2. Sut mae cofio darn estynedig o waith
ysgrifenedig ar y cof?
• D’abord…edrychwch ar lefel geiriol:
Pa eiriau sydd yn anodd i’w cofio?
Pam ydyn nhw’n anodd i’w cofio?
Ystyr? / Sillafu? / Lleoliad yn y frawddeg?
Sut fedrwch chi gofio’r geiriau yma? Meddyliwch
am ddull gyda’ch partner!
3. Cofio darn estynedig o waith
ysgrifenedig ar y cof
• Ensuite…edrychwch dros y testun yn ei
chyfanrwydd:
Oes unrhyw frawddegau dydych chi ddim yn deall?
• Sicrhewch eich bod yn DEALL eich darn yn llwyr!
Os nad ydych yn deall unrhyw ddarn – beth fedrwch
chi wneud?
4. Cofio darn estynedig o waith
ysgrifenedig ar y cof
• Après…dysgwch un darn neu baragraff ar y tro.
• Ne vous inquietez pas – Madame James a des
techniques pour vous!
5. Technique No. 1 => 3-2-1
• Darllenwch eich darn yn uchel, gan gymryd
tro gyda’ch ffrind neu aelod o’ch teulu i
ddweud unai 1, 2 neu 3 gair ar y tro.
• Pwy bynnag sy’n dweud gair olaf y
frawddeg sy’n colli pob tro!
• Essayez-le maintenant!
• Sut mae’r dechneg yma yn ein helpu?
6. Technique 2 => Action!
• Rydym wedi defnyddio meim yn aml wrth
ddysgu geiriau a strwythurau yn y dosbarth.
Defnyddiwch y meimiau yma eto wrth ddysgu
eich gwaith!
• Wrth i chi ddarllen eich gwaith yn uchel,
defnyddiwch unrhyw symudiadau medrwch
gofio o’r dosbarth – neu dyfeisiwch rai eich
hunain!
• Essayez-le maintenant!
• Sut mae’r dechneg yma yn ein helpu?
7. Technique No. 3 => Pair et Impair
• Ysgrifennwch (neu teipiwch) eich paragraff
ddwy waith – unwaith gyda’r gair cyntaf ac yna
am-yn-ail air wedi ei adael allan, a’r ail dro
gyda’r ail air ac yna am-yn-ail air wedi ei adael
allan.
• Gan edrych ar un fersiwn ar y tro yn unig,
ceisiwch gwblhau eich paragraff – uwcholeuwch
unrhyw fylchau na fedrwch lenwi! Gwiriwch y
geiriau coll yn ofalus ac yna triwch eto.
• Essayez-le maintenant!
• Sut mae’r dechneg yma yn ein helpu?
8. Bonjour, je m’appelle Bryn et j’ai treize
ans. J’habite un village qui s’appelle
Penparc – c’est super parce qu’il y a un
grand parc.
Version 1 Version 2
Bonjour, __________ _________, je m’appelle
Bryn ___ j’ai _______ _______ et ____ treize
ans. ________ un ______ ____. J’habite __ village
qui ________ Penparc - ____ s’appelle ________ -
_____ super ______ qu’il c’est _______ parce _____
___ a ___ grand ______. y ___ un _______ parc.
9. Technique 4 => Code Secret!
• Ysgrifennwch lythrennau cyntaf eich geiriau yn
unig. Cofiwch gynnwys eich holl atalnodi!
(Pam?)
• Fedrwch chi gofio eich cynnwys gan
ddefnyddio’r cod yn unig? Uwcholeuwch
unrhyw lythrennau rydych yn cael trafferth yn
cofio a gwiriwch nhw’n ofalus cyn trio eto.
• Essayez-le maintenant!
• Sut mae’r dechneg yma yn ein helpu?
10. Finalement (très important)…!
• Cofiwch ddysgu ychydig bob nos – 15 munud
bob nos am wythnos yn llawer mwy effeithiol
na 2 awr y noswaith o flaen yr arholiad.
• Gallwch ddarllen yn dawel yn eich pen,
ddarllen yn uchel, recordio eich hunan ar eich
ffôn a gwrando nol arno…ond cofiwch hefyd
i’w ymarfer yn ysgrifenedig achos yn
ysgrifenedig y byddwch yn cael eich profi!