyflwyno cynllun prentisiaeth tair blynedd i hyfforddi technegwyr tyrbinau gwynt ar gyfer Pen-y-Cymoedd.xl. O ystyried yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae llawer mwy o weithwyr ar gael yn gyffredinol nag ar adegau mwy ffyniannus i fodloni unrhyw gynnydd mewn galw, gan olygu y bydd cyfraddau dadleoli yn isel iawn yn nodweddiadol.xli. Gall y datblygwr ddylanwadu ar y prif gontractwr i wneud cymaint o ddefnydd â phosibl o gyflenwyr lleol yn ei gadwyn gyflenwi. Er enghraifft, cynhaliwyd digwyddiadau Cwrdd âr Prynwr ar gyfer contractau Pen-y-Cymoedd gyda darpar brif gontractwyr a darpar is- gontractwyr lleol yn bresennol ill dau, gan olygu eu bod yn gallu trafod âi gilydd er mwyn deall gofynion y naill ar llall. Hefyd, defnyddiodd Vattenfall gyflenwyr lleol fel maen prawf wrth gaffael prif gontractwyr, ynghyd â monitror defnydd o gwmnïau lleol gan y contractwyr hyn bob mis.xlii. Yn dilyn hynny, datblygodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot becyn cymorth cadwyn gyflenwi, a ariannwyd ganddo ef ei hun a Llywodraeth Cymru. Defnyddiwyd yr arian i helpu busnesau lleol i ddatblygu ymhellach y sgiliau ar adnoddau angenrheidiol er mwyn gweithio yn y sector ynni adnewyddadwy, o hyfforddiant a gweithdai i gymorth un i un uniongyrchol a fydd yn galluogi busnesau lleol i baratoi ar gyfer y prosiect.xliii. Dros y blynyddoedd diwethaf, maer fath gamau yn debygol o fod wedi dod yn fwyfwy cyffredin. Gweithrediadau a chynnal a chadwxliv. Gall ardaloedd gwledig gael mwy o fudd o gyfleoedd ar y cam Gweithrediadau a Chynnal a 7
  12. 12. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ● Chadw. Mae cynlluniau mwy o faint yn dueddol o fod angen mwy o weithwyr ar lawr gwlad yn barhaol. Er enghraifft, dim ond dwy neu dair wythnos o gynnal a chadw y flwyddyn sydd ei angen ar Wern Ddu, sef fferm wynt 9.2 MW. Ir gwrthwyneb, mae angen pedwar gweithiwr gweithrediadau a chynnal a chadw CALl ar Gefn Croes a disgwylir y bydd angen 12 o weithwyr CALl ar Ben-y-Cymoedd, gyda 90% or rhain yn weithwyr lleol.xlv. Maer gwaith o gynnal a chadw ffermydd gwynt yn aml yn rhan o gontract gweithgynhyrchu tyrbinau am gyfnod gwarant penodol. Gan fod contractau tyrbinau fel arfer yn cael eu rhoi i gwmnïau tramor, caiff y gwaith cynnal a chadw ei gyflawni gan gwmnïau y tu allan ir DU yn aml. Maer graddau y gall cwmnïau a chyflogeion lleol gael budd or gwaith hwn yn dibynnu ar y cydbwysedd rhwng defnydd gweithgynhyrchwyr o dimau lleol au defnydd ou gweithwyr eu hunain.xlvi. Lle y caiff gweithgareddau eu gosod ar gontract allanol ar ôl ir warant ddod i ben, gwneir hyn weithiau drwy gontract unigol syn cwmpasur holl weithgareddau Gweithrediadau a Chynnal a Chadw, syn cynnig cyfleoedd posibl i gwmnïau lleol gael budd drwy ddefnyddio cytundeb fframwaith contractwyr lleol y gall y prif gontractwr Gweithrediadau a Chynnal a Chadw ei ddefnyddio lle y bo angen. Cyflawnwyd hyn o amgylch safleoedd ffermydd gwynt amrywiol yng Nghymru drwy gynnal diwrnodau agored i gwmnïau lleol er mwyn tynnu sylw at y cyfleoedd posibl yn y gadwyn gyflenwi a helpu cyflenwyr lleol i gael eu hachredu ar gyfer y fferm wynt.xlvii. Pan fydd datblygwyr yn dewis cyflawnir gwaith cynnal a chadwn fewnol, mae cyfleoedd lleol yn rhannol ddibynnol ar ddull y datblygwr o reoli ei bortffolio o gynlluniau ffermydd gwynt ledled Cymru. Efallai y bydd gan ddatblygwyr mwy o faint bortffolio o ffermydd gwynt yng Nghymru ac y byddant yn dewis canoli gweithrediadau a chynnal a chadwr ffermydd gwynt hyn a rhannu cyfrifoldeb ymhlith staff presennol, yn arbennig ar gyfer cynlluniau llai o faint.xlviii. Mae cyfran gymharol fach o gyfarpar a darnau sbâr yn dueddol o ddod o Gymru, gan fod hyn, ar y cyfan, yn cysylltu âr man lle y caiff tyrbinau a chydrannau eu gweithgynhyrchu. Fodd bynnag, mae llawer mwy o gwmpas i wasanaethau amgylcheddol a choedwigaeth ddod o ardaloedd lleol o ystyried presenoldeb y sgiliau hyn, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig. Mae lle hefyd i fuddiannau sydd wediu hysgogi gael eu sicrhaun lleol o fewn y sector lletygarwch lle mae angen i staff cynnal a chadw aros yn lleol. Buddiannau Ehangachxlix. Mae Cronfeydd Buddiannau Cymunedol yn cynnig cryn botensial i sicrhau effeithiau cadarnhaol i gymunedau lleol. Yn wir, y cronfeydd hyn yw prif ffynhonnell buddiannau lleol tymor hwy i gymunedau yn sgil ffermydd gwynt.l. Mae cysylltiad agos rhwng maint taliadau a maint y fferm wynt. Ar gyfer cynlluniau mwy o faint, mae hyn yn golygu bod buddiannau parhaus sylweddol yn bosibl. O blith yr astudiaethau achos, roedd lefel flynyddol y taliad buddiannau cymunedol yn amrywio o £10,000 ar gyfer Wern Ddu (cynllun 9.2 MW) i £1.8 miliwn disgwyliedig ar gyfer Pen-y- Cymoedd (cynllun 256 MW).li. Fel rheol, mae datblygwyr yn awyddus iawn i sicrhau bod cymunedau lleol yn chwarae rhan lawn yn y broses o gynllunio, cyflawni a rheolir Cronfeydd gan ei bod yn bwysig eu bod yn perchenogir arian. Yn gyffredinol, bydd datblygwyr yn dirprwyor cyfrifoldeb am y Cronfeydd Buddiannau Cymunedol, er y gallant gynnig cyngor ar faterion gweinyddol.lii. Yn achos Pen-y-Cymoedd, er enghraifft, maer gronfa arfaethedig syn werth £1.8m y 8
  13. 13. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ● flwyddyn yn amlwg yn fawr iawn a gallai fod o fudd economaidd-gymdeithasol sylweddol yn lleol.liii. Mae rhai datblygiadau mwy o faint hefyd yn cynnwys cronfa datblygu economaidd benodedig ochr yn ochr âr gronfa buddiannau cymunedol. Er enghraifft, mae RWE npower renewables yn cynnig gwneud hyn ar gyfer ei ffermydd gwynt arfaethedig ym Mrechfa a Chlocaenog. Ar gyfer Clocaenog, cynigir cronfa Datblygu Economaidd £3,000 fesul MW ochr yn ochr âr gronfa buddiannau cymunedol £5,000 fesul MW (gydar ddwy yn gysylltiedig â mynegeion).liv. Mae datblygiadau ffermydd gwynt yn aml yn cynnwys buddsoddiadau mewn gwelliannau amgylcheddol fel rhan or pecyn gwaith seilwaith. Er enghraifft, yn Ffynnon Oer maer datblygwr wedi noddi gwelliannau i Lwybrau Beicio Mynydd Afan, syn atyniad pwysig i dwristiaid yng Nghwm Afan.lv. Un o’r buddiannau pwysig i economïau gwledig lleol sy’n gartref i ffermydd gwynt yw’r taliadau a wneir i dirfeddianwyr lleol lle mae’r ffermydd gwynt wedi eu lleoli. Yng Nghymru, mae ffermydd gwynt naill ai wediu lleoli ar dir Comisiwn Coedwigaeth Cymru, tir fferm preifat neu dir comin ar adegau. Fel rheol, bydd datblygwyr yn negodi taliad rhent blynyddol am gael mynediad ir tir. Maer taliad a gaiff ei negodi yn amrywio wrth gwrs yn dibynnu ar faint o dir sydd dan sylw ar gwerth a negodir. Mae ein harolwg yn awgrymu £12,000 fesul MW y flwyddyn ar gyfartaledd ar gyfer pob ymatebydd. Casgliadaulvi. Mae ein dadansoddiad wedi tanlinellur ffaith bod buddiannau economaidd sylweddol a chyson yn bosibl i Gymru yn sgil datblygu a gweithredu ffermydd gwynt ar y tir. Petai 2,000 MW wedii ddatblygu erbyn 2025 a phetai Cymru yn llwyddo i sicrhau ei chyfran ddisgwyliedig o fuddsoddiad ac wedi ymbaratoi ar gyfer hynny, gellid sicrhau £2.3 biliwn o GYC rhwng 2012 a 2050 ynghyd â thros 2,000 o swyddi cyfwerth ag amser llawn y flwyddyn ar gyfartaledd yn yr un cyfnod. Er y gallai’r sector adeiladu ar sector gweithgynhyrchu gael budd penodol yn sgil y gweithgarwch hwn, byddair buddiannau yn gallu cael eu rhannu gan amrywiaeth o sectorau, o ganlyniad i effeithiaur gadwyn gyflenwi a gwariant defnyddwyr cyflogeion y cefnogir eu swyddi gan y sector.lvii. Mae risgiau negyddol i gyflawnir buddiannau hyn.  Petair gwaith datblygu yn arafu, byddai llai o fuddsoddiad yng Nghymru ac, o ganlyniad, lai o swyddi a llai o GYC. Byddai parhau â thueddiadau hanesyddol yn gweld GVA o tua £1.4 biliwn yn llai na phetai 2,000 MW yn cael ei ddatblygu, a dim ond tua thraean or swyddi. Gallai parhau â thueddiadau mwy diweddar olygu bod £0.9 biliwn yn llai o GYC a thua 1,000 yn llai o swyddi bob blwyddyn. Mae ein hymchwil wedi tynnu sylw at nifer o rwystrau i gyflawni gwaith datblygu, gan gynnwys materion cynllunio lleol a chyfyngiadau o ran seilwaith grid a ffyrdd.  At hynny, petai 2,000 MW yn cael ei gyflawni, byddai dal angen bod yn rhagweithiol o hyd er mwyn sicrhau bod y buddiannau posibl a amlinellwyd uchod yn cael eu gwireddu. Maer dadansoddiad yn adran 4 wedi nodir canlyniadau petair buddsoddiad yng Nghymru islaw disgwyliadau.lviii. Mae ein hargymhellion yn Adran 6 yn ystyried rhai o’r opsiynau sydd ar gael o ran sicrhau’r buddiannau mwyaf posibl, canolbwyntio ar y system gynllunio, ei gwneud yn bosibl i ddatblygu seilwaith, y gadwyn gyflenwi a’r sector, taliadau buddiannau cymunedol a buddiannau lleol. 9
  14. 14. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●1. Cyflwyniad1.1 Cafodd Regeneris Consulting ei benodi gan Renewable UK Cymru, Llywodraeth Cymru a grŵp o ddatblygwyr ffermydd gwynt i gynnal asesiad o gyfleoedd economaidd datblygiadau gwynt ar y tir i Gymru yn y dyfodol. Maer astudiaeth wedi cael ei chynnal ar y cyd ag Uned Ymchwil i Economi Cymru yn Ysgol Fusnes Caerdydd, gyda chyngor gan PMSS Ltd, cwmni cynghori ar ynni adnewyddadwy.1.2 Prif ddiben yr adroddiad yw mesur effaith economaidd buddsoddi mewn ynni gwynt ar y tir ar yr economi yng Nghymru, ar sail lefelau gweithgarwch economaidd presennol a phosibl ar wahanol gamau cylch oes prosiect gwynt.1.3 O fewn y nod cyffredinol hwn, mae cwmpas y gwaith dadansoddi fel a ganlyn:  Maer dadansoddiad yn cwmpasur cyfnod rhwng 2005 a 2050, gan ddefnyddio ffigurau sylfaenol fel yu darparwyd gan y diwydiant, a senarios ar gyfer capasiti wedii osod yng Nghymru y cytunwyd arnynt gan y diwydiant a Llywodraeth Cymru. Dewiswyd 2050 yn ben llanw am ei fod yn cwmpasu cylch oes gweithredol disgwyliedig tyrbinau a ffermydd gwynt sydd ar waith ar hyn o bryd neu sydd yn yr arfaeth.  Maer asesiad yn cwmpasu cyfanswm y buddsoddiad gan gwmnïau Cymreig a chwmnïau eraill or ffynonellau canlynol:  Gwariant uniongyrchol yng Nghymru drwy weithgynhyrchu cydrannau tyrbinau gwynt; gwaith cynllunio a datblygu; adeiladur safle ar fferm wynt; gweithrediadau a chynnal a chadw; a datgomisiynu/ailbweru  Gwariant anuniongyrchol drwy gydrannau cadwyn gyflenwi a ddaw o Gymru a buddsoddi mewn seilwaith grid  Buddsoddiad wedii ysgogi a wneir gan gyflogeion a gefnogir drwy effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol  Taliadau Buddiannau Cymunedol.  Mae ffocws gofodol yr asesiad ar Gymru yn ei chyfanrwydd, gydag arwydd o leoliad daearyddol posibl effeithiau ar bob cam o gylch oes y fferm wynt.  Y dangosyddion allweddol a ddefnyddir o ran effaith yw Gwerth Ychwanegol Crynswth a Swyddi Cyfwerth ag Amser Llawn (CALl).1.4 Maer astudiaeth yn canolbwyntio ar gyfleoedd economaidd craidd a fyddain cael eu creu yn sgil datblygur sector yn y dyfodol. Nid ywn asesur effeithiau amgylcheddol neu gymdeithasol ehangach.1.5 Caiff gweddill yr adroddiad ei strwythuro fel a ganlyn:  Adran 2: gwybodaeth fanwl am y dull asesu, gan gynnwys y fframwaith effaith economaidd ar dulliau ymchwil a ddefnyddiwyd 10
  15. 15. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●  Adran 3: trosolwg or sector ynni gwynt ar y tir yng Nghymru, gan gynnwys y cyd- destun polisi, datblygiad y sector hyd yma, a chanfyddiadaur diwydiant o Gymru fel lleoliad ar gyfer datblygu gwynt ar y tir  Adran 4: canlyniadaur gwaith modelu effaith economaidd  Adran 5: trafodaeth am effeithiau economaidd lleol posibl ffermydd gwynt ar y tir yng Nghymru  Adran 6: ein casgliadau an hargymhellion.  Atodiad A - manylion y fethodoleg a ddefnyddiwyd  Atodiad B - holiadur yr arolwg a anfonwyd at ddatblygwyr a gweithredwyr ffermydd gwynt ar y tir yng Nghymru  Atodiad C - crynhoir sefydliadau yr ymgynghorwyd â hwy fel rhan or astudiaeth.  Atodiad D - pedair astudiaeth achos ffermydd gwynt yng Nghymru. 11
  16. 16. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●2. Trosolwg or Dull Asesu2.1 Yn yr adran hon, nodwn yn fanwl y dull a ddefnyddiwyd i fesur y cyfleoedd economaidd syn deillio o ddatblygu gwynt ar y tir. Cwmpesir y fframwaith effaith economaidd ar ymchwil a ddefnyddiwyd. Fframwaith Effaith Economaidd2.2 Wrth wraidd yr asesiad, mae model economaidd syn anelu at nodi effeithiau economaidd tebygol datblygu gwynt ar y tir yng Nghymru, wedii lywio gan senarios ar gyfer cyfraddau datblygu a chadwr gwariant cysylltiedig yng Nghymru. Ffynonellau Effaith2.3 Maer broses o ddatblygu a gweithredu fferm wynt ar y tir yn un gymhleth a hir yn aml syn cynnwys sawl cam penodol. Maer holl gamau hyn yn esgor ar weithgarwch economaidd drwy fuddsoddiadau cyfalaf a gwariant gweithredol: 1) Adeiladu a gosod y fferm wynt ynghyd â gweithgarwch cadwyn gyflenwi cysylltiedig. Maer buddsoddiad a wneir yn y gwaith cynllunio a datblygu, paratoir safle, gweithgynhyrchu a gosod, a chomisiynu tyrbinau gwynt o fudd uniongyrchol ir busnesau syn cyflawnir gweithgarwch hwn yn ogystal âu cyflenwyr gan fod y gweithgarwch economaidd ychwanegol yn bwydo drwyr gadwyn gyflenwi. Maer asesiad yn ystyried graddau posibl buddiannau ar y cam adeiladu yn sgil maint a lleoliad daearyddol disgwyliedig cadwyn gyflenwir datblygiad, y potensial i gwmnïau lleol (neu gwmnïau â gweithrediadau lleol) ennill y prif gontractau neu ymuno â chadwyn gyflenwir sawl syn gwneud hynny. 2) Gweithrediadau a chynnal a chadw parhaus. Maer staff sydd eu hangen i weithredu a chynnal a chadwr fferm wynt (gan gynnwys y rheini mewn rolau gweinyddol a chymorth) ar gwariant sydd ei angen ar gyfer gorbenion eraill (e.e. cost cydrannau sbâr, cysylltu âr grid a gwasanaethau ac ymrwymiadau cymorth eraill) yn cynnig ffynhonnell effaith economaidd ychwanegol a thymor hwy. Unwaith eto, maer budd posibl yn gysylltiedig â graddaur buddsoddiad, o ble y daw nwyddau a gwasanaethau, lleoliad unrhyw swyddi newydd a gaiff eu creu ar cwmpas i recriwtio staff lleol. Nid ywr asesiad o effaith gweithrediadau a chynnal a chadw yn cynnwys yr effaith economaidd syn gysylltiedig â thrawsyrru a gwerthur trydan a gaiff ei gynhyrchu gan y cynllun. 3) Effaith taliadau buddiannau cymunedol. Gall datblygwyr ddewis gwneud cyfraniadau blynyddol gwirfoddol i gymunedau lleol yn ystod cylch oes fferm wynt. Gall cymunedau lleol ddefnyddior arian hwn mewn sawl ffordd felly gall y math o fuddiannau au graddau amrywion sylweddol. Maer asesiad yn ystyried effeithiau posibl y taliadau hyn. 4) Effaith datgomisiynu neu ailbweru. Mae cost datgomisiynu neu ddisodli cydrannau er mwyn ailbwerur fferm wynt ar ddiwedd ei chyfnod gweithredol yn esgor ar effeithiau economaidd pellach mewn ffyrdd tebyg ir buddsoddiad adeiladu cychwynnol, drwy roi refeniw ir cwmnïau yn y gadwyn gyflenwi a chefnogi swyddi. 12
  17. 17. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●2.4 Mae pob fferm wynt ar y tir a gaiff ei datblygu yng Nghymru yn cynnig yr effeithiau economaidd hyn ac, felly, hwb i economi Cymru. At hynny, er mwyn cyflwyno graddaur datblygiadau gwynt ar y tir a seilwaith ynni adnewyddadwy arall a ragwelir ar gyfer Cymru, bydd angen gwneud buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith grid yn y Canolbarth. Byddair fath ddatblygu seilwaith yn esgor ar amrywiaeth o effeithiau economaidd i Gymru o ganlyniad ir gwaith cynllunio, datblygu, adeiladu a chynnal a chadw a fyddain ofynnol. Ystyrir hyn yn effaith economaidd ar wahân, syn berthnasol i bob senario.2.5 Maen werth nodi y gallai diwydiant Cymru hefyd ennill busnes mewn marchnadoedd gwynt ar y tir ehangach syn deillio o ddatblygur diwydiant yng ngweddill y DU ac yn wir dramor. Nid ywr effeithiau posibl hyn yn rhan or astudiaeth hon. Y prif reswm dros hyn ywr ffaith ei bod hin anodd rhoi amcangyfrif pendant o raddaur marchnadoedd hyn dros amser ar gyfran or farchnad y gallai cwmnïau Cymreig ei sicrhau. At hynny, dawr hwb mwyaf i ddatblygur gadwyn gyflenwi yng Nghymru o ddatblygur sector yn y farchnad ddomestig. Mathau o Effaith2.6 Maer asesiad yn ystyried y buddiannau economaidd craidd syn gysylltiedig â mwy o weithgarwch economaidd yn yr ardal yn ogystal âr buddiannau economaidd-gymdeithasol ehangach a allai ddeillio o ddatblygu fferm wynt. Maer buddiannau economaidd craidd wedi cael eu hasesun feintiol drwy fodel effaith economaidd syn amcangyfrif y canlynol:  Effeithiau Uniongyrchol. Maer mesur hwn yn nodir gweithgarwch economaidd a gaiff ei gefnogin uniongyrchol drwy adeiladu, gweithredu a chynnal a chadwr fferm wynt. Maen cwmpasu staff uniongyrchol a gyflogir ar y safle ar holl wariant cadwyn gyflenwi haen gyntaf syn ymwneud ag adeiladur fferm wynt.  Effeithiau Anuniongyrchol. Maer mesur hwn yn nodi effaith cadwyn gyflenwir allbwn ychwanegol a gaiff ei greu gan gwmnïau yn y gadwyn gyflenwi syn cefnogi cyflenwyr haen un.1 Caiff y gweithgarwch economaidd ychwanegol o fewn y cwmnïau hyn ei fwydo i lawr eu cadwyni cyflenwi ac maen esgor ar fuddiannau anuniongyrchol, ychwanegol i lawer o gwmnïau eraill.  Wediu Hysgogi. Maer mesur hwn yn nodir buddiannau dilynol a welir yn sgil y swyddi ychwanegol a gefnogir yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol yn yr economi wrth i gyflogau, a gaiff eu hennill gan y sawl a gyflogir mewn swyddi ychwanegol, gael eu gwario ar nwyddau a gwasanaethau mewn rhannau eraill or economi.2.7 Mae buddiannau economaidd ehangach yn gysylltiedig â datblygur diwydiant yng Nghymru, gan gynnwys:  Incwm i dirfeddianwyr. Mae ffermydd gwynt ar y tir yn dueddol o gael eu lleoli ar dir y Comisiwn Coedwigaeth neu ar dir fferm preifat. Caiff y tirfeddianwyr hyn daliadau cyfalaf a/neu daliadau rhent gan ddatblygwyr/gweithredwyr ffermydd gwynt yn gyfnewid am gael mynediad ir tir hwn.1 Mae cyflenwyr Haen Un ar frig y gadwyn gyflenwi ac maent yn cyflenwin uniongyrchol ir Prif Gontractwr. 13
  18. 18. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●  Ardrethi Busnes. Mae datblygwyr a gweithredwyr ffermydd gwynt yn talu ardrethi busnes, sydd ynan cael eu talu i mewn i Gronfa Ardrethi Annomestig Llywodraeth Cymru au hailddosbarthu ymhlith awdurdodau lleol (ar sail pro-rata ir boblogaeth oedolion) fel rhan o setliad refeniw llywodraeth leol bob blwyddyn.2.8 Ystyriwn y buddiannau hyn ochr yn ochr âr effeithiau economaidd craidd.2.9 Y tu hwnt ir buddiannau economaidd meintiol hyn, mae gan ddatblygiadau gwynt ar y tir y potensial i gyflawni amrywiaeth o fuddiannau economaidd-gymdeithasol ehangach, gan gynnwys:  Rhoi hwb i sectorau ynni adnewyddadwy lleol a chenedlaethol. Gallair cyfle cynyddol syn gysylltiedig â phrosiectau ynni gwynt ar y tir arfaethedig yng Nghymru yn y tymor canolig fod o fudd parhaol drwy ysgogi mwy o adnoddau yn y sector (e.e. wrth i gwmnïau newydd gael eu sefydlu neu wrth i gwmnïau arallgyfeirio a chyflawni gweithgareddau ynni adnewyddadwy eraill er mwyn achub ar gyfleoedd newydd) a sicrhau bod cwmnïau lleol mewn sefyllfa i achub ar gyfleoedd yn y sector yn y dyfodol.  Y cwmpas ar gyfer effeithiau marchnad lafur syn gysylltiedig âr cyfleoedd gwaith newydd. Gellid cyflawni gweithgarwch meithrin sgiliau, er enghraifft, o ganlyniad ir cynllun fel bod modd i bobl gael eu hyfforddi er mwyn eu helpu i achub ar gyfleoedd syn deillio or datblygiad. Byddair adnoddau ychwanegol a ddatblygwyd o fewn darparwyr hyfforddiant lleol o ganlyniad i hyn yn ategu gweithgarwch meithrin sgiliau pellach.2.10 Ystyrir yr effeithiau o ran economïau lleol ar wahân yn Adran 5 or adroddiad. Mesur Effaith2.11 Maer asesiad yn defnyddio dau fesur allweddol er mwyn mesur natur a graddau effeithiau economaidd datblygiadau gwynt ar y tir:  Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYC). GYC ywr mesur cyffredin o ran creu cyfoeth ar gyfer economi. Dymar hyn sydd ar ôl o allbwn crynswth unwaith y telir am nwyddau a gwasanaethau a brynwyd. Maer allbwn hwn syn weddill yna ar gael iw ddosbarthu fel elw, tâl a chyflogau a chostau buddsoddi cyfalaf.  Cyflogaeth. Dyma nifer y swyddi a gaiff eu creu yng Nghymru. Feu mynegir fel swyddi Cyfwerth ag Amser Llawn, syn trosi swyddi rhan-amser a llawn-amser yn fesur cyffredin (lle mae un swydd ran-amser yn cyfateb i hanner swydd lawn-amser), ac, ar gyfer effeithiau adeiladu dros dro, fel blynyddoedd gwaith pobl. Cyfnod Amser2.12 Maer asesiad yn cwmpasur cyfnod rhwng 2005 a 2050. Mae rhesymeg glir dros ddewis y cyfnod hwn: maen cwmpasu cylch oes gweithredol y rhan fwyaf o gynlluniau sydd naill ai ar waith ar hyn o bryd neu yn yr arfaeth (ym maes adeiladu, wedi cael cydsyniad ac wediu cyflwyno ir awdurdod cynllunio perthnasol). Bydd y rhan fwyaf or ffermydd gwynt sydd yn yr arfaeth, os cânt eu cymeradwyo, ar waith erbyn 2025, ac mae fferm wynt fel arfer yn weithredol am hyd at 25 mlynedd. 14
  19. 19. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●2.13 O fewn y cyfnod hwn, canolbwyntiwn yn arbennig ar ddatblygiad posibl y diwydiant hyd at 2025 fel cyfnod polisi. Mae hyn yn cyfateb i amserlenni dyhead Llywodraeth Cymru i ddatblygu ffermydd gwynt ar y tir, yn ogystal â thargedau ehangach yr UE. Ystyriwn y cyfnodau canlynol:  2005-11;  2012-24;  2025-50 Ffocws Gofodol2.14 Maer astudiaeth yn canolbwyntio ar yr effeithiau i Gymru gyfan. Maer astudiaeth hefyd yn dadansoddir effeithiau i ranbarthau Cymru (Gogledd, Canolbarth, De-ddwyrain a De- orllewin).2.15 Rydym hefyd yn ystyried y cwmpas ir ardaloedd lleol lle lleolir y datblygiadau hyn, neu lle maent yn debygol o gael eu lleoli, gan ganolbwyntion arbennig ar gyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi ac o ran swyddi. Tybiaethau Ategol2.16 Maer model yn defnyddio tybiaethau ar sail y canlynol:  Costau: mae costau nodweddiadol datblygu a gweithredu fferm wynt yn ffactor allweddol o ran natur a graddaur effaith economaidd gysylltiedig. Maer rhain wedi cael eu hamcangyfrif drwy arolwg o holl ddatblygwyr a gweithredwyr ffermydd gwynt ar y tir yng Nghymru (gweler Llinellau ac Adnoddau Ymchwil isod), ymgynghoriad âr diwydiant ac adolygiad o asesiadau eraill. Amcangyfrifwyd costau tebygol seilwaith grid mewn ymgynghoriad âr Grid Cenedlaethol.  Prynu: maer graddau y mae Cymru yn cael budd or gwariant hwn yn dibynnu ar faint o wariant syn aros yng Nghymru drwy gwmnïau yng Nghymru syn cyflenwi nwyddau a gwasanaethau fel rhan or gadwyn gyflenwi. Amcangyfrifir y lefelau tebygol o wariant syn aros yng Nghymru ar gyfer pob rhan or gadwyn gyflenwi gan ddefnyddio tystiolaeth on harolwg o ddatblygwyr ac maent yn destun profion sensitifrwydd. Amcangyfrifir effeithiau lluosi yn Haen 2 or gadwyn gyflenwi ac islaw hynny gan ddefnyddio tablau Mewnbwn-Allbwn Cymru (gweler Atodiad A am ragor o fanylion). Defnydd o Senarios2.17 Maen ddefnyddiol defnyddio senarios er mwyn profi sut y gall effeithiau economaidd newid mewn ymateb i newidiadau mewn amrywiolion allweddol penodol. Mae ein gwaith modelu yn profi senarios mewn dwy ffordd:  Datblygu capasiti wedii osod. Mae ein model yn defnyddio amcanestyniadau ar gyfer ffermydd gwynt ar y tir hyd at 2025. Er bod gennym ddarlun cynhwysfawr or adnoddau sydd yn yr arfaeth, mae cryn dipyn o hyn yn y system gynllunio ar hyn o 15
  20. 20. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ● bryd ac felly nid oes sicrwydd ynghylch pa gynlluniau allai ddatblygu nac ar ba gyflymdra. Felly, defnyddiwn dri senario ar gyfer datblygu capasiti wedii osod:  2,000 MW: cyflawnir nod o 2,000 MW o gapasiti wedii osod erbyn 2025  Tueddiadau Hanesyddol: parhau â thueddiadaur degawd diwethaf  Tueddiadau Diweddar: Parhau â thueddiadau cydsynio mwy diweddar Nodir sail y senarios hyn yn fanylach yn Adran 3 ac Atodiad A.  Dod o hyd i gyflenwyr. Defnyddir y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygwyr yng Nghymru er mwyn pennu amcangyfrifon ar gyfer cadw gwariant yng Nghymru yn ein model. Gall cyfran y gwariant a gedwir yng Nghymru fod yn fwy neun llai nar lefel sylfaenol hon, mewn rhai rhannau or gadwyn gyflenwi. Profwn hyn yn yr asesiad effaith.2.18 Rhoddir crynodeb or fframwaith effaith economaidd yn y diagram isod. Ffigur 2‑1: Fframwaith Effaith Economaidd Tybiaethau Ardaloedd yr Effeithir Ffactor Ysgogi Budd Mathau o Fuddiannau Mesurau Ategol Arnynt Buddiannau Economaidd Ardaloedd yr effeithir • Adolygu Cam Datblygu ac Economaidd Craidd • Swyddi CALI arnynt targedau Cymru Adeiladu • GYC • Cymru • Cronfa ddata • Uniongyrchol • Rhanbarthau Cymru Renewable UK • Anuniongyrchol Ehangach • Dadansoddiad • Wedi’u Cymell • Incwm i economaidd dirfeddianwyr rhanbarthol gan Gweithrediadau a Buddiannau • Gwelliannau i gynnwys cymysgedd Chynnal a Chadw Datblygu Seilwaith sectoraidd Economaidd/ Lleol • Adolygiad o Adfywio • Sgiliau dystiolaeth • Cyflogaeth effaith • Bywiogrwydd y Datgomisiynu/ gymuned • Arolwg o ailbweru ddatblygwyr a gweithredwyr • Tablau mewnbwn - allbwn • Profion a Cronfeydd Buddiannau Buddiannau Datblygu - mireinio Cymunedol gymdeithasol ehangach Llinellau ac Adnoddau Ymchwil2.19 Maer ymchwil wedi cael ei chynllunio er mwyn rhoi asesiad annibynnol a chadarn o effeithiau economaidd ynni gwynt ar y tir hyd at 2050. Fel y cyfryw, dilynwyd nifer o linellau ymchwil er mwyn creu darlun cynhwysfawr a chywir or canlynol:  Senarios posibl o ran datblygu capasiti wedii osod y sector yn y dyfodol, yn seiliedig ar brofiad diweddar a dyheadau Llywodraeth Cymru.  Lefelau tebygol o fuddsoddiad yn gysylltiedig âr senarios datblygu hyn ar bob cam o gylch oes y prosiect (cynllunio a datblygu, adeiladu, gweithrediadau a chynnal a chadw ac ailbweru/datgomisiynu), gan gynnwys seilwaith grid cysylltiedig, yn seiliedig ar brofiad gwirioneddol hyd yma.  Lefelau realistig o wariant syn debygol o aros yng Nghymru ar ardaloedd lle mae 16
  21. 21. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ● potensial i gadw mwy o wariant, yn seiliedig ar brofiad gwirioneddol hyd yma ac asesiad o gapasiti economi Cymru.  Effeithiau lluosogi i Gymru, yn deillio o gylchoedd dilynol o wariant cadwyn gyflenwi (effeithiau anuniongyrchol) a gwariant defnyddwyr fesul cyflogai (effeithiau wediu cymell).  Effeithiau tebygol ar gymunedau lleol, yn seiliedig ar brofiad hyd yma, a nodir ffactorau allweddol syn rhwystro ac yn annog budd economaidd lleol.  Cyfyngiadau a chyfleoedd syn gysylltiedig â sicrhau bod y sector yn cael cymaint o effaith economaidd ar Gymru â phosibl, yn seiliedig ar farn diwydiant a llywodraeth a dadansoddiad o economi Cymru.2.20 Yr egwyddor a ddilynwyd fu trionglir canfyddiadau drwy ddefnyddio ffynonellau data sydd ar gael a dwyn ynghyd ddata a barn sylfaenol y diwydiant, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid lleol. Dengys y tabl isod yr adnoddau ymchwil a ddefnyddiwyd i lywio pob elfen or astudiaeth. Yna, trafodwn yr adnoddau ymchwil yn fanylach isod. Crynodeb o Elfennaur Astudiaeth ac Ymchwil Elfen or Astudiaeth Ymchwil/ffynonellau Senarios ar gyfer  Rhydd cronfa ddata RenewableUK fanylion am yr holl ffermydd gwynt datblygiadau yn y yn y DU sydd ar waith, syn cael eu hadeiladu, sydd wedi cael caniatâd, dyfodol ac sydd yn y system gynllunio, gan gynnwys dyddiadau, capasiti wedii osod a lleoliad.  Ymgynghoriad â datblygwyr ffermydd gwynt a Llywodraeth Cymru. Buddsoddiad fesul  Arolwg o holl ddatblygwyr a gweithredwyr pob fferm wynt yng cylch oes y prosiect Nghymru sydd ar waith, syn cael ei hadeiladu, sydd wedi cael caniatâd, ac sydd yn y system gynllunio.  Astudiaethau effaith economaidd-gymdeithasol bresennol o ffermydd 2 gwynt ar y tir. Buddsoddiad yng  Arolwg o ddatblygwyr a gweithredwyr Nghymru fesul sector  Astudiaethau effaith economaidd-gymdeithasol bresennol o ffermydd gwynt ar y tir. Effeithiau lluosogi ar  Gan ddefnyddior data ar fuddsoddiadau uchod, defnyddio tablau gyfer Cymru ai Mewnbwn-Allbwn ar gyfer Cymru er mwyn amcangyfrif effeithiau rhanbarthau anuniongyrchol ac effeithiau wediu cymell. Effeithiau ar  Pedair astudiaeth achos ar ffermydd gwynt ar y tir sydd eisoes yn bodoli gymunedau lleol ac sydd yn yr arfaeth  Wediu llywio gan ymgynghoriadau â datblygwyr, gweithredwyr ac awdurdodau lleol ac adolygu dogfennaeth, a phrofiad y tîm. Cyfyngiadau a  Arolwg o ddatblygwyr ffermydd gwynt chyfleoedd  Ymgynghoriad â datblygwyr, Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr llywodraeth leol. Adolygu Llenyddiaeth2.21 Gwnaethom adolygur llenyddiaeth ar yr agweddau economaidd ar ynni gwynt ar y tir, gan gynnwys dogfennau polisi perthnasol ac asesiad economaidd-gymdeithasol bresennol o2 Er enghraifft, Onshore Wind Direct and Wider Economic Impacts, BiGGAR Economics ar ran RenewableUK ar Adran Ynni a Newid yn yr Hinsawdd (DECC), Mai 2012. 17
  22. 22. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ● ddatblygiadau gwynt ar y tir. Fei defnyddiwyd i greu darlun cyfredol or cyd-destun polisi an tybiaethau ynghylch gwariant a sail y gwaith modelu economaidd. Dadansoddiad o Gronfa Ddata RenewableUK2.22 Mae gan RenewableUK gronfa ddata or holl ffermydd gwynt ar y tir yn y DU sydd naill ai ar waith, yn cael eu hadeiladu, wedi cael caniatâd neu yn y system gynllunio. Rhydd wybodaeth am nifer o agweddau gan gynnwys:  Y dyddiad y dechreuodd y fferm wynt weithredu neu gael ei hadeiladu, pan roddwyd caniatâd neu pan ymunodd âr system gynllunio  Lleoliad  Capasiti wedii osod, mewn MW  Datblygwr a gweithredwr.2.23 Defnyddiwyd y gronfa ddata hon i ddadansoddi tueddiadau o ran capasiti wedii osod dros y blynyddoedd diwethaf a deall yr hyn sydd yn yr arfaeth. Ar sail y data hwn, cafodd tri senario ar gyfer datblygur sector yn y dyfodol eu llunio.2.24 Trafodir y senarios hyn yn fanylach yn Atodiad A. Arolwg o Ddatblygwyr a Gweithredwyr2.25 Un o brif adnoddau ymchwil yr astudiaeth oedd arolwg o holl ddatblygwyr a gweithredwyr ffermydd gwynt ar y tir yng Nghymru. Cynhaliwyd yr arolwg o ddatblygwyr ym mis Hydref a mis Tachwedd 2012 a chafwyd gwybodaeth am y canlynol:  y rhan a chwaraeir ganddynt yn y sector ynni gwynt ar y tir yng Nghymru, gan gynnwys manylion ffermydd gwynt sydd eisoes yn bodoli neu sydd yn yr arfaeth au barn ar gryfder cadwyni cyflenwi ynni gwynt yng Nghymru, ac ar Gymru fel lle i fuddsoddi ynddo  cynlluniau ynni gwynt ar y tir syn cael eu datblygu yng Nghymru, gan gynnwys costau ac amserlenni datblygu disgwyliedig, ar tebygolrwydd o brynu nwyddau a gwasanaethau o Gymru  cynlluniau ynni gwynt ar y tir sydd ar waith yng Nghymru, gan gynnwys pryd y cawsant eu datblygu, costau gweithredol blynyddol, cyfran y nwyddau a gwasanaethau a brynwyd o Gymru, nifer y swyddi a grëwyd, y cronfeydd buddiannau cymunedol a ddarparwyd a disgwyliadau ynghylch datgomisiynu neu ailbweru ar ddiwedd cylch oes y ffermydd gwynt.2.26 Roedd yr ymateb a gafwyd yn cwmpasu 66% or holl gapasiti presennol ac arfaethedig yng Nghymru. Darperir holiadur yr arolwg yn Atodiad B. 18
  23. 23. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ● Ymgynghoriadau2.27 Rydym wedi ymgynghori â datblygwyr, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill yn ystod yr astudiaeth hon. Diben yr ymgynghoriadau oedd dwyn ynghyd safbwyntiau cyfredol ar ddatblygur sector ai ragolygon, er mwyn llywio tybiaethau ynghylch gallu economi Cymru i gael budd or buddsoddiad ar gwariant cysylltiedig, a llywio ein hasesiad or cyfyngiadau, rhwystrau a chyfleoedd syn wynebur sector yn y dyfodol. Astudiaethau Achos2.28 Er bod gwaith modelu economaidd manwl gywir yn creu darlun cadarn or effeithiau economaidd posibl i Gymru, dim ond drwy ddefnyddio astudiaethau achos y gellir asesur effaith ar lefel leol iawn. Felly, gwnaethom gynnal astudiaethau achos o ffermydd gwynt a oedd ar waith ac a oedd wedi cael caniatâd o feintiau gwahanol ledled Cymru er mwyn deall y ffactorau syn hyrwyddo neun cyfyngu ar y ffordd y mae busnesau, gweithwyr ar gymuned leol yn cael budd or gweithgarwch economaidd syn deillio o ddatblygu ffermydd gwynt ar y tir yng Nghymru. 19
  24. 24. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●3. Y Sector Ynni Gwynt ar y Tir yng Nghymru Crynodeb or Pwyntiau Allweddol  Mae polisi Cymru o ran y sector ynni gwynt ar y tir wedi esblygu dros y blynyddoedd diwethaf. Rhydd canllawiau cynllunio TAN 8, a gyhoeddwyd yn 2005, ganllawiau ar leoliad ffermydd gwynt mewn Ardaloedd Chwilio Strategol. Disgwylir mair lleoliadau hyn a fydd yn gartref ir rhan fwyaf o ffermydd gwynt yn y blynyddoedd i ddod.  Maer canllawiau cynllunio diweddaraf yn cynnwys y nod i gyflawni 2,000 MW o ffermydd gwynt ar y tir erbyn 2025. Disgwylir i gryn dipyn o hyn gael ei gyflawni erbyn 2020.  Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod buddiannau economaidd-gymdeithasol posibl datblygur sector. Maen anelu at sicrhau bod y buddiannau economaidd hirdymor hyn yn cael cymaint o effaith â phosibl a bod cymunedau lleol yn cael budd o ddatblygu seilwaith ynni.  Ystyriwyd bod cyhoeddi TAN 8 wedi ysgogir gwaith o ddatblygur sector, er mai rhywbeth byrdymor fu hyn. Ar ôl rhai ychwanegiadau at gapasiti yn 2005 a 2006, ni chafwyd mwy o dwf yn 2007 a dim ond dwy fferm wynt newydd a welwyd yn 2008. Dim ond tua chwarter o darged TAN 8 ar gyfer 2010 a gyflawnwyd.  Mae digon o gapasiti yn yr arfaeth i gyflawnir nod o 2,000 MW erbyn 2025: mae tua 2,200 MW ar waith, wedi cael caniatâd neu yn y system gynllunio.  Ar y cyfan, mae datblygwyr yn gadarnhaol ynghylch presenoldeb cyflenwyr Cymreig ym meysydd peirianneg sifil, gwasanaethau amgylcheddol ac ymgynghoriaeth amgylcheddol, ac maer rhan fwyaf yn ymwybodol or gwaith gweithgynhyrchu tyrau a geir yng Nghymru (h.y. Mabey Bridge).  Maer rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn gallu gweld rhywfaint o botensial i gynyddu eu defnydd o gwmnïau ar y camau datblygu ac adeiladu dros y tair blynedd nesaf, gyda thraean yn nodi cryn botensial. Mae cyfran lai or farn y gellid cynyddur defnydd o gwmnïau ym maes gweithrediadau a chynnal a chadw.  Mae datblygwyr yn nodi amrywiaeth o rwystrau polisi ac economaidd i dyfur gadwyn gyflenwi yng Nghymru, gan gynnwys risgiau ac ansicrwydd sylweddol ynghylch cael caniatâd cynllunio a chanfyddiad bod diffyg perchenogaeth o ddyheadau cenedlaethol ar lefel leol. Mae cyfyngiadau o ran seilwaith (ar y ffyrdd ar grid) hefyd yn rhwystrau cyffredin.  Mae 40% or datblygwyr a arolygwyd or farn bod Cymru yn lle eithaf ffafriol neu ffafriol iawn i fuddsoddi ynddo. Dim ond lleiafrif bach o ymatebwyr syn ystyried bod Cymru yn lle ffafriol iawn (7%). Dywed tua thraean o’r datblygwyr fod Cymru yn lle eithaf anffafriol neu anffafriol iawn.  Gan edrych o dan y datganiadau hyn, nid ywr rhan fwyaf o’r ymatebwyr or farn bod y sylfaen sgiliau yn gyfyngiad. Roedd y rhan fwyaf yn gadarnhaol neun niwtral ynghylch polisi cynllunio cenedlaethol.  Fodd bynnag, roedd cytundeb clir bod polisïau ac arferion cynllunio lleol ynghyd â seilwaith grid a ffyrdd yn ffactorau negyddol wrth ystyried Cymru fel lleoliad i fuddsoddi ynddo o ran prosiectau gwynt ar y tir. 20
  25. 25. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ● Cyflwyniad3.1 Maer adran hon yn trafod y sector ynni gwynt ar y tir yng Nghymru, gan gynnwys:  y cyd-destun polisi sydd wedi llywior gwaith o ddatblygur sector, sectorau cysylltiedig ar seilwaith cymorth yng Nghymru  datblygiad y sector yng Nghymru hyd yma a senarios posibl ar gyfer ei ddatblygu yn y dyfodol  canfyddiadau rhanddeiliaid diwydiant o Gymru fel lleoliad i ddatblygu ffermydd gwynt ar y tir. Cyd-destun Polisi3.2 Mae ystod eang o bolisïau ar lefel yr UE, y DU a Chymru yn dylanwadu ar y diwydiant ynni gwynt ar y tir yng Nghymru. Yma, canolbwyntiwn ar esblygiad polisi Cymru hyd yn hyn, er y dylid nodi mai Arolygiaeth Gynllunior DU syn penderfynu ar brosiectau dros 50MW (y Comisiwn Cynllunio Seilwaith oedd yn arfer bod yn gyfrifol am hyn, ond fei diddymwyd ym mis Ebrill 2012).3.3 Yn erbyn cefndir llu o ffactorau rheoliadol a statudol, ar lefel y DU, y prif adnodd polisi syn ategur gwaith o ddatblygu ynni gwynt ar y tir ywr Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy, y bwriedir iddi gynyddur defnydd o dechnolegau ynni adnewyddadwy er mwyn gwella sicrwydd ynni a chyfrannu at gyflawni targedau a rhwymedigaethau allyriadau carbon ehangach.3.4 Mae symud i gynhyrchu ynni carbon isel ac achub ar y cyfleoedd economaidd syn deillio or newid carbon isel wedi bod yn flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru ers sawl blwyddyn. O ystyried manteision naturiol Cymru ym maes ynni gwynt, mae datblygu ffermydd gwynt ar y tir yn rhan bwysig or ymateb hwn. Yr uchelgais sydd wedii nodi yn y Rhaglen Lywodraethu bresennol (2011-2016) yw creu economi carbon isel, gynaliadwy ar gyfer Cymru.3.5 Mae polisi Cymru o ran ynni adnewyddadwy yn gyffredinol, ac ynni gwynt ar y tir yn benodol, wedi esblygu dros y blynyddoedd diwethaf. Polisi Cynllunio 20053.6 Yn 2005, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y pryd Ddatganiad Polisi Cynllunio Interim y Gweinidog3 a bennodd darged ar gyfer cynhyrchu trydan or holl dechnolegau adnewyddadwy i 4TWh erbyn 2010, gydar nod o gynyddu hyn i 7TWh erbyn 2020. O fewn y targed cyffredinol hwn, pennwyd targed a oedd yn ymwneud â thechnoleg yn benodol ar3 Datganiad Polisi Cynllunio Interim y Gweinidog 01/2005 Cynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy,Gorffennaf 2005. Noder bod y datganiad Polisi Cynllunio diweddaraf wedii gynnwys yn Polisi CynllunioCymru Argraffiad 5 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Tachwedd 2012. Gwelerisod am gyfeiriad at hyn. 21
  26. 26. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ● gyfer 800 MW ychwanegol o gapasiti ynni gwynt ar y tir erbyn 2010 (h.y. yn ychwanegol at y 233 MW a oedd eisoes ar waith ar yr adeg honno). Cydnabuwyd bod gan Gymru fanteision naturiol ym maes ynni gwynt ar y tir. Nodwyd bod hyn yn seiliedig ar adnoddau gwynt ar y tir niferus Cymru ar ffaith mai ynni gwynt ar y tir ywr dechnoleg fasnachol Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 83.7 Yn dilyn hynny, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ganllawiau cynllunio newydd sef TAN 8. Ynddynt, nodwyd dull strategol o sicrhau bod y targed o 800MW yn cael ei gyflawni. Elfen allweddol o hyn oedd sefydlu Ardaloedd Chwilio Strategol ller oedd bwriad i leoli ffermydd gwynt mawr. Rhoddwyd targed dangosol i bob Ardal a oedd yn creu cyfanswm o 1,120 MW rhwng y saith ohonynt; pennwyd ffigur uwch er mwyn caniatáu hyblygrwydd wrth gyflawnir targed o 800 MW. Mae troednodyn hefyd yn egluro y gallai capasiti yn yr Ardaloedd hyn gael ei gynyddu er mwyn rhoi uchafswm capasiti o tua 1700 MW yn gyffredinol ar gyfer yr holl Ardaloedd. Y Trywydd Ynni Adnewyddadwy3.8 Ar y cyd â Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Thrywydd Ynni Adnewyddadwy4 yn 2008 ar ffurf dogfen ymgynghori. Awgrymodd y dylair targed ar gyfer 7TWh erbyn 2020 gael ei gynyddun sylweddol i 33 TWh erbyn 2025. Goblygiad hyn o ran ynni gwynt ar y tir yw y byddair capasiti hyd at 2500 MW posibl, neu hyd at 6.5 TWh o ynni trydanol. Chwyldro Carbon Isel (2010) a Llythyr Gweinidogol Gorffennaf 20113.9 Atgyfnerthwyd y pwyslais cynyddol ar dargedau ynni adnewyddadwy pan gyhoeddwyd Datganiad Polisi Ynni Llywodraeth Cymru sef Chwyldro Carbon Isel yn 2010.5 Neidiodd y targed cyffredinol ar gyfer trydan adnewyddadwy i 48TWh. Iw roi mewn cyd-destun, mae hyn yn cyfateb i ddwywaith y trydan y mae Cymru yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd o bob ffynhonnell ynni. Fodd bynnag, cafodd y potensial o ynni gwynt ar y tir erbyn 2025 ei leihau or ymgynghoriad Trywydd i 2,000 MW. Ers hynny, fei hailddatganwyd yn Nogfen Polisi Cynllunio ddiweddaraf Llywodraeth Cymru.63.10 Yn y cyfamser, nid oedd y targedau a fodolai ar gyfer ynni gwynt ar y tir yn cael eu cyflawni. Dim ond 146 MW a ddatblygwyd erbyn 2010 yn erbyn targed o 800MW - gan olygu bod Cymru dros 80% ar ei hôl hi (gweler isod am drafodaeth fanylach ar ddatblygu capasiti hyd yma). Mewn llythyr Gweinidogol ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno, eglurodd y Llywodraeth y sefyllfa o ran ynni gwynt ar y tir, gan nodi ffigurau lefel uwch Garran Hassan (1700 MW) fel cyfanswm capasiti Ardaloedd Chwilio Strategol. Byddair 300 MW a oedd yn weddill er mwyn cyflawnir targed o 2,000 MW yn cwmpasu ffermydd gwynt presennol a phrosiectau preifat a chymunedol arfaethedig llai o faint a oedd y tu allan ir ardaloedd hyn.4 Llywodraeth Cynulliad Cymru, Trywydd Ynni Adnewyddadwy Cymru, Ymgynghoriad ar y ffordd ymlaen i Gymru lanach, wyrddach a llai gwastraffus, Chwefror 2008.5 Llywodraeth Cynulliad Cymru, Chwyldro Carbon Isel, Datganiad Polisi Ynni Llywodraeth Cynulliad Cymru, Mawrth 2010.6 Llywodraeth Cynulliad Cymru, Polisi Cynllunio Cymru Argraffiad 5, Tachwedd 2012. 22
  27. 27. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ● Polisi Datblygu Economaidd Cysylltiedig3.11 Mae Llywodraeth Cymru ai phartneriaid yn cydnabod y gall buddiannau economaidd pwysig iawn ddeillio o ddatblygu ynni gwynt ar y tir ac maent yn awyddus i sicrhau bod Cymru ar ei hennill ir graddau mwyaf posibl. Cafodd hyn ei gydnabod yn y Datganiad Polisi Ynni a nodwyd uchod ar Strategaeth Swyddi Gwyrdd (2009). Yn fwy diweddar, mae ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhaur buddiannau economaidd hyn wediu hailddatgan yn Ynni Cymru: Newid Carbon Isel (Mawrth 2012). Y ddau brif nod yw:  sicrhaur buddiannau economaidd hirdymor mwyaf posibl i Gymru, yn enwedig o ran creu swyddi, ar bob cam datblygu.  sicrhau bod cymunedaun cael budd o ddatblygiadau seilwaith ynni.3.12 Cydnabyddir, er nad yw polisi ynni fel y cyfryw yn fater datganoledig, mae gan Gymru y pŵer i achub ar y cyfleoedd a mwynhaur buddiannau syn deillio o symud i gynhyrchu ynni adnewyddadwy. Y nod, felly, yw sicrhau bod effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu trydan yn cefnogi swyddi drwyr gadwyn gyflenwi gyfan dros gylch oes datblygiadau - o weithgynhyrchu i osod, ac o adeiladu i weithredu a datgomisiynu. Maer Llywodraeth wedi ymrwymon arbennig i:  sicrhau bod pob datblygiad ynni mawr yn dod âr manteision economaidd mwyaf i Gymru drwy ymyriadau wediu targedu ym meysydd datblygur gadwyn gyflenwi, cefnogi busnesau, sgiliau a hyfforddiant, caffael, arloesi, ac ymchwil a datblygu.  targedur cymorth a gynigir i fusnesau er mwyn helpu i ddatblygu cadwyni cyflenwi cystadleuol yng Nghymru - mewn sectorau ynni syn cynnig y potensial mwyaf ac yng nghyd-destun datblygiadau ynni penodol syn mynd rhagddynt neu a ddisgwylir yng Nghymru - cefnogi ac annog cwmnïau yng Nghymru i ymwneud âr broses gaffael.  sicrhau bod ymarferion caffael syn ymwneud ag ynni wediu cynllunio i ysgogir galw am lafur, cynhyrchion a gwasanaethau lleol a galluogi busnesau yng Nghymru i gystadlun deg ac yn effeithiol.  sicrhau cymaint o werth hirdymor â phosibl i economi Cymru drwy ddatblygu gweithlur dyfodol er mwyn diwallu anghenion y diwydiant.3.13 Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru am weld cymunedau lleol yn cael budd o ddatblygiadau. Y nod yw mynd ymhellach nar safonau cronfa buddiannau cymunedol a bennwyd yn Lloegr (lleiafswm o £1,000 y flwyddyn dros gylch oes fferm wynt, fesul MW o ynni gwynt wedii osod). Maer ymrwymiadau mwyaf perthnasol fel a ganlyn:  gweithio mewn partneriaeth â byd busnes er mwyn cytuno ar ddisgwyliadau ar gyfer buddiannau economaidd a chymunedol datblygu ynni.  gweithio gyda chymunedau a phartneriaid er mwyn sicrhau bod y cyfoeth a grëir yn sgil datblygu ynni yng Nghymru o fudd i gymunedau.  sefydlu adnodd i nodi lefel a natur y buddiannau syn gysylltiedig â datblygu ynni yng Nghymru. 23
  28. 28. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●3.14 Mae Llywodraeth Cymru ai phartneriaid yn mynd ar drywydd nifer o fentrau penodol i gefnogir sector ynni gwynt ar y tir, gan gynnwys:  Helpu busnesau yng Nghymru i gystadlu am gontractau sector cyhoeddus a sector preifat mawr au hennill  Cefnogir agenda meithrin sgiliau drwy ariannu darparwyr hyfforddiant addysg uwch ac addysg bellach. Un enghraifft ddiweddar ywr cymorth a roddwyd i Goleg Llandrillo er mwyn cynnig prentisiaethau ar gyfer RWE a Vattenfall.  Gweithio gydar Academi Sgiliau Genedlaethol (Ynni) ac EU Skills ar ymchwilio i raglen sgiliau a chymwysterau, ei dylunio ai chyflwyno ar gyfer y sector ynni adnewyddadwy cyfan. Datblygur Sector: Profiad Blaenorol a Rhagolygon Profiad Hyd Yma3.15 Mae Ffigur 3-1 yn nodir duedd o ran y lefel o gapasiti gweithredol wedii osod (MW) dros y degawd diwethaf. Ar ddechraur 2000au, arhosodd capasiti wedii osod ar lefel eithaf cymedrol sef tua 150MW. Yn ystod y cyfnod hwn, dim ond nifer fechan o ffermydd gwynt cymharol fach a ddatblygwyd, gydar un fwyaf yng Nghemaes ym Mhowys (15 MW). Dechreuodd capasiti gynyddun fwy amlwg yn 2005 a 2006, gan gynnwys:  Tir Mostyn, Fferm Wynt 21 MW yn Sir Ddinbych a ddaeth yn weithredol ym mis Hydref 2005  Cefn Croes, fferm wynt 59 MW yng Ngheredigion a ddaeth ar-lein ym mis Mehefin 2005  Ffynnon Oer, fferm wynt 32 MW yng Nghastell-nedd Port Talbot a ddaeth yn weithredol ym mis Mehefin 2006.3.16 Mae ein hymgynghoriadau yn awgrymu bod TAN 8 wedi cael effaith fawr i ddechrau o ran caniatâu a gosod capasiti newydd, yn ogystal â denu cwmnïau i gefnogir twf hwn. Er enghraifft, sefydlodd y cwmni cyfreithwyr Eversheds swyddfa yng Nghaerdydd ar sail y disgwyliad y byddai twf sylweddol yn y diwydiant i gefnogi prosiectau ynni gwynt ar y tir. O ystyried y graddau y datblygwyd capasiti newydd, roedd yn rhesymol tybio ar y pryd fod cynnydd digonol yn cael ei wneud tuag at gyflawnir targed o 800 MW ar gyfer 2010 (er bod y fath gapasiti ychydig yn is nar hyn a fyddain angenrheidiol bob mis ar gyfartaledd). Fodd bynnag, gwastatáu a wnaeth capasiti yn y blynyddoedd wedyn, heb unrhyw ychwanegiadau yn 2007 a dim ond dwy fferm wynt newydd yn 2008, gyda chyfanswm o 15.6 MW o gapasiti ychwanegol yn cael ei roi ar waith. Felly, daeth yn amlwg, oni bai bod newid sylweddol, na fyddai targed 2010 yn cael ei gyflawni.3.17 Dyma a ddigwyddodd, gyda nifer fach o ffermydd gwynt cymharol fach yn cael eu datblygu yn 2009 a 2010. Dim ond tua chwarter o darged TAN 8 ar gyfer 2010 a gyflawnwyd hyd yma. Nodir datblygiad capasiti gweithredol cronnol wedii osod - ar graddau y methwyd targed 2010 - yn Ffigur 3-1. 24
  29. 29. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ● Ffigur 3-1: Capasiti Gweithredol Cronnol wedii Osod yng Nghymru, 2000-12 1,000 900 Targed 2010 800 Capasiti Gweithredol wedi’i Osod (MW) 700 600 500 Cefn Croes Carno 400 Tir Mostyn 300 Installe d Operational Capa city (MW) 200 Alltwalis 100 Fynnon Oer 0 2000 2001 2002 2003 2004 2005 2006 2007 2008 2009 2010 2011 2012 Ffynhonnell: Cronfa Ddata RenewableUK3.18 Ar hyn o bryd, ceir 423 MW o gapasiti ynni gwynt ar y tir wedii osod ledled Cymru. Nodir ymhle ar y map isod. 25
  30. 30. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ● Ffigur 3-2: Ffermydd Gwynt Gweithredol yng Nghymru, ym mis Rhagfyr 2012 Ffynhonnell: Cronfa Ddata RenewableUK Rhagolygon ar gyfer y Dyfodol3.19 Mae RenewableUK yn cadw cofnod o bob fferm wynt syn cael ei hadeiladu, sydd wedi cael caniatâd neu sydd yn y system gynllunio. Maer tabl isod yn crynhoir capasiti gweithredol presennol ar capasiti arfaethedig yn y system gynllunio a datblygu. Fel y gwelir,  caiff 111MW o gapasiti ei adeiladu ar hyn o bryd (35 MW yn dechrau yn 2011 a 77 MW yn 2012) ac felly maen debygol o gael ei gyflwyno erbyn 2014 fan bellaf  mae 15 o ffermydd gwynt - cyfanswm o 449 MW o gapasiti - wediu cymeradwyo ond nid ywr gwaith adeiladu wedi dechrau eto  mae 37 o ffermydd gwynt eraill yn y system gynllunio. Gallair rhain gyflwyno 1,200 MW arall o gapasiti. Fodd bynnag, maen annhebygol iawn y caiff pob un ei chymeradwyo ac mae rhai, yn wir, yn annibynnol ar ei gilydd. 26
  31. 31. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ● Tabl 3-1: Capasiti wedii Osod mewn Ffermydd Gwynt ar y Tir yng Nghymru: Ar Waith ac Yn Yr Arfaeth Ffermydd Tyrbinau Capasiti MW Gwynt Ar Waith 38 540 423 Cymeradwywyd ond nis adeiladwyd 15 145 449 Wrthin cael eu hadeiladu 5 44 111 Yn disgwyl penderfyniad 37 490 1,204 Cyfanswm Cyfredol y Capasiti Posibl 95 1,219 2,187 Ffynhonnell: Cronfa ddata RenewableUK, Hydref 20123.20 Mae hyn fellyn awgrymu, o ystyried y gwaith sydd yn yr arfaeth ar hyn o bryd, ei bod yn dechnegol ymarferol cyflawni targed dyheadol Llywodraeth Cymru sef 2,000 MW o gapasiti ynni gwynt ar y tir yn gynt. Mae hefyd yn debygol y bydd cynlluniau sydd ar y cam cyn cynllunio ar hyn o bryd yn ymuno âr system gynllunio yn y blynyddoedd i ddod.3.21 Maer map isod yn dangos lleoliad yr holl ffermydd gwynt sydd yn yr arfaeth, yn ogystal âr rhai sydd ar waith. Fel y gwelir, caiff prosiectau sydd ar waith ac sydd yn yr arfaeth eu clystyru yn y Canolbarth, ac i raddau llai yn Ne-orllewin Cymru. Ffigur 3-3: Ffermydd Gwynt ar y Tir yng Nghymru (Ar Waith ac Yn Yr Arfaeth), Rhagfyr 2012 Ffynhonnell: Cronfa Ddata RenewableUK 27
  32. 32. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ● Senarios Datblygu3.22 Maen ddefnyddiol defnyddior hyn rydym yn ei wybod am raddaur cynnydd dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn blaengynllunio ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Dengys y newid mewn cynnydd a fydd yn angenrheidiol yn y dyfodol er mwyn cyflawni dyheadau.3.23 Rhwng 2001 a 2011, daeth cyfanswm o 270 MW o gapasiti gwynt ar y tir yn weithredol (cyfartaledd blynyddol o 27 MW). Os bydd y duedd hon yn parhau, byddai cyfanswm capasiti wedii osod o tua 800MW yng Nghymru erbyn 2025 - syn amlwg yn ddiffyg sylweddol (60%) o gymharu âr dyhead o 2,000MW.Ffigur 3-4: Amcanestyniad ar Sail Tuedd Hanesyddol (2001-11) 2,000 MW erbyn 2025 2,000 1,800 1,600 Diffyg o 6o% 1,400Capasiti Gweithredol 1,200 Capasiti gwirioneddol wedi’i osod Amcanestyniad 1,000 27 MW y.fl. o gapasiti 800 ychwanegol ar gyfartaledd 600 Operati onal Capa city 400 200 0 2001 2002 2003 2004 2005 2006 2007 2008 2009 2010 2011 2012 2013 2014 2015 2016 2017 2018 2019 2020 2021 2022 2023 2024 2025Ffynhonnell: Cronfa Ddata RenewableUK3.24 Yn sail ir senario hon, maer potensial y gallair gyfradd ddatblygu ar capasiti newydd a ddawn weithredol yn y dyfodol arafu y tu hwnt ir gyfradd ganiatáu bresennol (gweler senario tri), o bosibl o ganlyniad i fethiant cyffredinol cynlluniau i gael caniatâd ar ffaith y gallai buddsoddiadau symud i leoliadau neu dechnolegau buddsoddi eraill.3.25 Yn ogystal âr duedd hirdymor hon, mae cronfa ddata RenewableUK yn ein helpu i ddeall y duedd fwy diweddar o roi caniatâd ar gyfer ffermydd gwynt ar y tir yng Nghymru. Fel y nodwyd uchod, maer gronfa ddata yn dynodi bod 493 MW o gapasiti wrthin cael ei adeiladu neu wedi cael caniatâd cyn ei adeiladu. Gan gyfuno ein gwybodaeth am pryd y cafodd y ffermydd gwynt hyn ganiatâd a thystiolaeth on harolwg o ddatblygwyr ynghylch y dyddiad tebygol y byddant yn dod yn weithredol, maen debygol y dawr rhan fwyaf or capasiti hwn sydd yn yr arfaeth yn weithredol erbyn 2016. Mae hyn yn cyfateb i gyfartaledd blynyddol o 124MW y.f. o gapasiti ychwanegol yn ystod y cyfnod. Gan dybio y bydd y gyfradd hon yn parhau hyd at 2025, byddai hyn yn fwy na digon i fodlonir dyhead o 2,000MW. Fodd bynnag, mae cynllun mawr iawn yn cael dylanwad mawr ar y cynlluniau a gymeradwywyd yn ddiweddar: cynllun Pen-y-Cymoedd (256 MW). Fei cymeradwywyd ym mis Mai 2012 a hwn ywr cynllun arfaethedig mwyaf yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd. Nid oes unrhyw gynlluniau eraill o faint tebyg yn y system gynllunio ar hyn o bryd (Carnedd Wen ywr cynllun mwyaf). Felly, nid ywn realistig bwrw ati i lunio rhagamcanion ar gyfer y dyfodol 28
  33. 33. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ● ar sail y gyfradd ddatblygu hon gan gynnwys Pen-y-Cymoedd.3.26 Heb gynnwys Pen-y-Cymoedd yn y cynlluniau a gafodd ganiatâd yn ddiweddar, ceir capasiti ychwanegol blynyddol cyfartalog o 49MW y flwyddyn. Byddai bwrw ati i lunio rhagamcanion ar gyfer y dyfodol ar y sail hon hefyd yn amheus gan ein bod yn gwybod bod Pen-y-Cymoedd wedi cael caniatâd. Felly rydym wedi defnyddio canolbwynt rhwng 124MW a 49MW y flwyddyn: sef 86MW y flwyddyn. Byddai bwrw ati i lunio rhagamcanion ar y sail hon yn golygu 1,560MW o gapasiti wedii osod erbyn 2025 - diffyg o 22% ar 2,000 MW erbyn 2025. Nodir hyn yn Ffigur 3-5 isod.Ffigur 3-5: Amcanestyniad ar Sail Cyfraddau Cydsynio Diweddar (ffermydd gwynt syn cael eu hadeiladu acsydd wedi cael caniatâd) 2,000 MW erbyn 2025 2,000 1,800 Diffyg o 22% 1,600 Capasiti gwirioneddol wedi’i osod Capasiti Gweithredol 1,400 1,200 Amcanestyniad 1,000 800 600 Operati onal Capa city 400 200 86 MW y.fl. ar sail caniatâd diweddar 0 2001 2002 2003 2004 2005 2006 2007 2008 2009 2010 2011 2012 2013 2014 2015 2016 2017 2018 2019 2020 2021 2022 2023 2024 2025Ffynhonnell: Cronfa Ddata RenewableUK3.27 Maer blaenamcanestyniadau hyn yn cael eu defnyddio fel y sail ar gyfer y senarios datblygu a brofir gennym yn ein gwaith modelu economaidd (gweler adran 4). Profwn dri senario:  Senario Dyhead: 2,000MW erbyn 2025  Senario Tueddiadau Hanesyddol: parhau â thueddiadau 2001-11  Senario Tueddiadau Diweddar: parhau â thueddiadau cydsynio mwy diweddar3.28 Rhoddir esboniad llawn o sail y senarios hyn yn Atodiad A. Canfyddiadaur Diwydiant o Gymru fel lleoliad i fuddsoddi ynddo3.29 Drwy ein hymgynghoriadau an harolwg o ddatblygwyr a gweithredwyr (gweler Atodiad A am ragor o fanylion am yr arolwg ac Atodiad B am holiadur yr arolwg), rydym wedi casglu barn y diwydiant ar Gymru fel lleoliad i ddatblygu prosiectau ynni gwynt ar y tir.3.30 Trafodir y canfyddiadau allweddol isod. 29

×