Your SlideShare is downloading. ×
Defnyddio cyfryngau cymdeithasol iymgynghori o fewn y sector cyhoeddus     www.participationcymru.org.uk
Cefndir• Partneriaeth o fudiadau o’r sector cyhoeddus a’r  trydydd sector yw Cyfranogaeth Cymru sy’n cael  ei chynnal gan ...
Arolwg Cymru gyfan ar ddefnydd y               rhyngrwyd a chyfryngau           cymdeithasol gan wasanaethau              ...
Arolwg Cymru gyfan ar ddefnydd y               rhyngrwyd a chyfryngau           cymdeithasol gan wasanaethau              ...
Egwyddorion Cenedlaethol argyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd        yng Nghymru
Nodiadau cyfarwyddyd                   egwyddor 5•   I sicrhau bod yr wybodaeth ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg, yn    ...
Gwerthusiad• Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r  Cyhoedd yng Nghymru yn ddefnyddiol ar gyfer bob math  o ymg...
Diolch   Cyfranogaeth Cymru / Participation Cymruparticipationcymru@wcva.org.uk 029 2043 1757  www.participationcymru.org....
Diolch   Cyfranogaeth Cymru / Participation Cymruparticipationcymru@wcva.org.uk 029 2043 1757  www.participationcymru.org....
Using social media in Welsh to engage within the public sector / Defnyddio cyfryngau cymdeithasol Cymraeg i ymgynghori o f...
Upcoming SlideShare
Loading in...5
×

Using social media in Welsh to engage within the public sector / Defnyddio cyfryngau cymdeithasol Cymraeg i ymgynghori o fewn y sector cyhoeddus

866

Published on

Cyflwyniad i Symposiwm Tu Hwnt i'r Bwlch Comms Cymru

Presentation to the Comms Cymru Beyond the Gap symposium

0 Comments
1 Like
Statistics
Notes
  • Be the first to comment

No Downloads
Views
Total Views
866
On Slideshare
0
From Embeds
0
Number of Embeds
2
Actions
Shares
0
Downloads
0
Comments
0
Likes
1
Embeds 0
No embeds

No notes for slide
  • Partneriaeth o fudiadau o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector yw Cyfranogaeth Cymru sy’n cael ei chynnal gan WCVA. Rydym yn gweithio gyda darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yn y sectorau cyhoeddus, trydydd a phreifat er mwyn cael ymgysylltiad cyhoeddus gwell wrth ddylunio, datblygu a darparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y dinesydd ar gyfer pobl Cymru. Mae gwaith Cyfranogaeth Cymru yn cael ei llywio gan Banel Cynghori Cyfranogaeth Cymru. Mae’r Panel Cynghori yn dod â mudiadau sy’n darparu ac sy’n cynrychioli mudiadau gwasanaethau cyhoeddus o’r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol ynghyd.   Mae'r panel yn arolygu sut mae Cynllun Busnes Cyfranogaeth yn cael ei roi ar waith; sut gallant gweithio’n strategol er mwyn adeiladu sgiliau a gallu rheolwyr a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru; ac i gael ymgysylltiad cyhoeddus gwell wrth ddylunio, datblygu a darparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y dinesydd ar gyfer pobl Cymru.
  • Rwyn flin os mae’r gwybodaeth yn y rhan yma ychydig yn sylfaenol, ond mae’n hanfodol ar gyfer disgrifio pam gall ymgynghori trwy gyfryngau cymdeithasol bod yn effeithiol.   Wrth i’r we esblygu o fersiwn 1.0, ble roedd gwybodaeth yn cael ei darlledu i bobl, i fersiwn 2.0, ble mae pobl wedi cael y cyfle i greu eu cynnwys eu hunain ac hefyd i ymateb i gynnwys sy’n cael ei phostio, mae cyfleoedd wedi codi i ddefnyddwyr i gael dweud eu dweud.   Mae hyn hefyd wedi creu cyfleuon i fudiadau gwasanaethau cyhoeddus i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i ymgynghori, gan bod y dulliau ar gael i unrhyw un yn rhad ac am ddim; mae nhw’n hyblyg a gellir eu defnyddio mewn sefyllfaoedd amrywiol; mae’n gyflym i setion nhw i fyny ac i diweddaru nhw; a does dim angen bod yn arbenigwr mewn technoleg gwybodaeth – does dim “we-meistr” rhagor.
  • Mae asiantaethau amrywiol yn rhan o’r Gweithgor Ymgysylltu â’r Cyhoedd, gan gynnwys Cyfranogaeth Cymru, Llywodraeth Cymru, yr Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd, Conffederasiwn y GIG, Swyddfa Archwilio Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Comms Cymru ac Ysgol Busnes Caerdydd. Sefydlwyd y grŵp i gydlynu gwybodaeth a dulliau ynglŷn â chynnig, cynnal a datblygu gwasanaethau cyhoeddus gwell i ddinasyddion ledled Cymru.   Yn ôl astudiaethau diweddar a thystiolaeth anffurfiol, rydyn ni’n gwybod bod ymgysylltu digidol a gweithgareddau cyfryngau cymdeithasol yn amrywio ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Ni’n gwybod hefyd bod cyfryngau cymdeithasol yn cael eu hystyried yn ffordd hygyrch a rhad o weithio. Cafodd Arolwg Cymru gyfan ar ddefnydd y rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol gan wasanaethau cyhoeddus ei gynnal er mwyn cael darlun ehangach o’r anawsterau sy’n effeithio ar fudiadau ac unigolion, yn ogystal â’r meysydd eraill y dylen ni ffocysu arno i ateb yr heriau yma. Bydd canlyniadau’r adroddiad yn helpu ni i fynd i’r afael â hyn trwy feithrin sgiliau, llunio canllawiau a chyfeiriad gwladol ac, yn bwysicach fyth, helpu cysylltu mudiadau sydd â rhywbeth i rannu gyda’r rhai sydd â rhywbeth i ddysgu.   Gofynnodd y gweithgor i Socitm Cymru, Cymunedau 2.0, Sylw ar Gwsmeriaid Cymru ac Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru i gynnal arolwg ar y cyd ynglŷn â’r we a chyfryngau cymdeithasol. Y Cyng. Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy a Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Dechnoleg Gwybodaeth a Chynhwysiant Digidol, oedd yr hyrwyddwyr. O'r rhai a nododd natur eu ffrydiau Cymraeg neu ddwyieithog, roedd gan rhai mudiadau ffrydiau ar wahân ar gyfer y 2 iaith tra bod eraill yn defnyddio ffrwd ddwyieithog unigol. Dywedodd y rhan fwyaf o bobl gyda ffrydiau dwyieithog y byddan nhw’n anfon diweddariad Gymraeg gyntaf, wedyn ddiweddariad Saesneg.   Roedd ymatebwyr yn gweld mai un o'r rhwystrau mwyaf cyffredin oedd nad oedd digon o staff yn siarad Cymraeg i gynnal gwasanaeth effeithiol, gyda chyflymder yr ymateb yn bryder arbennig wrth ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol lle mae ymateb cyflym yn allweddol. Teimlodd rhai ymatebwyr y byddai angen recriwtio staff ychwanegol i ddelio â chyfryngau cymdeithasol Cymraeg, gan nad oedd ganddynt y gallu i gynnal gwasanaeth Cymraeg effeithiol ar hyn o bryd. Dywedodd nifer o ymatebwyr y byddan nhw’n hoffi cael mynediad i adnodd rhad ac am ddim ar gyfer symiau bach o gyfieithu mwyn cyflymu eu defnydd o gyfryngau cymdeithasol Cymraeg.   Roedd rhai ymatebwyr yn teimlo bod e’n anodd cael pobl i gyfranogi rhan yn y Gymraeg, ac roedd e’n anodd gwneud achos busnes ar gyfer buddsoddiad ychwanegol pan mae'r defnydd yn isel. Fodd bynnag, dywedodd rhai ymatebwyr eu bod nhw’n teimlo bod y rheswm bod llai o siaradwyr Cymraeg wedi ymgysylltu trwy ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol oedd bod y cynnwys Cymraeg eu cyfieithu yn uniongyrchol o fersiynau Saesneg, yn hytrach nag mewn ffordd y byddan nhw’n siarad.
  • Rydym yng nghanol ysgrifennu’r adroddiad ar y foment, ble bydd yna gwybodaeth dyfnach ar gael. Rhaid i ni ail edrych ar yr adran Gymraeg. Defnyddir hyn fel templed ar gyfer gweddill yr adroddiad. Yn anffodus mae penderfyniad y Gweinidog dros y Gymraeg am y Safonau ar gyfer y Gymraeg wedi effeithio ar ein canfyddiadau.
  • Fe gafodd yr Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2011. Mae’r egwyddorion yma yn anterth o ddarn o waith a gafodd ei ddatblygu o dan arweiniad Panel Cynghori Cyfranogaeth Cymru a thrwy ymgynghori gyda pobl ledled Cymru. Mae'r rhain yn egwyddorion trosfwaol sydd wedi’u hanelu ato fudiadau Gwasanaethau Cyhoeddus ym mhob sector yng Nghymru yn gyffredinol. Maen nhw’n anelu i gynnig dull gweithredu cyson a safon dda ar gyfer ymgysylltiad cyhoeddus ar draws Cymru. Rhaid i’r egwyddorion yma cael ei rhoi ar waith er mwyn iddynt gael yr effaith positif ar bobl a bwriedir iddynt. 5. Ni fydd unrhyw jargon yn rhan o’r wybodaeth a ddarperir a bydd yn briodol ac yn hawdd i’w deall Mae pobl mewn sefyllfa dda i gymryd rhan yn y broses ymgysylltu oherwydd mae gwybodaeth berthnasol sydd wedi’i haddasu i ddiwallu eu hanghenion ar gael iddynt yn hwylus.
  • Mai’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru yn ddefnyddiol ar gyfer bob math o ymgysylltu / cyfranogi. Jyst achos mae cyfryngau cymdeithasol yn ffordd hawdd a chyflym i ymgysylltu, peidiwch ag anghofio i ymgysylltu’n effeithiol. Gallwch ddefnyddio Pecyn Cymorth Gwerthuso Cyfranogaeth Cymru i werthuso’ch gwaith ymgysylltu. Mae’r pecyn yn defnyddio’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu a’r Cyhoedd fel fframwaith i sicrhau bod ymgysylltu yn cael ei wneud yn effeithiol.
  • Transcript of "Using social media in Welsh to engage within the public sector / Defnyddio cyfryngau cymdeithasol Cymraeg i ymgynghori o fewn y sector cyhoeddus"

    1. 1. Defnyddio cyfryngau cymdeithasol iymgynghori o fewn y sector cyhoeddus www.participationcymru.org.uk
    2. 2. Cefndir• Partneriaeth o fudiadau o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector yw Cyfranogaeth Cymru sy’n cael ei chynnal gan WCVA.• Mae’r Panel Cynghori yn dod â mudiadau sy’n darparu ac sy’n cynrychioli mudiadau gwasanaethau cyhoeddus o’r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol ynghyd.
    3. 3. Arolwg Cymru gyfan ar ddefnydd y rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol gan wasanaethau cyhoeddus• Gofynnwyd i ymatebwyr yr arolwg os oedd gan eu sefydliadau ffrydiau cyfryngau cynmdeithasol Cymraeg neu ddwyieithog. Or 257 a ymatebodd, dywedodd traean (33%) eu bod, tra bod 28% yn ansicr a doedd dim gan 39%.• Dywedodd rhai mai’r rhwystr mwyaf cyffredin oedd nad oedd gan mudiadau digon staff syn siarad Cymraeg i redeg gwasanaeth effeithiol.• Roedd rhai ymatebwyr yn teimlo ei bod yn anodd i gael pobl i gyfranogi yn y Gymraeg.
    4. 4. Arolwg Cymru gyfan ar ddefnydd y rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol gan wasanaethau cyhoeddusArgymhellion• Dylai gwaith cyfryngau cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg fod yn rhywbeth sy’n cael ei brif-ffrydu ac nid yn ychwanegiad.• Bod y defnydd o gyfryngau cymdeithasol yn cwrdd ag egwyddor 5 o’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu âr Cyhoedd yng Nghymru
    5. 5. Egwyddorion Cenedlaethol argyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru
    6. 6. Nodiadau cyfarwyddyd egwyddor 5• I sicrhau bod yr wybodaeth ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg, yn ogystal â mewn ieithoedd ethnig lleiafrifol eraill.• Gwneud defnydd o wybodaeth ‘hawdd i’w darllen’ sydd ar gael mewn ffurfiau amrywiol e.e. print mawr, sain, DVD.• I sicrhau bod yr wybodaeth yn sensitif yn ddiwylliannol ac yn grefyddol.• Mae hefyd yn bwysig peidio â rhoi gormod o faich ar bobl o ran gwybodaeth amherthnasol.• www.participationcymru.org.uk/principles
    7. 7. Gwerthusiad• Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru yn ddefnyddiol ar gyfer bob math o ymgysylltu / cyfranogi• Jyst achos mae cyfryngau cymdeithasol yn ffordd hawdd a chyflym i ymgysylltu, peidiwch ag anghofio i ymgysylltu’n effeithiol• www.participationcymru.org.uk/principles/evaluation- toolkit
    8. 8. Diolch Cyfranogaeth Cymru / Participation Cymruparticipationcymru@wcva.org.uk 029 2043 1757 www.participationcymru.org.uk @PartCymru
    9. 9. Diolch Cyfranogaeth Cymru / Participation Cymruparticipationcymru@wcva.org.uk 029 2043 1757 www.participationcymru.org.uk @PartCymru

    ×